Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Gofal iechyd darbodus a meddygaeth fanwl

  • Dr Berwyn Clarke, Pennaeth, Pandion Biotech Consulting Ltd
  • Ifan Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Arloesi mewn Gofal Iechyd, Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Crynodeb

Mae’r erthygl hon yn disgrifio sut mae ‘meddygaeth tra-chywiredd’ yn defnyddio data genetig a biofarcwyr diagnostig eraill i ddewis y driniaeth fwyaf priodol ar gyfer unigolion. Mae hyn yn cyflawni canlyniadau gwell i bobl, yn fwy diogel, ac yn fwy cost-effeithiol hefyd gan fod pobl yn cael y driniaeth iawn y tro cyntaf.

Mae gan Gymru sylfaen dda ar gyfer cyflwyno meddygaeth tra-chywiredd, oherwydd ei dull cenedlaethol i wasanaethau a’i rhagoriaeth ymchwil mewn meysydd allweddol.  Mae meddygaeth tra-chywiredd a gofal iechyd darbodus yn gyflenwol, ond mae’n hanfodol bod GIG Cymru yn ymgysylltu â diwydiant a’r byd academaidd i ddarparu’r driniaeth fwyaf addas i bobl.

-

Beth yw meddygaeth fanwl?

Mae meddygaeth glinigol wedi newid yn sylweddol dros y deng mlynedd diwethaf. Yn y gorffennol cafwyd ymagwedd ‘reddfol’ i bob diben at ddiagnosis a thriniaeth, ond mae offer a thechnegau newydd ar gael i roi diagnosis mwy cywir a thriniaeth fanwl wedi’i theilwra i glaf unigol. Mae hyn yn bwysig gan fod pobl yn gwahaniaethu yn y ffordd y maent yn ymateb i feddyginiaeth – bydd un cyffur yn gwella’r rhan fwyaf o bobl, ni fydd ganddo unrhyw fudd therapiwtig mewn eraill, ac mewn rhai achosion bydd yn achosi sgil-effeithiau niweidiol. Mae pawb yn ymwybodol o hyn, ond dim ond nawr y mae gennym y gallu i ddeall ac i ystyried yr amrywiad hwn yn unigol:

“Amrywioldeb yw cyfraith bywyd, a chan nad yw dau wyneb yr un peth, felly nad yw dau gorff yr un peth, ac nid yw dau unigolyn yn ymateb yn yr un modd nac yn ymddwyn yr un modd o dan gyflyrau annormal clefyd.”

Syr William Osler, Athro Emeritws Meddygaeth, Prifysgol Rhydychen, 1849–1919[1]

Er y bu datblygiadau eang a sylweddol mewn technoleg glinigol mae’r ddau baramedr hwn, sef effeithiolrwydd a gwenwyndra yn parhau i fod yn ffactorau allweddol i hybu’r broses o ddatblygu meddygaeth fanwl wedi’i phersonoleiddio.[2] Prif amcan ‘meddygaeth fanwl’ yw rhoi’r cyffur iawn ar y dos iawn i’r claf iawn ar yr adeg iawn. Mae hyn yn adlewyrchu egwyddion gofal iechyd darbodus, yn enwedig egwyddorion peidio â gwneud niwed, cyflwyno’r ymyrraeth glinigol leiaf posibl, a chynnwys y claf yn y broses o wneud penderfyniadau clinigol. Mae’n golygu cymhwyso ein technoleg a’n gwybodaeth at wneud y diagnosis cywir a dewis y driniaeth gywir ar gyfer claf unigol, ar yr ymagis gyntaf.

Mae meddygaeth fanwl yn cyfuno’r defnydd o offer newydd sy’n rhoi diagnosis mwy cywir o glefydau â’r detholiad a’r defnydd pwrpasol o therapiwteg er mwyn sicrhau bod y claf unigol yn cael y budd mwyaf posibl a’r sgîl-effeithiau lleiaf posibl.

