Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Enghreifftiau rhyngwladol o ymagweddau darbodus tuag at ofal iechyd

  • Yr Athro Syr Mansel Aylward, CB – cadeirydd Comisiwn Bevan a chadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Helen Howson – ymgynghorydd iechyd cyhoeddus, cyfarwyddwr rhaglenni strategol, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ymgynghorydd i Gomisiwn Bevan
  • Jon Matthias – 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Crynodeb

Mae’r erthygl hon gan Gomisiwn Bevan yn edrych ar sut, “Mae’r GIG yng Nghymru, yn yr un modd â systemau gofal iechyd eraill o amgylch y byd, yn wynebu’r sialens ddwbl o gostau cynyddol a galw cynyddol, wrth barhau i wella ansawdd gofal.”

Mae’r erthygl yn edrych ar sut mae sefydliadau gofal iechyd o amgylch y byd yn rhoi egwyddorion tebyg i themâu canolog gofal iechyd darbodus a ddatblygwyd yng Nghymru ar waith. Mae’n cynnwys enghreifftiau o Frasil, Canada, Yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Sweden, ac UDA, gan amlygu pwyntiau allweddol y gallai GIG Cymru eu rhoi ar waith.

Image copyright: © Entrer dans le rêve

Darbodus: ymateb ar draws system gyfan i gost, galw ac ansawdd

“Mae’r GIG yng Nghymru, yn yr un modd â systemau gofal iechyd eraill o amgylch y byd, yn wynebu’r sialens ddwbl o gostau cynyddol a galw cynyddol, a pharhau i wella ansawdd gofal ar yr un pryd.”

Mewn ymateb i’r sialensiau cynyddol a chydnabyddedig sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru, gan gynnwys lleihau costau, mynd i’r afael â chynnydd yn y galw a gwella ansawdd, mynegodd Comisiwn Bevan ei farn gychwynnol ar ymagwedd newydd tuag at ofal iechyd, mewn papur o’r enw Simply Prudent Healthcare[i].

Gan gydadnabod bod gwledydd eraill hefyd yn wynebu’r sialensiau hyn, mae Comisiwn Bevan nawr wedi casglu ymchwil, ymarfer a phrofiad o bob cwr o’r byd, ar gyfer yr adnodd ar-lein hwn.

Daethpwyd o hyd i amrywiaeth o ymagweddau gwahanol i helpu i fynd i’r afael â’r sialensiau hyn. Er eu bod yn llwyddiannus, maent yn aml yn gyfyngedig i wasanaethau neu leoliad ac nid ydynt yn cael eu rhoi ar waith ar draws y system. Mewn gwrthgyferbyniad, mae Cymru’n bwriadu cymryd ymagwedd gyfannol unigryw ar draws y system wrth ddatblygu a mabwysiadu gofal iechyd darbodus.

Y nod cyffredinol fydd cydgynhyrchu gwell iechyd, yn fwy teg ar draws yr holl system gofal iechyd. Gwneir hyn mewn partneriaeth â’r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol a chymunedau ehangach, gan gydnabod bod pawb yn gyfrifol am iechyd, ac nad cyfrifoldeb un system yn unig, un fenter neu un gwasanaeth yn unig ydyw.

Enghreifftiau rhyngwladol

Bwrdd Iechyd Dosbarth Canterbury, Seland Newydd[ii]

Mae Bwrdd Iechyd Dosbarth Canterbury yn Seland Newydd yn enghraifft dda o sut y gellir cyflawni perthynas fwy cyfartal rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol. Ers dros bum mlynedd mae’r Bwrdd Iechyd, sy’n gwasanaethu ardal fwyaf a mwyaf poblog Ynys y De, wedi bod yn ailgynllunio gwasanaethau er mwyn cyflawni gwell integreiddio a gofal cymunedol. Mae ei brif gyflawniadau yn cynnwys:

  • cael gwared ar y tagfeydd yn yr ysbyty a lleihau oedi a phwysau ar y system
  • cyfraddau is o dderbyniadau meddygol acíwt
  • lleihau hyd cyfartalog arosiadau ac aildderbyniadau yn y maes gofal acíwt
  • llai o dderbyniadau wedi’u cynllunio yn cael eu canslo
  • mwy o gyflyrau yn cael eu trin y tu allan i’r ysbyty
  • arbed mwy na miliwn o ddiwrnodau yn aros am driniaeth i gleifion, mewn pedwar maes clinigol yn unig
  • llai o bobl yn symud i gartrefi gofal
  • trawsnewid diffyg ariannol o 17 miliwn o ddoleri Seland Newydd yn 2007, ar drosiant o $1.2 biliwn, i warged o 8 miliwn o ddoleri Seland Newydd yn 2010-2011
  • cydnabyddiaeth fel un o’r gwasanaethau cyhoeddus sy’n perfformio orau yn Seland Newydd

Cyflymwyd peth o’r trawsnewidiad hwn yn sgil trychineb daeargryn Christchurch yn 2011 pan gafodd nifer o adeiladau gofal iechyd eu difrodi, eu dinistrio neu eu heffeithio a oedd yn golygu na ellid eu defnyddio. Ond er bod y daeargryn wedi creu’r angen i newid lleoliad a’r ddarpariaeth gofal iechyd ar fyrder, roedd Canterbury eisoes wedi dechrau gwneud newidiadau i leoliad ei wasanaethau cyn y trychineb.

