Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Gweithredu newid mewn ymddygiad mewn gwyddoniaeth i wella iechyd pawb yng Nghymru

  • Eleanor Heather, Sean O’Neill, J. Carl Hughes, a John Parkinson Canolfan Newid Ymddygiad Cymru, Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor

Crynodeb

Mae’r dull gofal iechyd darbodus yn seiliedig ar dybiaeth y bydd newid diwylliannol yng Nghymru – newid yn ein hagweddau ac o ran credoau am ofal iechyd. Ac, yn anad dim newid yn ein hymddygiad. Bydd y byddwn yn ei wneud neu na fyddwn yn ei wneud yn penderfynu llwyddiant y dull gofal iechyd darbodus.

Mae’r erthygl hon yn pwysleisio pwysigrwydd mabwysiadu dull ymddygiadol tuag at ofal iechyd ac mae’n disgrifio ein dull o ddod o hyd i atebion ymddygiadol i heriau iechyd yn y byd go iawn. Byddwn yn edrych ar y rôl y gall gwyddor newid ymddygiad ei chwarae o ran annog yr amgylcheddau cywir i weithwyr proffesiynol iechyd a chleifion i wneud newidiadau ar gyfer gwell canlyniadau iechyd mewn ffordd ddarbodus.

Behaviour Change

“Ni fydd gofal iechyd darbodus yn cael ei gyflwyno gan gyfarwyddebau Llywodraeth Cymru. Bydd yn ofynnol i’r rhai sy’n gweithio yn y GIG, a’i bartneriaid, i feddwl am yr hyn y mae’n ei olygu i’w disgyblaethau, meysydd gwasanaeth, a phroffesiynau, gan gynnwys y camau ymarferol y gallant eu cymryd i sicrhau ei fod yn rhan annatod o ymarfer bob dydd. Rhaid i’r cyhoedd hefyd feddwl am yr hyn y gallai GIG darbodus i Gymru ei olygu iddyn nhw, gan gynnwys cymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain”

Yr Athro Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol[1]

Systemau a phobl

Rydym yn gobeithio atgyfnerthu’r neges os ydym yn mynd i gyflawni gwelliant ar raddfa fawr i iechyd Cymru, bydd angen inni feddwl am newid ymddygiad ar draws pob lefel ein system gofal iechyd. Ar yr un pryd, bydd angen inni hefyd gydnabod pwysigrwydd canolbwyntio ar ymddygiad iechyd unigol. Nid ar chwarae bach y gwneir hyn. Er mwyn gwireddu gofal iechyd darbodus, nid yn unig y mae angen inni wneud pethau’n wahanol, mae angen inni eu gwneud yn well. Bydd angen inni hefyd, fel unigolion yn ogystal ag aelodau o gymdeithas, gymryd cyfrifoldeb am iechyd pawb yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym yn gobeithio cyflwyno gwyddor newid ymddygiad gadarnhaol a’ch argyhoeddi y bydd canolbwyntio ar ymddygiad yn rhan annatod o’n taith tuag at system gofal iechyd darbodus yng Nghymru.

Beth yw ystyr “ymddygiad” a “gwyddor newid ymddygiad”?

Mae gwyddor newid ymddygiad ar y rhyngwyneb rhwng sawl disgyblaeth: dadansoddi ymddygiad, economeg, seicoleg, cynllunio a niwrowyddor[2]. Mae’n ddisgyblaeth ‘byd go iawn’, sy’n ceisio deall y prosesau a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ein penderfyniadau a’n hymddygiad unigol. Wrth ei gwraidd, mae gwyddor newid ymddygiad yn wyddor ymarferol sy’n ceisio rhoi atebion i’r materion ymddygiad cymhleth mewn cymdeithas. Diben unrhyw fenter newid ymddygiad yw defnyddio gwybodaeth i ddylanwadu ar ymddygiad yn effeithiol ac yn gadarnhaol.

