Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Ailalluogi, Adfer ac Adsefydlu: Galluogi Galwedigaethau Ystyrlon am Oes

  • Ruth Crowder, Swyddog Polisi Cymru, Coleg y Therapyddion Galwedigaethol

Crynodeb

Mae’r erthygl hon yn edrych ar y ffordd y gall ymarferwyr proffesiynau perthynol i iechyd gefnogi egwyddorion gofal iechyd darbodus. Yn y proffesiynau perthynol i iechyd rhoddir pwyslais ar ail-alluogi, adfer, iechyd a lles, drwy gefnogi pobl i fyw eu bywydau gyda gwerth a phwrpas.

Mae perygl bod systemau gofal iechyd yn creu dibyniaeth. Mae’n well galluogi pobl i gael rheolaeth dros eu bywydau eu hunain, yn lle hynny. Mae angen i glinigwyr ar draws y system gydweithio’n agosach i helpu pobl i bennu nodau ystyrlon ac yna i gyflawni’r nodau hynny. Gallai hyn olygu newidiadau yn y ffordd y mae clinigwyr yn rhoi help i bobl, gyda mwy o bwyslais ar ddeall yr hyn sy’n bwysig i’r person sy’n derbyn gofal.

Image copyright: © Chris JL

 

Galwedigaethau ystyrlon ac iechyd

Mae dewis a chymryd rhan mewn swyddi ystyrlon yn elfen allweddol o iechyd da a lles ac mae’n angen dynol sylfaenol. Galwedigaethau ystyrlon yw’r gweithgareddau hynny yr ydym yn dewis eu gwneud neu mae angen i ni eu gwneud bob dydd. Mae penderfynu beth rydym yn ei wneud gyda phob diwrnod o’n bywydau yn gyffredinol yn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth a phwrpas a gwerth i’n bywydau. Pan fydd rhywbeth yn amharu arnom neu’n ein hatal rhag cyflawni galwedigaethau ystyrlon gall colli’r gweithgaredd hwn arwain at ddibyniaeth, diffyg hyder ac iselder. Mae galwedigaethau ystyrlon yn effeithio ar ein hymdeimlad o les, hunanwerth a chynhwysiant yn ein cymunedau ac yn gwella ein hiechyd meddyliol a chorfforol yn ogystal â rhoi ystyr i fywyd.

Mae ail-alluogi, adfer ac adsefydlu yn ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol lle ceir llawer o dystiolaeth i ddangos eu bod yn gwella neu’n adfer gallu person i weithredu’n annibynnol, i ddewis ac i gymryd rheolaeth dros ei weithgareddau dyddiol. Disgrifir elfennau allweddol bob un o’r dulliau hyn isod. Mae’r gwasanaethau hyn ar gael yn gynyddol ledled Cymru ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i staff iechyd a gofal cymdeithasol:

  • ddatblygu athroniaeth ac agwedd sy’n gwerthfawrogi’r person fel unigolyn
  • adnabod capasiti a gallu person i adfer ac adsefydlu o unrhyw salwch a rheoli ei gyflwr yn yr hirdymor
  • ceisio caniatáu i’r person adfer drwy wella adnoddau cynhenid ​​y person ei hun a’r gallu i gyfarwyddo ei adferiad ei hun
  • ceisio gofyn i’r person gadw neu ddatblygu’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen arnynt i wneud rhywbeth ei hun, yn hytrach na dibynnu ar rywun arall i’w wneud ar ei ran.
Egwyddorion gofal iechyd darbodus:

Mae cyfatebiaeth dda rhwng egwyddorion galluogi pobl i fyw bywydau ystyrlon ac egwyddorion gofal iechyd darbodus. Mae’r egwyddor o beidio ag achosi niwed yn sylfaenol i ailalluogi, adfer ac adsefydlu ac eto mae niwed cynhenid ​​yn deillio o ymyriadau. Gall ymyriadau neu driniaethau wneud pobl yn ddibynnol ar wasanaethau drwy leihau eu sgiliau, eu gallu, eu hyder a’u hannibyniaeth. Ceir perygl hefyd bod gwasanaethau yn canolbwyntio ar ddiogelwch ac atal risg ar draul caniatáu i bobl fyw eu bywydau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain.

