Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Cyflawni canlyniadau gwell drwy dechnoleg gwybodaeth

  • Ronan Lyons, Athro Iechyd y Cyhoedd, Coleg Meddyginiaeth, Prifysgol Abertawe

Crynodeb

Mae’r erthygl hon yn ymchwilio i sut y gall defnyddio technoleg gwybodaeth mewn ffordd synhwyrol helpu GIG Cymru i gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer cleifion a gwella profiadau’r bobl sy’n derbyn gofal. Gall systemau TG wedi’u strwythuro’n dda sy’n rhannu gwybodaeth leihau cymhlethdodau yn y system, gan gyflymu prosesau triniaeth a galluogi mwy o bobl i dderbyn triniaeth mewn amgylcheddau nad ydynt yn ysbytai.

Mae TG yn hanfodol wrth asesu ansawdd, drwy fesur lefelau niwed, olrhain canlyniadau cleifion a thrwy hynny cadarnhau a yw’r triniaethau wedi cyflawni’r canlyniadau dymunol a darparu gwerth am arian. Dylai hyn gynnwys mewnbwn gan gleifion fel rhan o ymagwedd ‘gydweithredol’. Mae’r erthygl yn cynnwys pum elfen hanfodol y mae angen eu hystyried wrth greu seilwaith TG sy’n cyflawni’r holl fanteision hyn.

Technoleg gwybodaeth

Mae angen i ni fesur canlyniadau

Mae gofal iechyd darbodus yn rhoi mwy o bwyslais ar ganlyniadau cleifion; yn hytrach na swm y gweithgarwch neu’r triniaethau a gyflawnwyd, ei nod yw creu gwell cydbwysedd o fewn y GIG a chreu system sy’n canolbwyntio ar y claf.[1]

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, mae angen i’r GIG yng Nghymru ailgyfeirio ei hun i fonitro’r wybodaeth a gesglir drwy fesur canlyniadau cleifion a gweithredu ar y wybodaeth honno.

Canlyniadau yw profiadau’r cleifion sy’n derbyn triniaethau. Maent yn cynnwys goroesi, ansawdd bywyd, y gallu i gymryd rhan yn y gymdeithas, symptomau, sgil effeithiau, ac anghenion iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

Mae angen persbectif hydredol er mwyn mesur canlyniadau. Mae angen i ni gysylltu gwybodaeth am driniaethau a statws iechyd cychwynnol ag amrywiaeth o ganlyniadau. Gellir casglu’r wybodaeth hon drwy ffynonellau data arferol a phrofiadau cleifion yn y tymor byr, canol a hir.

Er mwyn sicrhau gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth mae angen i ni ystyried gwelliannau drwy asesu canlyniadau mewn perthynas â chostau adnoddau sydd ynghlwm wrth hyn. Weithiau bydd gennym fynediad i’r wybodaeth hon drwy astudiaethau gwyddonol sy’n bodoli eisoes ond fel arfer nid ydym yn gwybod digon. Rhaid i ni dalu mwy o sylw i’r gwaith o fesur canlyniadau.

Gallai Cymru arwain y ffordd yn y maes hwn. Gallem ddatblygu ein llwyddiant cydnabyddedig o ran cyswllt diogelu preifatrwydd data ar gyfer ymchwil. Gallem addasu arferion gorau rhyngwladol o ran mesur canlyniadau a adroddwyd gan gleifion a gallem sicrhau bod cleifion yn cyfrannu mwy at y broses o gynhyrchu gwybodaeth ar y cyd.

Bydd gwybodaeth am ganlyniadau yn hybu gofal iechyd darbodus

Mae’r GIG yn sefydliad mawr a chymhleth, sydd wedi datblygu i’r fath raddau fel nad yw bellach yn debyg o gwbl i’r sefydliad a grewyd gan Aneurin Bevan yn 1948. Rydym bellach yn wynebu heriau sylweddol wrth ddiwallu anghenion gofal iechyd y boblogaeth sy’n tyfu ac yn heneiddio mewn amgylchedd lle mae arian yn dynn. Rydym oll yn croesawu’r gwelliannau i’n safonau byw, ac mae gostyngiad mawr yn y nifer o bobl sy’n ysmygu a mynediad cynyddol i amrywiaeth ehangach o driniaethau wedi arwain at welliannau dramatig i ddisgwyliad oes dros y 30 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae’r cyflawniadau hyn yn golygu bod cyfran fawr o bobl hŷn bellach yn byw gyda chyflyrau cronig lluosog.[2,3]

Mae’r GIG dan bwysau ac mae angen iddo addasu er mwyn darparu gwasanaethau sy’n seiliedig ar ofal iechyd darbodus. Bydd hyn yn gofyn am newid gan roi mwy o bwyslais ar ganlyniadau a phrofiadau cleifion yn hytrach na swm y gweithgarwch ac amseroedd aros.  Mae angen i ni sicrhau bod yr un pwyslais yn cael ei roi ar weithgarwch a chanlyniadau a bod y ddwy agwedd yn cael eu defnyddio i lywio ein penderfyniadau, fel cleifion, clinigwyr, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG.

