Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Defnyddio egwyddorion gofal iechyd darbodus i ddatblygu gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol sydd hyd yn oed yn well

  • Michael Allen, Dental Postgraduate Tutor SE Wales - School of Postgraduate Medical and Dental Education, Wales Deanery

Crynodeb

Mae’r papur hwn yn adolygu’r heriau sy’n wynebu gofal deintyddol sylfaenol yng Nghymru ar hyn o bryd. Wedyn, mae’n ystyried pum egwyddor gofal iechyd darbodus a sut y gall yr agenda honno helpu i ddatblygu gwasanaethau deintyddol yng Nghymru yn y dyfodol. Ystyrir pob un o’r egwyddorion yn ei thro gan roi enghraifft ohonynt o blith y datblygiadau sydd ar waith ar hyn o bryd ym maes gwasanaethau iechyd deintyddol yng Nghymru.

Dental - Eric Wienke

Cyflwyniad

Bydd rhoi egwyddorion gofal iechyd darbodus ar waith ym maes ymarfer deintyddol cyffredinol yn y GIG yn gofyn inni ymateb i nifer o heriau sydd eisoes yn wynebu’r proffesiwn[1]. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • anghydraddoldebau iechyd deintyddol yng Nghymru
  • nifer fawr o achosion o bydredd dannedd ymhlith plant mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru
  • cyfradd uchel o blant yn cael anesthesia cyffredinol ar gyfer triniaeth ddeintyddol
  • poblogaeth sy’n heneiddio ac eto’n cadw’i dannedd
  • cleifion yn dioddef o fwy nag un clefyd sylweddol ac yn cael mwy nag un feddyginiaeth a hynny’n effeithio ar iechyd y geg
  • lefelau uchel o ysmygu ymhlith poblogaeth Cymru
  • cleifion sydd mewn perygl o gael canser y geg
  • dewisiadau gwael o ran deiet yn achosi pydredd dannedd
  • angen i gleifion cael eu trin, lle bynnag y bo modd, yn eu cymunedau hwy eu hunain
  • adnoddau’n brin ar gyfer darparu gwasanaethau.

Sut y gall deintyddiaeth y GIG yng Nghymru ymateb i’r heriau hyn gan ddefnyddio egwyddorion gofal iechyd darbodus? Dyma bum prif egwyddor gofal iechyd darbodus:

  • peidio ag achosi niwed
  • defnyddio’r ymyriadau priodol lleiaf posibl
  • trefnu gwaith ar sail yr egwyddor “dim ond gwneud yr hyn y gallwch chi ei wneud”
  • hybu tegwch
  • ailfodelu’r berthynas rhwng y defnyddiwr a’r darparwr ar sail cyd-gynhyrchu.

Mae a wnelo gofal iechyd darbodus gymaint â newidiadau diwylliannol yn y GIG a’r boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu ag a newid arferion clinigol. Gellir rhoi ei brif egwyddorion ar waith yn rhwydd ym maes ymarfer deintyddol. Gan mai hyn a hyn o arian sydd gennym i dalu am ein gwasanaethau deintyddol yn y GIG, mae’n bwysig defnyddio’r adnoddau’n ddoeth ac yn effeithiol. Gan nad yw adnoddau’r GIG yn ddihysbydd, mae gwasanaethau deintyddol eisoes yn meddwl am sut y gallant fod yn fwy effeithlon.  Mae gofal iechyd darbodus yn cynnig strwythur ar gyfer darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion poblogaeth Cymru o fewn y cyfyngiadau hynny. Bydd yn help inni sicrhau ein bod yn cael mwy o ddylanwad am yr arian sy’n cael ei wario.

Sut mae rhoi egwyddorion darbodus ar waith ym maes gwasanaethau deintyddol sylfaenol?

Bydd rhoi gofal darbodus ar waith ym maes gwasanaethau deintyddol sylfaenol yn golygu:

  • mabwysiadu technegau deintyddol modern i reoli clefydau drwy ddarparu gwasanaeth deintyddol da sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyn yn golygu ymyrryd yn briodol ond cyn lleied ag sy’n bosibl ym mhob sefyllfa glinigol.
  • osgoi technegau nad ydynt o lawer o fudd i gleifion
  • peidio â gwneud niwed
  • darparu’r gofal mwyaf priodol gan yr unigolyn mwyaf priodol
  • atal clefydau
  • mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd deintyddol ymhlith y poblogaethau sy’n wynebu’r risg fwyaf
  • helpu cleifion i’w helpu eu hunain a grymuso pobl i ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb dros eu hiechyd deintyddol eu hunain.