“Fel gyda rhaglenni trawsnewid eraill, yr ysgogiad am yr hyn a ddigwyddodd oedd canfyddiad o system iechyd a oedd dan bwysau ac yn edrych fel pe na bai’n gynaliadwy.” (Cronfa’r Brenin 2013)

Mae’r gwelliannau yn Canterbury wedi’u cynorthwyo drwy ailgynllunio gwasanaethau gan roi pwyslais ar:

  • sicrhau bod gwella’r system wrth galon y strategaeth
  • buddsoddi mewn datblygu sgiliau a gallu
  • blaenoriaethu gofal sylfaenol, gan gynnwys cymorth TG, addysg, cysylltiad cryf gyda gofal eilaidd, a pholyclinigau
  • HealthPathways – teclyn cyfeirio electronig ar y cyd i alluogi integreiddio gwasanaethau cymunedol, gofal sylfaenol ac ysbyty a chofnodion gofal ar y cyd ar draws gwasanaethau
  • pwyslais ar yr unigolyn, gan leihau oedi a gwastraff yn y system
  • bod yn feiddgar a phendant – rhoi blaenoriaeth i brofiad y claf yn hytrach na thargedau a mesurau
  • cydarweinyddiaeth – mae disgwyl i staff ar bob lefel gymryd yr awenau pan fo angen er mwyn sicrhau newid
  • pwyslais ar un gyllideb, un system, i gyfuno cyllidebau ar draws y bwrdd iechyd

Nid yw Canterbury wedi lleihau nifer y gwelyau ysbyty yn sylweddol ond mae wedi lleihau’r pwysau sydd arnynt, drwy gyflawni gwell gwasanaethau a chynyddu maint y gweithgaredd. Disgwylir i’r angen am fwy o welyau ysbyty gynyddu yn y dyfodol ond ar raddfa is na’r hyn a ragwelwyd cyn cyflwyno’r rhaglen drawsnewid. Amcangyfrifir i’r cynnydd yn niferoedd y gwelyau fod yn llai na hanner yr hyn a fyddai fod fel arall.

Un o’r ymagweddau a ddefnyddiwyd oedd ymgysylltu’n helaeth â’r staff drwy gyfres o weithdai. O ganlyniad i’r gweithdai hyn canfuwyd sut i wella gofal cleifion drwy leihau oedi a thriniaethau diangen, gan sicrhau bod y staff yn perchnogi’r gwaith yr oedd angen ei wneud a hwyluso’r broses o dderbyn bod angen dybryd am newid a’i roi ar waith mewn modd mwy effeithiol.

Gall Cymru ddysgu oddi wrth Canterbury ynglŷn â gweithredu gofal iechyd darbodus. Yn arbennig:

  • mabwysiadu ymagweddau ymgysylltu cyffelyb tuag at wella gofal cleifion, cyd-greu iechyd a ffyrdd amgen o weithio gyda staff, cleifion a phartneriaid eraill
  • rhoi anghenion y claf yn gyntaf, gan sicrhau bod adnoddau wedi’u cyfuno yn y modd mwyaf effeithiol
  • adnabod a dileu mesurau nad ydynt yn ychwanegu unrhyw werth at ganlyniadau neu brofiad y claf
  • cryfhau cydarweinyddiaeth o fewn a rhwng byrddau iechyd ac ar bob lefel reoli i sicrhau bod gofal iechyd darbodus yn gyfrifoldeb i bawb
Choosing Wisely, UDA [iii]

Mae cael cleifion i ymgysylltu â’u gofal yn hanfodol er mwyn cyflawni gofal o ansawdd uchel gyda’r canlyniadau gorau posibl i’r cleifion sy’n berthnasol a phwysig i unigolion. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i wybodaeth i gleifion ynglŷn â’u triniaeth a’u gofal fod ar gael yn rhwydd ac yn hawdd i’w ddeall. Mae angen i gleifion a gweithwyr proffesiynol ei defnyddio’n effeithiol hefyd, er mwyn gwneud y dewisiadau gorau ar gyfer hoffterau ac amgylchiadau’r unigolyn.

Mae Choosing Wisely yn fenter a ddechreuodd yn yr Unol Daleithiau (UD) i helpu i ddarparu gofal gwell a mwy diogel i gleifion a hefyd i fynd i’r afael â gorddefnydd a gwastraff diangen o adnoddau gofal iechyd [iv].

Menter gan yr American Bureau of Internal Medicine (ABIM) Foundation yw Choosing Wisely i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a chleifion gymryd rhan mewn sgyrsiau ynglŷn â’r gorddefnydd o brofion a thriniaethau diangen, ac i gynorthwyo cleifion i wneud dewisiadau gofal effeithiol. Amcangyfrifodd yr ABIM fod cymaint â 30 y cant o’r gofal a ddarparwyd mewn rhai achosion yn dyblygu triniaeth flaenorol sy’n ddiangen neu’n ofal diangen ynddo’i hun.

Gofynnwyd i gymdeithasau arbenigol a sefydliadau Americanaidd a oedd yn cefnogi Choosing Wisely i greu rhestr o ‘bethau i’w cwestiynu’, gan wneud argymhellion penodol, yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer pob eitem. Gellir defnyddio’r rhestrau hyn i annog trafodaeth rhwng meddygon a chleifion, gan eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau darbodus ynglŷn â’u gofal iechyd. Gellir lawrlwytho’r rhestrau o www.choosingwisely.org/doctor-patient-lists ac maent wedi bod o gymorth i ysgogi trafodaeth lawer ehangach ynglŷn â’r angen am lawer o brofion ac ymyriadau.