Bydd y gwaith o fesur a chydgasglu canlyniadau ar lefel unigolyn yn allweddol wrth ymgymryd â gwerthusiad lefel uchel o ymyriadau a gwasanaethau, boed y ffocws ar atal, triniaeth neu adsefydlu.

Pa ganlyniadau sy’n bwysig?

Mae amrywiaeth eang o ddulliau mesur canlyniadau ar gael i ni. Mae’r mesurau hyn yn adlewyrchu buddiannau cleifion, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, comisiynwyr gwasanaethau a Llywodraeth Cymru. Gallwn wneud mwy o hyd i gasglu a dehongli data o’r fath. Bydd y gallu i roi adborth ystyrlon am brofiadau grwpiau o gleifion a phatrymau gwasanaeth ac yna defnyddio’r wybodaeth hon i gryfhau llais y cleifion a’r cyhoedd ehangach yn y broses o wneud penderfyniadau yn elfen hanfodol o wasanaeth iechyd ymatebol yn yr 21ain ganrif.

Mae llawer o grwpiau ynghlwm wrth y gwaith o ddiffinio a mesur canlyniadau o amgylch y byd, gan gynnwys gwahanol rannau o’r GIG ar draws y DU. Ni allwn adolygu’r holl weithgareddau hyn yn y bennod fer hon, ond byddwn yn amlygu nifer o ddatblygiadau pwysig.

Yn Lloegr, mae Fframwaith Canlyniadau’r GIG (2013–14) yn canolbwyntio ar bump maes:

  1. atal pobl rhag marw’n gynnar
  2. gwella ansawdd bywyd ar gyfer pobl sydd â chyflyrau hirdymor
  3. helpu pobl i wella yn dilyn cyfnodau o salwch neu anaf
  4. sicrhau bod profiad pobl o ofal yn gadarnhaol
  5. gofalu am bobl mewn amgylchedd diogel a’u hamddiffyn rhag niwed y gellid ei osgoi.[4]

Caiff dulliau mesur canlyniadau a adroddwyd gan gleifion (PROMs), fel dulliau mesur iechyd cyffredinol neu afiechydon sy’n benodol i ansawdd bywyd, eu defnyddio i fesur gwelliant o ran iechyd mewn pedwar grŵp o bobl – y rhai sy’n derbyn clun newydd, pen-glin newydd, llawdriniaeth ar gyfer gwythiennau faricos a thorgest afl, ac maent yn seiliedig ar ymatebion i holiaduron cyn ac ar ôl llawdriniaeth. Mae’r ymatebion yn dangos amrywiadau diddorol o ran canlyniadau.[5]

Defnyddio Dulliau Mesur Canlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion

Yn Victoria, Awstralia, defnyddiwyd PROMs gyda data’r gwasanaeth iechyd a data marwolaethau i werthuso effaith y newidiadau i’r gwasanaethau trawma ar iechyd y boblogaeth.[6] Agwedd allweddol o’r ymchwil oedd archwiliad manwl i addasrwydd ac effeithlonrwydd defnyddio dulliau mesur ansawdd bywyd gwahanol mewn poblogaethau trawma. Dynion ifanc yw’r grŵp mwyaf sy’n perthyn i boblogaethau trawma, ac fel y gwyddom, nhw sydd lleiaf tebygol o gwblhau holiaduron.

Arweiniodd y canfyddiadau ymchwil cynnar hyn at y penderfyniad i fabwysiadu system ategol gost isel dros y ffôn ar gyfer gwasanaethau trawma gan ddefnyddio PROMs syml. Dangosodd y gwerthusiad fod cyflwyno gwasanaeth trawma integredig yn benderfyniad darbodus. Yn dilyn aildrefnu’r gwasanaeth, nododd yr ymchwilwyr fod lefelau goroesi uwch cleifion a anafwyd yn ddifrifol hefyd wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y costau cyffredinol ar gyfer triniaethau.[6]

Mae’r astudiaeth hon yn amlygu manteision defnyddio dulliau mesur canlyniadau byr dymor a thymor hwy lluosog sy’n ymateb i gleifion a gwasanaethau er mwyn mesur effaith cyfluniadau gwasanaeth a phennu a ydynt yn cynrychioli gwerth da o ran y gymdeithas.

