Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Rhagnodi – canlyniadau iechyd gwell a gofal mwy diogel drwy ragnodi darbodus

  • Yr Athro Phil Routledge (ar ran Canolfan Therapiwtig a Thocsicoleg Cymru Gyfan), yr Athro Ffarmacoleg Glinigol, Prifysgol Caerdydd

Crynodeb

Mae meddyginiaethau yn parhau i fod yn elfen hollbwysig o reoli nifer o gyflyrau meddygol gwahanol.  Fodd bynnag, gall meddyginiaethau gyfrannu at niwed, yn arbennig pan fydd unigolyn yn cymryd mwy nag un cyffur rhagnodedig.  Mae angen monitro ‘ffarmacoleg’ yn fanwl.  Hefyd, mae angen i ragnodwyr weithio mewn partneriaeth agos gyda’r cleifion.

Mae nifer o fesurau a all helpu i wneud meddyginiaethau yn fwy diogel, ac un o’r rhai pwysicaf yw diwylliant adrodd cadarn, lle mae digwyddiadau niweidiol yn cael eu cofnodi a’u defnyddio i ysgogi gwelliannau.

Mae’r erthygl hon yn trafod rhai o’r mentrau sydd eisoes yn cael eu cyflwyno i hyrwyddo rhagnodi darbodus yn y GIG yng Nghymru.  Mae hefyd yn awgrymu pum ‘cam nesaf.

-

Pam rhagnodi darbodus?

Rhagnodi meddyginiaeth yw un o’r pethau mwyaf defnyddiol, ond a allai fod yn un o’r pethau mwyaf peryglus y bydd y rhan fwyaf o weithwyr iechyd proffesiynol yn ei wneud.  Gall meddyginiaethau ymestyn bywyd – er enghraifft, mae ein poblogaeth sy’n heneiddio wedi golygu mwy o achosion o fethiant y galon, ond mae datblygiadau mewn triniaethau, er enghraifft atalyddion ACE, wedi’u cysylltu â chleifion yn byw yn hwy.[1] Fodd bynnag, gall meddyginiaethau leihau ansawdd bywyd hefyd, neu gallant hyd yn oed arwain at dderbyniadau i’r ysbyty, oherwydd adweithiau niweidiol i gyffuriau a chamgymeriadau rhagnodi.  Drwy ddefnyddio canfyddiadau (gyda gofal) o astudiaeth yn Lerpwl, gallwn amcangyfrif y gallai 320 o welyau mewn ysbytai yng Nghymru, ar unrhyw adeg,  gael eu llenwi gan gleifion sy’n cael eu derbyn yn bennaf oherwydd  adweithiau niweidiol i gyffuriau.[2] Roedd astudiaeth Lerpwl hefyd yn nodi cyfradd marwolaethau o 0.15%.

Rhagnodi gwael

Mae rhagnodi gwael yn digwydd mewn tair ffordd:

  • Gor-ragnodi – pan fydd meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi, ac mae’r risg o niwed yn uwch na’i budd tebygol (yn gyffredinol neu mewn perthynas â meddyginiaeth arall).
  • Tan-ragnodi – pan nad yw meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi, ac y byddai budd y feddyginiaeth honno yn llawer uwch na’r risg o niwed.
  • Cam-ragnodi – pan fydd y feddyginiaeth anghywir yn cael ei rhagnodi. Gall ddigwydd fel rhan o gamgymeriad meddyginiaeth, sy’n cael ei achosi yn bennaf drwy ragnodi’r ddos anghywir, ond a allai hefyd gael ei achosi gan lwybr, amlder neu hyd gweinyddu’r feddyginiaeth.

Gall yr holl fathau hyn o ragnodi gwael gyfrannu at gymhareb anffafriol risg i fudd, a lleihau neu negyddu buddiannau meddyginiaethau i gleifion.  Dylid monitro am effeithiau dymunol ac annymunol ym mhob achos o ragnodi;  gall proses fonitro annigonol hefyd leihau neu negyddu buddiannau rhagnodi priodol cychwynnol ac arwain at wastraff y gellir ei osgoi.

Tair egwyddor gofal iechyd darbodus

Egwyddorion sylfaenol gofal iechyd darbodus yw:

  • lleihau niwed y gellir ei osgoi
  • defnyddio’r ymyrraeth briodol leiaf bosibl
  • hyrwyddo tegwch rhwng y bobl sy’n darparu a’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau.