I ddangos sut y gellir rhoi gofal iechyd darbodus ar waith ym maes deintyddiaeth, byddwn yn ystyried enghreifftiau sy’n berthnasol i bob un o’r egwyddorion. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi llai o wrthfiotigau ar bresgripsiwn, osgoi anesthesia cyffredinol wrth roi gwasanaethau deintyddol i blant, nyrsys deintyddol yn darparu gofal ataliol, ‘Cynllun Gwên’ Cymru gyfan a datblygu llwybr newydd ar gyfer gwasanaethau deintyddol yng Nghymru.

Peidio ag achosi niwed: rhoi llai o wrthfiotigau ar bresgripsiwn

Mae deintyddion yn cael rhoi gwrthfiotigau i gleifion. Serch hynny, mae rhoi’r cyffuriau hyn yn aml yn amhriodol ac aneffeithiol[2]. Mae rhoi gwrthfiotig unrhyw bryd yn peri risg o niwed megis adwaith alergol neu symptomau gastrig; mae hefyd yn cynyddu’r risg ehangach i’r boblogaeth wrth i facteria feithrin ymwrthedd i’r gwrthfiotig hwnnw. Ym mis Hydref 2009, adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru[2] fod ymarferwyr deintyddol cyffredinol yn gyfrifol am naw y cant o’r holl wrthfiotigau ar bresgripsiwn yng Nghymru. Mae’r rhesymau dros hyn yn gymhleth. Dyma rai ohonynt:

  • deintyddion yn meddwl nad oes digon o amser i ymyrryd yn ffisegol
  • diffyg dealltwriaeth am yr ymyriad ffisegol priodol
  • disgwyliadau’r claf
  • diffyg hyder i ddarparu’r ymyriad priodol[3].

Hefyd, mae rhoi cyffuriau gwrthfiotig ar bresgripsiwn wedi bwrw gwreiddiau yn y system ymarfer deintyddol. Ers degawdau, mae deintyddion wedi cael eu dysgu i roi gwrthfiotigau i gleifion sydd â falfiau prosthetig ar y galon, murmur ar y galon neu hanes haint rhiwmatig[4] gan gredu bod hyn wedi helpu i atal datblygu endocarditis heintiol ar ôl gweithdrefn ddeintyddol ymyrrol.

Mae’n bosibl newid sut y bydd ymarferwyr deintyddol yn defnyddio gwrthfiotigau ac mae’r newid hwn yn digwydd yn awr yng Nghymru.

Rhoi llai o wrthfiotigau deintyddol ar bresgripsiwn yng Nghymru

Ym mis Mawrth 2008, cyhoeddodd  y  Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ganllawiau newydd am ddefnyddio proffylacsis gwrthfiotig i gleifion sydd mewn perygl o gael endocarditis heintiol. Roeddent yn dweud na ddylid rhoi gwrthfiotigau bellach i gleifion deintyddol cyn gweithdrefnau deintyddol ymyrrol. Mae’r risg o gael sgil-effeithiau sy’n gysylltiedig â gwrthfiotigau’n fwy na’r risg o ddatblygu endocarditis heintiol. Wrth adolygu effeithiau’r canllawiau hyn ar  ddefnyddio proffylacsis gwrthfiotig yn Lloegr, gwelwyd mai deintyddion oedd yn gyfrifol am 92 y cant o’r presgripsiynau gwrthfiotig cyn Mawrth 2008 ac mai darparwyr eraill oedd yn gyfrifol am yr 8% arall. Erbyn 2011, roedd nifer y presgripsiynau a roddwyd yn 2011 wedi gostwng 78.6 y cant.[5]

Mae rhoi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn ar gyfer cyflyrau deintyddol yn faes lle mae pethau’n gwella. Ddechrau 2013, gwahoddodd adran ôl-raddedigion deintyddol Deoniaeth Cymru, ar y cyd â’r rhaglen gwella ansawdd gofal iechyd, 1000 o Fywydau a Mwy, bob ymarferydd deintyddol cyffredinol i gymryd rhan mewn o archwiliad wedi’i noddi i edrych ar ragnodi gwrthfiotigau yn eu practisau. Mae nifer dda wedi cymryd rhan ac mae gofyn i ymarferwyr deintyddol yn awr ddatgan ar eu holiadur sicrhau ansawdd blynyddol a ydynt wedi cynnal yr archwiliad neu beidio. Bydd y byrddau iechyd yn cysylltu ag unrhyw bractisau nad ydynt yn cymryd rhan eto ac yn eu hannog i wneud hynny.