Mae Choosing Wisely wrthi’n cael ei fabwysiadu yn awr mewn 12 o wledydd, gan gynnwys Japan, yr Almaen, yr Eidal, Awstralia, a Seland Newydd.

Yn yr UD a Chanada, darganfu arolwg gan Sefydliad yr ABIM fod meddygon a oedd yn cymryd rhan yn Choosing Wisely yn fwy tebygol o fod wedi lleihau nifer yr achosion lle yr argymhellwyd prawf neu driniaeth ganddynt, oherwydd eu bod wedi dysgu eu bod yn ddiangen.

Mae Cymru’n bwriadu mabwysiadu Choosing Wisely i gynorthwyo i leihau profion a thriniaethau diangen. Mae camau’n cael eu cymryd i ddarganfod y ffordd orau o wneud hyn. Mae angen i ni sicrhau:

  • bod cleifion yn cael eu hannog i drafod eu hanghenion a’r canlyniadau y maent yn eu disgwyl
  • bod gan gleifion wybodaeth ddibynadwy i’w cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u triniaeth a’u gofal
  • bod dadl a thrafodaeth gyhoeddus ehangach ynglŷn â Choosing Wisely a thriniaethau a meddyginiaethau diangen
System ofal Nuka, Alasga UDA [v]

Caiff system ofal Nuka, a ddatblygwyd gan Sefydliad Southcentral yn Alasga, ei chydnabod fel un o’r systemau gofal sylfaenol mwyaf llwyddiannus ac arloesol yn y byd. Mae Sefydliad Southcentral yn gweinyddu cyllid ffederal er mwyn darparu gwasanaethau gofal iechyd ar ran pobl Cenhedloedd Cyntaf o dan Ddeddf Hunanbenderfyniad Indiaid llywodraeth yr UD.

Mae’n werth nodi bod system Nuka wedi elwa ar fuddsoddiad helaeth o gyllid ffederal ar lefel na fydd ar gael yn y GIG yng Nghymru yn ôl rhagolygon cyfredol. Er hynny mae’r modelau arloesol a fabwysiadwyd gan Nuka ac elfennau hanfodol yr ymagwedd yn cyd-fynd yn dda ag egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus ac yn darparu enghreifftiau dilys o’r manteision yn sgil cymhwyso ar draws y system gyfan.

Yr hyn sy’n sail i lwyddiant Sefydliad Southcentral wyw’r model “perchenogaeth y cwsmer” sy’n cael ei arwain gan y gymuned ar gyfer y gwasanaethau gofal y mae’n eu darparu, yn arbennig mewn gofal sylfaenol. Mae’r rhai sy’n dibynnu ar wasanaethau yn gosod blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaethau hynny. Mae’r defnydd o derminoleg newydd – “cwsmer-berchennog” yn lle claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth – yn pwysleisio ymrwymiad y sefydliad i wrando ar bobl ac i weithredu ar eu hadborth. Mae’n rhaid i’r tîm gweithredol hefyd ofyn i’r arweinwyr y llwythau gymeradwyo’r penderfyniadau a wneir gan y tîm. Yn ogystal â llawer o ganlyniadau cyfundrefnol cadarnhaol, gan gynnwys codi safon gwasanaethau a lefelau ymrwymiad staff [vi], mae canlyniadau iechyd y gymuned wedi gwella’n sylweddol[vii]. Mae creu gwasanaethau o amgylch y cwsmer-berchennog wedi bod yn bositif a chost effeithiol. Mae’r prif weithredwr yn cynnal sesiwn meic agored lle y gall unrhyw gwsmer-berchennog ofyn cwestiynau iddo y mae’n rhaid eu hateb.

Er bod Sefydliad Southcentral yn gwario mwy o’i gyllideb y pen ar ofal sylfaenol, mae’n gwario llai y pen ar ofal iechyd yn gyffredinol ac yn cyflawni gofal iechyd o ansawdd uwch na’r hyn a brofir yn y rhan fwyaf o lefydd eraill yn yr UD [viii].

Drwy system gofal Nuka, mae mynediad at gyngor meddygol ym maes gofal sylfaenol, tebyg i ymweld â Meddyg Teulu, wedi lleihau o gyfartaledd o bedair wythnos i ymgynghoriadau ar yr un diwrnod. Yn flaenorol, roedd mwyafrif y derbyniadau i’r system gofal iechyd yn dod drwy’r adran achosion brys gofal eilaidd. Roedd y gwasanaeth a gyflawnwyd drwy Nuka yn rhoi pwyslais ar ymgynghoriadau ‘ar yr un diwrnod’. Mae hyn wedi lleihau’r pwysau ar adrannau achosion brys ac o ganlyniad mae pobl yn cael triniaethau yn gynt, yn aml mewn amgylchedd mwy addas na’r ystafell achosion brys yn yr ysbyty.

