Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Galluogi darparu gofal iechyd darbodus drwy dechnoleg gwybodaeth

  • Hamish Laing, Cyfarwyddwr Meddygol a Chyfarwyddwr Gwybodeg ac Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Crynodeb

Gall Technoleg Gwybodaeth (TG) alluogi gofal iechyd darbodus mewn llawer o ffyrdd a bydd yn gwneud hynny mewn sawl ffordd. Mae’r bennod hon yn edrych ar sut y bydd TG yn cefnogi’r addewid a’r broses o ddarparu gofal iechyd darbodus.

Information Technology

Cyflwyniad

Technoleg gwybodaeth yw’r broses o ddefnyddio cyfrifiaduron ac offer telathrebu i storio, adalw, trosglwyddo a thrin data. Pan ddisgrifiwyd TG fodern am y tro cyntaf yn 1958 (1), dim ond 10 mlwydd oed oedd y GIG.

Rydym oll yn gallu gweld sut mae technoleg yn datblygu ac yn newid yn ein bywydau bob dydd – gallwn wneud pethau bellach gan ddefnyddio cyfrifiaduron a ffonau clyfar, na fyddem wedi dychmygu y byddent yn bosibl ychydig flynyddoedd yn ôl. Roeddem yn arfer meddwl am lechen fel rhywbeth yr oedd plant ysgol yn ysgrifennu arni yn Oes Fictoria, ac nid fel teclyn a ddefnyddir i wneud eich siopa. Dim ond yn 2010 y lansiwyd yr iPad ond erbyn eleni amcangyfrifir y bydd 280 miliwn o gyfrifiaduron llechen yn cael eu defnyddio ledled y byd. Mae mwy na 24 miliwn o bobl yn y DU eisoes yn berchen ar un neu’n ei ddefnyddio’n rheolaidd (2) a disgwylir i’r nifer hon gynyddu ymhellach (gweler Ffigur 1).

Mae’r proffesiwn meddygol wedi ymuno â’r chwyldro technolegol hefyd – dywed 72 y cant o feddygon yn yr UD eu bod yn berchen ar ddyfais llechen a’u bod yn argymell rhaglenni – “apps” – i’w cleifion (3). Mae canran sylweddol o ddinasyddion y DU yn berchen ar neu’n defnyddio ffôn symudol, sef 93 y cant, ac mae bron i ddwy ran o dair o ddinasyddion y DU yn berchen ar ffôn clyfar (4).

Defnyddwyr Llechen yn y DU, 2012-7: beth fydd y sefyllfa ymhen tair blynedd?

Information Technology graph 1

 Ffigur 1: Unigolion o bob oedran sy’n defnyddio llechen o leiaf unwaith y mis Ffynhonnell: eMarketer. Hydref 2013

A all y dechnoleg hon, sy’n hollbresennol yn ein bywydau bob dydd, ategu’r broses o ddaroary gofal iechyd darbodus yn y GIG? Ystyrir tair egwyddor gofal iechyd darbodus yn y bennod hon:

  • Peidio â gwneud niwed
  • Defnyddio’r ymyrraeth glinigol leiaf posibl
  • Ailfodelu’r berthynas rhwng y defnyddiwr a’r darparwr drwy gyd-gynhyrchu.
Peidio â gwneud niwed

Adnabod eich claf un o’r rhagofynion hanfodol ar gyfer darparu gofal yn ddiogel ac effeithiol a rhannu a chysylltu gwybodaeth am y claf yn ddiogel yw bod yn sicr mai’r claf yr ydych yn delio ag ef yw’r claf iawn. Gall hyn fod yn anodd pan fydd llawer o bobl yn rhannu’r un enw neu pan fydd gwybodaeth yn anghywir neu’n anghyflawn. O ganlyniad i newid systemau yn y GIG dros amser, sy’n arwain at uno ysbytai a chofnodion meddygol, bydd gan y rhan fwyaf o bobl sawl rhif cofnod lleol ac mae hyn yn gallu achosi dryswch a niwed.

Mae creu dynodydd unigryw, a gyhoeddir yn fuan ar ôl genedigaeth, megis y rhif GIG unigol yng Nghymru a Lloegr (5), wedi bod yn gam cyntaf pwysig ond mae bellach yn ofynnol bod TG yn ei ddefnyddio i sicrhau bod systemau’r GIG – pelydr-X, profion gwaed, apwyntiadau â’r meddyg teulu a’r ysbyty, er enghraifft – yn cael eu cysylltu â’i gilydd yn gywir. Mae mynegai cleifion meistr (EMPI), fel yr un yn GIG Cymru, sydd â phrosesau i gyfateb dinasyddion i’w cofnodion yn broses gyfrifiadurol holl bwysig, sy’n gweithio yn y cefndir ac sydd eisoes yn helpu i osgoi niwed yn y GIG bob dydd.