Ymddygiad

Mewn gwyddor newid ymddygiad rydym yn diffinio ymddygiad yn fras: mae ymddygiad yn ein cysyniad ni yn cyfeirio at bopeth a wnawn neu a ddywedwn. Mae hyn yn cynnwys ein gweithredoedd, ein syniadau a’n hiaith – a’n sgyrsiau. Os yw’n rhywbeth rydych yn ei wneud – ymddygiad ydyw. A dyna’r hyn y mae gan wyddor newid ymddygiad ddiddordeb ynddo.

Pam mae newid ymddygiad yn bwysig i ofal iechyd darbodus?

Mae sail dystiolaeth gynyddol ynghylch sut a pham mae pobl yn gwneud rhai penderfyniadau iechyd a phryd a lle gallai ymyriadau ymddygiadol penodol fod yn fwyaf effeithiol. Gall y wybodaeth hon helpu i wella dulliau presennol o ran iechyd ac arwain at ddatblygu ymyriadau, rhaglenni a pholisïau mwy effeithiol ac effeithlon.

Gwyddom fod gan wyddor newid ymddygiad botensial gwych, ond er gwaethaf ei haddewid, mae’n ddisgyblaeth sy’n gymharol newydd o hyd ac mae hyn yn golygu bod y sail dystiolaeth yn gymharol anaeddfed, yn enwedig ar gyfer materion ar raddfa fawr fel iechyd cyhoeddus. Mae angen cynnal rhagor o ymchwil i gryfhau ein gwybodaeth empirig am yr hyn sy’n gweithio orau ac ym mha gyd-destun[3].

Bydd angen inni fuddsoddi mewn ymchwil er mwyn profi canfyddiadau addawol gwyddor newid ymddygiad yng nghyd-destun system gofal iechyd Cymru ac yn enwedig mewn ymchwil weithredu[4] sydd o werth a pherthnasedd ar unwaith i’r rhai sy’n gweithio yn GIG Cymru.

Tan yn ddiweddar mae polisi iechyd cyhoeddus wedi arfer mabwysiadu dull economaidd traddodiadol at bolisi a darpariaeth gofal iechyd[5]. Yn sail i’r dulliau economaidd confensiynol hyn mae’r ddamcaniaeth ein bod i gyd i bob pwrpas yn unigolion sy’n gwneud penderfyniadau rhesymegol ac mae ymddygiad afresymol am ein hiechyd ond yn digwydd pan nad oes gennym ddigon o wybodaeth neu ddewisiadau[6]. Yn y model hwn, yr ateb nodweddiadol ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau iechyd yw mwy o bolisi neu fwy o addysg. Gall annog unigolion i fwyta’n iach drwy ymgyrchoedd addysg neu annog pobl i beidio ag yfed alcohol drwy godi’r gost gael rhywfaint o effaith, ond rydym yn gwybod nad yw hyn yn ddigon i gyflawni newid ymddygiad ar raddfa eang[7].

Mae’r gwahaniaeth hwn rhwng yr hyn mae pobl yn dweud y dylent ei wneud a’r hyn maent yn ei wneud mewn gwirionedd yn cael ei alw’n fwlch rhwng gwerth a gweithredu ac mae’n her ymddygiadol allweddol i ofal iechyd darbodus. Er mwyn cau’r bwlch hwn, mae gwneuthurwyr polisi o bob rhan o’r byd wedi dechrau troi at wyddor newid ymddygiad a’i sylw i ymddygiad unigolion. Roedd sefydlu’r Tîm Canfyddiadau Ymddygiad (www.behaviouralinsights.co.uk) yn 2010 yn newid sylweddol ym mholisi iechyd cyhoeddus y DU. Dangosodd ei ddull y gall canolbwyntio ar ymddygiad arwain at gynnydd sylweddol  yn effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd polisïau cyhoeddus ac ymyriadau’r DU, a gall arwain at atebion arloesol.