Mae’n rhaid i Gymru edrych yn fwy gofalus ar sut y gall weithredu’r hyn a ddysgwyd gan y Nuka, yn arbennig:

  • adnabod cyfleoedd i gryfhau ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd ac atebolrwydd ar lefel leol a chenedlaethol
  • darganfod ffyrdd i lais y claf gael mwy o ddylanwad: yn ganolog, mewn trafodaethau acíwt a gofal sylfaenol ynglŷn â gwasanaethau
  • defnyddio cynghorau iechyd cymuned yn fwy effeithiol er mwyn cynnwys pobl mewn cynllunio, cyflawni ac atebolrwydd gwasanaethau iechyd
  • cynnwys cymunedau a chleifion yn y broses o gynllunio a darparu’r gwasanaeth a sicrhau perchenogaeth fel cwsmeriaid-berchenogion.
Democratiaeth gyfranogol mewn gofal iechyd, Brasil [ix]

Yn 2013 ymchwiliodd Comisiwn Bevan i ddemocratiaeth gyfranogol a chafwyd cyflwyniad gan feddyg sy’n gweithio yn y system hon ym Mrasil.

Mae cyfansoddiad Brasil, a sefydlwyd yn 1988, yn cynnwys cryn gyfle o ran democratiaeth gyfranogol. Drwy sefydlu cynghorau iechyd trefol yn y 1990au cynnar, mae gan ddinasyddion ddylanwad uniongyrchol ar fodelau cyflawni gofal iechyd. Er y bu rhai diffygion yn y broses, mae’r cynghorau iechyd yn caniatáu i bobl leol gymeradwyo’r cyllidebau, y cyfrifon a chynlluniau gwariant a gyflwynir gan dîm gweithredol sefydliadau iechyd rhanbarthol.

Amlinellir cyfansoddiad cynghorau iechyd mewn statud fel:

  • 50 y cant o usúarios (cynrychiolwyr defnyddwyr y gwasanaeth iechyd)
  • 25 y cant o weithwyr iechyd
  • 25 y cant o reolwyr iechyd (gan gynnwys darparwyr o’r sector preifat a gomisiynwyd i ddarparu gwasanaethau).

Mae’r cynghorau yn cyfarfod yn fisol. Nid yw arian ffederal yn cael ei ryddhau i’r sefydliadau sy’n cyflawni gofal nes bod y cyngor iechyd yn cymeradwyo cynlluniau a chyllidebau. Mae sawl usúario yn cael ei benodi yn hytrach na’i ethol a bu peth pryder ynglŷn â phenodi ffrindiau a dewis pobl er mwyn iddynt roi sêl bendith ar benderfyniadau. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae’r system yn gweithio’n dda ac yn sicrhau bod dymuniadau’r gymuned ehangach yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt.

Mae Cymru wedi cymryd rhai camau i wella’i hymgysylltiad â’r cyhoedd, yn arbennig drwy Raglen De Cymru a chyfarfodydd cyhoeddus Comisiwn Bevan[x], ond mae angen dybryd o hyd i wella ymgysylltiad, yn arbennig o ran perchenogaeth, cynllunio a darparu gwasanaethau ac i ail-greu’r berthynas rhwng y dinesydd a GIG Cymru. Mae cyfleoedd ar gael i wneud hyn yng Nghymru, drwy gynghorau iechyd cymuned a gallant gynyddu drwy’r clystyrau Meddygon Teulu newydd a thimau cymunedol integredig lleol.

QUEST® – cynghrair gofal iechyd cydweithrediadol Premier[xi]

Rhaglen gydweithredol Americanaidd yw QUEST® – QUality, Efficiency, Safety and Transparency – wedi’i chynllunio i gynorthwyo ysbytai “i ddarparu profiad mwyaf effeithlon, effeithiol a gofalgar i bob claf, bob tro, mewn ffordd ddibynadwy.”[xii]

Mae’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau gwella, llawer ohonynt o fyd diwydiant, i wella ansawdd ar draws y sefydliad, gan gynnwys ansawdd clinigol, profiad y claf a phrosesau busnes o’r gadwyn gyflenwi i’r gweithlu.

Roedd mwy na 350 o ysbytai yn rhan o’r rhaglen am fwy na phum mlynedd. Yn ystod y rhaglen, llwyddodd y rhai a gymerodd ran yn QUEST i wneud y canlynol:

  • cynyddu’r gwasanaeth gofal yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarperir i gynnwys tua 109,000 o gleifion ychwanegol
  • atal amcangyfrif o 136,375 o farwolaethau (14 y cant yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol)
  • lleihau gwariant gofal iechyd wedi’i addasu yn unol â chwyddiant o bron i 11.65 biliwn o ddoleri Americanaidd
  • atal 17,991 o achosion o niwed posibl, gyda ffocws arbennig ar heintiau a geir yn yr ysbyty
  • sicrhau lleihad o fwy na 40,000 yn nifer yr aildderbyniadau i’r ysbyty, dros y cyfnod o bum mlynedd

Mae nifer o agweddau ar fenter QUEST® sydd â chysylltiad agos agos ag agenda gofal iechyd darbodus yng Nghymru:

  • defnyddio adnoddau, i gyflawni gostyngiadau yng nghost gofal
  • safoni meddyginiaethau
  • gwella prosesau mewnol, yn arbennig yn y gadwyn gyflenwi
  • rheolwyr achos yn gweithio gyda chleifion i sicrhau eu bod yn cael y gofal gorau posibl yn yr ysbyty a phan fyddant yn gadael – sy’n arwain at gyfnod byrrach yn yr ysbyty a llai o aildderbyniadau
  • sicrhau bod yr ymagwedd meddyginiaeth yn seiliedig ar dystiolaeth yn cael ei rhoi ar waith yn ymarferol.