Defnyddio’r ymyriadau priodol lleiaf posibl: defnyddio llai ar anesthesia cyffredinol

Dannedd yn pydru a chlefyd ar gig y dannedd yw’r clefydau deintyddol mwyaf cyffredin o bell ffordd yr ydym eu hwynebu yn ein cymunedau yng Nghymru ar hyn o bryd [6] ac eto, mae’n hawdd iawn eu hatal drwy gymryd camau syml[7]. Mae dros 100 o astudiaethau wedi dangos bod fflworeiddio’r dŵr yn golygu gostyngiad amlwg yn nifer yr achosion o bydredd dannedd mewn plant cyn-ysgol a phlant o oedran ysgol[8]. Mae Llywodraeth Cymru yn deall bod fflworeiddio dŵr o fudd i iechyd deintyddol[1]

Serch hynny, byddai proses fflworeiddio o’r fath yn wynebu sawl rhwystr amrywiol ac ar hyn o bryd, mae fflworeiddio dŵr yn gynllun afrealistig. Ar y llaw arall, mae’r proffesiwn mewn sefyllfa unigryw i wneud cyfraniad sylweddol at atal pydredd dannedd a chlefydau ar gig y dannedd. Mae peintio farnais fflworid uchel ei grynodiad ar ddannedd sydd mewn perygl, cyngor newydd am frwsio dannedd, cyngor am ddeiet a helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu, i gyd yn feysydd lle y gall ymarferwyr deintyddol helpu i atal clefydau. Yn y gorffennol, ychydig o gydnabyddiaeth sydd wedi bod i’r rôl bwysig y gall ymarferwyr deintyddol cyffredinol ei chwarae yn hyn, ond mae’r rôl ataliol hon bellach yn cael eu hyrwyddo drwy’r GIG.

Ers tair blynedd, mae nifer o bractisau deintyddol yng Nghymru wedi bod yn treialu ffyrdd newydd o reoli cleifion yn y GIG. Mae hyn wedi cynnwys cyflawni dangosyddion perfformiad allweddol sy’n gysylltiedig ag atal clefydau deintyddol. Mae treial deintyddol y GIG hefyd wedi caniatáu i ymarferwyr ddarparu ‘deintyddiaeth sy’n ymyrryd cyn lleied â phosibl’[8] wrth helpu i reoli cleifion sydd mewn perygl mawr o golli dannedd oherwydd pydredd – un o egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus.

Mae symudiad wedi bod hefyd oddi wrth driniaethau nad ydynt yn cynnig fawr ddim budd, neu ddim budd o gwbl i gleifion. Mae hyn yn cynnwys peidio â chynnig ‘datgennu a llathru’ a rhoi canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar waith gyda golwg ar ba mor aml y bydd pobl yn cael eu galw yn ôl i’r ddeintyddfa [9].  Effaith hyn yw rhyddhau rhagor o amser yn y ddeintyddfa sy’n golygu bod mwy o gleifion yn gallu manteisio ar ddeintyddiaeth y GIG Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau deintyddol yn gallu manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael i wasanaethu pobl Cymru, sef un o nodau eraill gofal iechyd darbodus.

Plant ac anesthesia cyffredinol

Her ddifrifol arall i ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru yw’r nifer fawr o blant sy’n cael anesthesia cyffredinol ar gyfer triniaeth ddeintyddol, a hynny bron yn llwyr er mwyn tynnu dannedd sydd wedi pydru.

Tabl 1. Anesthesia cyffredinol wrth roi triniaeth ddeintyddol i blant fesul bwrdd iechyd y darparwr – 2013-14

(DdaG – ddim ar gael)

Primary Dental Care table(Welsh)

Mae’r tabl hwn sy’n dangos data a gasglwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru[10]  yn dangos lefel uchel o anesthesia cyffredinol ar gyfer gwaith deintyddol yng Nghymru. Mae risg i anesthesia cyffredinol, er mai risg fach yw hi, o gymhlethdodau difrifol [11]. Mae’n ddrud ac mae gofyn cael anesthetydd, a staff wedi’u hyfforddi’n briodol yn ogystal â’r deintydd, a hefyd y cyfleusterau cywir a diogel i gwblhau’r gweithdrefnau ac i rywun ymadfer yn ddiogel. Yn ogystal â hynny, credir ei fod yn cyfrannu at wneud plant yn bryderus ynghylch ymweld â’r deintydd yn ddiweddarach yn eu hoes[12]. Yn adroddiad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn 2010, cyfrifwyd mai cost anesthesia cyffredinol ar gyfer gwaith deintyddol oedd £720 yr achos. Serch hynny, mae ‘na ddewisiadau eraill yn hytrach nag anesthesia cyffredinol wrth roi triniaeth ddeintyddol i lawer o blant a’r rheini’n ddiogel, yn effeithiol ac yn llawer rhatach. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • technegau rheoli ymddygiad[14]
  • tawelyddu ymwybodol.[15]