Mae sylweddoliad cynyddol bod angen model gwahanol arnom, dehongliad mwy realistig o swyddogaeth ein hymddygiad na’r hyn a gynigir gan y patrwm economaidd traddodiadol[5,8]. O’n safbwynt gwyddor newid ymddygiad, problemau ymddygiad a wynebwn yn bennaf mewn cymdeithas. Mae gordewdra yn ganlyniad i’r hyn rydym yn ei wneud neu ddim yn ei wneud yn gyson; mae moesau drwg, arferion anniogel, iechyd a ffitrwydd, yn ganlyniad i’r hyn rydym yn ei wneud neu ddim yn ei wneud yn gyson. Felly rhaid i newid ymddygiad fod wrth wraidd unrhyw ddull newydd.

Sut beth yw gofal iechyd darbodus o safbwynt gwyddor newid ymddygiad?

Mae pobl sy’n cymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u lles eu hunain yn ymwybodol o sut y mae eu hymddygiad yn effeithio ar eu hiechyd. O ganlyniad, maent yn gallu ymateb i heriau iechyd newydd yn well pan fyddant yn ymddangos. Maent yn deall bod eu hiechyd yn rhannol amodol ar eu hymddygiad, a’u harferion o ran iechyd.

O ran ymddygiad, mae amod ond yn berthynas rhwng ymddygiad a chanlyniad yr ymddygiad hwnnw.

Elfen allweddol gyntaf gofal iechyd darbodus sy’n canolbwyntio ar ymddygiad yw cydnabod pwysigrwydd ymddygiad. Mae gwyddor newid ymddygiad hefyd yn dangos drwy wneud newidiadau bach, graddol i ymddygiad neu arferion pobl, mae eu hagweddau a’u credoau yn dueddol o ddilyn.

Ail elfen yw pwysigrwydd elfennau amodol sy’n ategu’r ymddygiad. Er enghraifft, gellir eithrio triniaeth os bydd rhywun yn ymddwyn mewn ffordd benodol (er enghraifft ysmygu a bod dros bwysau). Mae llawer o strategaethau newid ymddygiad effeithiol yn defnyddio amodau i newid ymddygiad unigolion o fewn systemau mawr.

Gwasanaethau amodol

Mae mynediad amodol i wasanaethau yn enghraifft o sut y gallai GIG Cymru ddarparu cyd-gynhyrchu wrth ddarparu gwasanaethau. Byddai gwasanaethau amodol yn annog cleifion i ymgysylltu mwy â’u hiechyd eu hunain, a byddai angen i’r GIG ddarparu mynediad i wasanaethau cymorth effeithiol, fel ymyriadau maethol, ymddygiadol a ffarmacolegol i gleifion, i greu’r amodau i gleifion gyflawni eu nodau.

Yn olaf, un o elfennau cyffredinol y dull hwn yw bod ymddygiad yn cael ei ysgogi gan adborth clir – mae ein gweithredoedd yn arwain at ganlyniadau. Gall technoleg fodern, gan gynnwys apiau ffonau clyfar helpu i wneud cysylltiadau clir rhwng ymddygiad a chanlyniadau a rhoi adborth amser real i helpu i wneud penderfyniadau yn gyflym, yn effeithiol ac yn y ffordd fwyaf iach.

Defnyddio dull llai manwl

Byddai dull gofal iechyd sy’n ddarbodus o ran ymddygiad hefyd yn ymgorffori llawer o ymyriadau bach, cynyddrannol a llai manwl, ochr yn ochr â mentrau mwy systematig. Byddai’r rhain yn cael eu datblygu ar draws rhwydweithiau cymdeithasol ac yn cael eu haddasu i ofynion lleol. Byddai ymchwil weithredu barhaus yn bwydo tystiolaeth i wneuthurwyr polisi i alluogi ar gyfer addasu a newid. Byddai unigolion yn gweld gwerth eu hymddygiad eu hunain a byddai ganddynt gymhelliant cynyddol i ddatblygu ymddygiad iach, wedi ei ategu gan system gofal iechyd symlach a darbodus i Gymru.