Trosglwyddo gwybodaeth yn fwy diogel – mae llawer o gyfleoedd i ddefnyddio TG i helpu i leihau niwed mewn gofal iechyd. Gall systemau a phrosesau ategu’r broses o drosglwyddo gwybodaeth yn effeithiol ac yn brydlon rhwng gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, gan helpu i osgoi’r posibilrwydd o gam-fynegi a hepgor gwybodaeth bwysig, fel canlyniadau profion. Mae atgyfeiriadau electronig rhwng meddygon gofal sylfaenol ac arbenigwyr mewn ysbytai yn cyflymu’r broses gyfathrebu, yn lleihau oedi niweidiol posibl mewn sefyllfaoedd brys ac yn lleihau gwallau trawsgrifio. Maent hefyd yn golygu y gellir rhannu gwybodaeth fwy perthnasol: mae defnyddio fformatau safonol yn helpu i sicrhau bod gwybodaeth yn gyflawn. Bydd e-atgyfeirio gan ddefnyddio Porth Cyfathrebu Clinigol Cymru (WCCG) yn gyffredin yn y GIG yng Nghymru yn 2015. Mae systemau gwybodaeth gyffredin rhwng gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn cael eu datblygu a byddant yn ffordd arall o leihau niwed. Bydd rhannu crynodeb o’r cofnod meddyg teulu (yr “IHR”) gyda gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau yn golygu y bydd cleifion sydd eisiau gofal pan na fydd eu meddyg teulu arferol ar gael yn gallu bod yn sicr bod y wybodaeth berthnasol ar gael i’r meddyg neu’r nyrs y byddant yn ei weld. Rhannu’r IHR gyda chlinigwyr yn yr ysbyty pan gaiff claf ei dderbyn yw’r cam nesaf, ac fe’i ategir gan offer llywodraethu gwybodaeth ac archwilio cadarn sy’n cael eu profi ar wardiau yn Ysbyty Athrofaol Cymru i’w defnyddio’n ehangach yn 2015.

Gwell gwybodaeth pan ddarperir gofal. Gall TG ategu’r broses o wneud penderfyniadau clinigol drwy ddod â thystiolaeth o arfer gorau i’r ystafell glinig neu i ochr y gwely. Mae’r arfer ymhlith clinigwyr o ddefnyddio ffonau clyfar a llechi yn golygu bod ‘dod â’ch dyfais eich hun’ i’r gwaith yn caniatáu iddynt gael mynediad ar unwaith i raglenni gwybodaeth ar-lein megis fformiwlâu electronig a chanllawiau arfer gorau, er enghraifft NICE.org a BNF.com. Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o ysbytai yn darparu band eang diwifr cyflym i gleifion, ymwelwyr a staff, sy’n hanfodol ar gyfer ‘dod â’ch dyfais eich hun’ i’r gwaith ac er mwyn i gleifion allu cael mynediad i wybodaeth megis y defnydd o fideos byr ar YouTube i egluro llawdriniaethau i gleifion ymlaen llaw neu i’w dysgu i wneud gweithdrefn eu hunain.

Gwella diogelwch – Gall TG hefyd ategu arferion mwy diogel a lleihau costau drwy wneud hynny. Er enghraifft, caiff presgripsiynau mewn ysbytai eu hysgrifennu â llaw o hyd, sy’n golygu bod risg sylweddol o beri dryswch rhwng dwy feddyginiaeth sydd ag enw tebyg neu gamddehongli dos. Mae trosi presgripsiynau i fferyllwyr neu eu robotiaid eu gweinyddu yn gam arall a allai beri risg, a gall TG wneud hyn yn broses symlach a mwy diogel. Mae cymhlethdod meddyginiaethau a nifer y meddyginiaethau gwahanol y mae cleifion unigol yn eu cymryd bellach yn golygu bod llawer o ryngweithiadau neu wrtharwyddion posibl i’w hosgoi.