Efallai yr ystyrir mai amgylchynu pobl mewn gofal, eu hamddiffyn a’u gwneud yn ddiogel yw’r dull hawsaf a gorau i’r staff, ond gall ddinistrio grym a gallu pobl, gan greu mwy o afiechyd a dibyniaeth ar gymorth a gwasanaethau.

Mae gwasanaethau ailalluogi, adfer ac adsefydlu, gan gynnwys y rhai a ddarperir gan y proffesiynau perthynol i iechyd, oll yn ymgorffori egwyddorion gofal iechyd darbodus.

Mae gan therapyddion hanes hir o weithio gyda chynorthwywyr, gofalwyr a staff cymorth medrus i ddarparu ymyriadau sy’n galluogi pobl i adfer. Maent yn hyrwyddo cyfranogiad gweithgar a theg mewn iechyd yn seiliedig ar berthynas gydgynhyrchiol. Yn ogystal, mae gweithio’n agos â sefydliadau’r trydydd sector hefyd yn nodwedd o ymarfer proffesiynau perthynol i iechyd, yn enwedig y proffesiynau hynny sydd wedi’u lleoli yn y gymuned ac yn y maes gofal cymdeithasol.

Mae proffesiynau perthynol i iechyd yn cynnwys disgyblaethau proffesiynol penodol, sy’n defnyddio eu harbenigedd i wneud diagnosis, trin ac adsefydlu pobl o bob oed ar draws y meysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol. Yng Nghymru, mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cynnwys:

  • therapyddion celf (gan gynnwys celf, drama a cherdd)
  • ciropodyddion/podiatryddion
  • deietegwyr
  • orthoptyddion
  • therapyddion galwedigaethol
  • parafeddygon
  • ffisiotherapyddion
  • therapyddion lleferydd ac iaith
Ailalluogi

Dull personol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yw ailalluogi, lle mae’r person sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cael ei gefnogi gan dîm ailalluogi amlbroffesiynol i bennu ei nodau ei hun a’u cyflawni mewn cyfnod penodol o amser. Mae’n canolbwyntio ar yr hyn y gall pobl ei wneud, yn hytrach na’r hyn na allant ei wneud. Ei nod yw lleihau neu leihau’r angen am gymorth parhaus ar ôl ailalluogi. Mae’n mynd i’r afael ag anghenion y person cyfan, gan gynnwys anghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol.

Ceir consensws cynyddol[1-4] bod gwasanaethau ataliol effeithiol a ariennir yn briodol, megis ailalluogi, er budd gorau pobl. Gallant leihau dibyniaeth ar wasanaethau hirdymor a gwella canlyniadau iechyd, adfer gallu pobl i gyflawni eu gweithgareddau arferol a gwella ansawdd eu bywydau.[5] Gall ailalluogi hefyd sicrhau arbedion sylweddol  i’r maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â gwella bywydau cleifion.

Mae ailalluogi yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl:
  • ar ôl cael gwasanaethau ailalluogi nid oedd angen unrhyw gefnogaeth barhaus ar 70 y cant o bobl yng Nghymru[7]
  • canfu’r rhaglen Cyflawni Effeithiolrwydd mewn Gwasanaethau Gofal nad oedd angen pecyn gofal cartref ar 68 y cant o bobl ar ôl cael gwasanaeth ailalluogi ac roedd bron eu hanner, 48 y cant, yn parhau i fod yn annibynnol ddwy flynedd yn ddiweddarach[8]
  • mae ailalluogi yn helpu pobl i ail-ymgysylltu â’u cymuned pan gaiff y gwasanaeth ei gyflwyno mewn partneriaeth â chymunedau a sefydliadau’r trydydd sector
  • mae addasiadau tai yn lleihau’r angen am ymweliadau dyddiol ac yn lleihau neu’n dileu costau am ofal cartref. Cofnododd un astudiaeth arbedion o rhwng £1,200 a £29,000 y flwyddyn[9]
  • mae gohirio mynediad i ofal preswyl am ddim ond blwyddyn drwy addasu cartrefi yn arbed £28,080 y pen[10]

Mae adolygiadau o becynnau gofal presennol gan therapyddion galwedigaethol wedi cynhyrchu arbedion sylweddol. Mewn 50% o’r achosion a adolygwyd, roedd ailalluogi wedi caniatáu iddynt roi’r gorau i ddefnyddio’r pecyn gofal. Yng ngweddill yr achosion cafodd y pecyn gofal ei leihau’n sylweddol.[11]