Mae Gofal Iechyd Darbodus wedi nodi’r rhain yn ei egwyddorion ond mae yna frwydr o hyd i sicrhau bod hyn yn digwydd yn ymarferol. Mae rhai sefydliadau GIG Cymru eisoes yn ymchwilio i weithredu model QUEST®, er enghraifft cyfleoedd i ddatblygu mesurau ansawdd wedi’u safoni.

Kaiser Permanente, UDA – gweithredu meddyginiaeth yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymgorffori gwella ansawdd [xiii]

Meddyginiaeth yn seiliedig ar dystiolaeth yw’r “defnydd cydwybodol, penodol, a deallus o’r dystiolaeth gyfredol orau wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â gofal cleifion unigol.” [xiv]

Lansiodd Kaiser Permanente, y cwmni yswiriant iechyd dielw Americanaidd mwyaf, raglen o ganllawiau cenedlaethol yn 2005, i sicrhau bod darparwyr gofal iechyd yn rhoi’r ymagwedd meddyginiaeth yn seiliedig ar dystiolaeth ar waith yn gyson. Crëwyd dangosfwrdd data ar y we o’r enw Big Q, a oedd yn dilyn perfformiad pob canolfan feddygol a maes gwasanaeth a’i gymharu â meincnodau allanol a nodau mewnol. Rhwng ail chwarter 2008 a chwarter cyntaf 2009, gwelwyd gwelliant mewn perfformiad ar draws holl ganolfannau meddygol Kaiser Permanente wella.[xv]

Yn y pen draw arweiniodd y rhaglen waith at bobl yn cael gofal mwy addas ac effeithiol ac at weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn cymryd perchenogaeth o’r rhaglen canllawiau.

Yn seiliedig ar y rhaglen, honnodd Kaiser Permanente: “Drwy ddilyn yr argymhellion yn ein canllawiau cardiofasgwlaidd, mae siawns aelod Kaiser Permanente â risg uchel o farw o strôc neu drawiad ar y galon 60 y cant yn is na pherson cyffelyb sydd ddim yn aelod.”[xvi]

Cydnabyddir bod Kaiser Permanente yn flaenllaw ym maes gofal iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyn wedi’i briodoli i dri ymarfer:

1   pwyslais ar ofal ataliol i gyflawni gostyngiadau cost cynaliadwy

2   cyflogi meddygon yn hytrach na’u talu fesul gwasanaeth, gan ddileu’r cymhellion i ddewis triniaethau diangen

3   cynllunio arosiadau ysbyty a symud gofal i glinigau cleifion allanol, gyda phremiymau yswiriant is o ganlyniad, arbedion costau i Kaiser Permanente a phrofiad gwell i’r cleifion. O gymharu, mae cleifion yn y GIG yn y DU yn treulio dwy i bum gwaith yn hirach yn yr ysbyty na chlaf cyffelyb mewn ysbyty Kaiser Permanente.

Mae system gofal iechyd Kaiser Permanente yn cyflwyno nifer o gyfleoedd ar gyfer gofal iechyd darbodus ac ystyriaeth bellach yng Nghymru i:

  • weithredu ymagwedd fwy systematig tuag at feddyginiaeth yn seiliedig ar dystiolaeth
  • rhoi systemau gwybodaeth ar waith i fonitro ac adrodd ar ofal yn seiliedig ar dystiolaeth a phrofiad y claf fel y nodwyd yn y data ac adroddiad gwybodaeth y Comisiwn Bevan
  • ymchwilio ymhellach i’r cyfleoedd i gefnogi gofal ataliol a hunanofal ar bob cyfle
  • gwneud atal yn ofyniad canolog yn GIG Cymru, yn cael ei gefnogi gan hyfforddiant ar bob lefel a chydnabyddiaeth o lwyddiant
  • ymgorffori rhai gwasanaethau Meddygon Teulu cyflogedig a nodi manteision Meddygon Teulu cyflogedig, gan adeiladu ar brofiadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac eraill
  • ymchwilio ymhellach i fodelau newydd mewn gofal sylfaenol ymhellach, fel y nodwyd yn adroddiad drafft Comisiwn Bevan ar ofal iechyd
  • mabwysiadu ymagwedd debyg i Kaiser Permanente i ymgorffori dysgu ac arweinyddiaeth gref.
Rhwydwaith Esther, Sweden [xvii]

Mae Rhwydwaith Esther yn rhan o’r system gofal iechyd yn Jönköping, Sweden, a gydnabyddir yn eang fel arweinydd byd mewn gofal sy’n canolbwyntio ar y claf. Mae’r rhwydwaith yn penodi gweithwyr gofal iechyd a gofalwyr eraill i ymchwilio ac asesu gwasanaethau o safbwynt y claf. Dechreuodd y rhwydwaith fel prosiect unigol yn 1997 ac fe’i hailstrwythurwyd yn rhwydwaith sydd heddiw’n cwmpasu poblogaeth o 110,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth.

Mae pobl oedrannus, gyda phrofiad o ddefnyddio’r system gofal iechyd, wedi cael eu recriwtio i ddarparu dealltwriaeth o sut mae’r system gofal iechyd yn gweithio. Yn aml yn cael eu hadnabod fel ‘Esthers’, maent wedi dod yn bartneriaid gwerthfawr wrth lunio gwasanaethau.