Defnyddir systemau rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau yn electronig (EMPA) mewn gofal sylfaenol i osgoi’r angen i drawsgrifio a gall nodi rhyngweithiadau posibl ynghyd â helpu clinigwyr i ddefnyddio arfer gorau ac i ddilyn fformiwlâu cytûn. Mae’r manteision hyn hyd yn oed yn fwy mewn ysbytai lle y gall EMPA alluogi dull diogel o drosglwyddo meddyginiaeth ryddhau yn uniongyrchol i’r meddyg teulu a gall hefyd gael ei rhannu gyda’r claf a fydd yn gallu cael ei ryddhau o’r ysbyty yn gynt ar y dydd, drwy ddefnyddio’r dechnoleg hon. Ar ôl gweld manteision EMPA ar waith yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Athrofaol Birmingham, lle y mae wrth wraidd eu prosesau electronig ar gyfer gwella a diogelu cleifion, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eu hysbrydoli i gyflwyno EMPA: fe’i cyflwynwyd i ddechrau yn eu hardaloedd i gleifion allanol lle y mae prosiect i’w gyflwyno eleni (2015) yn mynd rhagddo, ac mae cynlluniau ar waith i’w gyflwyno ar gyfer cleifion mewnol. Yn Birmingham maent yn defnyddio gwybodaeth bwerus a chywir o’u EMPA i wella prydlondeb y broses o weinyddu meddyginiaethau, i ddeall pa feddyginiaethau nad yw cleifion wedi’u cymryd a’r rheswm dros hynny, ac i gysylltu cyngor rhagnodi â chyflwr clinigol, megis newid mewn meddyginiaeth mewn ymateb i ganlyniad prawf labordy.

Systemau rhybudd cynnar a dirywiad cleifion – gall TG hefyd helpu i nodi cleifion sy’n mynd yn sâl a rhybuddio staff clinigol. Drwy ddefnyddio’r wybodaeth ffisiolegol a gesglir yn rheolaidd wrth ochr y gwely, gall TG nodi cleifion sy’n dirywio a rhybuddio staff yn awtomatig. Mae hyn yn defnyddio’r system sgorio rhybudd cynnar (NEWS) ar sail papur ac yn defnyddio TG i wella ei rhwyddineb a’i heffeithiolrwydd. Gellir creu rhybuddion ffôn neu neges destun awtomataidd gwahanol yn ôl difrifoldeb y dirywiad. Mae prosiect ‘SEND’ (6) Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Rhydychen yn defnyddio iPads i gasglu’r data hyn ac mae wedi bod ar waith ers 2013. Mae ymddiriedolaethau GIG eraill wedi defnyddio meddalwedd o’r ‘Nerve Centre’ (7) i wneud yr un peth. Mae canlyniadau da wedi’u nodi, yn enwedig y tu allan i oriau, pan mae llai o staff ac mae sicrhau bod clinigwyr yn ymateb i’r blaenoriaethau uchaf yn hynod bwysig. Er enghraifft, gwelodd Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Nottingham ostyngiad o 70% mewn digwyddiadau y tu allan i oriau a oedd yn gysylltiedig â gwybodaeth drosglwyddo wael, llai o drawiadau ar y galon, gwell boddhad tîm a rhyddhau 70 awr o amser staff yr wythnos pan ddefnyddiwyd y Nerve Centre (8) – mae hyn yn enghraifft o TG yn helpu i wella diogelwch ac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

Blaenoriaethu gofal – gall TG hefyd helpu nyrsys a meddygon i ganolbwyntio ar y pethau pwysicaf pan fydd llawer o alwadau arnynt. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn defnyddio cyllid o’r Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) i ddatblygu meddalwedd a systemau i leihau’r baich gwybyddol ar staff rheng flaen ac i’w hatgoffa o derfynau amser pwysig, gan eu galluogi i dreulio mwy o amser gyda chleifion ac i drefnu eu gwaith yn briodol. Pan fydd y prosiect wedi’i gwblhau yn 2016 bydd y cynhyrchion a’r systemau ar gael ar draws GIG Cymru er budd staff a chleifion.

Ategu dulliau dibynadwy iawn – “Guidelines are typically forgotten half of the time, so we made these automated pathways the default way of doing things.” Dyma eiriau Dr Brent James, Prif Swyddog Ansawdd yn Intermountain Healthcare yn yr UD (9) ac mae’n dangos sut y gall defnyddio TG mewn prosesau rheolaidd helpu clinigwyr prysur i wneud y penderfyniadau cywir, gan ganiatáu ond hefyd monitro, amrywiad cyfiawn y gellir ei adolygu yn ddiweddarach.

Ni ellir gorbwysleisio pa mor bwysig yw cynllunio ar gyfer rhagoriaeth ac mae hyn yn gofyn am ddogfennu da ynghyd â mesur canlyniadau, y gellir gwneud y ddwy broses yn llawer haws drwy ddefnyddio TG. Fel y dywed yr Athro Ronan Lyons o Brifysgol Abertawe: “Mae angen i ni fesur canlyniadau” i wybod p’un a ydym yn darparu triniaethau effeithiol i gleifion ac yn diwallu eu hangen (10).