Newid ymddygiad ar bob lefel o’r system

Mae systemau cymhleth, fel GIG Cymru, yn galw am ddull lefel systemau i sicrhau newid ymddygiad ar raddfa eang. Fodd bynnag, mae newid ymddygiad o fewn system gymhleth hefyd yn gofyn am ddealltwriaeth mai’r bobl sy’n gweithio yn y system gofal iechyd ac sy’n ei defnyddio a’r hyn y byddant yn ei wneud fydd yn penderfynu canlyniadau cadarnhaol. Mae hyn yn wir ar bob lefel y system, o’r lefel wleidyddol a pholisi i’r rhyngweithio rhwng gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a’r cyhoedd.

Meddwl am y system, nid meddwl gan y system

Mae gwyddor newid ymddygiad yn ein hannog i feddwl yn eang am sut y mae systemau yn cael eu cynllunio, a sut mae hyn yn effeithio ar bawb sy’n gweithredu yn y system. Mae’n cynrychioli egwyddor drefnu ar draws y system, sy’n canolbwyntio ar unigolion o fewn y system honno. Credwn fod dealltwriaeth well o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad unigolion yn y system gofal iechyd – o’r rhai sy’n gweithio yn y system gofal iechyd ac yn ei defnyddio i’r rhai sy’n cynllunio’r polisïau a’r strategaethau sy’n ei rheoli – yn elfen hanfodol wrth wireddu’r dull gofal iechyd darbodus.

Materion iaith o bwys

Mewn gwyddor newid ymddygiad rydym yn meddwl am iaith fel math arbennig o ymddygiad ac un a chanddo effeithiau mawr posibl ar ymddygiad pobl ac ar gymhelliant unigolyn. Gwyddom oll o brofiad personol y gall yr iaith rydym yn dod i gysylltiad â hi newid yn sylweddol sut rydym yn teimlo am eraill a sut rydym yn rhyngweithio â’n hamgylchiadau ac yn eu deall. Gellir defnyddio iaith i feithrin newidiadau ymddygiad ar lefel sefydliad neu ddiwylliannol yn ogystal â gwella effeithiolrwydd ymyriadau iechyd.

Mae iaith fasnachol yn meithrin cystadleuaeth, nid cydweithrediad

Mae sylwebyddion diweddar wedi codi pryderon am yr effaith y mae’r defnydd cynyddol o iaith fasnachol yn y GIG wedi ei chael ar ofal cleifion[9]. Mae ymchwil yn dangos bod gwneud unigolion yn agored i iaith fwy masnachol, sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn hytrach nag iaith fwy dinesig, cymunedol yn gallu eu harwain at ymddygiad sy’n fwy cystadleuol, hunanol lle nad ydynt yn cydweithredu [gweler er enghraifft 5 a 6 yn][9]].

Mae dealltwriaeth gan wyddor newid ymddygiad yn awgrymu bod y modd y mae iaith yn cael ei llunio yn dylanwadu ar ein gweithredoedd drwy’r emosiynau, y gwerthoedd a’r ymddygiad rydym wedi dysgu i gysylltu â ‘mynegiant’ penodol. Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu y dylai GIG Cymru ystyried symud i ffwrdd o’r iaith fasnachol bresennol gyda’i sylw cysylltiedig ar dargedau, arbedion costau a dangosyddion a mabwysiadu iaith fwy dinesig, bersonol drwy gydol y system.

Iaith ddarbodus

Gallai llunio iaith hefyd weithio’n effeithiol iawn ar y lefel unigol i hyrwyddo egwyddorion gofal iechyd darbodus. Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford enghraifft bwerus ond syml o lunio iaith mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r Sefydliad Materion Cymreig[10] pan soniodd am ymweliad â meddyg teulu yng Ngorllewin Cymru. Roedd y Meddyg Teulu wedi mynd ati’n ddiweddar i newid sut roedd yn cyfarch cleifion newydd. Yn hytrach na’r croeso arferol “beth gallaf innau ei wneud i chi heddiw”, aeth ati i ail-lunio hynny a dweud “beth rydym yn mynd i’w wneud heddiw i fynd i’r afael â’r broblem…”. Mae’r newid cynnil yn y geiriad yn symud y cyfrifoldeb oddi wrth y gweithiwr iechyd proffesiynol ar ei ben ei hun at y claf a’r gweithiwr iechyd proffesiynol gyda’i gilydd.