Mae’r ddwy dechneg yn help i osgoi gorfod defnyddio anesthesia cyffredinol. Mae therapyddion deintyddol wedi’u hyfforddi’n dda i reoli plant drwy ddefnyddio technegau ymddygiad, yn fwy felly na deintyddion yn aml. Drwy ddefnyddio dulliau megis ‘dweud-dangos-gwneud’, cyflwyno’r driniaeth fesul tipyn a dadsensiteiddio plant, bydd therapyddion deintyddol yn aml yn gallu meithrin perthynas â phlant a lleddfu eu pryder. Maent hefyd yn aml yn gallu cwblhau’r driniaeth ddeintyddol heb orfod defnyddio dulliau mwy cymhleth o reoli pryder.

Mae tawelyddu ymwybodol mewn deintyddiaeth bediatrig wedi cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd ym maes gofal sylfaenol. Mae’n cynnwys defnyddio ocsid nitraidd, sydd hefyd yn cael ei alw’n nwy chwerthin, yn gymysg ag ocsigen, i helpu’r plentyn i ymlacio. Mae hyn yn gwneud i’r ymennydd ryddhau’r cemegion naturiol sy’n gwneud i rywun deimlo’n dda ac yn gwneud yr ymennydd yn fwy parod i dderbyn y cemegion hyn. Wedyn, bydd y driniaeth yn cael ei rhoi yn y ffordd arferol gan ddefnyddio analgesia lleol. Oherwydd nad yw ocsid nitraidd yn gryf iawn, ac nad yw’r peiriant sy’n rhoi’r nwy’n gallu rhoi mwy na 30 y cant o ocsigen, mae’r broses yn gwbl ddiogel. Mae’n arbed costau sylweddol o’i gymharu ag anesthesia cyffredinol (£273 yr achos) cyn belled â bod y gyfradd lwyddiant yn uwch na 56 y cant. Y ffigurau a ddyfynnir yn aml ar gyfer tawelyddu drwy anadlu’r nwy i mewn yw llwyddiant o tua 90%[16] Wrth archwilio ein gwasanaeth tawelyddu ymwybodol ym maes ein gofal sylfaenol ni’n hunain, yn ein practis yn y Fenni, gwelwyd cyfradd lwyddo o 96 y cant mewn achosion pediatrig.

Osgoi anesthesia cyffredinol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Fel y gwelwyd yn Nhabl 1 uchod, defnyddiwyd anestheteg cyffredinol mewn 1,980 o achosion deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn y flwyddyn 2013-14. Ar ôl datblygu’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Iechyd y Geg[1], anogwyd byrddau iechyd drwy Gymru i ddatblygu eu cynlluniau lleol hwy eu hunain ar gyfer iechyd y geg yn y dyfodol. Yn ardal Aneurin Bevan, arweiniodd y cynllun iechyd at ddatblygu llwybr i wella’r ffordd o reoli plant nad ydynt yn gallu cael triniaeth ddeintyddol gonfensiynol.

Ers mis Mai 2014, mae ymarferwyr deintyddol cyffredinol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi bod yn defnyddio’r un llwybr atgyfeirio hwn ar gyfer plant a fyddai yn y gorffennol wedi cael eu hatgyfeirio’n syth i gael anesthesia cyffredinol, ac eithrio’r rheini a atgyfeiriwyd ar gyfer tawelyddu ymwybodol. Bydd plant sy’n cael eu hatgyfeirio ar y llwybr hwn yn cael eu gweld gan aelodau tîm y Cynllun Gwên a byddant yn cael cyngor ataliol am iechyd y geg. Bydd aelodau o’r tîm deintyddol cymunedol sy’n arbenigo ym maes deintyddiaeth plant wedyn yn gweld y plentyn ac, mewn sawl achos, gydag amser ac amynedd, yn llwyddo i roi’r driniaeth sydd wedi’i chynllunio heb orfod defnyddio anesthesia cyffredinol na thawelyddu ymwybodol.

Lle na fydd y plentyn yn fodlon cydymffurfio, neu lle bydd y driniaeth yn fwy cymhleth, bydd y plentyn yn cael ei gyfeirio ymlaen at ymarferwyr deintyddol cyffredinol sydd wedi’u hyfforddi i ddefnyddio tawelyddu ymwybodol neu, os bydd y driniaeth yn rhy gymhleth, neu fod y plentyn yn rhy ifanc ac ystyried yr holl driniaeth sydd ei hangen, dim ond wedyn y bydd anesthesia cyffredinol yn cael ei ddefnyddio.