Mae tystiolaeth hefyd bod unigrwydd ac ynysu yn cael effaith sylweddol ar les pobl. Mae llawer o wasanaethau ailalluogi yn awr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau trydydd sector lleol i sicrhau bod manteision llawn yn cael eu cyflawni drwy ailgysylltu pobl â’u cymunedau a’u galwedigaethau a’u hintegreiddio i’r cymunedau a’r galwedigaethau hynny ar ôl cyfnod yn yr ysbyty neu gyfnodau o salwch.[12]

Cynhaliwyd gwerthusiad o wasanaethau ailalluogi gan yr Uned Ymchwil Polisi Cymdeithasol (SPRU) ym Mhrifysgol Efrog a’r Uned Ymchwil Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (PSSRU) ym Mhrifysgol Caint.[13] Canfu’r astudiaeth hon fod pobl yn y grŵp ailalluogi yn dweud bod ansawdd eu bywyd sy’n gysylltiedig ag iechyd yn well mewn perthynas â phob un o’r pum maes EQ-5D (symudedd, hunanofal, y gallu i ymgymryd â gweithgareddau arferol, poen, gorbryder ac iselder) yn y sesiwn ddilynol, o gymharu â phobl yn y grŵp rheoli a oedd wedi cael gwasanaeth gofal cartref safonol dros yr un cyfnod. Roedd y gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol.

Mae angen y canlynol er mwyn sicrhau gwasanaeth ailalluogi effeithiol:
  • canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal
  • ymagwedd gadarnhaol, cydgynhyrchiol sy’n cael ei mabwysiadu gan bawb
  • gweithlu gydag ethos o weithio gyda phobl, yn hytrach na gwneud rhywbeth ar eu rhan
  • cyfranogiad gweithredol y defnyddiwr gwasanaeth a’i deulu yn y broses ailalluogi
  • hyfforddiant parhaus i’r staff
  • gwybodaeth a chymorth i deuluoedd a gofalwyr
  • integreiddio a chydweithio rhwng y meysydd iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol
  • arweinyddiaeth gref ym maes comisiynu, a chyllid digonol i wasanaethau i sicrhau canlyniadau cynaliadwy
  • gwerthusiad sy’n cynnwys canlyniadau gwasanaethau o safbwynt cymdeithasol ac ariannol i ddangos gwerth
  • asesiad da o ansawdd gan ymarferydd sydd â’r sgiliau a’r galluoedd cywir i bennu rhaglen effeithiol.
Adfer

Mae’n bosibl i bobl adfer o salwch meddwl difrifol a hirdymor ac maent yn gwneud hynny. Nod y model adfer yw helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl i edrych y tu hwnt i oroesi a bodoli. Mae’n eu hannog i symud ymlaen, gosod nodau newydd, gwneud pethau a datblygu perthnasoedd sy’n rhoi ystyr i’w bywydau.[14] Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r staff hefyd fabwysiadu ymagwedd o alluogi galwedigaethau a rhoi rheolaeth a chyfrifoldeb i’r unigolyn. Mae adfer yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol a dylai’r person sy’n dioddef salwch meddwl ei ddiffinio. Fodd bynnag, i lawer o bobl mae’n golygu ffordd o fyw bywyd boddhaus ac ystyrlon gyda salwch meddwl. Mae rhwydwaith Adfer yr Alban yn diffinio adfer fel ‘gallu byw bywyd ystyrlon a boddhaus, fel y diffinnir gan bob unigolyn, p’un a yw symptomau’n bresennol ynteu’n absennol. Mae’n ymwneud â chael rheolaeth dros eich bywyd eich hun a mewnbwn iddo. Mae adferiad pob unigolyn, fel ei brofiad o’r problemau iechyd meddwl neu’r salwch, yn broses unigryw a hynod bersonol.’ (Rhwydwaith Adfer yr Alban)  [15]

Mae gweithio tuag at adferiad yn cynnwys gobaith, derbyn, rheolaeth, diwallu anghenion sylfaenol a hyrwyddo gweithgarwch ystyrlon.[16] Mae’r broses adfer:

  • yn rhoi darlun cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, nid dim ond y symptomau
  • yn credu bod adfer o salwch meddwl difrifol yn bosibl
  • yn daith yn hytrach na chyrchfan
  • nid yw o reidrwydd yn golygu mynd yn ôl i’r man lle roeddech o’r blaen
  • yn digwydd mewn pyliau ac, fel bywyd, mae llawer o lanw a thrai
  • yn galw am optimistiaeth ac ymrwymiad gan bawb dan sylw
  • yn cael ei dylanwadu’n sylweddol gan ddisgwyliadau ac agweddau pobl
  • yn gofyn am gefnogaeth wedi’i threfnu’n dda gan deulu, ffrindiau neu weithwyr proffesiynol
  • yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau groesawu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio.

 

 

 

Ymhlith y dystiolaeth o’r cysylltiad rhwng galwedigaeth, lles ac adferiad ceir tystiolaeth sy’n dangos pwysigrwydd gwaith da o ran hyrwyddo iechyd da.[17] Mae’r nodyn cynghori diweddar ar Ddatganiadau Ffit i Weithio Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd[18] yn un enghraifft o sut y gellir hyrwyddo proses o alluogi pobl i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith. Un o nodau allweddol pob gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd yw helpu pobl i aros yn ddiogel yn y gwaith neu i ddychwelyd i’r gwaith lle bynnag y bo modd.

Adsefydlu

Gall adsefydlu fod yn rhan o ddulliau adfer ac ailalluogi, yn ogystal â bod yn ymyriad annibynnol. Mae adsefydlu – neu sefydlu i’r rhai sy’n datblygu’r sgiliau am y tro cyntaf – yn seiliedig ar y gred bod gan bobl sgiliau, galluoedd a chapasiti y gallant eu defnyddio a’u haddasu er mwyn eu galluogi i gymryd rhan mewn galwedigaethau neu weithgareddau dyddiol sy’n ystyrlon ac yn werthfawr iddynt. Mae asesu medrus, sy’n defnyddio amcanion y person ei hun i gytuno ar ganlyniadau, yn arwain at raglen o ymyriadau sy’n canolbwyntio ar gynyddu lefelau gweithgaredd a chyfranogiad.

Drwy wasanaethau adsefydlu cyffredinol a rhaglenni penodol megis strôc, cardiaidd, ysgyfeiniol neu adsefydlu galwedigaethol, mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cynnig ystod alluogol o ymyriadau sy’n gwella sgiliau gyda’r nod allweddol o alluogi pobl i fyw eu bywydau i’r eithaf.

  • Canfu astudiaeth[19] o gleifion Cymreig â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint y gellid gostwng cyfraddau aildderbyn o 33 y cant i ddim ond saith y cant drwy brosesau adsefydlu ac ailalluogi effeithiol. Mae’r ymyriadau hyn hefyd yn haneru hyd arosiadau mewn ysbytai ac yn lleihau nifer yr ymweliadau â chartrefi gan feddygon teulu.
  • Gellid cyflawni arbedion sylweddol drwy adsefydlu, drwy atal pobl rhag cael eu derbyn i’r ysbyty, lleihau hyd arhosiad a chyfraddau aildderbyn yn ogystal ag atal neu leihau’r defnydd o ofal cartref a gofal preswyl drud.[20]
  • Mae astudiaethau hefyd wedi awgrymu am bob £1 sy’n cael ei gwario ar wasanaethau ataliol, caiff £1.20 ei ennill mewn buddiannau ychwanegol yn sgil cynilion ar ddiwrnodau gwely mewn argyfwng[21]; mae canfyddiadau mwy diweddar[22] yn dangos elw ar fuddsoddiad o fwy na thair gwaith a hanner cost gwasanaethau cymorth cymdeithasol a gofal cartref.
  • Teleofal yw’r defnydd o dechnoleg a chyfarpar cynorthwyol i wella annibyniaeth. Mae’r defnydd o wasanaethau teleofal mewn prosesau adsefydlu yn arbed 3.29 o ddyddiau gwely mewn ysbytai bob blwyddyn fesul person ar gyfartaledd, ac yn arbed £257 yr wythnos y pen mewn costau pecyn gofal. Mae’n arwain at lai o dderbyniadau i’r ysbyty a gofal preswyl, mae’n rhoi tawelwch meddwl ac yn hybu annibyniaeth i ofalwyr a defnyddwyr, gan ganiatáu annibyniaeth economaidd i ofalwyr sy’n gallu mynd yn ôl i weithio.[23]
Rhagor o enghreifftiau