Dylid cyflenwi gwasanaethau gan ddefnyddio’r egwyddor dim ond gwneud yr hyn y gallwch ei wneud.  Dylid ailfodelu’r berthynas rhwng y defnyddiwr a’r darparwr, gan ddefnyddio proses gydgynhyrchu.  Cafodd egwyddorion gofal iechyd darbodus eu cyflwyno yn natganiad Llywodraeth Cymru ar ofal iechyd darbodus ym mis Mehefin 2014.[3] Mae’r holl egwyddorion hyn yn berthnasol i ymarfer rhagnodi.

Lleihau niwed y gellir ei osgoi

Mae pob meddyginiaeth yn achosi adweithiau niweidiol.  Mae’r adweithiau mwyaf cyffredin yn adweithiau sy’n gysylltiedig â dos, (a elwir yn fath A – am “accentuation”).  Mae’r achosion hyn yn cynrychioli tua dwy ran o dair o’r holl adweithiau niweidiol.  Maent yn rhagweladwy, ac yn seiliedig ar ffarmacoleg hysbys y feddyginiaeth, ac felly gellir eu hosgoi.  Mae tua 70 y cant neu fwy o’r adweithiau niweidiol hynny sy’n arwain at dderbyniadau ysbyty yn fath A.[2]  Hefyd, canfuwyd bod tua 20 y cant o gleifion yn cael eu haildderbyn yn yr ysbyty o fewn blwyddyn ar ôl cael eu rhyddhau o’u derbyniad mynegai, yn cael eu haildderbyn oherwydd adwaith niweidiol.[4]

Yn llai aml, gall unigolion brofi adweithiau anrhagweladwy, (a elwir yn fath B – am “bizarre”).  Nid yw’n rhwydd rhag-weld yr adweithiau hyn yn ôl ffarmacoleg hysbys y feddyginiaeth.  Maent yn cael eu dosbarthu fel math B am eu bod yn aml yn gysylltiedig â rhagdueddiad neu orsensitifrwydd yr unigolyn, er enghraifft adwaith imiwnedd neu adwaith alergaidd i’r feddyginiaeth.

Plant ifanc iawn ac oedolion oedrannus sy’n fwyaf tebygol o brofi adweithiau math A.  Yn achos babanod newydd-anedig a phlant, gallai hyn ddigwydd am na allant gael gwared ar y feddyginiaeth yn effeithiol o’r corff, am nad yw eu horganau gwaredu (e.e. yr afu neu’r arennau) wedi aeddfedu’n llawn eto.  Yn achos yr henoed, yn arbennig henoed bregus, efallai bod nam ar y prosesau gwaredu hyn hefyd.  Ymysg cleifion â chlefyd yr afu, methiant yr arennau a methiant y galon, efallai y bydd nam ar eu gallu i gael gwared â meddyginiaeth hefyd.  Mae lefel gymharol y nam sy’n gysylltiedig â’r prosesau gwaredu hyn, a’u pwysigrwydd cymharol ar gyfer cael gwared ar feddyginiaeth benodol, yn dylanwadu ar effeithiau posibl y nam wrth gymedroli dos diogel ac effeithiol o feddyginiaeth yr unigolyn hwnnw.

Un o ragofynion rhagnodi darbodus yw y dylai fod yn rhesymegol – yn ddiogel, effeithiol a chost-effeithiol – ac y bydd teilwra’r driniaeth ar gyfer claf unigol, yn gorbwyso’r buddiannau tebygol o unrhyw niwed tebygol pan fydd hynny’n bosibl .[5] Mae’n bosibl mai methiant triniaeth bresennol, sy’n gysylltiedig â dos, i reoli cyflwr yw un o’r prif resymau dros dderbyn yr henoed mewn ysbytai.  Felly, ni ddylid defnyddio oedran fel rheswm dros wrthod dosau digonol o therapïau effeithiol.[6] Er hynny, mae perthynas glir rhwng cynnydd mewn oedran ac amlder adweithiau niweidiol i gyffuriau, ar gyfer rhai cyflyrau meddygol cyffredin.