Defnyddio’r ymyrraeth briodol leiaf posibl.

Caiff penderfyniadau clinigol da eu llywio gan dystiolaeth o safon dda. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth o angen ar sail unigolyn neu boblogaeth, a sicrhau bod y dystiolaeth arfer gorau ynghylch cyflwr ar gael i glinigwyr a chleifion er mwyn eu helpu i sicrhau bod yr opsiynau priodol ar gyfer triniaeth a gofal yn cael eu hystyried gan ddefnyddio’r ymyrraeth briodol leiaf posibl. Gall hyn fod yn anodd pan fydd cymaint o dystiolaeth gyhoeddedig i’w hadolygu. Mae TG yn golygu bod y wybodaeth fwyaf pwerus a pherthnasol yn gallu cael ei nodi a’i chyflwyno i glinigwyr drwy chwilio drwy gronfeydd data mawr o gyhoeddiadau yn gyflym ac yn effeithiol gan ddefnyddio algorithmau chwilio datblygedig, y byddai llyfrgellydd neu glinigwr wedi cymryd oriau maith i’w wneud. Gall y dystiolaeth hon sy’n benodol o ran cyd-destun, gael ei hadfer a’i hadolygu’n electronig gan glinigwyr heb orfod aros i gael gafael ar gyfnodolion neu ailargraffiadau.

PROMs – drwy godio gweithdrefnau a gweithgarwch clinigol arall gellir eu harchwilio a’u cyfateb i ganlyniadau; yn enwedig y canlyniadau sy’n bwysig i’r claf (PROMs). Mae PROMs wedi’u dilysu ar gyfer nifer o’r prif weithdrefnau dewisol wedi cael eu datblygu bellach (11): gall y rhain helpu i lywio’r cyngor a roddir i gleifion eraill ag anghenion tebyg. Mae’r broses o ddadansoddi’r data hyn wedi’i hwyluso’n sylweddol gan TG sy’n gallu cipio, dehongli a chyflwyno’r wybodaeth yn ogystal â’i rhannu â chanolfannau eraill i’w defnyddio at ddibenion meincnodi.

Dileu achosion o ddyblygu – un ffordd o osgoi gordriniaeth yw osgoi dyblygu profion. Mae hyn yn parhau i achosi problemau o fewn gofal iechyd oherwydd gallai prawf fod wedi cael ei wneud mewn un practis meddyg teulu neu ysbyty ac yna gallai gael ei ailadrodd mewn un arall. Weithiau ni ddisgwylir i ganlyniad prawf newid yn gyflym ac nid oes diben ei ailadrodd yn fuan ar ôl prawf blaenorol; hyd yn oed yn fwriadol. Drwy gofnodi’r holl ganlyniadau ar systemau cyfrifiadurol a’u cyfateb i’w gilydd gan ddefnyddio’r EMPI (gweler uchod) gellir sylwi ar achosion o ddyblygu ynghyd ag anfon negeseuon at glinigwyr sy’n gofyn am wybodaeth, i’w hysbysu bod prawf tebyg diweddar yn y system. Mae hyn nid yn unig yn golygu nad yw’r claf yn gorfod gwneud y prawf eto ond gall alluogi clinigwyr i ddod i benderfyniad yn gynt am gost is. Mae GIG Cymru yn mabwysiadu’r dull hwn, gan gyfuno EMPI â’r defnydd o System Rheoli Gwybodaeth Labordai (LIMS) gyffredin sy’n golygu bod meddyg teulu claf neu glinigwr ysbyty yn gallu gweld canlyniadau ar draws y GIG yn gyffredinol, lle bynnag y gwnaed y prawf neu y gwnaed cais amdano.

Offer ategu penderfyniadau – Gall systemau TG hefyd helpu i gyfeirio clinigwyr at y prawf mwyaf priodol drwy ddefnyddio offer ategu penderfyniadau sy’n rhan o systemau clinigol electronig. Mae’r offer hwn bellach yn ddatblygedig iawn a gall fod o gymorth mawr, yn enwedig i glinigwyr sydd ar gamau cynnar eu gyrfa. Mae system debyg o ategu penderfyniadau yn rhan hanfodol o ‘e-ITU’ (Uned Therapi Dwys), lle y gall cleifion y mae angen gofal critigol arnynt gael gofal mewn ysbyty i ffwrdd oddi wrth y prif ganolfan gofal critigol (12). Drwy ddadansoddi miliynau o eitemau o ddata ffisiolegol cleifion yn ofalus a’u cyfateb i ganlyniadau, mae’n bosibl rhagweld anghenion tebygol claf a rhybuddio arbenigwyr yn y brif ganolfan, a all helpu staff lleol i ofalu am y claf drwy ddefnyddio dull monitro a thelefeddygaeth o bell. Caiff y system e-ITU ei defnyddio’n eang yn yr UD, lle y gall fod pellteroedd teithio hir i ganolfannau arbenigol, ac mae’n cael ei gwerthuso yn y DU yn Ysbytai Guy’s a St.Thomas’ yn Llundain. (12).