Oherwydd nad yw’r llwybr hwn wedi cael ei ddefnyddio am flwyddyn eto, nid oes dadansoddiad o’r data ar gael. Serch hynny, mae adroddiadau anffurfiol yn awgrymu bod anesthesia cyffredinol wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer sylweddol lai o achosion deintyddol. Dyma enghraifft ardderchog o ofal iechyd darbodus ar waith. Mae llai o berygl i gleifion, ac mae’n golygu cyn lleied o ymyrryd ag sy’n bosibl gan ryddhau amser ac adnoddau yn y gwasanaeth. Mae timau deintyddol yn cydweithio ar draws ffiniau ac yn cyfathrebu’n effeithiol.

Dim ond gwneud yr hyn y gallwch chi ei wneud: ymestyn y tîm gofal deintyddol

Mae’r model traddodiadol lle bydd deintydd y stryd fawr yn darparu gofal deintyddol i bob claf yn cael ei gydnabod fwyfwy’n rhywbeth nad yw’n addas nac yn gynaliadwy ym maes ymarfer deintyddol cyffredinol modern. Mae gweithwyr proffesiynol cysylltiedig yn cael eu defnyddio fwyfwy ar draws gwasanaethau iechyd, gan gynnwys ymarferwyr nyrsio a rhagnodwyr ac mae deintyddiaeth yn dechrau symud i’r un cyfeiriad. Mae model o ofal deintyddol sylfaenol modern lle bydd y deintydd yn rhoi’r diagnosis ac yn cynnig llwybrau gofal gan eu dirprwyo o weithwyr proffesiynol hyfforddedig sy’n darparu cymorth ym maes gofal deintyddol yn dod yn gynyddol dderbyniol.[17]

Ers tair blynedd bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn treialu ffordd newydd o weithio ym maes deintyddiaeth y GIG sydd wedi golygu addasu sut mae ein hymarfer yn gweithio i ddarparu ffordd drwyadl o ofalu am ein cleifion a honno’n canolbwyntio ar waith atal sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth gadarn. Yn ymarfer deintyddol cyffredinol GIG yr awdur, sy’n darparu gofal deintyddol mewn practis â phedair meddygfa yn y Fenni, o dan gynllun peilot deintyddol y GIG, bydd swmp y gofal deintyddol syml a ddarperir o dan y GIG a bron yr holl ofal deintyddol pediatrig sy’n cael ei gynnig yn y practis, yn cael ei reoli bellach gan therapyddion deintyddol yn hytrach na’i fod yn cael ei ddarparu gan y deintydd. Mae hyn wedi galluogi’r deintyddion i dreulio mwy o amser ar driniaethau mwy cymhleth.

Datblygu rôl nyrsys deintyddol

Un maes pwysig sy’n datblygu yw defnyddio nyrsys deintyddol sydd â chymwysterau uwch. Unwaith eto, mae’r treial deintyddol wedi dangos y rôl bwysig sydd gan addysgwyr iechyd deintyddol yn cynnig cyngor am ddeiet, cyfarwyddyd am hylendid y geg, yn peintio farnais fflworid uchel ei grynodiad ac yn rhoi cyngor am roi’r gorau i ysmygu. Nid yw’n gwneud synnwyr ariannol bellach inni dalu i ddeintyddion sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sy’n ddrud i ddarparu’r agweddau anghlinigol hyn ar ofal deintyddol. Drwy ddatblygu rôl nyrsys deintyddol, gallai practisau weithio’n fwy effeithlon, darparu gwell gofal ataliol a sicrhau bod gwasanaethau deintyddol ar gael yn haws i gleifion, heb gynyddu cost gwasanaethau deintyddol i’r GIG.

Un o’r canllawiau sydd bellach wedi bwrw gwreiddiau yw peintio farnais fflworid uchel ei grynodiad dair neu bedair gwaith y flwyddyn ar ddannedd plant a dwywaith y flwyddyn ar ddannedd oedolion sy’n debygol o ddioddef pydredd[18]. Mewn tîm cymysg ei sgiliau sydd wedi’i ddatblygu’n dda, gall deintyddion a therapyddion ddirprwyo’r cyfrifoldeb am hyn i nyrsys deintyddol sydd wedi cael hyfforddiant uwch i beintio farnais fflworid. Mae rhaeadru’r cyfrifoldeb i lawr fel hyn yn rhyddhau amser, mae’n fwy cost-effeithiol ac mae’n dda iawn i ysbryd y tîm gan helpu i gadw staff o safon yn y GIG.