Profi dichonoldeb y dulliau o fesur canlyniadau yng Nghymru

Gan ddefnyddio’r profiadau a adroddwyd gan wasanaethau trawma yn Awstralia, comisiynodd Bwrdd Arloesedd a Darpariaeth Orthopedeg Cenedlaethol Cymru astudiaeth ddichonoldeb i System Gwyliadwriaeth a Chanlyniadau Orthopedeg a Thrawma yn 2012.[7]

Seiliwyd yr astudiaeth ddichonoldeb ar lawdriniaeth gosod pen-glin newydd ac roedd yn enghraifft o gydweithio rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Dangosodd y gwaith dichonoldeb fod casglu PROMS gan ddefnyddio model Awstralia yn dderbyniol i gleifion. Canfu’r ymchwil hefyd fod cleifion yn aml yn gwneud sylwadau am lwyddiant y llawdriniaeth, er nad oedd cwestiwn yn gofyn iddynt fynegi eu barn ar yr agwedd hon.

Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn awgrymu y gallai ychwanegu cwestiwn syml i PROMS, fel: “Pa mor gryf y byddech chi’n argymell y driniaeth hon i rywun arall sy’n ystyried llawndriniaeth?” ddarparu llawer o wybodaeth. Dangosodd yr astudiaeth hefyd sut y gellid cysylltu data a gasglwyd eisoes gan y GIG ar draws gwahanol systemau a’i ddefnyddio i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol am batrymau o ran y defnydd o’r gwasanaeth iechyd a chanlyniadau cleifion ar ôl llawdriniaeth, gan gynnwys cyfraddau adolygu cymhlethdodau a llawdriniaethau.

Dangosir un allbwn o’r gwaith hwn isod. Graff syml ydyw sy’n dangos amrywiadau mewn un canlyniad, sef canran y cleifion a oedd angen llawdriniaeth adolygu hyd at bum mlynedd yn dilyn llawdriniaeth i osod pen-glin newydd, fesul grwpiau oedran gwahanol yng Nghymru.

Revision surgery graph 1 Ronan LyonsWELSH

Gallwn weld o’r graff hwn fod y cyfraddau adolygu yn uwch o lawer yn y grwpiau oedran iau. Cafodd tua 10 y cant o’r grŵp oedran iau lawdriniaeth adolygu o fewn pum mlynedd i’r llawdriniaeth wreiddiol i osod pen-glin newydd. Mae nifer o resymau am hyn, gan gynnwys defnyddio prostheses gwahanol.

Gellid cyflwyno gwybodaeth o’r fath sy’n dangos patrymau o amrywiaeth o ganlyniadau disgwyliedig i unigolion sy’n ystyried cael llawdriniaeth. Gallem gynhyrchu data o’r fath yn rheolaidd a’i ddefnyddio i roi gwybodaeth i gleifion a darparwyr gwasanaethau er mwyn eu cynorthwyo i wneud penderfyniad.

Mesur canlyniadau rhyngwladol

Mae’r Consortiwm Rhyngwladol ar gyfer Mesur Canlyniadau Iechyd (ICHOM) yn sefydliad dielw a ffurfiwyd gan dri sefydliad rhyngwladol. Ei nod yw trawsnewid systemau gofal iechyd ar draws y byd drwy fesur a chofnodi canlyniadau cleifion mewn ffordd safonol.[8]

Caiff ei athroniaeth a’i ddulliau o weithio eu hamlinellu ar ei wefan, lle mae’n egluro pwysigrwydd canlyniadau:

“Credwn mai canlyniadau yw’r prif ddull o fesur llwyddiant ym maes gofal iechyd. Pan mae cleifion yn ystyried cael triniaeth, maent eisiau gwybod sut bydd eu bywydau yn newid: A fyddaf yn dychwelyd i’r gwaith, a fyddaf yn gallu gofalu amdanaf i, ac a fydd fy symptomau yn gwella? Ffurfiwyd ICHOM er mwyn helpu cleifion i ateb y cwestiynau hyn.”

