Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

GIG ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol –pam ein bod yn sicrhau gofal iechyd darbodus

  • Yr Athro Mark Drakeford, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gryn dipyn yn llai na 12 mis yn ôl, dechreuodd y drafodaeth am ofal iechyd darbodus yng Nghymru gyda darn o waith wedi’i arwain gan Gomisiwn Bevan. Yn ystod y cyfnod byr hwn, cafwyd dadl fywiog sydd wedi rhagori ar y disgwyliadau o ran ei maint a’i chwmpas. Mewn cwta naw mis mae gofal iechyd darbodus wedi datblygu o fod yn gysyniad a oedd yn cael ei rannu gan lond dwrn o unigolion brwd i fod yn bwnc sy’n cael ei drafod yn eang. Mae’n ymddangos mewn papurau byrddau iechyd; mae’n rhan o waith ein Colegau Brenhinol; neilltuwyd cynadleddau cyfan ar gyfer y pwnc ac mae hyd yn oed wedi cael ei grybwyll yn y British Medical Journal.

NHS Wales

Mae’r cyfnod hwn wedi ei neilltuo i fireinio’r syniad ei hun – beth yn union yw ystyr gofal iechyd darbodus? – ac ymdrech i gytuno a chodeiddio set o egwyddorion craidd ar gyfer datblygu’r cysyniad.

Fy marn bersonol i yw bod yn rhaid i ni fod yn amyneddgar gyda’r broses hon. Mae’r drafodaeth hon yn fuddsoddiad angenrheidiol a gwerthfawr yn hyfywedd hirdymor y prosiect. I rywun o’r tu allan – fel fi – gall y byd iechyd ymddangos fel pe bai’n canolbwyntio ar chwilio am sicrwydd sy’n anodd dod o hyd iddo ac, mewn rhai ffyrdd pwysig, sicrwydd ffug. Er ei bod yn hanfodol i ofal iechyd fod yn seiliedig ar dystiolaeth, law yn llaw â hynny rhaid cael dealltwriaeth fwy manwl o natur y dystiolaeth: pa mor ansicr ydyw, y berthynas iterus rhwng tystiolaeth a chymhwyso ac yn y blaen. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod pan fydd syniad neu ymchwil newydd yn egino ac mae’n cadarnhau ein dymuniad i wrthsefyll rhuthro i or-systemeiddio gofal iechyd darbodus yn y cyfnod cynnar hwn oherwydd, yn sicr, nid ydym eto mewn sefyllfa lle rydym yn gallu fforddio anwybyddu unrhyw gyfraniad at y drafodaeth.

Mae peryglon yn y dull agored hwn – bydd yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus o’r ffordd y bydd unrhyw system sydd eisoes yn bodoli yn ymateb i syniadau newydd drwy ddarganfod ei fod yn gwneud hyn wedi’r cyfan. Byddai dim ond rhoi label gofal iechyd darbodus ar y byd mewn modd ad-hoc fel y gwnaethpwyd erioed yn ganlyniad siomedig iawn.

Symud o egwyddorion i ymarfer

Mae’n rhaid i ofal iechyd darbodus fod yn fwy na syniad ac yn fwy na set o egwyddorion. Rhaid iddo newid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd yn cael eu defnyddio a’u darparu. Rhaid iddo wneud gwahaniaeth ymarferol go iawn i’r amrywiaeth eang o’r miliynau o gysylltiadau sy’n digwydd bob blwyddyn rhwng pobl Cymru a’u gwasanaeth iechyd. Yr achos cryfaf dros wneud cymaint o wahaniaeth yw, os byddwn yn gwneud hyn yn iawn, mae’n cynnig ffordd o sicrhau bod egwyddorion sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael eu cynnal yn y dyfodol.