Hybu tegwch: Y Cynllun Gwên

Mae dannedd sydd wedi Pydru, Dannedd Coll a Dannedd wedi’u Llenwi (D3MFT) yn ffordd o fesur profiad pydredd dannedd y plentyn cyffredin. Mae data Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru yn dangos bod y mesur hwn wedi gwella’n gyffredinol yng Nghymru dros y blynyddoedd, ond mae’n dal yn bosibl gwella pethau eto o ran nifer yr achosion o’r clefyd hwn y gellid ei atal.[6] Mae nifer yr achosion o glefydau deintyddol mewn oedolion a phlant ar ei huchaf yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru Mae’r egwyddor gofal iechyd darbodus sy’n dweud y dylid hybu tegwch yn golygu y dylai fod strategaethau ar waith i wella’r rhai mwyaf anghenus yn ein cymdeithas. O safbwynt deintyddiaeth, byddai hynny’n cynnwys gwella cyfraddau D3MFT ein plant.

Y Cynllun Gwên

Cynllun Cymru gyfan yw’r ‘Cynllun Gwên’ [19], sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Ei nod yw gwella iechyd deintyddol ein plant drwy’r strategaethau a ganlyn:

  • rhaglenni strwythuredig i frwsio dannedd mewn ysgolion a gartref. Yn yr ysgolion sy’n ymwneud â thimau’r Cynllun Gwên, mae aelod o’r tîm wedi’i hyfforddi’n arbennig i oruchwylio’r brwsio. Bydd gan bob plentyn ei frwsh dannedd ei hun sy’n cael ei newid bob tymor neu cyn hynny os bydd angen
  • cyngor am fwyta’n iach
  • sgrinio deintyddol gan dimau’r gwasanaeth deintyddol cymunedol. Mae’r timau hyn yn dynodi plant a allai elwa o gael peintio farnais fflworid uchel ei grynodiad ar eu dannedd. Byddant hefyd yn dynodi plant a allai elwa o gael gosod arwyneb plastig gwarchodol ar eu dannedd a elwir yn ‘seliwr tyllau’. Mae’n bosibl i’r deintydd cymunedol neu’r tîm ymarfer deintyddol cyffredinol wneud hyn.

Cynhaliwyd cystadleuaeth tynnu llun gan ‘Y Cynllun Gwên’ a defnyddiwyd lluniau’r plant buddugol ar dudalen flaen y British Dental Journal. Fe’u defnyddiwyd ar gyfer 12 rhifyn ac roedd yn adlewyrchiad gwych nid yn unig ar y plant ond ar ‘y Cynllun Gwên’ ac ar Gymru hefyd. Er fy mod wedi darllen y Cyfnodolyn ers blynyddoedd, ni allaf gofio imi weld y Gymraeg ar y clawr o’r blaen.

Canlyniadau’r ‘Cynllun Gwên’

Mae’n rhy fuan sôn am effeithiolrwydd y ‘Cynllun Gwên’ oherwydd nad yw’r data wedi’u cyhoeddi eto. Serch hynny, mae’r ‘Cynllun Gwên’ yn debyg i ‘Childsmile’ yn yr Alban. Wrth i effaith y ‘Cynllun Gwên’ gael ei dadansoddi, bydd bron yn sicr o ddangos bod iechyd dannedd plant yn gwella. Mewn astudiaethau diweddar ar ‘Childsmile’ gwelwyd bod llai o achosion o bydredd dannedd yn sgil y rhaglen hon ac nid oes dim rheswm pam na ddylem weld yr un gwelliant yng Nghymru[20]

Nid oes rheswm ychwaith pam na ddylem ddefnyddio’r strategaethau hyn i wella iechyd deintyddol grwpiau eraill yn y boblogaeth hefyd. Byddai’r rhain yn cynnwys trigolion cartrefi preswyl a nyrsio a’r rheini mewn sefydliadau diogel megis carchardai.

Mae’r gwelliant hwn a ragwelir yn iechyd deintyddol ein plant yn cynnig llu o fanteision tymor hir, gan gynnwys:

  • bydd arferion iechyd deintyddol da o’u cychwyn ym more oes yn bwrw gwreiddiau ac yn para ar hyd eu bywyd
  • llai o ddannedd yn gorfod cael eu tynnu
  • llai o ddannedd yn gorfod cael eu llenwi
  • llai o bydredd dannedd yn arwain at ddefnyddio llai o anestheteg cyffredinol i blant
Ailfodelu’r berthynas rhwng y defnyddiwr a’r darparwr ar sail cydgynhyrchu: treialu model llwybr newydd i wasanaethau deintyddol yng Nghymru