Ailfodelu’r berthynas rhwng y defnyddiwr a’r darparwr drwy gydgynhyrchu

Gan ein bod wedi symud i ffwrdd oddi wrth systemau papur i systemau digidol yn y GIG, mae mwy o gyfleoedd bellach i rannu gwybodaeth o bob math, o ganlyniadau i amseroedd aros, gyda chleifion a’r cyhoedd. Mae gwaith yr Athro Syr Brian Jarman a Dr Foster Intelligence® i hyrwyddo’r broses o gyhoeddi canlyniadau marwoldeb a chanlyniadau eraill wedi ehangu bellach i adroddiadau canlyniadau arbenigedd penodol a ddatblygwyd gan glinigwyr ar gyfer y cyhoedd, yn enwedig o ran llawdriniaeth (13). Mae adolygiad diweddar Palmer yng Nghymru yn annog dulliau o’r fath yn ogystal â dull gofalus o graffu ar gofnodion pob claf sy’n marw yn yr ysbyty er mwyn dysgu a ellid fod wedi gwneud unrhyw beth yn well. Mae systemau gwybodaeth i helpu i ddogfennu’r “Adolygiadau Marwoldeb” hyn yn cael eu profi bellach ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Wrth i gofnodion gofal ddod yn gynyddol ddigidol gellir defnyddio systemau dadansoddol testun i “ddarllen” y cofnodion gan edrych am arwyddion o niwed posibl. Mae systemau o’r fath wedi cael eu datblygu yn Denmarc ac maent wrthi’n cael eu gwerthuso (14). Bydd cael mynediad i’r wybodaeth gyfunedig hon am wasanaethau iechyd yn galluogi pobl i reoli eu hiechyd yn well, yn hyrwyddo tegwch o ran grwpiau defnyddwyr, ac yn annog ymgysylltu rhwng y gymuned â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol a bydd hefyd yn darparu adborth defnyddiol i’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn ategu prosesau gwella a’u caniatáu i wneud eu gwaith yn well. Mae dyfodiad systemau storio digidol rhad megis “cwmwl” a band eang yn ddulliau gwych o rannu’r wybodaeth hon.

Mae hefyd yn bosibl caniatáu i gleifion gynnal trafodion â’r GIG megis gofyn am bresgripsiynau neu wneud apwyntiadau, drwy “Fy Iechyd Ar-lein”. Mae’n bosibl i’r llwyfan hwn gael ei ddefnyddio’n llawer ehangach fel dull o rymuso cleifion yn y dyfodol: er enghraifft fel lle i storio a rhannu gwybodaeth gofal iechyd sy’n ymwneud â hwy.

Rhannu gwybodaeth un ffordd: o’r gwasanaeth i’r claf – cymerwyd camau cychwynnol i rannu gwybodaeth o’r gweithiwr iechyd proffesiynol i’r claf. Mae’r broses drosglwyddo un cyfeiriad hon wedi golygu bod cleifion yn gallu gweld rhai o’u canlyniadau profion eu hunain – er enghraifft y prawf PSA ar gyfer dynion sydd â chanser y prostad sy’n cael ei oruchwylio neu’r HbA1C ar gyfer monitro diabetes mellitus yn yr hirdymor – a gwybod sut mae eu cyflwr yn datblygu a phryd i gysylltu â’u meddyg teulu neu arbenigwr. Mae proses rannu debyg yn digwydd wrth fonitro gwrthgeulo’r gwaed neu brofion colesterol neu weithrediad yr arennau. Mae hyn yn gam cychwyn pwysig i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu rheoli eu hiechyd a’u gofal eu hunain.