Mae fy eiriolaeth fy hun o ofal iechyd darbodus yn dechrau ac yn gorffen gyda’r uchelgais honno. Mae’r gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn wyrth fodern. Dyma lwyddiant mwyaf sosialaeth ymarferol – sefydliad yr ydym yn cyfrannu’n ariannol ato yn y gobaith y byddwn yn ddigon ffodus i beidio â bod angen ei wasanaethau; sefydliad lle yr ydym yn cyfuno ein risgiau ac yn rhannu’r canlyniadau ar y sail mai’r rhai sydd â’r angen mwyaf ac nid y waledi llawnaf fydd y cyntaf i gael sylw.

Ond mae hefyd yn system sydd o dan bwysau a straen yn barhaus wrth i’r galw gynyddu ac wrth i’r adnoddau sydd ar gael i ddiwallu’r galw hwnnw aros yn eu hunfan.

Sylfaen gymdeithasol

Gadewch i ni gofio mai pwysigrwydd y GIG i’w sylfaenwyr – a byddwn yn dadlau ei fod hyd yn oed yn fwy arwyddocaol heddiw – oedd yr agwedd gymdeithasol yn gymaint â’r agweddau economaidd a chlinigol. Yn 1945, deilliodd syniad T H Marshall o ddinasyddiaeth “gymdeithasol” o’r profiad cyffredin o ryfela. Heddiw, rydym yn byw gydag effeithiau cynnydd mewn gwahanu gofodol, sydd wedi bod yn nodwedd o’r DU ers bron i 40 mlynedd, yn ogystal â mathau eraill o anghydraddoldeb sy’n dwysáu. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phobl fel ni ein hunain; rydym yn byw mewn cymdogaethau sydd â’r un amgylchiadau economaidd a chymdeithasol â ni; caiff plant eu hanfon i’r ysgol i gwrdd â phlant eraill tebyg iddyn nhw eu hunain.

Mae Cymru, ar y cyfan, wedi osgoi effeithiau gwaethaf y gymdeithas sy’n allgau ei hun. Prin iawn yw’r addysg breifat a phrinnach byth yw meddygaeth breifat. Mae cymunedau y tu ôl i glwydi mor brin nes eu bod yn anweledig bron. Eto i gyd, o ran gwasanaethau cyhoeddus, mae’r GIG yn parhau i fod yn fan cyfarfod democrataidd mawr. Clinigau ysbytai i gleifion allanol yw un o’r cyd-destunau prin hynny lle y bydd pobl yn eistedd drws nesaf i bobl eraill o amgylchiadau cymdeithasol gwahanol iawn iddyn nhw eu hunain ond sy’n wynebu heriau personol tebyg.

Mae’r profiad o fod yn bresennol ar enedigaeth a marwolaeth yn digwydd bob dydd yn ein hysbytai. Mae rhannu eiliadau dwys o’r fath yn gwneud cyfraniad hanfodol at ymdeimlad byw o ddynoliaeth gyffredin ac undod a rennir. Dyna pam, os yw ein system gofal iechyd yn gallu ymgorffori’r syniad o feddygaeth ddarbodus fel rhan o arferion penodol, y bydd wedi cyflawni rhywbeth pwysig. I fynd tu hwnt i hynny, fodd bynnag, i fod yn rhan o’r amrywaieth eang a awgrymwyd yn gynharach, bydd angen newid diwylliannol llawer mwy sylweddol o ran y ffordd yr ydym yn defnyddio ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Ac, o ran y datblygiadau presennol, mae hyn yn bosibilrwydd sydd, ym meddyliau llawer, yn parhau i fod y annhebygol neu’n anodd ei gyflawni. Yn wir, drwy’r nifer fawr o gyfleoedd yr wyf wedi eu cael i annerch cynulleidfaoedd o weithwyr iechyd proffesiynol, gwelaf mai newid diwylliannol yw’r pwynt lle mae amheuaeth yn dechrau cael y llaw uchaf. Mae’n anodd anghytuno mewn egwyddor â’r cynnig y dylai ein system gofal iechyd anelu at gael gwared ar driniaethau lle nad oes unrhyw dystiolaeth eu bod yn effeithiol – mae hyd yn oed y syniad y dylai ymyriadau fod ar y lefel angenrheidiol leiaf posibl er mwyn sicrhau’r canlyniad a ddymunir yn anodd ei wrthod. Pwy allai ddadlau i’r gwrthwyneb – y dylem roi triniaeth ormodol i gleifion yn rheolaidd, y tu hwnt i’w hangen clinigol? Mae’r egwyddor na ddylai unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol, fel mater o drefn, wneud gwaith nad oes angen lefel cymhwysedd clinigol y person hwnnw i’w wneud yn un y mae pobl yn ddigon parod i gydsynio iddi yn gyffredinol.