Mae llwybr meddygaeth fanwl bob amser yn ddarbodus

Ystyriwch glaf sydd wedi cael diagnosis o ganser. O blith y casgliad dryslyd o gyffuriau a chyfuniadau cyffuriau a allai lwyddo i leihau tiwmor ac estyn bywyd y claf, gallai rhai wneud pethau’n waeth ac arwain at sgil-effeithiau sylweddol. Neu, ystyriwch rywun sy’n mynd i weld y meddyg ynghylch problem yn ymwneud â phwysedd gwaed. Ar gyfartaledd, bydd y person hwnnw yn cael pedwar cyffur gwahanol (Richard Hughes, cyfathrebu personol) cyn y gellir rheoli ei gyflwr yn briodol, oherwydd na wyddom pa gyffur neu ddos y bydd y claf yn ymateb iddo.

Mae’r enghreifftiau hyn o natur reddfol i bob diben meddygaeth yr 20fed ganrif yn dangos sut y mae’n seiliedig ar ddull hap a damwain dilyniannol, lle y mae’r budd a ddaw yn y pen draw o ddewis y cyffur iawn yn drech na’r perygl o sgîl-effeithiau o ganlyniad i ddefnyddio’r cyffur anghywir. Ond nid yw dull gweithredu o’r fath bob amser o fudd i’r claf unigol. Mae hefyd yn golygu bod darparwyr gofal iechyd yn gwario llawer o arian ar gyffuriau nad ydynt yn gweithio. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, dyma’r dull gweithredu gorau sydd gennym.

Mae llwybr meddygaeth fanwl yn wahanol. Yma, mae’r meddyg yn tynnu gwaed a meinwe ac yn dilyn hynny bydd labordy canolog yn dilyniannu genom cyfan y claf o’r sampl. Caiff y data eu dadansoddi a’u cymharu â ‘banc’ byd-eang diogel o DNA canser, samplau meinwe eraill, a chanlyniadau therapïau blaenorol. Mae’r dadansoddiad cyflawn yn rhoi gwybodaeth bersonol i’r meddyg am y claf, am y tiwmor yn achos canser, a chyfuniad therapiwtig unigol ar gyfer yr unigolyn hwnnw, gan gynnwys gwybodaeth am reoli dos a thriniaeth. Mae’r offerynnau hyn ar gael yn awr ar gyfer nifer fach ond cynyddol o salwch a chyffuriau8.

Os byddwn yn mabwysiadu’r dull gweithredu hwn yn ehangach ar draws y GIG yng Nghymru bydd yn lleihau niwed, yn gwella canlyniadau i’r cleifion ac yn rhoi profiad gwell i’r claf – tair o egwyddorion craidd gofal iechyd darbodus. Bydd angen i ni dalu cost ychwanegol y technolegau hyn drwy ddangos eu heffeithiolrwydd. Os bydd diagnosis cywir yn caniatáu i ni ddefnyddio’r driniaeth gywir yn unig (sy’n cynnwys peidio â rhoi triniaeth aneffeithiol i gleifion) bydd yn lleihau cost gyffredinol cyffuriau. Os bydd triniaeth yn cyflwyno canlyniadau iechyd gwell ar yr ymgais gyntaf ac yn lleihau niwed, bydd yn lleihau’r galw ar y system iechyd a bydd mwy o bobl yn gallu parhau’n economaidd weithgar am gyfnod hirach.

Rydym yn ffodus bod y GIG yng Nghymru mewn sefyllfa dda i ddarparu’r math hwn o ofal iechyd modern o ganlyniad i’w ymagwedd genedlaethol at ddata digidol ac am ei fod yn darparu gwasanaethau gofal iechyd craidd megis patholeg, delweddu a gwasanaethau genetig. O ganlyniad i faint Cymru hefyd gallwn gydbwyso’r gallu i weithio ar ddata poblogaeth gyfan, â gallu i wneud newidiadau sylweddol i ymarfer a systemau o fewn amserlen resymol. Mae’r gweithdrefnau meddygaeth fanwl y gellid eu cyflwyno i drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru – megis gwasanaeth profi genetig i Gymru gyfan, porth diagnosteg glinigol cenedlaethol, a chofnod claf unigol – eisoes ar gael a gellid eu hymgorffori’n hawdd i’n system gofal iechyd. Wrth i feddygaeth fanwl gael ei mabwysiadu o fewn ymarfer safonol, mae ganddi’r potensial i ddarparu gwerth iechyd ac economaidd sylweddol.