Rhannu gwybodaeth un ffordd: o’r claf i’r gwasanaeth – Mae atebion TG wedi galluogi cleifion i gael eu monitro o bell a defnyddio technoleg i roi gwybod i’r gwasanaeth am eu statws yn hytrach na gorfod mynd i’r ysbyty neu at y meddyg teulu i gael archwiliadau rheolaidd. Mae’r defnydd eang o Deleiechyd a thechnolegau cynorthwyol yn y cartref wedi caniatáu i lawer o filoedd o bobl – rhai sy’n aml yn fregus neu’n hen – barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, gan wybod y gallant gael cymorth yn gyflym os bydd ei angen ac y bydd y gwasanaeth yn cael gwybod ar unwaith os byddant yn cwympo neu’n drysu ac yn anfon rhywun i helpu. Mae dros 1400 o bobl yn defnyddio technoleg gynorthwyol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Caiff pob defnyddiwr gwasanaeth sy’n cael ei atgyfeirio at y gwasanaeth gofal canolraddol ei asesu a rhoddir pecyn technoleg addas ar waith yn dibynnu ar yr angen. Un agwedd arloesol ar wasanaeth Pen-y-bont ar Ogwr yw’r model cymorth, sy’n cynnwys gwasanaeth ymateb symudol a ddarperir gan weithwyr gofal cartref hyfforddedig a chofrestredig, sy’n ymateb i alwadau o fewn 30 munud. Mae hyn yn golygu y gall y tîm ymateb i alwadau (er enghraifft, rhywun sydd wedi cwympo) gan ddarparu unrhyw ofal personol angenrheidiol yn gyflym yn ogystal ag aros gyda’r unigolyn hyd nes bod cymorth arall yn cyrraedd. Mae hyn yn lleihau’r angen i’r unigolyn fynd i’r ysbyty ac mae hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i aelodau o’r teulu y gallent fod yn byw ymhell i ffwrdd.

Gall dyfeisiau fonitro sawl agwedd ar iechyd claf o’i bwysedd gwaed, cydbwysedd hylif ar gyfer methiant y galon neu’r arennau i rythm ei galon, lefelau glwcos yn y gwaed a phrofion anadlu. Gall y dyfeisiau hyn gael eu cysylltu â gwasanaeth monitro o bell gan ddefnyddio’r rhyngrwyd fel bod nifer fawr o gleifion yn gallu derbyn gofal gan dîm clinigol bach. Mae dyfeisiau o’r fath yn cael eu datblygu’n sylweddol a gellir eu cysylltu drwy dechnolegau sy’n bodoli eisoes. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn cynnal prawf monitro’r galon yn y gymuned ar raddfa fawr er mwyn canfod ffibriliad atrïaidd, sy’n gallu arwain at strôc os na chaiff ei drin, drwy ddefnyddio dulliau monitro sydd wedi’u cysylltu i iPod touch. Mae’r dulliau monitro o bell hyn yn helpu pobl sydd â chyflyrau hirdymor i ddeall a rheoli eu hiechyd yn well gan roi gwybodaeth werthfawr iddynt y gallant ei rhannu gyda’u clinigwyr. (15).

Yn fwy diweddar mae datblygiad rhaglenni a dyfeisiau iechyd/ffordd o fyw sy’n cysylltu i ffonau clyfar yn caniatáu i bobl fonitro data amrywiol sy’n ymwneud ag iechyd eu hunain, megis eu mynegai màs y corff, patrymau cysgu, cyflymder y galon a gweithgarwch dyddiol. Bwriedir darparu rhyw ddilysiad clinigol ar gyfer y rhaglenni a’r dyfeisiau hyn yn y dyfodol (nod barcut er enghraifft) er mwyn galluogi staff gofal iechyd i wneud argymhellion ac annog mwy o hunanreolaeth a dewisiadau gwell, mwy iachus, o ran ffordd o fyw.

Rhannu gwybodaeth ddwy ffordd – mae nifer o sefydliadau iechyd wedi creu portholion cleifion ar gyfer rhannu gwybodaeth ddwy ffordd. Gallai’r broses rannu ddwy ffordd hon ddefnyddio telegyfathrebu ar gyfer ymgynghori er mwyn ei gwneud yn haws siarad ag arbenigwr neu feddyg teulu, er enghraifft. Gall y portholion ddefnyddio technolegau nad ydynt yn arbenigol megis Skype neu FaceTime. Gall y dulliau hyn rymuso cleifion a chaniatáu iddynt gysylltu ar adeg sy’n gyfleus iddynt hwy. Dywedodd y Vitality GP Partnership (16) yn Lloegr eu bod yn defnyddio Skype yn llwyddiannus ar gyfer niferoedd mawr o ymgynghoriadau brys. Mae Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Betsi Cadwaladr yng Nghymru hefyd wedi neilltuo arian i werthuso model gwasanaeth llwyddiannus a ddefnyddiwyd yn Ymddiriedolaeth GIG Airedale sy’n defnyddio ymgynghoriadau fideo rhwng gwasanaeth allan o oriau meddygon teulu a Chartrefi Gofal er mwyn lleihau’r angen i fynd i’r ysbyty.