Mae ICHOM yn trefnu timau byd-eang o arweinwyr ym maes gofal iechyd, ymchwilwyr canlyniadau ac eiriolwyr cleifion i weithio gyda’i gilydd i ddiffinio setiau safonol o ganlyniadau ar gyfer cyflwr meddygol. Yna, mae’n hyrwyddo’r broses o fabwysiadu’r dull mesur canlyniadau er mwyn galluogi darparwyr gofal iechyd ar draws y byd i gymharu, dysgu a gwella.

Er bod dull gweithredu ICHOM wedi deillio o systemau yswiriant iechyd preifat cystadleuol, teimlwn fod llawer y gall GIG Cymru ei ddysgu o’r dull gweithredu hwn.

Un mater y gellid ei golli yn rhwydd wrth geisio diffinio setiau cynhwysfawr o ddulliau mesur canlyniadau yw faint o adnoddau sydd eu hangen er mwyn casglu data o’r fath. Rhwydd fyddai credu bod angen nifer fawr o ddulliau mesur canlyniadau arnom sy’n cyfateb i bob posibilrwydd. Er bod yr ymagwedd hon yn bosibl ac yn cael ei mabwysiadu mewn rhai astudiaethau ymchwil sydd â llawer o gefnogaeth ariannol, yn gyffredinol ni fyddai’n ddarbodus dilyn yr ymagwedd hon mewn ymarfer GIG arferol.

Fel y dywedwyd yn aml, ni ddylai perffeithrwydd fod yn elyn i’r da. Mae rhai o’r dulliau mesur canlyniadau sy’n ymwneud ag ansawdd bywyd, neu elfennau eraill, yn rhai y gellid eu defnyddio’n hawdd, sy’n hygyrch drwy gyfryngau amrywiol, yn cymryd ychydig o amser i’w cwblhau, ac y gellid eu dadansoddi’n awtomatig i ddarparu data amserol. Dyma’r mesurau sy’n fwy addas i’w defnyddio ar raddfa fawr, mewn modd cost effeithlon yn y GIG.

Mae angen i ni gofio taw ein hamcan yw hyrwyddo canlyniadau gwell i gleifion a phroses well o ran gwneud penderfyniadau drwy wybodeg effeithlon yr 21ain ganrif, nid casglu mwy o wybodaeth.

Sicrhau ansawdd canlyniadau gan ddefnyddio data a gesglir yn rheolaidd

Yn y GIG yng Nghymru rydym eisoes yn casglu llawer iawn o wybodaeth am gleifion a gwasanaethau unigol, ond nid ydym wedi gwneud y defnydd gorau o’r wybodaeth hon wrth gynllunio a gwerthuso ein gwasanaethau. Ni fydd y gwaith o echdynnu gwerth yn rhwydd. Yn gyffredinol mae’n anodd iawn unioni problemau heb eu deall yn gywir neu heb y wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddod o hyd i ddulliau gweithredu addawol a heb werthuso effaith y dulliau gweithredu a brofwyd gennym. Fel arfer mae gwaith dyfalu a dibyniaeth ar fodelau cysyniadol syml i ganfod datrysiadau yn methu mewn systemau cymhleth fel y GIG.

Cyn i’r cysyniad o ofal iechyd darbodus gael ei ddatblygu, roedd y gwaith o asesu perfformiad y GIG yn seiliedig yn bennaf ar fetrigau proses gyfanredol, fel nifer y cleifion a welwyd ac amseroedd aros. Mae’r cysyniad darbodus yn cynnig model newydd a groesewir sy’n canolbwyntio ar ddatblygu gwasanaeth sy’n ymateb i ganlyniadau gyda llawer mwy o gyfranogiad gan gleifion a chlinigwyr.

Gwyddom o brofiad ei bod yn anodd ymgysylltu â chlinigwyr neu gael sgyrsiau ystyrlon gyda’r cyhoedd ynghylch yr angen i newid gwasanaethau heb roi canlyniadau gwell i gleifion wrth wraidd y trafodaethau hyn. Mae angen i staff clinigol a’r cyhoedd gael mynediad i wybodaeth am ganlyniadau er mwyn gallu barnu cynigion ar gyfer ad-drefnu’r gwasanaethau. Gwyddom y bu’r data hwn yn brin.

Cyfraddau marwolaethau mewn ysbytai

Un dull a ddefnyddiwyd gan y GIG yng Nghymru a Lloegr i aseu perfformiad ysbytai oedd allanoli’r gwaith o fonitro dadansoddiadau o gyfraddau marwolaethau mewn ysbytai. Bu pryder ynghylch rhai o’r canlyniadau, gan gynnwys y cyfraddau marwolaethau a oedd yn ymddangos yn uchel mewn llawer o ysbytai yng Nghymru.