Moron ynteu pys?

Mae’r rhaglen Food Dudes[11] yn enghraifft arall o sut y gall llunio iaith newid ymddygiad yn sylweddol. Cafodd y rhaglen ei datblygu ym Mhrifysgol Bangor, ac mae’n ymyriad aml-gydran yn yr ysgol sy’n targedu bwyta’n iach yn ystod y blynyddoedd cynnar. Mae gwyddor newid ymddygiad wedi llywio’r broses o gynllunio’r rhaglen gychwynnol a’i datblygiad dilynol yn seiliedig ar dystiolaeth.

Fel rhan o’r profiad bwyta Food Dudes, rhoddir cyfarwyddiadau i fenywod cinio ysgol i newid sut y maent yn cyflwyno’r dewis o lysiau i blant amser cinio. Yn hytrach na’r cynnig arferol a ydych chi eisiau llysiau?”, gofynnir “a hoffech chi foron, ffa gwyrdd neu’r ddau?”. Yn yr astudiaeth hon roedd nifer y plant a ddewisodd o leiaf un llysieuyn wedi cynyddu mwy na 190 y cant[12]. Drwy sicrhau mai dewis llysiau oedd yr ymddygiad mwy amlwg cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y llysiau roedd y plant yn eu bwyta. Mae hyn hefyd yn amlygu’r potensial ar gyfer defnyddio ac ymgorffori gofal iechyd darbodus yn ein hysgolion – gwyddom fod arferion cynnar yn dueddol o ddod yn arferion oes.

Mae ymddygiad yn ymwneud â dewis a chyd-destun

Un o egwyddorion cyffredinol gwyddor newid ymddygiad, sy’n hanfodol i ddeall ymddygiad unigol, grŵp a sefydliadol, yw bod pob ymddygiad yn digwydd mewn cyd-destun. Mae ein dewis ymddygiad yn cael ei reoli gan y cyd-destun y mae’n digwydd ynddo. Gall newidiadau diniwed i’r bensaernïaeth dewis arwain at newidiadau sylweddol mewn ymddygiad. Er enghraifft, mae ymchwil gan wyddor newid ymddygiad yn dangos bod newid lleoliad bwydydd iachach mewn caffi yn eu gwneud yn haws i’w cyrraedd, o gymharu â bwydydd afiach, yn cynyddu’r tebygolrwydd y byddant yn cael eu dewis[13]

Newidiadau fesul tamaid

Mae’r rhaglen Food Dudes hefyd yn defnyddio’r canfyddiadau hyn yn effeithiol drwy osod ffrwythau wedi’u torri mewn tameidiau bach – sy’n llai o ymdrech i’w bwyta – o flaen pwdin llai iach a sicrhau bod y tameidiau hyn o fewn cyrraedd hawdd i blant er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd plant yn dewis ffrwythau.

Cynllunio ar gyfer dewisiadau hawdd

Prif ragdybiaeth pensaernïaeth dewis da yw y dylai unrhyw newid i’r amgylchedd dewis wneud yr ymddygiad dymunol yn haws. Oherwydd bod pensaernïaeth dewis yn annog unigolion i wneud dewisiadau iachach eu hunain, mae’n ategu’r egwyddor gofal iechyd darbodus o gynnal yr ymyriad lleiaf posibl priodol. At hynny, gall yr ymyriadau hyn hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch oherwydd bod pawb o fewn yr amgylchedd dewis yn gyfartal o ran bod yn agored i’w dewis. Oherwydd bod yr ymyriadau hyn yn gweithio gyda’n rhagfarnau gwneud penderfyniadau, maent yn aml yn cael mwy o effaith ar yr unigolion mwyaf difreintiedig – mae astudiaethau yn dangos bod statws economaidd-gymdeithasol is yn gysylltiedig â mwy o faich gwybyddol a llai o iechyd[14].

Optio i mewn ynteu optio allan?