Ers tair blynedd bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn treialu ffordd newydd o weithio ym maes deintyddiaeth y GIG sydd wedi golygu addasu sut mae ein hymarfer yn gweithio i ddarparu ffordd drwyadl o ofalu am ein cleifion a honno’n canolbwyntio ar waith atal sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth gadarn. Mae treial deintyddol y GIG a grybwyllir uchod, wedi annog datblygu’r gymysgedd sgiliau ym maes gwasanaethau deintyddol drwy symud oddi wrth y model traddodiadol lle bydd y deintydd yn darparu’r driniaeth i gyd[21]. Yn y model newydd, mae’r practis yn gweithio fel llwybr i gleifion deithio ar ei hyd, ar sail asesu’r risg y maent yn ei hwynebu. Fe allai’r llwybr hwn olygu bod y gofal yn cael ei ddarparu gan:

  • nyrs ddeintyddol gymwys a chofrestredig sydd â sgiliau uwch ac sy’n gweithio fel addysgwr iechyd deintyddol. Mae’n bosibl y bydd yn dadansoddi deiet y claf yn ei gynghori ynghylch hynny, yn rhoi cyfarwyddyd am hylendid y geg ac yn peintio farnais fflworid uchel ei grynodiad ar y dannedd.
  • therapydd deintyddol a fydd yn darparu triniaeth ar gyfer clefyd cig y dannedd, yn llenwi dannedd cyntaf, yn tynnu dannedd cyntaf, yn llenwi dannedd oedolion os yw’r driniaeth yn syml, yn tynnu pelydr-x ac yn selio dannedd plant i’w gwarchod.
  • deintydd a fydd o bosibl, yn y model hwn, yn llenwi dannedd pan fydd y driniaeth yn fwy cymhleth, yn rhoi therapi ar sianel y gwreiddyn, yn tynnu dannedd oedolion, yn gosod coron ar ddant ac yn gwneud gwaith pontio a gwaith dannedd gosod.
  • deintydd â chymwysterau ôl-radd uwch. Yn ein practis ni, byddai hyn yn cynnwys darparu tawelydd ymwybodol i oedolion a phlant sy’n poeni am gael triniaeth ddeintyddol neu pan fydd angen iddynt gael triniaeth y maen nhw’n meddwl y gall fod yn annifyr. Mewn practisau eraill, gallai hyn gynnwys triniaeth lawfeddygol ar y geg a fyddai gynt wedi’i wneud mewn ysbyty.
Treial deintyddol y GIG fel enghraifft o gyd-gynhyrchu:

Bydd cleifion newydd sy’n dod i bractis deintyddol sy’n rhan o’r treial yn llenwi holiadur asesu gofal deintyddol. Bydd hwn yn cynnwys cwestiynau am eu hanes meddygol, eu hanes deintyddol, unrhyw beth sy’n eu poeni am eu hiechyd deintyddol; unrhyw anableddau, unrhyw beth sy’n achosi pryder iddynt a faint o siwgr maent yn ei fwyta yn eu deiet. Dyma gonglfaen asesiad risg deintyddol.

Ar ôl archwiliad clinigol, gan gynnwys radiograffau priodol a phrofion arbennig, bydd y deintydd wedyn mewn sefyllfa i roi adroddiad i’r claf am ei statws deintyddol. Wedyn, bydd y broses asesu gofal deintyddol yn cynnwys trafodaeth rhwng y deintydd a’r claf. Bydd hyn yn cynnwys y deintydd a’r claf yn cydweithio i ddatblygu cynllun gofal personol. Bydd y cynllun yn cynnwys:

  • tynnu sylw at feysydd risg megis ysmygu, bwyta siwgr, hylendid y geg a phrofiadau deintyddol yn y gorffennol
  • rhoi’r claf mewn categori – coch, oren, neu wyrdd, a dibynnu ar y risgiau hynny
  • darparu cynllun triniaeth ysgrifenedig a all amrywio yn ôl y risg
  • cyfeirio at ffynonellau cymorth a chefnogaeth allanol megis Dim Smygu Cymru neu gyfeirio rhywun at addysgwr iechyd deintyddol i gael gwasanaeth i’w helpu i roi’r gorau i smygu os oes gan y claf ddiddordeb mewn gwneud hynny ar y pryd
  • dyfynbris ysgrifenedig o unrhyw daliadau am wasanaeth deintyddol y GIG

Drwy gynnwys y cleifion yn ofalus yn y broses benderfynu, rydym wedi gweld bod mwy o bobl yn manteisio ar ofal deintyddol ac mae’r cleifion, pan fyddwn yn eu holi, wedi bod yn gadarnhaol am y broses ymgysylltu. Un o fanteision ychwanegol gwaith partneriaeth fel hyn yw ei fod o gymorth i’r tîm deintyddol helpu’r cleifion i ysgwyddo rhagor o reolaeth dros eu hiechyd deintyddol.