Gofynnwyd i’r Athro Stephen Palmer, o Brifysgol Caerdydd, gynnal adolygiad annibynnol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford AC, i’r ffordd y mae GIG Cymru yn casglu ac yn defnyddio data marwolaethau wedi’i addasu yn ôl risg (RAMI) i ddisgrifio marwolaethau mewn ysbytai yng Nghymru.

Yn ei adolygiad i’r Gweinidog, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014, daeth i’r casgliad nad yw RAMI yn ddull ystyrlon o fesur ansawdd ysbytai. Mewn gwirionedd gallai RAMI fod yn gamarweiniol a gallai dynnu sylw i ffwrdd o ddulliau mwy ystyrlon o fesur a gwella gofal mewn ysbytai.[9]

Amlygodd yr adroddiad hefyd nad oedd canolfan epidemioleg sydd â chyfrifoldeb llawn dros ddatblygu a gwerthuso dulliau mesur marwolaethau a dulliau mesur canlyniadau a allai cynghori a chefnogi byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru.

Argymhellodd yr adroddiad y dylid sefydlu canolfan arbenigedd epidemiolegol genedlaethol ar gyfer Cymru. Byddai hyn yn:“denu arbenigedd o brifysgolion Cymru, gan gynnwys Sefydliad Farr ar gyfer Ymchwil Gwybodeg Iechyd. Byddai canolfan o’r fath yn cynnig cyfle i GIG Cymru symud tuag at arweinyddiaeth ryngwladol ym maes dulliau mesur canlyniadau clinigol yn seiliedig ar boblogaeth.”[9]

Rydym yn gobeithio y caiff yr argymhelliad hwn ei wireddu oherwydd gallai canolfan o’r fath hefyd gynnig manteision eraill i’r GIG yng Nghymru. Gallai adolygu a rhannu arferion gorau yn sgîl profiad rhyngwladol yn y maes hwn, yn enwedig y rhaglen gydweithredol QUEST (Y Cais am Ansawdd a Pherfformiad Gwell) yn UDA.

Mae’r rhaglen gydweithredol hon wedi dangos y manteision sydd ynghlwm wrth wneud pethau’n wahanol – drwy ddefnyddio strategaeth glir ar gyfer dylunio a defnyddio mesurau: aeth 157 o ysbytai yn y rhaglen gydweithredol QUEST y tu hwnt i dueddiadau cenedlaethol o ran cost, diogelwch ac ansawdd dros gyfnod o bum mlynedd.[10,11]

Ffordd ymlaen

Gellir dod o hyd i lawer o ganlyniadau pwysig yn barod fel mater o drefn drwy gysylltu data a gasglwyd gan y GIG neu ddata a roddir iddo gan gyrff eraill, er enghraifft gwybodaeth am farwolaethau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae Cymru eisoes yn arwain y ffordd ym maes cyswllt diogelu preifatrwydd data at ddibenion ymchwil drwy’r system Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), a grëwyd gan yr Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR).[12,13] Cafodd yr elfennau diogelu preifatrwydd ac ymgysylltu â’r cyhoedd eu hymgorffori yn yr ymchwil a gynhaliwyd drwy SAIL ac, o ganlyniad, mae Cymru wedi osgoi pryderon y cyhoedd ynghylch systemau eraill.[14]

Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw  – SAIL

O safbwynt ymchwil, bu SAIL yn llwyddiant aruthrol i Gymru, gan arwain at leoli tair o ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer gwybodeg Cyngor Ymchwil y DU ym Mhrifysgol Abertawe ers 2012. Gyda’i gilydd mae’r rhain wedi denu mwy na £20 miliwn o fuddsoddiad i’r economi leol.

Mae’r GIG hefyd yn dechrau manteisio’n uniongyrchol ar yr arbenigedd a’r buddsoddiad yma. Defnyddiwyd rhywfaint o’r £5 miliwn a fuddsoddodd y Cyngor Ymchwil Feddygol yn Sefydliad Farr ar gyfer Gwybodeg Iechyd yn Abertawe i greu offer cyswllt diogelu preifatrwydd data o’r radd flaenaf ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Bydd yr offer yn cael ei ddosbarthu yn yr hydref 2014 a’r bwriad yw galluogi byrddau iechyd i gysylltu setiau data lluosog yn ddienw o fewn eu sefydliadau gan eu galluogi i gynhyrchu adroddiadau lleol i gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau o ran gofal iechyd darbodus. Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol wedi darparu’r buddsoddiad cyfalaf ar gyfer yr offer ond er mwyn iddo gael ei ddefnyddio’n llawn, bydd angen i fyrddau iechyd sicrhau bod staff gwybodeg yn cael eu lleoli’n briodol.