Y dull gofal iechyd darbodus o ran cynyddu cyfraddau rhoi organau yw gwneud yr ymddygiad dymunol yn haws i’w wneud drwy newid y gosodiad diofyn. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu lleoliad optio allan. O 1 Rhagfyr, 2015, bydd Cymru yn symud i system feddal, optio allan ar gyfer cydsynio [rhoi organau]. Mae’r penderfyniad i newid o system optio i mewn i system optio allan yn seiliedig ar dystiolaeth sylweddol o bŵer ymdrech a gosodiadau diofyn. Cafodd ymchwil yn cymharu cyfraddau cydsynio i roi organau 11 o wledydd Ewrop fod gan y rhai â systemau optio allan gyfraddau yn agos at 100 y cant, ac yn y gwledydd lle roedd optio i mewn diofyn – a oedd yn cynnwys y DU – roedd y gyfradd yn llai na 30 y cant[15].

Gwneud y diofyn yn ddymunol

Pan gyflwynir dewisiadau inni sy’n galw am newid ymddygiad, rydym yn fwy tebygol o aros gyda’r diofyn (yr opsiwn hawdd), yn hytrach na defnyddio’r egni i newid. Nid yw gwyddor newid ymddygiad yn rhy ragnodol am yr hyn sy’n cyfateb i ymyriad pensaernïaeth dewis. Gall gynnwys cynyddu’r ddarpariaeth neu gyflwyno gwybodaeth faethol am fwydydd fel sy’n cael ei hyrwyddo gan yr Adran Iechyd. Gall gynnwys ailgynllunio adeilad i wella’r awyrgylch, fel gyda phrosiect arloesol y Cyngor Dylunio i wella profiad cleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys[16]. Fel arall, gallai wneud grisiau mewn adeiladau cyhoeddus yn fwy amlwg o gymharu â lifftiau, fel gyda phrosiect newydd sy’n cael ei gynnal gan Ganolfan Newid Ymddygiad Cymru[17].

Nid yw dweud “Gwnewch hyn!” yn gweithio

Nid yw dweud ac addysg yn gweithio ar eu pen eu hunain. Mae ffyrdd callach.

Mae gwyddor newid ymddygiad yn cydnabod mor bwysig yw’r cyd-destun wrth ddylanwadu ar wneud penderfyniadau. Er enghraifft, gwnaethom ymchwilio i sut y gellir addasu’r amgylchedd neu’r bensaernïaeth dewis i roi hwb i bobl tuag at gynyddu eu hymddygiad golchi dwylo mewn ysbytai.

Y daith hir i’r peiriant diheintio dwylo

Mae Sefydliad Iechyd y Byd[18] yn disgrifio baich byd-eang heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Cafodd astudiaethau diweddar a gynhaliwyd yn Ewrop fod nifer yr achosion ar draws ysbytai yn amrywio o 4.6 y cant i 9.3 y cant. Yng Nghymru, y gyfradd MRSA a gafwyd yn yr ysbyty oedd 5.6 fesul, 100,000 o achosion yn 2013/14[19]. MRSA hefyd oedd achos 0.2 y cant o’r holl farwolaethau mewn ysbytai yn y DU rhwng 2009 a 2013[20]. Un o’r prif ffyrdd o fynd i’r afael â heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yw cynnal arfer da o ran hylendid dwylo[21]. Eto, mae cael pobl i ymarfer hylendid dwylo da yn gyson yn fwy anodd. Mewn un astudiaeth, a gynhaliwyd gan Ganolfan Newid Ymddygiad Cymru (WCBC), astudiwyd arferion golchi dwylo mewn uned gofal dwys mewn ysbyty mawr[22]. Cafodd yr ymchwilwyr mai prin oedd effaith hyrwyddo golchi dwylo drwy ddweud wrth staff, hyfforddi a’r defnydd o arwyddion eithaf cymhleth a osodwyd o amgylch yr ysbyty. Yn ogystal â bod yn aneffeithiol yn yr hirdymor, roedd y dull hwn hefyd yn gymharol ddrud o ran amser ac adnoddau i’w gynnal. Drwy ddatblygu a gweithredu hwb syml o ran ymddygiad – olion traed coch ar y llawr o ddrws y ward i’r peiriant cyflenwi gel diheintio dwylo i wella ymddygiad hylendid y dwylo. O ganlyniad i’r hwb drwy’r olion traed, cynyddodd y defnydd o’r gel diheintio dwylo o 38 i 93 y cant ar gyfer staff y ward yn yr astudiaeth hon.