Nid oes yr un o’r syniadau hyn nad ydynt yn ddadleuol. Mae’r epidemiolegydd Eidalaidd enwog Gianfranco Domenighrtti wedi dadlau mai dim ond 11% o blith 3,000 o ymyriadau iechyd cyffredin sydd â thystiolaeth dda i’w cefnogi[1], ond bydd llawer ohonynt yn cael eu defnyddio bob dydd yn y GIG yng Nghymru. Triniaeth ormodol yw un o bechodau’r system gofal iechyd ddatblygedig. A buan iawn y daw’r egwyddor na ddylai unrhyw weithiwr proffesiynol iechyd ond gwneud gwaith sy’n gofyn am y lefel honno o gymhwysedd proffesiynol dan straen pan gaiff ei goblygiadau i diriogaethau proffesiynol yr arferwyd eu cymryd yn ganiataol eu deall. Ond ar lefel cynnig, yn hytrach nag ymarfer, ceir cefnogaeth gyffredinol i bob un ohonynt .

Cydgynhyrchu iechyd

Mae’r syniad o gydgynhyrchu yn un sy’n cael ei ddyfynnu a’i gymeradwyo’n eang y dyddiau hyn. Nid yw hynny’n golygu bod pawb yn defnyddio’r term mewn ffordd union debyg. Yma yng Nghymru, yr elfen amlycaf yw’r un sy’n tynnu ar waith dylanwadol Edgar Cahn[2]. Ei graidd moesegol yw’r syniad o ddwyochredd – y rhoi a’r derbyn sy’n creu’r cysylltiadau cymdeithasol sy’n ein clymu ynghyd mewn bywyd cyffredin ac sy’n dibynnu ar y cysylltiadau unigol dirifedi yn y gwasanaethau rydym yn eu defnyddio. Rhaid i bwrpas y cysylltiadau hynny fod yn rhyddfreiniol – gan anelu at feithrin a hyrwyddo annibyniaeth a gallu’r unigolyn bob amser, yn hytrach na’u t​danseilio.

Mae’r ymdeimlad hwn o wneud penderfyniadau ar y cyd yn gwbl groes i’r rheolwriaeth oeraidd sydd wedi chwarae ei ran mewn democratiaeth gymdeithasol, yn ogystal â bod yn un o elfennau amlycaf yr adain dde sy’n preifateiddio ac yn marchnadeiddio.

Yn ei ddarlith Hugo Young yn ddiweddar, dyfynnodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband ddau awdurdod er mwyn pwysleisio’r ail-fantoli a ddaw yn sgil cydgynhyrchu. Wrth edrych yn ôl ar waith Michael Young, awdur maniffesto 1945 y Blaid Llafur, mae’n dyfynnu Saul Alinsky, trefnydd y gymuned Americanaidd, a ddywedodd: “Self-respect arises only out of people play an active role in solving their own crises and I’m not helpless, passive, a bit like the recipients of private or public services.”[3]

Yn fwy heriol, mae hefyd yn dyfynnu adfywiad yr Athro Richard Sennett o’r term a fathwyd gyntaf gan yr anthropolegydd Mary Douglas: “tosturi sy’n clwyfo”[4]. Mae’r tosturi sy’n llawn bwriadau da â chymhelliant priodol, ond sy’n ddinistriol ac sy’n erydu gallu unigolion i gael y dylanwad mwyaf dros eu bywydau eu hunain, ar ben arall y sbectrwm i ymarfer rhyddfreiniol cydgynhyrchu, fel y gwelir mewn gofal iechyd darbodus.