Ar hyn o bryd nid oes gan y byrddau iechyd fynediad i’r holl setiau data ac offer sydd eu hangen er mwyn cynnal dadansoddiad i lywio’r gwaith o ddatblygu a sicrhau ansawdd eu gwasanaethau. Datgelodd trafodaethau yng ngrŵp llywio canlyniadau clinigol y bwrdd iechyd nad oedd yn bosibl mesur goroesiad 30-dydd neu dymor hwy er mwyn deall effaith y gwasanaethau newydd.

Cynhaliwyd y dadansoddiad canlynol o ddata o fewn banc data SAIL ar gais y grŵp cyfarwyddwyr meddygol i ddangos sut y gellid mesur goroesiad yn hawdd gan ddefnyddio data cysylltiedig. Mae’r graff yn dangos goroesiad cleifion dros flwyddyn yn dilyn cael eu derbyn i’r ysbyty gyda strôc yng Nghymru, fesul y ddau brif gategori o strôc.

Stroke survivals graph 2 Ronan LyonsWELSH

Yn y dyfodol, dylai byrddau iechyd allu cynhyrchu dadansoddiadau fel y rhain a gwerthuso effaith datblygiadau i’r gwasanaeth a ddyluniwyd i wella gofal.

Rôl clinigwyr

Mae cyfranogiad clinigwyr yn hanfodol wrth ddylunio a darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau sy’n ymateb i ganlyniadau. Bydd angen i fyrddau iechyd fuddsoddi mewn hyfforddi cnewyllyn o glinigwyr ym maes gwyddor ddata a mesur canlyniadau, er mwyn ategu gwaith Gofal Iechyd Darbodus.

Dylai fod uwch-swyddog gwybodaeth glinigol ym mhob bwrdd iechyd sy’n gyfrifol am weithredu’r gwaith o fonitro canlyniadau, sy’n adrodd yn uniongyrchol i’r bwrdd. Bydd angen i bob gweithiwr iechyd proffesiynol ddod yn fwy hyddysg mewn perthynas â gwybodeg iechyd a sut y gallant ddefnyddio data i wneud penderfyniadau gwell.

Mae prinder sgiliau yn fater i’w ystyried. Mae prinder arbenigwyr ar draws y byd sy’n gallu trin a defnyddio setiau data mawr a chymhleth. Rydym yn ffodus bod gan GIG Cymru nifer sylweddol o staff gwybodeg sy’n gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau, fel Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â’r byrddau iechyd. Er bod nifer o staff gwybodeg, nid oes digon gennym o hyd.

Mae gan nifer o’n staff gwybodeg sgiliau lefel uchel mewn gwybodeg draddodiadol, ystadegau ac epidemioleg, ond ychydig iawn ohonynt sydd wedi derbyn hyfforddiant i ddadansoddi setiau data cymhleth sydd wedi’u cysylltu – sgil sy’n hanfodol ar gyfer yr 21ain ganrif. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi secondiad i nifer o staff er mwyn iddynt weithio gyda Sefydliad Farr i ddatblygu’r sgiliau hyn. Bydd cyfle i gynnwys hyd at 30 o staff y GIG yn yr adeilad gwyddor ddata newydd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2015 er mwyn ymestyn y gallu yn y maes hwn.

Ar hyn o bryd mae’n anodd diwallu’r galw am ddadansoddiadau llawn gwybodaeth o ansawdd uchel. Mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio’r holl sgiliau sydd ar gael i gefnogi’r anghenion gwybodeg sylweddol sydd ynghlwm wrth ofal iechyd darbodus. Er mwyn cynnal ein hymdrech, bydd hefyd angen i GIG Cymru ddechrau hyfforddi cnewyllyn mwy o lawer o unigolion arbenigol.

Rydym wedi gweld newid mawr o ran cyfranogiad y cyhoedd i ymchwil y GIG dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r cyhoedd yn ymwneud â sawl agwedd o ymchwil gwybodeg iechyd, gan gynnwys:

  • cyfrannu at grwpiau strategol sy’n penderfynu ar flaenoriaethau ymchwil
  • asesu a chymeradwyo unrhyw astudiaethau ymchwil arfaethedig
  • cymryd rhan yn y gwaith o gynnal prosiectau ymchwil.