Defnyddio meddygaeth fanwl i wneud llai o niwed

Amcangyfrifir bod 20-40 y cant o’r holl gleifion sy’n cymryd meddyginiaeth bresgripsiwn naill ai ar y cyffur anghywir neu’r dos anghywir.[3] Mae hyn yn golygu bod llawer o gleifion yn defnyddio cyffuriau sy’n cynnig llai o fudd iddynt, os o gwbl, er bod iddynt sgîl-effeithiau posibl o hyd sy’n golygu y gallent beri niwed. Yn y DU, amcangyfrifir bod adweithiau niweidiol i gyffuriau yn achosi chwech y cant o’r holl dderbyniadau i’r ysbyty ac yn costio £500 miliwn y flwyddyn.[4]

O fewn system gofal iechyd darbodus, mae’n rhaid i ni sicrhau bod defnyddio cyffuriau yn fwy cywir ac effeithiol yn flaenoriaeth. Ochr yn ochr â mentrau megis rhagnodi electronig, adolygiadau defnydd cyffuriau rheolaidd, a helpu cleifion i lynu at driniaeth, mae meddygaeth fanwl yn rhan gynyddol bwysig o’r gwaith i leihau niwed posibl o feddyginiaethau.

Mae’r broses o newid a mabwysiadu’r system newydd yn araf ar hyn o bryd, ond mae’n cyflymu. Mae gennym offer diagnostig eisoes i haenu a gwella rhai therapïau cyffuriau. Rhwng 1997 a 2004, cafodd 19 o gyffuriau eu tynnu’n gyfan gwbl o’r farchnad oherwydd adweithiau niweidiol yn gysylltiedig â’u defnydd. Ar hyn o bryd mae’r Asiantaeth Gyffuriau Ffederal yn yr Unol Daleithiau yn rhestru 138 o gyffuriau penodol o feysydd therapiwtig amrywiol sy’n cynnwys rhybudd neu gyfyngiadau ffarmacogenomeg ar label y cyffur, sy’n golygu mai dim ond pan ddefnyddir profion diagnostig penodol i ddangos bod y claf yn addas ar gyfer y presgripsiwn y dylid gweinyddu’r rhain.[5] Enghraifft wych o hyn yw rhagnodi ffenytoin. Mae astudiaethau wedi dangos bod cleifion sydd ag Antigen Histogydnawsedd (HLA) o fath penodol yn wynebu risg uchel o ddatblygu Syndrom Stevens Johnson neu Necrolysis Epidermol Gwenwynig, felly dylid rhagnodi cyffuriau gwrthgonfylsiwn eraill ar gyfer y cleifion penodol hyn.

Mae’r maes hwn o feddygaeth fanwl yn ymwneud ag osgoi rhagnodi cyffuriau a all greu sgil-effeithiau annymunol mewn rhai pobl neu hyd yn oed achosi marwolaeth, yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil sy’n gysylltiedig â genynnau a bioddangosyddion eraill. Mae hyn yn newyddion da i’r unigolion hyn a allai fel arall wynebu’r perygl o niwed. Ac mae’n newyddion da i ni fel clinigwyr a darparwyr gofal iechyd, oherwydd nid ydym am niweidio cleifion. Ond yn bennaf oll mae hefyd yn dda i’r boblogaeth yn gyffredinol, oherwydd bydd yn arwain at drwyddedu a defnyddio cyffuriau sy’n effeithiol mewn rhai pobl, ond yn niweidiol o bosibl mewn eraill. Mae llawer o gyffuriau o’r fath wedi ‘methu’ mewn treialon clinigol, am fod yr ymagwedd hanesyddol at ddatblygu a thrwyddedu cyffuriau wedi profi diogelwch a gwenwyndra yn erbyn y boblogaeth gyfan. Gallai meddygaeth fanwl newid hyn a bydd mwy o gyffuriau ar gael ond ar gyfer grwpiau manwl o gleifion.

Ni fydd adweithiau niweidiol i gyffuriau byth yn cael eu dileu yn llwyr drwy ddefnyddio’r dulliau ffarmacogenetig hyn oherwydd bydd diffyg cydymffurfiaeth ar ran y claf, ffordd o fyw a ffactorau eraill hefyd yn parhau i chwarae rôl. Fodd bynnag mae gennym dystiolaeth ddigonol bellach i ddangos bod ffarmacogeneteg a meddygaeth fanwl yn cael eu mabwysiadu’n gynyddol yn y gwledydd datblygedig.