Mae rhai sefydliadau wedi creu portholion rhannu data diogel lle y gall cleifion weld canlyniadau gan y darparwr gofal iechyd. Yn gyfnewid am hyn, gall y claf lwytho ei wybodaeth ei hun, megis canlyniadau prawf gwaed a wnaed yn rhywle arall neu luniau o glwyf, er enghraifft. Mae hyn yn helpu cleifion i fod yn gyfrifol am eu gofal eu hunain, gwella effeithlonrwydd a darparu partneriaeth decach ar gyfer eu gofal. Mae Ysbyty Queen Elizabeth yn Birmingham wedi datblygu “MyHealth@QEHB” sy’n boblogaidd ymhlith cleifion a chlinigwyr. Fodd bynnag, mae’r dulliau hyn oll yn gofyn am broses gadarn o ran llywodraethu gwybodaeth a diogelwch, y gall rhai ei chanfod fel rhwystr i gofrestru, ond os caiff ei chynllunio’n dda, gellir ei rheoli’n ddiogel (17).

Rhannu cydweithredol – mae “My Health Locker” (18) a “Patients Know Best® (19) ymhlith y dulliau mwyaf cynhwysfawr o rannu gwybodaeth rhwng dinasyddion a gweithwyr iechyd, gofal cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill. Yn yr enghreifftiau hyn caiff yr unigolyn, drwy gytundeb ar y cyd, gopi o’i wybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol ac unrhyw gynlluniau gan sefydliadau trydydd sector ac mae’n ei ychwanegu at unrhyw wybodaeth y mae ef neu hi hefyd am ei rhannu. Mae’r unigolyn yn gyfrifol am y wybodaeth honno ac yn dewis gyda phwy y mae am ei rhannu. Er enghraifft, gallai hyn ganiatáu i glaf hysbysu meddyg teulu, arbenigwr ysbyty a nyrs gymunedol o’i gynlluniau gofal cymdeithasol a diwedd oes (gweler ffigur 2, isod).

Bydd unigolyn yn gallu cymryd rheolaeth o’i wybodaeth drwy ei rhannu yn y ffordd hon, gan ddileu rhai o’r rhwystrau llywodraethu gwybodaeth. Mae rhai systemau o’r fath yn caniatáu i’r unigolyn gysylltu â gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol, defnyddio Skype neu ffonio i drafod unrhyw beth annisgwyl neu i drefnu adolygu wyneb yn wyneb. Mae’r fenter gymdeithasol Brydeinig, “Patients Know Best®” wedi datblygu cofnod iechyd personol electronig (PHR) ac wedi gweithio gyda gastroenterolegyddwyr yn Ysbyty Luton a Dunstable i’w ddefnyddio i alluogi cleifion sydd â chlefyd llid y coluddyn i hunanreoli, gyda chyngor arbenigol wrth law pan fydd ei angen. Arweiniodd hyn at ostyngiad dramatig yn nifer y derbyniadau cleifion allanol, arbedion ariannol a mwy o foddhad (20). Mae’r cyfryw ddulliau yn gefnogol iawn i’r egwyddor hon o ran gofal iechyd darbodus.

Information Technology graph 2

Ffigur 2: Cyfleoedd i rannu gwybodaeth gan a chyda chleifion drwy Patients Know Best® (defnyddiwyd â chaniatâd) www.patientsknowbest.com

Casgliad

Mae gofal iechyd darbodus yn addo trawsnewid ein gwasanaeth iechyd, drwy roi rheolaeth i gleifion a sicrhau eu bod wrth wraidd eu hiechyd a’u gofal iechyd eu hunain, tra bod gwasanaethau yn darparu’r hyn sydd ei angen heb ymyrryd yn ormodol, er mwyn cynnal iechyd da unigolion a’r boblogaeth yn gyffredinol. Nid yw TG yn ddewisol, ac mae’n rhaid iddi fod yn rhan annatod o’r broses drawsnewid hon. Mae’n cynnig mynediad i wybodaeth, systemau i ddiogelu cleifion rhag niwed, cyfleoedd i lywodraethu’n well, dull gwell o integreiddio gwasanaethau a chysylltiad o bell â chleifion er mwyn hwyluso prosesau cyd-gynhyrchu a phartneriaethau cleifion.