Darparu gofal iechyd darbodus

Rydym yn cael ein diffinio gan ein gweithredoedd – yn y pen draw nid yw annog ffordd iach o fyw yn golygu dim oni bai bod unigolion yn dilyn y ffordd iach honno o fyw mewn gwirionedd, ac yn gwneud hynny’n gyson. Mae’r bwlch gwerth-gweithredu yn esbonio’r anghysondeb rhwng ein hagweddau a nodir a’n hymddygiad mewn gwirionedd. Gall gwyddor newid ymddygiad helpu i gau’r bwlch rhwng gwerth a gweithredu i bobl ledled Cymru.

Gellir cyflawni hyn mewn nifer o ffyrdd: drwy ganolbwyntio ar ymddygiad pobl yn y system gofal iechyd ar bob lefel; drwy feithrin y bensaernïaeth dewis i gynorthwyo dewisiadau iach; drwy ddarparu amodau priodol ar lefel unigol i helpu pobl Cymru i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain; drwy ddatblygu systemau cymorth sy’n cydnabod y bydd angen mwy o gymorth ar rai unigolion i annog arferion sy’n gysylltiedig ag iechyd; a thrwy ddefnyddio gwyddor newid ymddygiad i ddylanwadu ar nodweddion diwylliannol ein cenedl tuag at fod yn berchen ar eu hiechyd eu hunain.

Cyfle unigryw

Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa unigryw i hybu’r enillion hyn drwy sicrhau y daw newid ymddygiad yn rhan ganolog o’r agenda gofal iechyd darbodus. Gyda sefydliadau fel Canolfan Newid Ymddygiad Cymru* ac ymchwil ymddygiad ac iechyd o’r radd flaenaf yn cael ei chynnal ledled prifysgolion Cymru, gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio cyfoeth o adnoddau newid ymddygiad. Er gwaethaf y llu o broblemau iechyd a wynebwn, mae hyn yn ein rhoi mewn lle da.

*Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru  wedi ei lleoli yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Mae’r Ganolfan wedi ei chyllido’n bennaf drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac mae’n dwyn ynghyd dîm amlddisgyblaethol sy’n arbenigo mewn troi tystiolaeth wyddonol ar newid ymddygiad yn newid ymddygiad yn ymarferol. Mae gan y grŵp gymysgedd unigryw o arbenigwyr ym maes dadansoddi ymddygiad, niwrowyddor, economeg iechyd, integreiddio dynol-digidol, cynllunio, a modelau cynaliadwy o fenter.