Defnyddio meddygaeth fanwl i nodi’r ymyriadau priodol lleiaf posibl

Mae meddygaeth fanwl hefyd yn ymwneud â dewis y cyffuriau hynny sy’n debygol o gael yr effaith fwyaf buddiol mewn cleifion penodol. Er bod yr egwyddor hon wedi cael ei chymhwyso wrth ddefnyddio cyffuriau gwrthfeirysol ers llawer o flynyddoedd mae’r prif ffactor sy’n ysgogi’r dull gweithredu hwn o fewn y maes oncoleg. Er gwaethaf ymdrechion a buddsoddiad sylweddol gan y diwydiant fferyllol mae effeithiolrwydd cyffuriau canser newydd wedi bod yn siomedig iawn, a dim ond 25 y cant o’r holl gyffuriau newydd trwyddedig sydd wedi dangos unrhyw fudd newydd. Dros y saith i wyth mlynedd diwethaf mae’r duedd hon wedi newid wrth i ni sylweddoli bod dadansoddiad manwl o’r tiwmor penodol mewn claf unigol yn gallu datgelu cliwiau ynghylch p’un a fydd yn ymateb i therapi penodol.

Dangoswyd hyn i ddechrau gan gyffuriau newydd ar gyfer y colon a’r rhefr a ddatblygwyd gan Amgen a MerckSerono (Vectibix ac Erbitux yn y drefn honno). Dangosodd treialon clinigol fod cyfanrwydd genyn penodol yn y tiwmor, k-ras, yn cael effaith sylweddol ar p’un a fyddai’r tiwmor yn debygol o ymateb i therapi ai peidio. Roedd tiwmorau â newidiadau yn y genyn hwn yn annhebygol o ymateb ond roedd y rhai â genynnau normal yn dueddol o ymateb yn dda iawn i therapi.[6] Cafwyd canfyddiadau tebyg yn dilyn hyn ar gyfer cyffuriau canser yr ysgyfaint (Tarceva ac Iressa) er bod y genyn neu’r bioddangosydd penodol yn yr achosion hyn yn wahanol.[7] Gan fod y cysylltiad rhwng y dangosydd a’r ymateb i therapi mor ddwys, dim ond ar ôl cynnal dadansoddiadau diagnostig penodol y caiff y cyffuriau hyn eu rhagnodi bellach. A chan fod y cyffuriau hyn yn ddrud iawn, mae’n bwysig cael syniad, cyn eu gweinyddu, p’un a fydd claf yn debygol o gael budd ohonynt ai peidio.

Mae’r model meddygol newydd hwn yn golygu mai dim ond ar ôl cynnal y diagnostig ‘ategol’ perthnasol ymlaen llaw y gellir defnyddio cyffur penodol. O ganlyniad i’r budd clinigol i’r claf a’r budd effeithlonrwydd i ddarparwyr gofal iechyd, mae awdurdodau rheoleiddio cyffuriau bellach yn ei gwneud yn ofynnol archwilio dangosyddion effeithiolrwydd fel elfennau o dreialon clinigol fel mater o drefn. Bydd cyfuno diagnosteg a chynhyrchion fferyllol mewn treialon datblygu yn golygu mai dim ond pan gânt eu defnyddio gyda diagnostig ategol y bydd y mwyafrif o gynhyrchion therapiwtig ar gael.

Mae nifer gynyddol o gyffuriau o fewn meysydd clefydau eraill y gellid eu rhagnodi gan ddefnyddio’r model meddygaeth fanwl, er enghraifft [8]:

  • Cyffuriau gwrthseicotig – aripiprazole, risperidone a haloperidol
  • Cyffuriau gwrthiselder – citalopram, venlafaxine, fluvoxamine, paroxetine, fluoxetine, sertraline ac amitriptyline
  • Cyffuriau gwrthepileptig –phenytoin
  • Cyffuriau adfywio’r system nerfol ganolog(CNS) – atomoxetine
  • Cyffuriau gwrthddiabetig – glimepiride
  • Cyffuriau cardiofasgwlaidd – irbesartan, warfarin, losartan a fluvastatin
  • Cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd – celecoxib
  • Cyffuriau analgesaidd – codeine, tramadol
  • Cyffuriau cwsg a lleddfol – diazepam
  • Cyffuriau gastroberfeddol – lansoprazole ac omeprazole