Mae Rhwydwaith Esther wedi cynorthwyo i wneud i ddarparwyr gwasanaethau ganolbwyntio ar werth i’r claf – yr agweddau ar y gwasanaeth y mae cleifion yn rhoi’r gwerth mwyaf arnynt, a gall hyn fod yn wahanol i’r hyn y mae clinigwyr a rheolwyr yn ei gredu sy’n bwysig. Mae arferion presgripsiwn a meddyginiaethau gwell a mwy effeithiol wedi’u cynllunio, yn seiliedig ar adborth gan gleifion a staff. Mae manteision eraill a briodolir i Rwydwaith Esther yn cynnwys cynnydd mewn boddhad cleifion a staff, amseroedd aros llawer llai, triniaethau mwy effeithiol a chostau is.

Mae rhai sefydliadau GIG Cymru wedi datblygu eu rhaglenni eu hunain sy’n canolbwyntio ar gleifion, gan ddefnyddio proffiliau cleifion nodweddiadol a phenderfynu sut y byddai’r bobl hynny yn ystyried y system. Mae enghreifftiau yn cynnwys Megan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Wyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Freda ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Buurtzorg, model nyrs ardal, yr Iseldiroedd [xviii]

Yn 2006, dechreuodd nyrsys cymunedol gysyniad newydd yn yr Iseldiroedd: Buurtzorg, sy’n golygu ‘Gofal Cymdogaeth’ yn Gymraeg. Mae’n darparu gofal dielw drwy gartrefi gofal ac mewn lleoliadau cymunedol. Mae profiad Buurtzorg yn dangos sut mae deall y galw mewn termau dynol a chefnogi hunanofal yn egwyddorion gwella darbodus sylfaenol.

Mae’r rhan fwyaf o ofal yn y cartref yn yr Iseldiroedd wedi bod yn seiliedig ar ymagwedd debyg i’r un yn y DU. Mae’r model hwn yn ystyried gofal yn y cartref  fel cynnyrch y gellir ei gyflawni’n fwyaf effeithlon pan fydd wedi’i rannu’n brosesau gwahanol. Gellir cyflawni’r prosesau hyn gan arbenigwyr unigol gwahanol, er enghraifft, y rhai sy’n rhoi tabledi a chwistrelliadau, y rhai sy’n trin clwyfau ac eraill gyda sgiliau mwy arbenigol sydd, er enghraifft yn gallu cysylltu diferiadau morffin.

Darganfu sefydliad o’r Iseldiroedd fod unrhyw arbedion mewn cost yr awr drwy arbenigedd yn cael eu colli pan oedd cost rheoli proses gymhleth a thameidiog yn cael ei hystyried hefyd. Roedd angen gwell system, un a oedd yn rhoi anghenion cleifion wrth wraidd y gofal. Penderfynodd Buurtzorg adfywio rôl y nyrs ardal. Mae’r gofal a ddarperir gan y nyrsys ardal cyffredinol yn rhan o’r broses o adeiladu perthynas gyda’r cleient, datrys problemau ac adfer hunanhyder fel rhan o’u hadferiad. Mae’r sefydliad wedi dangos bod un ymweliad hamddenol gan nyrs ardal sydd wedi’i hyfforddi i safon uchel yn fwy effeithiol nag amryw o ymweliadau gan weithwyr gofal arbenigol, gyda phob un yn cyflawni eu tasgau penodedig.

Mae’r ffordd hon o weithio wedi cynyddu cost ymyriadau fesul uned ond mae hyn yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad o 50 y cant yng nghyfanswm y galw. Mae nyrsys yn gwasanaethu cymdogaethau o 10,000 o bobl mewn timau o ddeg sy’n rheoli eu hunain. Gan weithio gyda Meddygon Teulu, maent yn ystyried eu hunain yn adeiladwyr cymunedol, gan ddatblygu cefnogaeth ar lefel gymdogol ar gyfer eu cleientiaid gan ffrindiau, teulu a gwirfoddolwyr ac mae ganddynt hyd yn oed slot wythnosol ar y radio lleol y gallant e ddefnyddio i hysbysebu digwyddiadau a gwasanaethau, i roi cyngor a rhoi pobl mewn cysylltiad â’i gilydd.

Dengys canfyddiadau cychwynnol fod cleifion Buurtzorg yn defnyddio 40 y cant o’r gofal y mae ganddynt hawl iddo. Mae hanner y cleifion sy’n derbyn gofal yn gwneud hynny am lai na thri mis ac mae sgoriau boddhad cleifion bellach 30 y cant yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Heb reolwyr, mae’r llinellau cyfathrebu’n fyr ac mae’r gweithwyr yn adrodd eu bod yn fwy bodlon yn eu gwaith. Yn 2011, dewiswyd Buurtzorg fel cyflogwr y flwyddyn yn yr Iseldiroedd.[xix]

Mae angen i Gymru adeiladu ar y model hwn o ofal yn y cartref yn fwy systematig, gan osgoi oedi diangen ar gyfer cleifion, gofal tameidiog a dyblygu yn y system. Dylai hefyd fanteisio ar enghreifftiau lleol megis gwasanaethau oedolion Sir Fynwy, a ailgynlluniwyd i ddiwallu gofynion ei gleientiaid ar y cais cyntaf.

Cymhwyso’r gwersi a ddysgwyd ar draws y byd i Gymru Gymru

Os yw gofal iechyd darbodus yn mynd i ffynnu yng Nghymru mae angen i ni ymrwymo i newid mewn modd beiddgar, radical a pharhaol. Mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn meddwl a’n diwylliant yn y systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn gweithio a sut yr ydym yn cael pobl Cymru i dderbyn egwyddorion gofal iechyd darbodus ac ymrwymo iddynt.