Rhagnodi gwrthficrobaidd

Mae ymwrthedd i gyffuriau yn her enfawr i iechyd cyhoeddus rhyngwladol.  Mae’n rhaid ymgorffori’r defnydd priodol o wrthfiotigau i’r rhaglen rhagnodi darbodus yng Nghymru.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi nifer o ffactorau sy’n ysgogi ymwrthedd i gyffuriau.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ymrwymiad cenedlaethol annigonol i ymateb cynhwysfawr a chydgysylltiedig
  • atebolrwydd wedi’i ddiffinio’n wael
  • systemau gwyliadwriaeth a monitro gwan neu absennol
  • defnydd amhriodol ac afresymol o feddyginiaethau.[7]
Diogelwch cleifion

Mae diogelwch cleifion yn elfen hollbwysig gofal o ansawdd.  Drwy waith Gwella 1000 o Fywydau a Mwy, mae Cymru wedi ceisio datblygu’r agenda ansawdd a diogelwch, yn cynnwys diogelwch meddyginiaethau.  Roedd adroddiad diweddar Ymddiried mewn Gofal [8] yn amlygu’r materion a oedd yn gysylltiedig â gweinyddu meddyginiaethau i gleifion oedrannus mewn ysbytai, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â’r materion hyn.  Mae diwylliant o adrodd uchel yn helpu i wella diogelwch.[9] Roedd y ffaith bod cyfanswm yr achosion honedig o adweithiau niweidiol i gyffuriau a adroddwyd i’r Awdurdod Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd drwy gyflwyno cerdyn melyn o Gymru wedi gostwng 36 y cant o 1,013 ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2008 i fis Mawrth 2009, i 649 ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2012 i fis Mawrth 2013.  Mae Canolfan Cerdyn Melyn Cymru wedi mynd i’r afael â mater hwn dros y flwyddyn ddiwethaf (er enghraifft gweler adroddiad hyrwyddwr fferyllwyr ysbytai 2013–2014 ), felly mae Cymru’n parhau i gyfrannu’n effeithiol i’r gwaith gwyliadwriaeth ffarmacolegol.  Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu hefyd yn helpu rhagnodwyr i gynyddu ymwybyddiaeth cleifion o effeithiau posibl y meddyginiaethau maent yn eu defnyddio, ac sydd felly’n gwella diogelwch.

Defnyddio’r ymyriadau priodol lleiaf posibl

Mae cyhoeddiadau diweddar wedi amlygu gwerth rhagnodi ceidwadol[10] a meddyginiaeth gynnil.[11] Mae rhagnodi ceidwadol yn cynnig cyfres o chwe egwyddor er mwyn sicrhau rhagnodi mwy pwyllog a cheidwadol.  Mae’r rhai sy’n cefnogi meddyginiaeth gynnil yn datgan nad yw meddyginiaeth gynnil yn cynrychioli moesau dogni, oherwydd nid yw rhai arferion arferol penodol yn creu unrhyw werth amlwg i ganlyniadau cleifion.

Risgiau

Mae cymryd meddyginiaethau lluosog rhesymegol neu briodol wedi dod yn arfer derbyniol wrth i ddisgwyliad oes gynyddu, ac wrth i’r nifer o glefydau cydfodol gynyddu[12,13] ac mae’r ystod o feddyginiaethau meddygol ar gyfer cyflyrau meddygol, yn cynnwys cnawdnychiant myocardaidd aciwt , wedi cynyddu  Felly, mae’r risg o ddigwyddiadau niweidiol sy’n gysylltiedig â phroblemau o gymryd meddyginiaethau lluosog hefyd wedi cynyddu.  Mae hyn yn cael effaith anghymesur ar yr henoed bregus, sef y grŵp sy’n fwyaf tebygol o fod yn derbyn nifer o feddyginiaethau.[14]

Mae llai yn fwy effeithiol

Mae adnoddau arloesol ar gael yn awr sy’n pwysleisio pwysigrwydd cynnal yr ymyrraeth therapiwtig leiaf bosibl  Mae Gallagher a’i gydweithwyr wedi dilysu offer sgrinio newydd i archwilio presgripsiynau’r henoed.[15] Mae’n offer sgrinio dibynadwy a chynhwysfawr ar gyfer asesu priodoldeb meddyginiaethau cleifion hŷn, mewn cysylltiad â’u diagnosis neu ddiagnosisau presennol.[16]

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) wedi nodi arfer na ddylid ei ddefnyddio.[17] Ym mis Chwefror 2014, roedd tua 1,000 o argymhellion ‘na ddylech eu gwneud’ ar wefan NICE, ar roedd tua thraean ohonynt yn gysylltiedig â meddyginiaethau.

Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) wedi cyhoeddi canllaw yn ddiweddar, sydd wedi’i baratoi gan Grŵp Cynghori Presgripsiynau Cymru Gyfan, ar gyfer clinigwyr sy’n blaenoriaethu meddyginiaeth ar gyfer cleifion sydd wedi derbyn meddyginiaethau rhagnodedig ar gyfer nifer o gyflyrau.  Mae’r canllaw hwn yn cynnwys offer cryno a chysylltiadau i ddogfennau a gwybodaeth arall pan fo hynny’n briodol.[18]

Yn olaf, mae Duerden a’i gydweithwyr wedi cyhoeddi adroddiad pwysig yn ddiweddar ar gymryd meddyginiaethau lluosog, sy’n cynnwys egwyddorion i helpu gyda’r broses o optimeiddio meddyginiaethau.[13]

Dim ond gwneud yr hyn y gallwch chi ei wneud

Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y bobl sy’n darparu ac sy’n defnyddio gwasanaethau

Mae AWMSG yn ymroddedig i sicrhau bod y meddyginiaethau mwyaf priodol a chost effeithiol ar gael i bawb yng Nghymru.  Nodwyd bod proses AWMSG ar gyfer gwerthuso technolegau iechyd yng Nghymru yn gadarn[19] ac wedi’i hachredu gan NICE.  Er mwyn cefnogi defnydd cyfartal o feddyginiaethau, mae Uned Cymorth Presgripsiynau Dadansoddol GIG Cymru yn monitro nifer y cleifion sy’n cymryd meddyginiaethau newydd, sydd wedi’u hargymell gan AWMSG a NICE, yn ogystal â meddyginiaethau nad ydynt yn argymell eu defnyddio’n gyffredinol yn y GIG.

Mae AWMSG wedi bod yn pennu a mesur dangosyddion rhagnodi er mwyn hyrwyddo system ragnodi ddiogel, resymegol, cost effeithiol ac ansawdd ym maes gofal sylfaenol ers 2003.  Mae’r dangosyddion cenedlaethol a’r blaenoriaethau therapiwtig perthnasol yn cael eu diweddaru.  Eu diben yw hyrwyddo rhagnodi darbodus, maent yn seiliedig ar dystiolaeth ac maent wedi’u cynllunio i fod yn glir a pherthnasol ar lefel ymarferol, a’u bod yn mynd i’r afael ag effeithlonrwydd, diogelwch ac ansawdd rhagnodi.

Gellir archwilio’r ffynonellau amrywiaeth hefyd rhwng y dangosyddion rhagnodi cenedlaethol yn y byrddau iechyd gwahanol er mwyn hysbysu strategaethau gwella a lleihau amrywiaethau.  Mae canlyniadau’r Dangosydd Rhagnodi Cenedlaethol dros y degawd diwethaf (gweler Tabl 1 isod) yn dangos eu bod wedi symud at y trothwy ym mhob blwyddyn y cawsant eu dynodi.  Mae statinau yn eithriad i hyn, a oedd heb newid a meddyginiaethau ‘quinolone’ a oedd wedi cynyddu rhywfaint yn ôl i’r lefel a welwyd yn 2011–12.

Ailfodelu’r berthynas rhwng defnyddwyr a darparwyr â chydgynhyrchiant

Mae gofal sy’n canolbwyntio ar unigolion yn ceisio rhoi blaenoriaeth i bobl yn eu hiechyd a’u gofal.  Mae’n helpu unigolion i wneud penderfyniadau cytbwys, i gadw rheolaeth ar eu sefyllfa ac i annog partneriaeth rhwng unigolion, teuluoedd a gwasanaethau.  Mae National Voices (cynghrair o elusennau gofal iechyd, yn cynnwys Arthritis Research UK, Asthma UK a mwy) wedi cyhoeddi cyfres o adnoddau ar sail tystiolaeth, sy’n cyfeirio pobl at y dystiolaeth orau ynglŷn â:

  • pa fesurau sy’n hyrwyddo ataliaeth yn effeithiol
  • gwella gwybodaeth a dealltwriaeth
  • gwella profiad; cefnogi hunanreolaeth
  • cefnogi proses o rannu penderfyniadau.

Mae’r adnoddau hyn ar gael ar wefan National Voices.