Mae proffesiynau perthynol i iechyd ledled Cymru, mewn gwasanaethau proffesiwn-benodol ac amlbroffesiynol, yn newid eu gwasanaethau’n sylweddol er mwyn integreiddio egwyddorion gofal iechyd darbodus. Mae enghreifftiau penodol, ymarferol o ddulliau arloesol o broffesiynau gwahanol ac ardaloedd gwahanol yng Nghymru ar gael ar wefan Pwyllgor Cynghorol ar Therapïau Cymru.

Y pum cam nesaf:
  1. Ailfodelu’r berthynas rhwng gwasanaethau ac unigolion

Fel man cychwyn, mae angen i weithwyr proffesiynol wrando ar y pethau sy’n bwysig i fywyd rhywun a’u deall, a chydnabod eu bod yn allweddol i’w lles. Bydd ymagwedd gadarnhaol, galluogol a chydgynhyrchiol gan weithlu gydag ethos o weithio mewn partneriaeth yn galluogi gwasanaethau i symud o ofalu am bobl i falio am bobl. Mae gwybodaeth amserol a hygyrch ac eiriolaeth yn hanfodol os ydym am newid yr anghydbwysedd mewn grym rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a defnyddwyr gwasanaethau. Rhaid i’r canlyniadau y mae gwasanaethau yn ceisio eu cyflawni fod yn bwysig i’r person ei hun hefyd.

  1. Mynediad teg at wasanaethau ailalluogi, adferiad ac adsefydlu ledled Cymru

Os am gyflawni egwyddorion gofal iechyd darbodus, bydd mwy o fynediad at wasanaethau sy’n canolbwyntio ar alluogi’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau iechyd ei hun yn hanfodol. Mae angen i bob gweithiwr proffesiynol a rheolwr ddeall bod yr egwyddor o beidio ag achosi niwed hefyd yn golygu dyletswydd i wella ansawdd bywyd. Bydd hyn yn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth ac yn arwain at y ddealltwriaeth nad yw cymryd cam gweithredu gyda rhywun yn gyfystyr â chyflawni’r canlyniad.

  1. Asesiadau medrus o ansawdd uchel sy’n pennu nodau unigol

Mae angen asesiadau gan weithiwr proffesiynol sy’n meddu ar y sgiliau a’r galluoedd cywir i bennu rhaglen bersonol effeithiol ar gyfer galluogi galwedigaeth. Mae asesiad yn caniatáu i dimau amlddisgyblaethol roi cynllun ailalluogi ar waith gan bennu amcanion clir a chynnig dadansoddiad o ganlyniadau tebygol. Gallai’r timau hyn gael eu trefnu o amgylch clystyrau o arferion, gyda chyfraniad gan y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Mewn llawer o achosion, bydd angen i weithwyr proffesiynol hyfforddi a chefnogi gweithwyr ailalluogi neu ofal i gyflawni’r cynllun a hyrwyddo newid ymagwedd, o wneud rhywbeth ar ran rhywun i weithio gyda rhywun. Rhaid i’r unigolyn benderfynu ar y canlyniadau mewn partneriaeth ag ymarferydd. Nid yw gwneud dim arall heblaw osgoi risg yn ganlyniad digon da mwyach.