Bydd yr achos dros fabwysiadu llwybr meddygaeth fanwl ar gyfer y cyffuriau hyn yng Nghymru yn dibynnu ar nifer o ffactorau, yn cynnwys eu budd posibl, eu sgîl-effeithiau a’u cost. Serch hynny, mae’r dystiolaeth yn glir y gellir cymhwyso meddygaeth fanwl at nifer gynyddol o achosion o salwch a grwpiau cyffuriau, a bod cyffuriau newydd yn cael eu datblygu a’u trwyddedu ar delerau a fydd yn gofyn am lwybr meddygaeth fanwl. Fel darparwyr gofal iechyd bydd angen i ni baratoi ar gyfer y newidiadau hyn mewn ymarfer clinigol.

Meddygaeth fanwl a’r genom cyfan

Mae nodi bioddangosyddion unigol fel k-ras wedi bod yn ddatblygiad pellgyrhaeddol wrth reoli canser y colon a’r rhefr a chanser yr ysgyfaint. Yn anffodus nid yw pob claf yn ymateb i’r cyffuriau a nodwyd fel y disgwyliwyd, er bod proffil eu tiwmor yn cyfateb i’r bioddangosydd perthnasol i bob golwg. Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gallai elfennau eraill o’r llwybr biocemegol targed fod wedi newid hefyd, ac os felly, mae’n bosibl na fydd y claf yn ymateb o hyd. Mae hyn yn awgrymu, ar gyfer tiwmor unigol, y gallai’r broses o ragnodi cyffuriau yn y dyfodol er mwyn nodi effeithlonrwydd ofyn am ddadansoddi ffactorau amrywiol ar yr un pryd. O ganlyniad, rydym bellach yn gweld llwyfannau diagnostig newydd yn cael eu datblygu i ddadansoddi bioddangosyddion amrywiol ar yr un pryd.

Mae’r dechnoleg a ddefnyddir i wneud hyn yn datblygu’n gyflym, ac wrth i gost y broses dilyniannu genetig ostwng mae’n symud o samplu bioddangosyddion i samplu’r genom cyfan. Mae hwn yn offeryn diagnostig pwerus sy’n dod i’r golwg, am ei fod yn gallu gwneud dadansoddiad mwy cymhleth o sawl darn o wybodaeth glinigol ar yr un pryd – gellir defnyddio data genom cyfan yn glinigol i asesu pa mor debygol yw claf o gael tiwmor, ac i ddarparu’r holl wybodaeth ffarmacogenetig sydd ei hangen ar gyfer ystod o ddangosyddion diagnostig ategol.

Y seilwaith ar gyfer meddygaeth fanwl

Mae’n debygol, o fewn degawd, y bydd cleifion yn gallu cael gafael ar eu proffil ffarmacogenetig eu hunain fel rhan o ymarfer clinigol safonol. Dim ond unwaith y bydd yn rhaid casglu’r wybodaeth hon oherwydd nad yw gwybodaeth enetig sylfaenol unigolyn yn amrywio dros amser, sy’n golygu bod modd storio data i gyfeirio atynt yn y dyfodol a’u defnyddio yn erbyn cyffuriau newydd a diagnosisau meddygaeth fanwl. Mae’r dechnoleg ar gyfer casglu’r wybodaeth enetig hon ar gael eisoes. Mae ein seilwaith digidol yng Nghymru eisoes wedi’i ddatblygu’n rhannol. Gallai cysylltiad agosach rhwng GIG Cymru a Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru (HPC) gyfrannu’n helaeth at ddarparu’r llwyfan technoleg gofynnol. Mae gennym sylfaen dda eisoes ar gyfer rhoi system genedlaethol ar waith ymhob ysbyty a meddygfa yng Nghymru, fel bod clinigwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth am y cyffuriau y bydd unigolyn yn ymateb iddynt, y dos a gynghorir ac unrhyw wrtharwyddion y mae angen eu monitro.