Wrth i ni ddatblygu ein ffordd o feddwl am ofal iechyd darbodus ymhellach, credaf y bydd natur gyfunol cydgynhyrchu hefyd yn dod yn fwy amlwg. Ym maes iechyd, yn arbennig, mae angen i ni ddefnyddio’r grym ar gyfer newid, sy’n dod drwy annog cymunedau o ddiddordeb mewn modd cadarnhaol. Caiff cydgynhyrchu ei gyflawni drwy godi llais cyfunol y defnyddwyr yn ogystal â thrwy’r dewisiadau y bydd pob un ohonom yn eu gwneud. Ni ddylai unrhyw ddefnyddiwr gwasanaethau cyhoeddus gael ei adael fel unigolyn ynysig. Yn hytrach dylid ei annog i gysylltu ag eraill. Nid ydym wedi rhoi digon o sylw hyd yma i’r cyfraniad y gall sefydliadau’r trydydd sector, sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr, ei wneud tuag at gyflawni’r egwyddor cydgynhyrchu yn ymarferol.

Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd pan fydd y drafodaeth ar ofal iechyd darbodus yn troi’n gydgynhyrchu  ymarferol, bydd y daith o ddwyn perswâd yn mynd hyd yn oed yn fwy heriol. “Mae hynny’n iawn mewn egwyddor,” meddai llygaid pobl wrthyf, “Ond ni fyddwch byth yn llwyddo i’w gyflawni.” Rwy’n gweld cleifion yn meddwl yr un peth am feddygon. Ac rwy’n gweld gweithwyr iechyd yn meddwl hynny am gleifion.

Gwneud iddo ddigwydd

Am y rheswm hwn rwy’n neilltuo gweddill fy nghyfraniad i esbonio pam rwy’n credu y gellir cyflawni’r newid a awgrymir yn yr agweddau hyn ar y prosbectws gofal iechyd darbodus.

Daw’r dystiolaeth fwyaf grymus o’n gorffennol diweddar ni ein hunain. Pan gyhoeddodd Barbara Castle, Gweinidog Trafnidiaeth yn llywodraeth Wilson yn 1966 – Gweinidog Trafnidiaeth nad oedd yn gallu gyrru – y byddai cyfreithiau newydd yn cael eu cyflwyno i gyfyngu ar yfed a gyrru ynghyd â system prawf anadl newydd (a ddyfeisiwyd gan Dr Tom Parry Jones, o Borthaethwy a Phrifysgol Bangor) fe wynebodd storm o brotestiadau.

Mae’n eithaf anodd meddwl am ddwy garfan lobïo fwy sefydledig na’r diwydiant alcohol a modurwyr. Er bod hyd yn oed y ddwy garfan hon yn teimlo na allent amddiffyn y cysylltiad diamheuol rhwng goryfed alcohol a marwolaethau ar y ffyrdd, roeddent yn canolbwyntio ar yr hawl ddiwylliannol – yn eu tyb hwy – i fwynhau gweithgaredd hamdden heb ymyrraeth, a oedd, yn y bôn, yn weithgaredd preifat, a bod y gyfraith yn amharu ar eu rhyddid personol.

Dyma ddyfyniad o gyfweliad radio a ddarlledwyd ar brif raglen newyddion y BBC The World This Weekend, ar 1 Hydref 1967:

 

Cyfwelydd: “Minister, this is a rotten idea. You’re spoiling my fun as a motorist. So Minister, what’s the idea behind it?”

Mrs Castle: “The idea is to save your life, not mine. I don’t drive, you do. I am ready to risk unpopularity to save you, perhaps, from yourself.”

Cyfwelydd: “You’re only a woman, you don’t drive, what do you know about it?”