Mae cynnwys pobl yn y gwaith ymchwil gwybodeg yn y ffyrdd hyn wedi arwain at fanteision aruthrol. Mae’n sicrhau bod yr ymchwil a gynhaliwn yn ymdrin â materion perthnasol ac yn dderbyniol i’r cyhoedd. Dylai’r GIG yng Nghymru fabwysiadu ymagwedd debyg er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd ym mhob agwedd o’r dulliau mesur canlyniadau.

Pum cam ymarferol er mwyn symud o drafod i weithredu:
  1. Dylai GIG Cymru wneud y gwaith o fesur a chyhoeddi canlyniadau yn ofyniad Haen Un ar gyfer byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG, yn gyfwerth â thargedau gweithgarwch ac ariannol.
  2. Dylai pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth y GIG gael adran amlwg ar eu gwefan lle y caiff canlyniadau iechyd cleifion a’r boblogaeth eu cyhoeddi mewn iaith sy’n hawdd i’w deall, efallai o dan bennawd “Sut ydym yn ei wneud? Canlyniadau cleifion a’r boblogaeth”. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am yr archwiliadau cenedlaethol gorfodol i ansawdd gofal y mae’r sefydliadau wedi ymgymryd â hwy a sylwadau sy’n dehongli’r canlyniadau.
  3. Dylai GIG Cymru fabwysiadu a gweithredu casgliad effeithlon o ganlyniadau a phrofiadau safonol a adroddwyd gan gleifion.
  4. Dylai GIG Cymru ddatblygu ei berthynas gyda sefydliadau academaidd a defnyddio arbenigedd a chyfleusterau’r system Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) a buddsoddiad diweddar gan y Cyngor Ymchwil Feddygol yn Sefydliad Farr ar gyfer Ymchwil Gwybodeg Iechyd i ddylunio, gweithredu ac integreiddio dull safonol o fesur canlyniadau iechyd.
  5. Mae cyfranogiad Clinigwyr yn hanfodol wrth ddylunio a darparu gwasanaeth a gaiff ei lywio gan gwybodaeth ac sy’n ymateb i ganlyniadau. Bydd angen i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG fuddsoddi mewn hyfforddi cnewyllyn o glinigwyr ym maes gwyddor ddata a mesur canlyniadau. Dylai fod uwch-swyddog gwybodaeth glinigol ym mhob sefydliad sy’n gyfrifol am weithredu’r gwaith o fonitro canlyniadau, sy’n adrodd yn uniongyrchol i’r bwrdd.

Diolchiadau

Angharad Walters a Daniel Thayer, Prifysgol Abertawe, am gynhyrchu’r graffiau a ddefnyddir yn yr erthygl hon.


Cyfeiriadau

  1. Drakeford M. Ministerial statement: Prudent health care: essential new approach for NHS Wales, 16/01/2014 [Internet]. [cited 2014 September 3]; Available at: http://wales.gov.uk/newsroom/healthandsocialcare/2014/140116prudent1/?lang=en
  2. Murray CJ et al. United Kingdom performance on health: implications from the Global Burden of Diseases Study. The Lancet 2013;381:997-1020.
  3. Barnett K, Mercer SW, Norbury M, Watt G, Wyke S, Guthrie B. Epidemiology of multimorbidity and implications for health care, research, and medical education: a cross-sectional study. The Lancet 2012; 380:37-43. doi: 10.1016/S0140-6736(12)60240-2.
  4. NHS Outcomes Framework 2013–2014 [Internet]. [cited 2014 September 3]; Available at; https://www.gov.uk/government/publications/nhs-outcomes-framework-2013-to-2014
  5. Provisional Patient Reported Outcome Measures (PROMs) in England – April 2013 to February 2014 [Internet]. [cited 2014 September 3]; Available at: http://www.hscic.gov.uk/catalogue/PUB14314.
  6. Gabbe BJ, Lyons RA, Fitzgerald M, Judson R, Richardson J, Cameron Reduced population burden of road transport-related major trauma following introduction of an inclusive trauma system. Ann Surg 2014;00:1-8.
  7. Griffiths S et al. Orthopaedic and trauma surveillance and outcomes system. Update Report to the National Orthopaedic Innovation and Delivery Board, March 2013
  8. International Consortium for Health Outcomes Measurement (ICHOM) [Internet] 2014 [cited 2014 September 3]; Available at: https://www.ichom.org/.
  9. Palmer SR. An independent review looking into the way NHS Wales collects and uses data to describe mortality in Welsh hospitals [Internet]. 2014 July16. [cited 2014 September 3]; Available at: http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/mortality-data/?lang=en
  10. Meyer GS, Nelson EC, Pryor DB, James B, Swensen SJ, Kaplan GS, Weisberrg JI, Bisognano M, Yates GR, Hunt GC. More quality measures versus what matters: a call for balance and parsimony. BMJ Quality and Safety Online First 2012 doi:10.1136/bmjqs-2012-001081.
  11. Citters AD and Nelson EC. Quality and performance improvement amongst QUEST charter member hospitals. A realist evaluation to understand factors that drive and retain improvement. Boston: Institute for Healthcare Improvement; 2011.
  12. Lyons RA, Jones KH, John G, Brooks CJ, Verplancke JP, Ford DV, Brown G, Leake K. The SAIL databank: linking multiple health and social care datasets. BMC Med Inform Decis Mak 2009 Jan 16;9:3.
  13. Ford DV, Jones KH, Verplancke JP, Lyons RA, John G, Brown G, Brooks CJ, Thompson S, Bodger O, Couch T, Leake K. The SAIL Databank: building a national architecture for e-health research and evaluation. BMC Health Services Research 2009;9:157; doi:10.1186/1472-6963-9-157.
  14. Lyons R, Ford DV, Jones, KH. The Secure Anonymised Information Linkage (SAIL) system in Wales has privacy protection at its heart.BMJ 2014; 348 doi: http://dx.doi.org/10.1136/bmj.g2384 (Published 3 April 2014).