Mae’r holl adnoddau hyn yn berthnasol i ragnodi, yn ogystal ag agweddau eraill ar ofal iechyd a gallant helpu comisiynwyr a darparwyr yn eu hamcan o ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar unigolion.[22]

Mesurau i hyrwyddo rhagnodi darbodus

Gellir dosbarthu mesurau sy’n gysylltiedig â galw o dan y penawdau– addysg, peirianneg, economeg a gorfodi.[23]

Addysg

Davis a’i gydweithwyr oedd y cyntaf i arddangos sesiynau addysg feddygol ryngweithiol, cyfranogol a pharhaus, sy’n darparu cyfle i arfer sgiliau sy’n gallu creu newidiadau i ymarfer proffesiynol a chael dylanwad cadarnhaol achlysurol ar ganlyniadau gofal iechyd.[24] Mae’r Scottish International Guidelines Network (SIGN) yn datgan bod dylanwad addysg ar ymlyniad wrth ganllawiau yn gwella pan fydd yn cynnwys dylanwad cyfoedion.  Mae’n argymell cefnogi grŵp aml-broffesiynol, gydag arbenigwyr yn cynnig addysg mewn gweithdai neu leoliadau cynhadledd fel agwedd ddefnyddiol.[25] Mae SIGN hefyd yn awgrymu bod hwyluso addysg ar lefel ymarferol yn ddefnyddiol.  Mae’r ymchwil a’r canllawiau hyn yn cyfeirio at addysg effeithiol er mwyn amlygu materion blaenoriaeth sy’n gysylltiedig â rhagnodi darbodus drwy ddysgu rhyngweithiol ar sail achosion mewn grwpiau cyfoedion, sy’n cael eu cyflenwi gan arbenigwyr.

Peirianneg

Mae hyn yn cyfeirio at y newidiadau strwythurol sydd eu hangen i hyrwyddo rhagnodi darbodus pellach.  Un enghraifft fyddai defnyddio meddalwedd cefnogi penderfyniadau, er mwyn atgoffa rhagnodwyr o’r cyfleoedd i ragnodi yn ddiogel, effeithiol ac effeithlon.  Mae rhagnodi electronig, er mwyn lleihau camgymeriadau meddyginiaeth, hefyd yn ddefnyddiol er mwyn lleihau niwed.  Er bod rhagnodi electronig wedi bod ar gael ers nifer o flynyddoedd ym maes practis cyffredinol, nid yw ar gael yn gyffredinol mewn ysbytai yng Nghymru ar hyn o bryd.

Economeg

Agwedd arall yw cymhellion ariannol neu ddatganoli cyllidebau.  Ym mis Rhagfyr 2004, cymeradwyodd AWMSG gynllun cymhelliant rhagnodi anorfodol i Gymru gyfan.  Roedd y cynllun hwn yn darparu fframwaith a oedd yn cael ei argymell i fyrddau iechyd, ac roedd yn cynnwys dwy elfen bwysig: dangosyddion rhagnodi (wedi’u diffinio ar lefel genedlaethol a lefel byrddau iechyd) a phortffolio dysgu (Archwiliadau Rhagnodi Cenedlaethol, Canolfan Adnoddau Moddion Cymru, deunyddiau addysgiadol a gweithgarwch eraill wedi’u diffinio gan fyrddau iechyd).  Yn 2008, bu i AWPAG gynnal adolygiad o’r cynlluniau ar hyd a lled Cymru.  Cytunodd aelodau AWMSG y dylai’r cynllun barhau i fod ar gael fel templed ar gyfer addasiadau lleol.  Gelwir y cynllun hwn bellach yn Rhaglen Rhagnodi Effeithiolrwydd Clinigol.[26]

Mae cytundeb gofal sylfaenol y Gwasanaethau Meddygol Cenedlaethol yn darparu cyfle pellach i hyrwyddo rhagnodi diogel ac effeithiol.  Mae maes sefydliadol cytundeb y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn cynnwys dangosydd rheoli meddyginiaethau, er mwyn sicrhau bod ymarfer yn cyflawni’r cyngor rhagnodi yn flynyddol o leiaf, mae’n cytuno ar hyd at dri cham gweithredu sy’n gysylltiedig â rhagnodi ac mae’n darparu tystiolaeth o newid. [27]

Gorfodaeth

Gallai hyn fod ar ffurf cytundebau sy’n gyfreithiol rwymol.  Mae angen dilyn argymhellion AWMSG a NICE ar gyfer gwerthuso technoleg iechyd cadarnhaol a sicrhau bod meddyginiaethau ar gael, os bydd angen, o fewn tri mis ar ôl eu cymeradwyo.