 

Newid rhagdybiaethau diwylliannol

Er gwaethaf natur ddadleuol y ddeddfwriaeth newydd, ni fu fawr o dro cyn profi ei gwerth. Yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl cyflwyno profion anadl gwelwyd gostyngiad o 25% i 15% mewn damweiniau ffyrdd lle roedd alcohol yn ffactor. Cofnodwyd 1,152 yn llai o farwolaethau; 11,177 o anafiadau difrifol a 28,130 yn llai o fân anafiadau a achoswyd gan ddamweiniau traffig ar y ffyrdd. Erbyn 2012, roedd nifer y bobl a laddwyd mewn damweiniau ar y ffyrdd yng Nghymru lle roedd alcohol yn ffactor wedi lleihau i ddim ond 280. Y flwyddyn ganlynol, cofnodwyd y nifer isaf erioed o farwolaethau ar y ffyrdd yng Nghymru ers i ffigurau ddechrau gael eu casglu yn 1926.

Cafodd y prawf anadl a gorfodaeth i wisgo gwregys diogelwch (a gyflwynwyd ar yr un pryd) effaith ar unwaith ac mae’r effaith honno wedi parhau ers hynny. Roedd yn newid diwylliannol, a ddisgrifiwyd ar y pryd fel rhywbeth yr oedd yn amhosibl ei gyflawni, ond cyn pen dim nid oedd modd ei wyrdroi. Pwy heddiw fyddai’n dychmygu’r ddadl o blaid y

“rhyddid” i yfed a gyrru, neu i ychwanegu at y niwed yn sgil ddamweiniau cerbyd modur yn ennill y dydd? Rydym yn deall y fargen gydgynhyrchu lle mae niwed y gellir ei osgoi yn cael ei osgoi gan unigolion sy’n cymryd cyfrifoldeb dros y cyfraniad y mae’n rhaid iddynt ei wneud i sicrhau’r canlyniad hwnnw.

Mae fy ail enghraifft o newid diwylliannol wedi digwydd yn fwy graddol, ond gyda chanlyniadau yr un mor sylweddol. Wrth ysgrifennu’r paragraffau hyn, rwyf newydd ddychwelyd o un o ganolfannau ailgylchu Caerdydd. Ar brynhawn dydd Sul cynnes ymunais â rhes o drigolion eraill Caerdydd – yn ddynion a menywod, yr hen a’r ifanc, y du a’r gwyn – mewn gweithgaredd na fyddai modd, o edrych arno o bell, gwahaniaethu rhyngddo a nythfa o forgrug yn prysur roi trefn ar ei hunan. Ar ôl parcio, roedd y perchnogion yn neidio allan o’u ceir yn fwrlwm o weithgaredd, yn ymwybodol o bobl eraill yn aros i wneud yr un peth, sef didoli, dadlwytho a thacluso amrywiaeth eang iawn o gynnyrch y gellir eu hailgylchu i un o 14 categori gwahanol.

Pan ddeuthum i fyw i Gaerdydd yn 1979, os oeddwn yn cario’r bin sbwriel yn wythnosol at y giât i’w gasglu, roeddwn yn teimlo fel pe bawn wedi cyflawni fy rhwymedigaeth ac wedi ymgysylltu fel dinesydd. Heddiw mae pethau’n wahanol iawn – rydym yn adnabod ein sbwriel; yn ei rannu’n gategorïau; yn ei roi mewn gwahanol gynwysyddion; yn gwirio i weld pa gasgliad sy’n digwydd bob wythnos ac yn gwneud ein cyfraniad gweithredol tuag at gydgynhyrchu atebion i’r heriau amgylcheddol yr ydym oll yn eu hwynebu. Ac mae’n gweithio. Ar hyn o bryd mae cyfraddau ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio Cymru ar gyfer 2013-14 yn 54%[5]  o gymharu â 42% yn Lloegr. Mae hyn yn welliant rhyfeddol o gyfradd o ddim ond 37.5% yn 2008-09.