 Cyfeiriadau

  1. Drakeford M. Making prudent healthcare happen – introduction . Public Health Wales. 2014. Available from: http://www.prudenthealthcare.org.uk/introduction-from-the-minister-for-health-and-social-services/
  2. Parkinson JA, Eccles KE, Goodman A. Positive impact by design: The Wales Centre for Behaviour Change. Posit Psychol . 2014;9(6):517–22. Available from: http://www.tandfonline.com/doi/abs/10.1080/17439760.2014.936965#.VKwIS9WsXWg
  3. Halpern D. What Works? evidence for decision makers . What Works Network; 2014. Available from: https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/378038/What_works_evidence_for_decision_makers.pdf
  4. Green LW. Making research relevant: if it is an evidence-based practice, where’s the practice-based evidence? Fam Pract.;25 Suppl 1(suppl_1):i20–4. Available from: http://fampra.oxfordjournals.org/cgi/content/long/25/suppl_1/i20
  5. Hough DE. Irrationality in Health Care: What Behavioral Economics Reveals About What We Do and Why. Standford University Press; 2013. Available from: http://www.sup.org/book.cgi?id=21522
  1. Lipsey R. Chrystal A. Economics. 10th Ed. New York: Oxford University Press Inc; 2003.
  2. Ariely D. Predictably Irrational: The Hidden Forces that Shape Our Decisions. London: HarperCollins; 2008.
  3. Loewenstein G, Asch DA, Friedman JY, Melichar LA, Volpp KG. Can behavioural economics make us healthier? BMJ . 2012;344(may23_1):e3482. Available from: http://www.bmj.com/content/344/bmj.e3482
  4. Blackmore E, Chilton P. NHS-speak and the failure of care in England’s hospitals. 2013. Available from: https://www.opendemocracy.net/ournhs/elena-blackmore-paul-chilton/nhs-speak-and-failure-of-care-in-englands-hospitals
  5. Drakeford M. Interviewed by: Drakeford, M. Prudent healthcare – can it save the NHS in Wales? Radisson Blu Hotel; Cardiff; Wales; Jun 2014. Available from: https://www.youtube.com/watch?v=_telTsfVYes
  6. Food Dudes Ltd. Food Dudes Health – Leaders in Preventing Childhood Obesity; About Us. Available from: http://www.fooddudeshealth.com/
  7. Food Dudes Ltd. Research Evidence – Full Force Programme, Warsall Study. Available from: http://www.fooddudeshealth.com/research-fullforce.aspx
  8. Hollands GJ, Shemilt I, Marteau TM, Jebb SA, Kelly MP, Nakamura R, et al. Altering micro-environments to change population health behaviour: towards an evidence base for choice architecture interventions. BMC Public Health . 2013;13(1):1218. Available from: http://www.biomedcentral.com/1471-2458/13/1218
  9. Food Research and Action Center. Why Low-Income and Food Insecure People are Vulnerable to Overweight and Obesity. 2010. Available from: http://frac.org/initiatives/hunger-and-obesity/why-are-low-income-and-food-insecure-people-vulnerable-to-obesity/
  10. Johnson EJ, Goldstein D. Medicine. Do defaults save lives? Science . 2003;302(5649):1338–9. Available from: http://www.sciencemag.org/content/302/5649/1338.short
  11. Behavioural Design Lab. Reducing violence and aggression in A&E: Through a better experience. The Design Council. Available from: http://www.designcouncil.org.uk/projects/reducing-violence-and-aggression-ae
  12. ap Geraint S. Case Study – Nudging stairs against lifts. The Wales Centre for Behaviour Change; 2014. Available from: http://behaviourscience.org/case-study-nudging-steps-against-lifts/
  13. Sudan R, ed. Report on the Burden of Endemic Health Care-Associated Infection Worldwide Clean Care is Safer Care. World Health Organisation. 2011. Available from: http://apps.who.int/iris/bitstream/10665/80135/1/9789241501507_eng.pdf?ua=1
  14. Public Health Wales. Hospital admissions – Patient Episode Database for Wales (PEDW), NHS Wales Informatics Service (NWIS); Mid-Year Population Estimates . Stats Wales; 2014. Available from: https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue
  15. Office of National Statistics. Statistical bulletin: Deaths Involving MRSA: Wales, 2013 .2013. Available from: http://www.ons.gov.uk/ons/rel/subnational-health2/deaths-involving-mrsa/2013/stb—deaths-involving-mrsa–2013.html
  16. NHS National Patient Safety Agency. Clean Your Hands campaign. 2011. Available from: http://www.npsa.nhs.uk/cleanyourhands/.
  17. Culleton C, ap Geriant S, Hughes JC. Increasing the use of hand sanitisers in a hospital ward. Masters dissertation. Bangor University; 2013.

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Carl Hughes yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

 

@ChoosingWiselyW #MakingChoicesTogether agrees. We promote teaching skills for #shareddecisiomaking to all clinicians. #prudenthealthcare twitter.com/richardlehman1…

@WelshGovernment ..so LHBs in Wales need more psychologists to support them, & keep them from harm. #PrudentHealthcare @DiabetesUKCymru twitter.com/glycosmedia/st…