Y pum cam nesaf yng Nghymru: gwneud iddo ddigwydd
  1. Mae gweithdai ar ragnodi darbodus yn cael eu cyflwyno ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru yn y 12 mis nesaf. Mae’r effaith ar arfer rhagnodi yn cael ei mesur gan ddefnyddio rhanbarth cymharu (meincnod) yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr a dadansoddiad ar dueddiadau amser.  Dylid defnyddio dangosyddion rhagnodi cenedlaethol i asesu gwelliannau.  Dylid mesur canlyniadau cleifion (er enghraifft, gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd rhai adweithiau niweidiol posibl) pan fydd hynny’n bosibl.  Dylid mabwysiadu agwedd ‘hyfforddi’r hyfforddwyr’ er mwyn galluogi’r cynrychiolwyr, gyda chymorth adnoddau addysgu wedi’u paratoi ymlaen llaw, i raeadru negeseuon o’r hyfforddiant i gydweithwyr yn eu gweithle (practis cyffredinol neu dîm ysbyty).
  2. Dylid ymgorffori egwyddorion stiwardiaeth gwrthficrobaidd yn y gweithdai rhagnodi darbodus, er mwyn cefnogi prosesau yng Nghymru sy’n hyrwyddo gostyngiad mewn ymwrthedd i gyffuriau. Hefyd, dylai AWMSG a’i is-grwpiau weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu safonau a chanllawiau ar gyfer sefydliadau gofal iechyd ar ddefnydd gwrthficrobaidd a rheoli heintiau, er mwyn ymgorffori algorithmau diagnostig i Ganllaw Rheoli Heintiau Cymru Gyfan, a datblygu polisi gwrthficrobaidd i reoli’r cyfryngau hynny sy’n fwyaf tebygol o achosi ymwrthedd gwrthficrobaidd neu heintiau Clostridium difficile.
  3. Mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth uchel i ddatblygu system dechnoleg integredig i hyrwyddo defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau i gleifion ar hyd a lled Cymru. Dylai’r ymagwedd gynnwys datblygu systemau rhagnodi electronig mewn ysbytai yng Nghymru.  Dylid ymgorffori cyngor STOPP/START (Offer Sgrinio Presgripsiynau Pobl Hŷn a allai fod yn amhriodol ac Offer Sgrinio i Gyfeirio meddygon at Driniaethau Cywir [h.y. priodol, sydd wedi’u nodi] a chanllawiau ‘peidio â gwneud’ NICE i’r Offer Sgrinio ar gyfer Presgripsiynau Pobl Hŷn er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael yn hwylus i ragnodwyr, mewn ysbytai ac mewn lleoliadau cymunedol.
  4. Mae’n rhaid i ddiogelwch cleifion fod yn elfen flaenllaw o systemau rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau. Mae’n rhaid i bob un ohonom fabwysiadu agwedd dim goddefgarwch at gamweinyddu meddyginiaethau, fel yr amlinellwyd yn Ymddiried mewn Gofal, ac annog arfer o adrodd ar ddigwyddiadau niweidiol ac adweithiau niweidiol posibl i gyffuriau ar hyd a lled Cymru.
  5. Dylid atgyfnerthu partneriaethau gyda’r cyhoedd. Mae’r Grŵp Diddordeb Cleifion a’r Cyhoedd, a sefydlwyd yn ddiweddar gan AWMSG, yn un enghraifft sy’n sicrhau bod cleifion yn cael eu cynnwys fel partneriaid cyfartal mewn penderfyniadau ar feddyginiaethau.  Bydd cynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn materion sy’n gysylltiedig â meddyginiaeth, yn cynnwys ymlyniad wrth feddyginiaethau a lleihau gwastraff meddyginiaethau [26] yn sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn cyflenwi gofal iechyd sy’n addas ar gyfer anghenion ac amgylchiadau cleifion.

Tabl 1. Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol 2004–2014[28]

Tabl 1. Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol 2004–2014
Diolchiadau:

Hoffwn ddiolch i Rob Bracchi, James Coulson, Kath Haines, Jamie Hayes, Ruth Lang, Karen Samuels a Roger Walker am eu sylwadau gwerthfawr.