  1. Integreiddio gwasanaethau’n well, mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr o safbwynt yr unigolyn

Dylid ffurfweddu systemau fel bod gwasanaethau yn gallu gweithio gyda’i gilydd, er mwyn helpu i gyrraedd nodau unigolyn. Mae angen rhoi mwy o werth ar rolau a sgiliau pawb yn y tîm estynedig. Mae angen i ni gydweithio. Rhaid i’r tîm amlbroffesiynol gydweithio fel blwch offer arbenigol. Yna gellir dewis yr offeryn (neu’r ymyriad) cywir i gyfateb i amgylchiadau ac anghenion unigryw yr unigolyn. Nid oes unrhyw offeryn unigol yn fwy neu’n llai gwerthfawr nag un arall. Nid oes fawr o werth mewn cael pawb yn ceisio gwneud yr un peth, gan fod hynny’n wastraff enfawr sy’n arwain at fylchau a dyblygu. Rhaid i bob ymarferydd gael cymorth i ddeall a mynegi’r gwerth ychwanegol penodol y mae’n ei gyfrannu at y tîm, er mwyn sicrhau ei fod ond yn gwneud yr hyn y mae ef yn unig yn gallu ei wneud. Bydd arfer gorau yn galw am sgiliau cyffredin er mwyn i’r staff fod yn barod i gamu y tu allan i’w rôl pan fydd angen hynny ar yr unigolyn ac i sicrhau’r canlyniad. Er mwyn gwneud hyn bydd angen i sgiliau ac arbenigedd y staff gael eu gwerthfawrogi a bydd angen buddsoddi ynddynt. Bydd angen newid dulliau cyllido er mwyn i wasanaethau allu arloesi a gwneud y peth iawn er mwyn mynd i’r afael ag anghenion a phroblemau unigol.

  1. Gwasanaethau yn y gymuned

Rhaid ystyried mai atal ac ymyrraeth gynnar drwy ailalluogi, adfer ac adsefydlu yw’r unig ffordd resymol a synhwyrol ymlaen. Mae angen i ni leihau ymyriadau diangen ond gallu eu dwysáu yn ôl yr angen. Bydd angen ymarferwyr medrus er mwyn gallu gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar farn gadarn mewn unrhyw sefyllfa benodol wedi’u cefnogi gan systemau cadarn, hyfforddiant i staff ac integreiddio i seilwaith y gymuned. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen i ni newid ein patrymau cyllido presennol a hyd yn oed gyfuno cyllidebau i alluogi gwasanaethau i ganolbwyntio o’r newydd ar atal ac ymyrryd yn gynnar a darparu gofal iechyd darbodus.

Casgliad

Bydd mynediad hawdd, amserol ac uniongyrchol i wasanaethau ailalluogi, adfer ac adsefydlu wedi’u targedu yn helpu pobl i gynnal gallu ac annibyniaeth yn yr hirdymor. Mae proffesiynau perthynol i iechyd eisoes wedi ymrwymo i’r dull ataliol hwn. Maent yn meddu ar y sgiliau a’r profiad i ddarparu ymyriadau sy’n cael eu cyfarwyddo gan yr unigolyn ac sy’n galluogi. Maent eisoes yn gallu gweithio fel integreiddwyr gofal, gydag ystod o offer a dulliau gweithredu ar gael iddynt sy’n eu galluogi i gynnig atebion newydd, creadigol i anghenion cynyddol gymhleth poblogaeth sy’n heneiddio.