Diogelu pobl rhag niwed

Fy enghraifft olaf yw’r unig enghraifft uniongyrchol o’r maes iechyd ac mae’n cyfeirio at y chwyldro mewn perthynas ag ysmygu, sydd wedi bod yn gamp ryfeddol dros y 30 mlynedd diwethaf. Yma ceir tystiolaeth o’r angen i barhau i fod yn optimistaidd am y posibilrwydd o sicrhau newid diwylliannol.

Cyhoeddwyd yr ymchwil glir gyntaf a oedd yn dangos y perygl i iechyd dynol yn sgil tybaco 60 mlynedd yn ôl, ond roedd y blynyddoedd cynnar wedi’u nodweddu gan ymdrechion ffyrnig gan gwmnïau tybaco i osgoi a gwadu’r difrod yr oedd eu cynnyrch yn ei achosi. Mor ddiweddar â 1978, bron 30 mlynedd ar ôl cyhoeddi canlyniadau’r arbrofion gwyddonol cyntaf yn dangos effeithiau niweidiol tybaco, roedd 45% o ddynion yn y DU yn ysmygu. Ddeng mlynedd ar hugain arall yn ddiweddarach ac mae’r gyfradd wedi mwy na haneru gan ostwng i 21%[6]. Mae’r gyfradd hon yn parhau i fod yn llawer rhy uchel, ond mae’n gostwng yn raddol. Erbyn hyn mae llai na 10% o boblogaeth Califfornia yn ysmygu ac mae gan Seland Newydd uchelgais realistig o fod yn genedl ddi-fwg gyntaf erioed o fewn y 10 mlynedd nesaf.

Crynhodd yr Athro Simon Chapman y sefyllfa fel a ganlyn: “A Rip van Winkle awaking from a 20-year sleep would be astounded by the cultural transformation of the status of smoking from pleasant, mannered past time to a badge of low education, social disadvantage and ostracism. Cigarette packets have metamorphosed form elegant boxes to pathology museum exhibits.”[7] Ac yma, yng Nghymru, wrth gwrs, byddant yn greiriau ar gyfer yr amgueddfa pan gyflwynir pecynnau plaen.

Fel yr awgryma Chapman, ni ddylem danbrisio newid diwylliannol sy’n sail i’r newid mewn arferion ysmygu. Ym mis Gorffennaf eleni, treuliais brynhawn Sadwrn braf yn nigwyddiad mawr olaf Gŵyl Trelái yn fy etholaeth yng Ngorllewin Caerdydd. Yn ôl fy arfer, ymunais ag eraill a oedd yn rhedeg stondin y blaid Lafur. Hanner ffordd drwy’r prynhawn, daeth rhywun heibio’r stondin i weld beth oedd ar gael ac roedd yn ysmygu! Roedd pob un ohonom wedi’n syfrdanu. Yna, mewn ffordd anwyddonol iawn, fe wnaethom arolwg â’n llygaid ac ni allem weld unrhyw un arall yn ysmygu yn yr ŵyl. Hyd yn oed gyda chyfyngiadau dull o’r fath, roedd hynny’n dweud rhywbeth rhyfeddol wrthym. Mae Trelái yn ardal lle ceir cryn heriau economaidd a chymdeithasol. Mae pobl yn byw bywydau caled, yn aml o dan bwysau di-ildio i roi bwyd ar y bwrdd a chadw eu gafael ar wasanaethau hanfodol bywyd, megis trydan. Mae’r pwysau hyn yn cael eu hadlewyrchu mewn lefelau ysmygu sy’n llawer uwch na chyfartaledd Cymru. Ugain mlynedd yn ôl, byddai ysmygu yn gwbl amlwg ar faes yr ŵyl – byddai pobl wedi bod yn ysmygu ym mhob man, heb ystyried a oedd plant yn bresennol neu oedd bwyd yn cael ei weini. Yn 2014, mae pobl sy’n ysmygu gartref wedi deall y neges ddiwylliannol nad yw’n dderbyniol yn gymdeithasol i wneud hynny mewn mannau cyhoeddus.