Pa mor aml yr ydym wedi clywed teimladau tebyg yn cael eu mynegi ynglŷn â chynigion blaenorol i drawsnewid, a fethodd gymryd gafael gan edwino? Ni allwn ganiatáu i hyn ddigwydd i ofal iechyd darbodus, sy’n cynnig manteision gwirioneddol i’r GIG nid yn unig drwy gyflawni gwasanaeth diogel o ansawdd uchel, ond hefyd drwy drawsnewid y berthynas sylfaenol rhwng pob un ohonom a GIG Cymru.

Mae amser o’r pwys mwyaf. Er mwyn cael ei dderbyn gan y rhai y mae eu hymrwymiad yn hanfodol ar gyfer llwyddiant, mae angen i ni ddangos mwy o dystiolaeth o bob cwr o’r byd ynglŷn â manteision gwirioneddol a phendant mabwysiadu ymagwedd ddarbodus. Nid oes rhaid i ni ailddyfeisio’r olwyn, ond mae angen i ni sicrhau bod yr olwyn wedi’i saernïo i groesi tirwedd unigryw GIG Cymru.

Gan dynnu ar yr enghreifftiau yn yr erthygl hon gallwn gael dealltwriaeth werthfawr ynglŷn â sut y gallwn o bosibl barhau â’r daith hon yn llwyddiannus. Mae rhai o’r enghreifftiau a nodir yma yn fwy radical nag eraill, ond maent i gyd yn cynnig negeseuon eglur a chyson ynglŷn â sut y gallwn symud ymlaen â gofal darbodus. Gallwn ddysgu gan eraill a mewnforio, addasu a mabwysiadu arferion da arloesol, fel sy’n briodol i Gymru. Yn bwysicach na dim, drwy edrych ar lle mae eraill wedi llwyddo, gallwn fod yn hyderus y byddwn ninnau’n llwyddo hefyd.


Cyfeiriadau

[i] Aylward, M., Phillips, P. Howson, H. (2014) Simply Prudent Healthcare – achieving better care

and value for money in Wales – discussion paper. Cardiff: Bevan Commission. [Available online at http://www.bevancommission.org/sitesplus/documents/1101/Bevan%20Commission%20Simply%20Prudent%20Healthcare%20v1%2004122013.pdf]

[ii] Timmins, N. & Ham, C. (2013) The quest for integrated health and social care A case study in Canterbury, New Zealand. London: The King’s Fund

[iii] www.choosingwisely.org

[iv] www.choosingwisely.org/about-us/

[v] Hussey, R. & Gottleib, K. (2014 – forthcoming) Redesigning healthcare: Learning from the Nuka System of Care to inform the development of healthcare in NHS Wales. Cardiff: 1000 Lives Improvement (Publication date October / November 2014)

[vi] Gottlieb, K. (2013) The Nuka System of Care: improving health through ownership and relationships. International Journal of Circumpolar Health 2013

[vii] Gottlieb, K. (2014) Southcentral Foundation Nuka System of Care [Presentation at The Nuka system of care: Lessons for healthcare redesign in Wales, 13 February 2014.] Available from www.1000livesplus.wales.nhs.uk/nuka

[viii] Gottlieb, K. (2013) The Nuka System of Care: improving health through ownership and relationships. International Journal of Circumpolar Health 2013; Porter, P. and Cook, B. (2014) The Nuka System of Care for chronic conditions. Qementum Quarterly, Spring 2014. Ottawa: Accreditation Canada

[ix] Cornwall, A. (2007) Deliberating Democracy: Scenes from a Brazilian Municipal Health Council. Brighton: Institute of Development Studies; Cornwall, A. et al (2010) Engaging Citizens in Governance: Lessons from Brazil’s Democratic Experiments. London: Department for International Development

[x] See www.bevancommission.org/links for reports from the public meeting

[xi] www.premierinc.com

[xii] Premier Inc (2014) QUEST: High-performing hospitals Year 5 collaborative findings, February 2014. Charlotte, North Carolina: Premier Inc.

[xiii] Institute for Health Policy (2013) Kaiser Permanente Policy Story, V2, No. 2 Foundation of Evidence: Clinical Guideline Development at Kaiser Permanente. www.kp.org/ihp

[xiv] Sacket, D et al (1996) Evidence based medicine: what it is and what it isn’t. BMJ 1996;312:71

[xv] Schilling, L, Chase A, Kehrli S et al (2010) , Joint Commission Journal on Quality and Patient Safety, Volume 36, Number 11, 2010, 489 – 498 (15)

[xvi] Institute for Health Policy (2013) Kaiser Permanente Policy Story, V2, No. 2 Foundation of Evidence: Clinical Guideline Development at Kaiser Permanente. www.kp.org/ihp

[xvii] Davies, J. (2012) Person Driven Care. Cardiff: 1000 Lives Improvement.