Casgliad

Mae gofal iechyd darbodus yn cynnig strwythur da ar gyfer parhau i ddatblygu gwasanaethau iechyd deintyddol sylfaenol yng Nghymru. Wrth i’r gwasanaeth ymdrechu i symud y pwyslais oddi wrth driniaeth at atal ac i symleiddio llwybrau deintyddol ar sail timau deintyddol estynedig sy’n manteisio i’r eithaf ar sgiliau proffesiynol, mae gofal darbodus yn cynnig map mwy manwl ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal deintyddol yng Nghymru yn y dyfodol, ac mae honno’n daith y mae gwasanaethau deintyddol wedi cychwyn arni eisoes.


Cyfeiriadau

  1. Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cenedlaethol Cymru ar gyfer Iechyd y Geg 2013-18. Llywodraeth Cymru 17977 18fed Mawrth 2013
  2. 1000 o Fywydau. Reducing harm in Primary Dental Care. PB02:02
  3. D Tulip a N Palmer. A retrospective investigation of the clinical management of patients attending an out of hours dental clinic in Merseyside under the new NHS dental contract. 2008; 205 659-664
  4. Bender, S. Seltzer, S Tashman, B Meloff. Dental procedures in patients with rheumatic heart disease. Oral surgery, oral medicine and oral pathology. 1963; 16: 466-473
  5. Thornhill et al. Impact of the NICE guidelines recommending cessation of antibiotic prophylaxis for prevention of infective endocarditis: before and after study. BMJ. 2011; 342: d2392 (Cyrchwyd 20fed Rhagfyr 2014)
  6. Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru   http://www.cardiff.ac.uk/dentistry/research/themes/applied-clinical-research-and-public-health/epidemiology-and-applied-clinical-research/wohiu [Cyrchwyd 10fed Rhagfyr 2014]
  7. Pwyllgor Arbenigol Sefydliad Iechyd y Byd ar Statws Iechyd y Geg a Defnyddio Fflworid, Fluorides and Oral Health: report of a WHO expert committee on Oral Health and Fluoride use. Cyfres adroddiadau Technegol Sefydliad Iechyd y Byd;
  8. J D B Featherstone a S. Domejean. Minimal intervention dentistry Part 1: From compulsive restorative dentistry to rational therapeutic strategies. BDJ 2012; 213: 441-445
  9. nice.org.uk/guidance/cg19 [Cyrchwyd 20fed Rhagfyr 2014]
  10. Iechyd Cyhoeddus Cymru: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/document/249614 [Cyrchwyd 10th Rhagfyr 2014]
  11. A Conscious Decision: A review of the use of general anaesthesia and conscious sedation in primary dental care. Yr Adran Iechyd; 2000. Llundain.
  12. Hosey et al. Dental anxiety, distress at induction and postoperative morbidity in children undergoing tooth extraction using general anaesthesia. BDJ 2006; 200: 39-43
  13. http://www.nice.org.uk/guidance/cg112/resources/cg112-sedation-in-children-and-young-people-costing-report2 [Cyrchwyd 22ain Rhagfyr 2014]
  14. Z Wright & A Kupietzky Pennod 6 ‘Non-pharmacological approaches to behavior management’. Rhydychen: Wiley-Blackwell 2014 P63-92 Behavioral Management in Dentistry for Children 2il argraffiad.
  15. K M Blain & F J Hill. The use of inhalation sedation and local anaesthesia as an alternative to general anaesthesia for dental extractions in children. BDJ 1998; 184: 608-11
  16. Bryan R. The success of inhalation sedation for comprehensive dental care within the Community Dental Service. International journal of Paediatric dentistry. 2002; 12: 410-4
  17. Evans. I.G. Chestnutt. B.L. Chadwick. The potential for delegation of clinical care in general dental practice. BDJ 2007; 203: 695-699
  18. Delivering Better Oral Health: An evidence based toolkit for prevention. Yr Adran Iechyd. Llundain. 2009.
  19. Y Cynllun Gwên [Cyrchwyd 10fed Rhagfyr 2014]
  20. Macpherson. Y Anopa. D. Conway. A McMahon. Reduction in decay in 5 year olds associated with the uptake of nursery tooth brushing. J.Dent.Res 2013; 92: 109-113
  21. B. Pitts NHS dentistry: Options for change in context – a personal overview of a landmark document and what it could mean for the future of dental services. BDJ 2003; 195; 631-635

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Michael Allen yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

Primary dental care infographic

Empowering patients influences lots of medical behaviour, improves safety and value #coproductiontwitter.com/i/web/status/8…