Efallai nad yw’r trawsnewidiad wedi digwydd i bawb – fel y dangosodd ein hymwelydd – ond mae’n gwbl wir ac, o ran gofal iechyd darbodus, mae’n dangos, ochr yn ochr â’r enghreifftiau eraill a nodir yma, fod y newid diwylliannol y mae’n dibynnu arno nid yn unig yn wir, ond bod modd ei gyflawni hefyd.

Gwireddu gobaith

Disgrifiodd R H Tawney, y meddyliwr sosialaidd enwog, dranc llywodraeth Lafur 1931 fel un a ddigwyddodd “nid fel ergyd gyflym” ond drwy “gropian yn araf tuag at ei thynged”[8]. Mewn cyfnod ariannol yr un mor heriol, nid ydym yn barod i ganiatáu i’r un dynged ddod i ran y GIG yng Nghymru, hyd yn oed wrth weld tranc araf ei egwyddorion sylfaenol mewn mannau eraill.

Mae’r broses honno yn golygu bod y ffrâm sefydlog a ddefnyddir i drafod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac i adrodd arno yn y Deyrnas Unedig yn un a gynlluniwyd i argyhoeddi pobl ynghylch anobaith. Mae’n cymryd methiant eithriadol ac yn ceisio ei droi’n arwyddlun ar gyfer y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd. Fy ngwaith i, fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cenedl sydd â hoffter a pharch na welwyd eu tebyg tuag at y gwasanaeth hwnnw, yw darparu naratif sy’n gwrth-ddweud hynny.

Yng ngeiriau Raymond Williams, fe geisiaf ddangos, yn ein hoes ni, bod “bod yn wirioneddol radical yn golygu ennyn gobaith yn hytrach nag argyhoeddi pobl ynghylch anobaith”[9]. Dyna pam mae’r agenda gofal iechyd darbodus mor bwysig. Mae’n dangos sut y gallwn, hyd yn oed yn y cyfnodau anoddaf, fynd ati i lunio a darparu Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd nid yn unig yn wasanaeth cystal ag y bu erioed, ond yn wasanaeth gwell nag yr ydym erioed wedi ei ddychmygu.


Cyfeiriadau

  1. Smith R. The Case for Slow Medicine (BMJ Blogs)http://blogs.bmj.com/bmj/2012/12/17/richard-smith-the-case-for-slow-medicine/
  2. Cahn E. No More Throw-Away People: The Co-Production Imperative
  3. Miliband E. Hugo Young lecture. February 10, 2014 http://labourlist.org/2014/02/ed-milibands-hugo-young-lecture-full-text/
  4. Miliband E. Hugo Young lecture. February 10, 2014 http://labourlist.org/2014/02/ed-milibands-hugo-young-lecture-full-text/
  5. Local authority municipal waste management statistics http://wales.gov.uk/statistics-and-research/local-authority-municipal-waste-management/?lang=en
  6. Welsh Health Survey http://wales.gov.uk/statistics-and-research/welsh-health-survey/?lang=en
  7. Chapman S. Risks of Smoking: All Done and Dusted. In: Medical Milestones, Celebrating Key Advances Since 1840 http://www.google.com/url?url=http://media.christianunge.com/2013/12/Medical-milestones.-BMJ-2007.pdf&rct=j&frm=1&q=&esrc=s&sa=U&ei=UWAcVLePLu2w7AajkYGADA&ved=0CBoQFjAB&usg=AFQjCNHHDPAXibmyONQ2QgcyiQbAkeQ-Og
  1. Tawney RH. The Choice Before the Labour Party. 1932
  2. Williams R. Resources of Hope. 1988

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Yr Athro Mark Drakeford yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

@ChoosingWiselyW #MakingChoicesTogether agrees. We promote teaching skills for #shareddecisiomaking to all clinicians. #prudenthealthcare twitter.com/richardlehman1…

@WelshGovernment ..so LHBs in Wales need more psychologists to support them, & keep them from harm. #PrudentHealthcare @DiabetesUKCymru twitter.com/glycosmedia/st…