Nid technoleg yw’r prif rwystr. Y prif heriau y byddwn yn eu hwynebu o bosibl yw ein amharodrwydd i newid a phryder y cyhoedd ynghylch y broses o gynhyrchu a defnyddio gwybodaeth enetig. Mae’n hynod bwysig ein bod yn cynnig rhaglen gynhwysfawr i ddatblygu dealltwriaeth cleifion ac addysg gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd. Bydd angen i ni sicrhau bod ymdrech berswadiol a chydlynus i hybu newid mewn ymarfer clinigol er mwyn mabwysiadu’r system newydd yn sail i hyn oll. Byddai hyn yn pwysleisio’r cysylltiad agos rhwng meddygaeth fanwl a gofal iechyd darbodus er mwyn darparu triniaeth a gofal sy’n unol ag egwyddorion peidio â gwneud niwed, defnyddio’r ymyrraeth briodol leiaf posibl, a chanolbwyntio ar anghenion a dewisiadau’r claf. Bydd angen i ni hefyd roi dull cadarn ar waith ar gyfer llywodraethu gwybodaeth, yn cynnwys mesurau diogelwch data priodol, caniatâd cleifion ar gyfer cadw a defnyddio gwybodaeth enetig, a dulliau i reoli mynediad i ddata at ddibenion ymchwil ac arloesedd. Dylai’r broses lywodraethu hefyd fabwysiadu egwyddorion tegwch a chydgyfrifoldeb cleifion, sy’n rhan hanfodol o ofal iechyd darbodus.

Llwyfan meddygaeth fanwl ar gyfer arloesi cydweithredol

Mae’r dechnoleg hon yn darparu cymaint o ddata fel y bydd angen offer dadansoddiadol newydd i hidlo, dadansoddi, dehongli a chyflwyno adroddiad ar y wybodaeth ofynnol, yn ôl anghenion y claf a’r clinigwr. Er bod meddygaeth fanwl yn canolbwyntio ar ddefnyddio gwybodaeth enomig ar hyn o bryd, mae technolegau eraill a fydd yn darparu offer clinigol holl bwysig. Mae’r rhain yn cynnwys ffynonellau bioddangosyddion eraill megis proteinau mewn gwaed neu hylifau’r corff yn ogystal â metabolion eraill y gellir eu defnyddio fel dangosyddion iechyd neu salwch.

Mae hyn yn cyflwyno gwagle pwysig datblygol ar gyfer ymchwil, arloesedd a gwella iechyd. Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio i’r eithaf ar y farchnad hon sy’n dod i’r golwg oherwydd gallwn gyfuno arbenigedd mewn data, diagnosteg a chyffuriau gyda seilwaith ymchwil glinigol cenedlaethol a system darparu gofal iechyd a gynlluniwyd. Bydd newidiadau mewn ymchwil ac ymarfer yn mynd law yn llaw, ynghyd â datblygiadau mewn diagnosteg a chynhyrchion fferyllol.

Mae llawer o raglenni ymchwil mewn prifysgolion yng Nghymru a allai hefyd ddarparu offer ar gyfer meddygaeth fanwl yn y dyfodol, ond mae angen i ni greu dull sy’n troi ymchwil yn ymarfer clinigol yn fwy effeithlon ac yn gyflymach. Mae gan Gymru gadwyn gyflenwi gadarn o ran treialon clinigol a gweithgynhyrchu cynhyrchion fferyllol ac mae wedi buddsoddi mewn gwaith canfod a datblygu cyffuriau drwy Sêr Cymru, y Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol ar gyfer Iechyd a Gwyddorau Bywyd. Mae gennym waith ymchwil aruthrol ym maes geneteg. Mae gan y GIG yng Nghymru wasanaeth biobancio cenedlaethol a gwasanaeth profi genetig Cymru gyfan. Yn y sector gwyddorau bywyd mae gennym glystyrau cadarn o fusnesau diagnosteg a thechnoleg feddygol. Er mwyn hybu arloesedd mae angen i ni sicrhau bod cysylltiad agos rhwng busnesau, prifysgolion a’r system gofal iechyd yng Nghymru.