[xviii] Sinclair, A. (2011) A life worth living. Edinburgh: Scottish Council for Voluntary Organisations (SCVO)

[xix] De Blok, J. (2013) Buurtzorg: better care for lower cost. [Presentation to The King’s Fund. Available from http://www.kingsfund.org.uk/sites/files/kf/media/jos-de-blok-buurtzorg-home-healthcare-nov13.pdf]; KPMG (2012) Netherlands: Buurtzorg empowered nurses focus on patient value (online). Available from http://www.kpmg.com/global/en/issuesandinsights/articlespublications/value-walks/pages/netherlands.aspx


Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Syr Mansel Aylward yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

“Mae angen i ni ddangos tystiolaeth sylweddol o bob cwr o’r byd ynglŷn â manteision gwirioneddol a phendant iawn y gall mabwysiadu ymagwedd ddarbodus eu cyflawni. Nid oes rhaid i ni ailddyfeisio’r olwyn, ond mae angen i ni sicrhau bod yr olwyn wedi’i saernïo i groesi tirwedd unigryw GIG Cymru yn llwyddiannus.”

Gwneud iddo ddigwydd

  1. Gofal Iechyd Canterbury, Seland Newydd – ailgynllunio gwasanaethau i ddarparu gwell gofal integredig a chymunedol gydag ymagwedd yn seiliedig ar system sy’n cynnwys newidiadau strwythurol gan gynnwys systemau gwybodaeth a chyfleusterau gofal iechyd, yn ogystal â newidiadau mewn proses i roi’r pwyslais yn ôl ar yr unigolyn, gan leihau oedi a gwastraff yn y system a rhoi blaenoriaeth i brofiad y claf yn hytrach na thargedau a mesurau.
  2. Choosing Wisely, UDA - Mae Choosing Wisely yn fenter sy’n cefnogi’r egwyddor ddarbodus o ymyriadau priodol lleiaf posibl. Dechreuodd yn yr Unol Daleithiau (UD) i helpu i ddarparu gofal cleifion mwy diogel ac o ansawdd uwch drwy fynd i’r afael â gorddefnydd a gwastraff diangen o adnoddau gofal iechyd. Mae’n rhestru “pethau i’w cwestiynu”, gydag argymhellion penodol yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer pob eitem, sy’n rhoi cyfleoedd i gleifion a meddygon drafod yr angen am brofion a thriniaethau.
  3. Gofal Nuka, Alasga UDA - Dyma un o’r systemau gofal sylfaenol mwyaf llwyddiannus ac arloesol yn y byd a ddarperir gan Sefydliad Southcentral, sy’n darparu gofal iechyd yn Alasga i bobl y Cenhedloedd Cyntaf. Mae Sefydliad Southcentral yn gwario mwy o’i gyllideb y pen ar ofal sylfaenol, mae’n gwario llai' y pen ar ofal iechyd yn gyffredinol ac yn darparu gofal iechyd o ansawdd uwch na’r hyn a brofir yn y rhan fwyaf o lefydd eraill yn yr UD.
  4. Democratiaeth gyfranogol mewn gofal iechyd, Brasil – yn sgil sefydlu cynghorau iechyd trefol yn y 1990au cynnar roedd modd i ddinasyddion gael dylanwad uniongyrchol ar fodelau cyflawni gofal iechyd. Drwy gynghorau iechyd mae pobl leol yn gallu cymeradwyo cyllidebau, cyfrifon a chynlluniau gwariant sefydliadau iechyd rhanbarthol.
  5. Kaiser Permanente, UDA - mae’r darparwr gofal iechyd dielw mwyaf llwyddiannus yn UDA yn rhoi pwyslais ar ofal ataliol i gyflawni gostyngiadau cynaliadwy mewn costau, mae wedi dileu cymhellion ar gyfer profion a thriniaethau drwy wneud meddygon yn gyflogedig yn hytrach na thalu iddynt fesul gwasanaeth ac mae’n cynllunio arosiadau'r aelodau yn yr ysbyty, gan symud gofal i glinigau cleifion allanol ble y bo’n bosibl. I gymharu, mae cleifion yn y GIG yn y DU yn treulio cyfnodau yn yr ysbyty sydd rhwng dwy a phum gwaith yn hwy na chlaf cyffelyb mewn ysbyty Kaiser Permanente.
  6. Rhwydwaith Esther, Sweden - Mae Rhwydwaith Esther yn rhan o’r system gofal iechyd yn Jönköping, Sweden, a gydnabyddir yn eang fel arweinydd byd mewn gofal sy’n canolbwyntio ar y claf. Mae’r rhwydwaith yn penodi gweithwyr gofal iechyd a gofalwyr eraill i graffu ar wasanaethau a’u hasesu o safbwynt y claf. Mae’r buddion a briodolir i Rwydwaith Esther yn cynnwys boddhad uwch ymysg cleifion a staff, amseroedd aros llawer llai, triniaeth fwy effeithiol a chostau is.
  7. Buurtzorg, Yr Iseldiroedd - Penderfynodd Buurtzorg, darparwr gwasanaethau gofal cartref, adfywio rôl y nyrs ardal a disodli gofal nyrsio arbenigol. Gosodwyd tasg i’r nyrsys cyffredinol feithrin perthynas gyda’r cleient, gan ddatrys problemau ac adfer eu hunanhyder fel rhan o’u hadferiad. Mae’r sefydliad wedi dangos bod un ymweliad hamddenol gan nyrs ardal sydd wedi’i hyfforddi i safon uchel yn fwy effeithiol nag amryw o ymweliadau gan weithwyr gofal arbenigol, gyda phob un yn cyflawni eu tasgau penodedig.

Presentations done. Packed. #ILF ITALY. Lymphoedema Network Wales showcasing #prudenthealthcare @karen_morgan10 @e_coveney @JaneFitzpatric4