Cyfeiriadau

  1. Deedwania PC, Carbajal E. Evidence-based therapy for heart failure. Med Clin North Am. 2012 Sep;96(5):915-31. doi:10.1016/j.mcna.2012.07.010.
  2. Pirmohamed M, James S, Meakin S et al. Adverse drug reactions as cause of admission to hospital: prospective analysis of 18 820 patients. BMJ 2004;329:15-19. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC443443/
  3. Welsh Assembly Government. Statement on prudent healthcare [Internet] 2014 [2014 September 14]; Available at http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2014/prudenthealthcare/?lang=en
  4. Davies EC, Green CF, Taylor S, Williamson PR, Mottram DR, Pirmohamed M. Adverse drug reactions in hospital in-patients: a prospective analysis of 3695 patient-episodes. PLoS One. 2009;4(2):e4439. doi: 10.1371/journal.pone.0004439. Epub 2009 Feb 11.
  5. Routledge PA. Clinical pharmacology and the art of bespoke prescribing. Br J Clin Pharmacol. 1988; 26:339-45. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC1386553/
  6. Routledge PA, O’Mahony MS, Woodhouse KW. Adverse drug reactions in elderlyBr J Clin Pharmacol. 2004 Feb;57(2):121-6. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC1884428/
  7. World Health Organization. Combat Antimicrobial Resistance: World Health Day 2011. [Internet ] 2014 [2014 September 14]; Available at http://www.who.int/world-health-day/2011/WHD201_FS_EN.pdf
  8. Andrews J, Butler M. Trusted to care: An independent review of the Princess of Wales Hospital and Neath Port Talbot Hospital at Abertawe Bro Morgannwg University Health Board. Dementia Services Development Centre [Internet] 2014 [2014 September 14]; Available at http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/opendoc/240096
  9. Routledge PA. Safe prescribing: a titanic challenge. Br J Clin Pharmacol. 2012;74:676-84. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3477336/
  10. Schiff GD, Galanter WL, Duhig J, Lodolce AE, Koronkowski MJ, Lambert BL. 2011. Principles of conservative prescribing. Arch Intern Med. 2011;171:1433-40
  11. Tilburt JC, Cassel CK. Why the ethics of parsimonious medicine is not the ethics of rationing. JAMA. 2013; 309:773-4. doi:10.1001/jama.2013.368. Erratum in: JAMA. 2013;30:2212.
  12. Barnett K, Mercer SW, Norbury M, Watt G, Wyke S, Guthrie B. Epidemiology of multimorbidity and implications for healthcare, research, and medical education: a cross-sectional study. Lancet. 2012 Jul 7;380(9836):37-43. doi:10.1016/S0140-6736(12)60240-2. Epub 2012 May 10.
  13. Duerden M, Avery T, Payne R. Polypharmacy and medicines optimisation: making it safe and sound. London: Kings Fund; 2013.http://www.kingsfund.org.uk/sites/files/kf/field/field_publication_file/polypharmacy-and-medicines-optimisation-kingsfund-nov13.pdf
  14. Thomas AM, Routledge PA. Drug Interactions in Clinical Practice Focus – Pharmacovigilance Bulletin, 2003; no 34, May.
  15. Gallagher P, Ryan C, Byrne S, Kennedy J, O’Mahony D. STOPP (Screening Tool of Older Person’s Prescriptions) and START (Screening Tool to Alert doctors to Right Treatment). Consensus validation. Int J Clin Pharmacol Ther. 2008;46:72-83
  16. Patterson SM, Hughes C, Kerse N, Cardwell CR, Bradley MC. Interventions to improve the appropriate use of polypharmacy for older people. Cochrane Database of Systematic Reviews 2012, Issue 5. Art. No.: CD008165. http://www.google.co.uk/url?sa=t&rct=j&q=&esrc=s&source=web&cd=1&ved=0CCEQFjAA&url=http%3A%2F%2Fwww.thecochranelibrary.com%2Fdetails%2Ffile%2F841535%2FCD001095.html&ei=fWz8U96wIurA7Aa604C4DQ&usg=AFQjCNG7wxb0qyvB7_jcf27kviw1jg1DzA&bvm=bv.73612305,d.ZGU
  17. National Institute for Health and Care Excellence (NICE). ‘do not do’ recommendations [Internet] [updated June 2014; cited 2014 September 14]; Available at https://www.nice.org.uk/guidance/cg137/resources/search-the-nice-do-not-do-recommendations-database
  18. All Wales Medicines Strategy Group (AWMSG) [Internet] 2014 [cited 2014 September 14]; Available at http://www.awmsg.org/medman_library.html?jqprselect=button1
  19. Drug assessment: UK style.Drug Ther Bull. 2013 Dec;51(12):141-4. doi: 10.1136/dtb.2013.12.0225.
  20. The National Institute for Health and Care Excellence (NICE) [Internet] 2014 [cited 2014 September 14]; Available at https://www.nice.org.uk/Guidance/sc1
  21. The National Institute for Health and Care Excellence (NICE) [Internet] 2011 [cited 2014 September 14]; Available at http://www.nice.org.uk/guidance/Cg76
  22. Fahey T. Assembling the evidence for patient centred care. National Voices has provided a promising series of narrative reviews. BMJ 2014;349:g4855 doi:10.1136/bmj.g4855 (Published 29 July 2014).
  23. Godman B, Shrank W, Anderson M et al. Comparing policies to enhance prescribing efficiency in Europe through increasing generic utilization: changes seen and global implications. Expert Rev Pharmacoecon Outcomes Res. 2010 Dec;10(6):707-22. doi:10.1586/erp.1072.
  24. Davis D, O’Brian MA, Freemantle N, Wolf FM, Mazmanian P, Taylor-Vaisey A. Impact of formal continuing medical education: do conferences, workshops, rounds, and other traditional continuing education activities change physician behavior or healthcare outcomes? JAMA. 1999 Sep 1;282 (9):867-74.
  25. SIGN 50: a guideline developer’s handbook: Revised edition. Edinburgh: SIGN Executive; 2011 http://www.sign.ac.uk/pdf/sign50.pdf
  26. Hughes DA, Routledge PA. A prescribing partnership. Public Service Review: Health and Social Care 2013;35:65-67.
  27. All Wales Medicines Strategy Group (AWMSG) [Internet] 2014 [cited 2014 September 14]; Available at awmsg.org/docs/awmsg/medman/Therapeutic%20Priorities%20and%20CEPP%20Summary.pdf
  28. All Wales Medicines Strategy Group (AWMSG) [Internet] [2014, in press] http://www.awmsg.org/awmsg_annual_reports.html