Yn fyd-eang, y dull a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddod â’r sectorau hyn at ei gilydd yw sefydlu labordai gwasanaeth Dilyniannu’r Genhedlaeth Nesaf (NGS) sydd o safon uchel ac â mewnbwn uchel er mwyn darparu’r wybodaeth angenrheidiol am fioddangosyddion i’r clinigwr. Er enghraifft, yn ddiweddar mae EKF Diagnostics, cwmni diagnosteg o Gymru, wedi caffael darparwr gwasanaeth NGS o’r Unol Daleithiau, Selah Genomics, sydd eisoes yn cynnig gwasanaeth o’r fath. Byddai’n gymharol syml trosglwyddo’r model hwn i leoliad canolog fel sylfaen canolfan diagnosteg glinigol genedlaethol newydd yng Nghymru. Byddai’r ganolfan hon hefyd yn elfen allweddol o’r broses o hyfforddi ac addysgu darparwyr gofal iechyd mewn perthynas â thechnolegau a gwasanaethau newydd. Yn ogystal, gellid ei chysylltu hefyd â storfa fiobanc ar gyfer data a samplau clinigol, a fydd yn darparu llwyfan ar gyfer ymchwil yn y dyfodol a’r broses o werthuso technolegau a dulliau gweithredu newydd.

Byddai’r cyfoeth o wybodaeth newydd yn cael ei hintegreiddio â chofnodion clinigol, gan alluogi clinigwyr yng Nghymru i ddarparu meddygaeth fanwl. Er enghraifft, byddai sicrhau bod gwybodaeth ffarmacogenetig ar gael i feddygon teulu mewn gofal sylfaenol yn golygu bod modd gwneud diagnosis a phresgripsiwn ar unwaith, heb atgyfeiriad arbenigol at ysbyty.

Casgliad

Nid yw meddygaeth fanwl yn ymarfer dewisol mwyach mewn unrhyw system gofal iechyd. Mae gofynion labelu cyffuriau newydd, offer diagnostig mwy manwl a ffactorau iechyd economaidd syml yn symud y pwyslais i ffwrdd oddi wrth ddulliau gweithredu greddfol hanesyddol. Disgwylir i’r broses hon gyflymu ymhellach. Mae’n gysylltiedig iawn ag egwyddorion gofal iechyd darbodus gan fod ei phrif amcanion yn ymwneud â lleihau niwed i gleifion, a dewis yr ymyrraeth briodol leiaf posibl, yn seiliedig ar dystiolaeth. Gellir cyflawni’r ddwy egwyddor hon drwy sicrhau bod data’r unigolyn wrth wraidd diagnosis clinigol a dewis triniaeth. Ni fydd hyn, mewn unrhyw ffordd, yn eithrio trafodaethau rhwng y claf a’r darparwr ynghylch y canlyniadau a ddymunir. Mewn gwirionedd, bydd yn gwella’r drafodaeth honno am ei bod yn cyflwyno mwy o sicrwydd mewn perthynas â’r cysylltiad rhwng diagnosis, ymyrraeth a chanlyniadau.

Mae meddygaeth fanwl yn her i bob system gofal iechyd yn y byd. Nid yw’n hawdd casglu data genetig ar gyfer poblogaeth gyfan, darparu’r seilwaith a chreu’r ymddiriedolaeth i storio’r wybodaeth honno, neu adeiladu’r systemau i’w dadansoddi a’i defnyddio mewn ymarfer reolaidd. Mae hefyd yn anodd canfod yr arbenigedd i ddatblygu dadansoddiadau newydd, i lywio arloesedd ac i greu gwerth. Ond mae Cymru mewn sefyllfa eithriadol o dda i wneud hyn, ac fe allem ddatblygu enghraifft wirioneddol fyd-eang o feddygaeth fanwl a gaiff ei gweithredu ar draws y system gyfan, gan adeiladu ar yr holl asedau a chyfleoedd sydd gennym eisoes. Os allwn wneud hyn, bydd o fudd sylweddol i gleifion yng Nghymru, a bydd yn cyfrannu’n helaeth at gyflawni gofal iechyd darbodus.