Mae rhai cleifion a defnyddwyr gwasanaethau yn aml yn synnu nad yw rhai pethau y gallant eu gwneud yn hawdd yn y cartref ar gael iddynt pan fyddant yn defnyddio gofal iechyd. Mae rhyddhau gwybodaeth a gedwir am ddinasyddion er mwyn iddynt ei gweld a’i rhannu yn rhan hanfodol o dryloywder ac ymrymuso ac mae’n broses y bu hir aros amdani. Mae’r cyhoedd yn awyddus iawn i’r GIG ddatblygu a thrwy ystyried ei effaith ar ddarparu gofal iechyd yn fwy darbodus, ni ellir gwadu’r achos dros fuddsoddi a defnyddio technoleg gwybodaeth mwyach.

Diolchiadau

Andrew Phillips, Ian Phillips, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Dylan Williams a Matt Makin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.


 Cyfeiriadau

  1. Management in the 1980’s. Leavitt HJ, Whisler TL. 1958, Harvard Business Review, pp. 1-5.
  2. Tablet usage amongst younger and older consumers on the rise. emarketer.com. [Online] [Cited: 20 November 2014.] www.emarketer.com/Article/One-Third-of-UK-Population-Now-Use-Tablets/1010264.
  3. 3 in 4 physicians are using tablets: some are even prescibing apps. Tab Times. [Online] [Cited: 18 December 2014.] http://tabtimes.com/3-4-physicians-are-using-tablets-some-are-even-prescribing-8184/.
  4. Facts and Figures. Ofcom. [Online] [Cited: 11 November 2014.] http://media.ofcom.org.uk/facts/.
  5. NHS Number. Health and Social Care Information Centre. [Online] [Cited: 19 December 2014.] http://systems.hscic.gov.uk/nhsnumber.
  6. Digital solutions will improve patient monitoring. Oxford University Hospitals NHS Trust. [Online] [Cited: 16 December 2014.] http://www.ouh.nhs.uk/news/article.aspx?id=185.
  7. Nerve Centre. [Online] [Cited: 14 November 2014.] www.nervecentresoftware.com.
  8. Multimodal observational assessment of quality and Productivity benefits from the implementation of wireless technology for out of hours working. et, Blakey JD. Nottingham : BMJ Group, 29 3 2012, BMJ Open. BMJ Open 2012;2:e000701 doi:10.1136/bmjopen-2011-000701.
  9. Britnell M, Berg M. The more I know the less I sleep. KPMG. [Online] 2014. [Cited: 10 June 2014.] http://www.kpmg.com/CN/en/IssuesAndInsights/ArticlesPublications/Documents/Global-perspectives-on-clinical-governance-o-201310.pdf.
  10. Achieving better outcomes through information technology. Prudent Healthcare. [Online] NHS Wales, 2014. [Cited: 1 November 2014.] www.prudenthealthcare.org.uk/it/.
  11. Free access to the major international journal orthopaedic scores. Orthopaedic Score. [Online] http://www.orthopaedicscore.com/.
  12. e-ICU program. Philips Healthcare. [Online] [Cited: 24 October 2014.] http://www.healthcare.philips.com/main/products/patient_monitoring/products/eicu/.
  13. NHS England. Consultant Outcome Data. NHS Choices. [Online] 1 9 2014. [Cited: 10 1 2015.] http://www.nhs.uk/service-search/performance/Consultants#view-the-data.
  14. How can we use text analytics to reduce patient injuries? SAS Health Care Solution Brief. [Online] 2014. [Cited: 10 6 2014.] http://www.sas.com/content/dam/SAS/en_us/doc/solutionbrief/healthcare-text-analytics-to-reduce-patient-injuries-105642.pdf.
  15. Steventon A, Bardsley M, Billings J, Dixon J, Doll H, Hirani S et al. Effect of telehealth on use of secondary care and mortality: findings from the Whole System Demonstrator cluster randomised trial. BMJ. [Online] 21 June 2012. [Cited: 19 October 2014.] http://dx.doi.org/10.1136/bmj.e3874.
  16. Vitality Partnership. [Online] [Cited: 19 December 2014.] https://www.vitalitypartnership.nhs.uk/.
  17. CEFIS. Risks associated with sharing / not sharing information. Centre of excellence for information sharing. [Online] 2014. [Cited: 10 1 2015.] http://informationsharing.co.uk/wp-content/uploads/2012/07/Risks-associated-with-sharing-information.pdf.
  18. My Health Locker. South London and Maudsley NHS Foundation Trust. [Online] [Cited: 12 December 2014.] http://www.slam.nhs.uk/patients-and-carers/patient-information/myhealthlocker.
  19. Patients Know Best. [Online] [Cited: 22 November 2014.] http://www.patientsknowbest.com/.
  20. Case studies. Patient Knows Best. [Online] [Cited: 18 December 2014.] http://www.patientsknowbest.com/luton-and-dunstable-hospital.html.

 


Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Hamish Laing yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

Information technology infographic