Cyfeiriadau

  1. Better support at lower cost: improving efficiency and effectiveness in services for older people in Wales. Wales: SSIA; 2011.
  2. Public Health Wales. Submission to Health & Social Care Committee inquiry into residential care of older people; 2011. Available at http://www.senedd.assemblywales.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=2222
  3. National Association of Old Age Pensioners of Wales. Submission to Health and Social Care Committee inquiry into residential care of older people; 2011. Available at http://www.senedd.assemblywales.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=2222
  4. Care and Social Services Inspectorate Wales & Healthcare Inspectorate Wales. Growing old my way: review of the impact of the National Service Framework (NSF) for Older People in Wales. Wales: CSSIW/HIW; 2012.
  5. Francis J, Fisher M, Rutter D. Reablement: a cost-effective route to better outcomes. Research Briefing 36. Social Care Institute for Excellence. [Internet]. April 2011 [cited 2014 August 2]. Available at: http://www.scie.org.uk/publications/briefings/files/briefing36.pdf
  6. Wood C, Salter J. The Home Cure, London: Demos; 2012.
  7. Position statement on reablement services in Wales. Wales: SSIA; 2013.
  8. Care Services Efficiency Delivery Programme, Homecare re-ablement workstream. [Homecare reablement] retrospective longitudinal study November 2007. London: Care Services Efficiency Delivery; 2007. Available at: http://eprints.whiterose.ac.uk/73250/1/Document.pdf
  9. Heywood F, Turner L. Better outcomes, lower costs: implications for health and social care budgets of investment in housing adaptations, improvements and equipment: a review of the evidence. London: Stationary office; 2007.
  10. Laing & Buisson. Care of elderly people: UK market survey 2008. London: Laing and Buisson; 2008.
  11. Riverside Community Health Care NHS Trust. The Victoria Project: community occupational therapy rehabilitation service: research findings and recommendations. London: Riverside Community Health Care NHS Trust; 1998.
  12. The Royal Voluntary Service. Involving older age: the route to twenty-first century well-being [Internet] 2013 [cited 2014 September 11]; Available at http://www.royalvoluntaryservice.org.uk/our-impact/reports-and-reviews/involving-older-age-the-route-to-twenty-first-century-well-being.
  13. Social Care Institute for Excellence. At a glance 53: Reablement: implications for GPs and primary care [Internet]. 2012 [cited 2014 August 2]. Available at: http://www.scie.org.uk/publications/ataglance/ataglance53.asp
  14. Rethink Mental Illness. What is recovery? [Internet]. 2012 [cited 2014 August 2]. Available at: http://www.rethink.org/living-with-mental-illness/recovery/what-is-recovery
  15. Scottish Recovery Network. What is recovery? [Internet] [cited 2014 September 11]; Available at http://www.scottishrecovery.net/What-is-Recovery/what-is-recovery.html
  16. Mental Health Foundation. Recovery [Internet]. [cited 2014 August 2]. Available at: http://www.mentalhealth.org.uk/help-information/mental-health-a-z/R/recovery/
  17. UK. Department of Work and Pensions. Health, work and wellbeing – evidence and research [Internet] 2014 [cited 2014 August 2]. Available at: https://www.gov.uk/government/collections/health-work-and-wellbeing-evidence-and-research
  18. Allied Health Professions Federation. AHP advisory fitness for work report [Internet] 2012 [cited 2014 August 2]; Available at http://www.ahpf.org.uk/AHP_Advisory_Fitness_for_Work_Report.htm
  19. Chartered Society of Physiotherapy. Physiotherapy Works – Chronic Obstructive Pulmonary Disease [Internet] 2011 [2014 September 8]; Available at http://www.csp.org.uk/professional-union/practice/evidence-base/physiotherapy-works/physiotherapy-works-chronic-obstructiv
  20. The economic impact of care in the home services. London: Deloitte / British Red Cross; 2012.
  21. Personal Social Services Research Unit. National Evaluation of Partnership for Older Peoples Projects (POPP) Final Report. London: PSSRU; 2010.
  22. British Red Cross. Taking stock: assessing the value of preventative support. London: British Red Cross; 2012.
  23. Barlow J, Bayer S, Curry R, Hendy J, Wheelock A. Telecare Capital Grant in Wales: evaluation of TCG implementation. London: Imperial College London; Available at: www.ssiacymru.org.uk/telecare

Image copyright: © Chris JL


Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Ruth Crowder yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

"Canfuwyd bod ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi'u cynllunio i adfer gallu person i weithredu'n annibynnol, i ddewis ac i gymryd rheolaeth dros ei weithgareddau dyddiol yn cynyddu adferiad a boddhad mewn bywyd."

Gwneud iddo ddigwydd

  1. Er mwyn darparu gofal iechyd darbodus mae angen newid agwedd a diwylliant y maes iechyd a gofal cymdeithasol o ofalu am bobl i falio am bobl. Diwylliant sy'n rhoi gwerth ar allu pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau bywyd bob dydd er budd eu hiechyd a'u lles
  2. Mae’r dulliau cysylltiedig hyn, sef adfer, ail-alluogi ac ailsefydlu, yn lleihau'r angen am gymorth hirdymor ac yn helpu pobl i ddysgu i fyw gyda chyflyrau hirdymor a'u rheoli
  3. Mae’r dulliau cysylltiedig hyn, sef adfer, ail-alluogi ac ailsefydlu, yn galluogi'r unigolyn i adennill a chadw rheolaeth bersonol ac annibyniaeth
  4. Mae’r dulliau cysylltiedig hyn, sef adfer, ail-alluogi ac adsefydlu hunangyfeiriedig yn cynnig ystod o ymyriadau sy'n canolbwyntio ar fodloni amcanion yr unigolyn chaniatáu iddo gyfarwyddo ei adferiad ei hun
  5. Mae’r dulliau cysylltiedig hyn, sef adfer, ailalluogi ac adsefydlu yn galluogi'r unigolyn i adennill a chadw cymaint o reolaeth bersonol ac annibyniaeth â phosibl.