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Yr Athro Phil Routledge yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

“Mae rhagnodi darbodus yn dod ag egwyddorion gofal iechyd darbodus ynghyd: lleihau niwed y gellir ei osgoi, darparu’r ymyrraeth briodol ofynnol a hyrwyddo tegwch ynghyd ag ymarfer rhagnodi synhwyrol – rhagnodi sy’n ddiogel, yn effeithlon ac yn effeithiol.”

Gwneud iddo ddigwydd

Mae rhagnodi darbodus yn cyflwyno tri chysyniad newydd:

  1. Creu partneriaeth ragnodi lle bydd y broses o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yn canolbwyntio ar y claf ac yn annog proses o rannu penderfyniadau.
  2. Gwella ymarfer rhagnodi drwy addysg, peirianneg, economeg a gorfodaeth.
  3. Annog defnydd diogel o feddyginiaethau, gyda diwylliant adrodd cadarn, lle bydd digwyddiadau niweidiol yn cael eu cofnodi, a lle mae gwersi yn cael eu dysgu a’u gweithredu.
  • Bydd meddyginiaethau yn parhau i fod yn hollbwysig yn y gwaith o reoli ystod eang o gyflyrau meddygol.
  • Pe byddem yn rhoi mwy o ystyriaeth i ffarmacoleg a ffactorau sy’n gysylltiedig â chleifion unigol, byddai’n bosibl osgoi llawer o’r niwed sy’n gysylltiedig â meddyginiaeth.
  • Po fwyaf o feddyginiaethau sy’n cael eu rhagnodi, y mwyaf yw’r risg o ddigwyddiadau niweidiol, felly mae’n rhaid i ni weithio i leihau ffarmacoleg diangen, yn arbennig (ond nid yn unig) ar gyfer yr henoed.
  • Mae mentrau eisoes yn cael eu cyflwyno i hyrwyddo rhagnodi darbodus, er mwyn i ni allu ceisio cyflawni’r canlyniadau gorau yn sgil meddyginiaethau i bobl yng Nghymru, ond mae llawer o waith arall i’w wneud.

@ChoosingWiselyW #MakingChoicesTogether agrees. We promote teaching skills for #shareddecisiomaking to all clinicians. #prudenthealthcare twitter.com/richardlehman1…

@WelshGovernment ..so LHBs in Wales need more psychologists to support them, & keep them from harm. #PrudentHealthcare @DiabetesUKCymru twitter.com/glycosmedia/st…