Y camau nesaf
  • Sefydlu Canolfan Ddiagnosteg Glinigol Genedlaethol yng Nghymru sy’n cynnig,
    • profion cenedlaethol o’r radd flaenaf
    • storfa samplau
    • economeg iechyd
    • swyddogaeth hyfforddi
    • asesiad technoleg newydd
    • canolfan TG ar gyfer meddygaeth fanwl.
  • Sefydlu Panel Cynghori Cenedlaethol ar Feddygaeth Fanwl gyda
    • diwydiant
    • academia
    • y GIG
    • Panel Sector Gwyddorau Bywyd Llywodraeth Cymru
    • Cyfrifiadura Perfformiad Uchel.
  • Darparu Cronfa Datblygu Strategol ar gyfer Meddygaeth Fanwl
  • Sefydlu rhaglenni cenedlaethol addysg i gleifion ac ymwybyddiaeth y cyhoedd mewn perthynas â phrofion genetig
  • Sefydlu arfer gorau mewn meddygaeth fanwl drwy
    • ymweld â labordai masnachol
    • sefydlu labordy gwasanaeth NGS cenedlaethol o safon uchel ac â mewnbwn uchel, yn seiliedig ar fodel EKF Diagnostics / Selah Genomics
    • darparu proses diogelu a dehongli data.

Cyfeiriadau

  1. Osler, W. On the Educational Value of the Medical Society in Yale Medical Journal 1903; 9:325
  2. Hamburg MA, Collins FS. The path to personalized medicine. N Engl J Med 2010; 363:301-304.
  3. Spear BB, Heath-Chiozzi M, Huff J. Clinical application of pharmacogenetics. Trends Mol Med 2001;7:201-204.
  4. Pirmohamed M, James S, Meakin S, Green C, Scott AK, et al. Adverse drug reactions as cause of admission to hospital: prospective analysis of 18 820 patients. BMJ 2004;329:15-19.
  5. FDA US Food and Drug Administration [Internet] [updated 2014 August 18; cited YEAR MONTH DATE]; Available at ww.fda.gov/drugs/scienceresearch/researchareas/pharmacogenetics/ucm083378.htm
  6. Amado RG, Wolf M, Peeters M, et al. Wild-type KRAS is required for Panitumumab Efficacy in Patients with Metastatic Colorectal Cancer. J Clin Oncology 2008;26:1626-1634
  7. Mok TS, Wu Y-L et al. Gefitinib or carboplatin-paclitaxel in pulmonary adenocarcinoma N Eng J Med 2009; 361: 947-957
  8. Age of Personalized Medicine [Internet] [cited 2014 September 14]; Available at http://www.ageofpersonalizedmedicine.org/personalized_medicine/case/

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Dr Berwyn Clarke yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

“Mae meddygaeth fanwl yn cyfuno’r defnydd o offer newydd sy’n rhoi diagnosis mwy cywir o glefydau â’r detholiad a’r defnydd pwrpasol o therapiwteg er mwyn sicrhau bod y claf unigol yn cael y budd mwyaf posibl a’r sgil-effeithiau lleiaf posibl.”

Gwneud iddo ddigwydd

  1. Nid yw cyflwyno meddygaeth fanwl yn ddewisol - bydd yn gynyddol ofynnol bod cyffuriau yn destun prawf bioddangosydd penodol cyn y gallant gael eu defnyddio, felly mae’n rhaid i ddarparwyr gofal iechyd ddatblygu eu gallu yn y maes hwn er mwyn cael gafael ar driniaethau newydd.
  2. Mae meddygaeth fanwl yn fuddiol i gleifion a darparwyr gofal iechyd – mae’n defnyddio data genetig a bioddangosyddion diagnostig eraill i ddewis y driniaeth fwyaf priodol ar gyfer unigolyn penodol ar yr ymgais gyntaf, er mwyn darparu canlyniadau gwell ar gyfer y claf, bod yn fwy diogel, ac yn fwy costeffeithiol.
  3. Mae gan Gymru sylfaen dda ar gyfer cyflwyno meddygaeth fanwl – o ganlyniad i’w hymagwedd genedlaethol at wasanaethau, ei rhagoriaeth ymchwil mewn meysydd allweddol, a chan fod meddygaeth fanwl a gofal iechyd darbodus yn ategu’i gilydd – ond mae’n hanfodol bod GIG Cymru yn ymgysylltu â diwydiant ac academia.

Empowering patients influences lots of medical behaviour, improves safety and value #coproductiontwitter.com/i/web/status/8…