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Ronan Lyons yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

Bydd y gallu i roi adborth ystyrlon am brofiadau grwpiau o gleifion a phatrymau gwasanaeth ac yna defnyddio’r wybodaeth hon i gryfhau llais y cleifion a’r cyhoedd ehangach yn y broses o wneud penderfyniadau yn elfen hanfodol o wasanaeth iechyd ymatebol yn yr 21ain ganrif.”

Gwneud iddo ddigwydd

  1. Er mwyn darparu gofal iechyd darbodus, bydd angen i’r GIG yng Nghymru ailgyfeirio ei hun i fonitro’r wybodaeth a gesglir drwy fesur canlyniadau cleifion a gweithredu ar y wybodaeth honno.
  2. Mae angen i ni sicrhau bod yr un pwyslais yn cael ei roi ar wybodaeth am weithgarwch a chanlyniadau a bod y wybodaeth honno yn cael ei defnyddio i lywio ein penderfyniadau, fel cleifion, clinigwyr, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG.
  3. Dangosodd astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer defnyddio PROMS mewn orthopedeg sut y gellid cysylltu data a gasglwyd eisoes gan y GIG ar draws gwahanol systemau a’i ddefnyddio i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol am batrymau o ran y defnydd o’r gwasanaeth iechyd a chanlyniadau cleifion ar ôl llawdriniaeth, gan gynnwys cyfraddau adolygu cymhlethdodau a llawdriniaethau.
  4. Un mater y gellid ei golli yn rhwydd wrth geisio diffinio setiau cynhwysfawr o ddulliau mesur canlyniadau yw faint o adnoddau sydd eu hangen er mwyn casglu data o’r fath. Mae angen i ni gofio taw ein hamcan yw hyrwyddo canlyniadau gwell i gleifion a phroses well o ran gwneud penderfyniadau drwy wybodeg effeithlon yr 21ain ganrif, nid casglu mwy o wybodaeth.
  5. Er ein bod yn ffodus bod gan GIG Cymru nifer sylweddol o staff gwybodeg, nid oes digon gennym o hyd. Bydd yn anodd diwallu’r galw am ddadansoddiadau llawn gwybodaeth o ansawdd uchel. Mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio’r holl sgiliau sydd ar gael i gefnogi’r anghenion gwybodeg sylweddol sydd ynghlwm wrth ofal iechyd darbodus. Er mwyn cynnal ein hymdrech, bydd hefyd angen i GIG Cymru ddechrau hyfforddi cnewyllyn mwy o lawer o unigolion arbenigol.

@ChoosingWiselyW #MakingChoicesTogether agrees. We promote teaching skills for #shareddecisiomaking to all clinicians. #prudenthealthcare twitter.com/richardlehman1…

@WelshGovernment ..so LHBs in Wales need more psychologists to support them, & keep them from harm. #PrudentHealthcare @DiabetesUKCymru twitter.com/glycosmedia/st…