Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Ymateb i her y galw cynyddol ar wasanaethau gofal iechyd

  • Dan Bristow, Dirprwy Gyfarwyddwr, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru
  • Michael Trickey, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025
  • Lauren Carter, Swyddog Ymchwil, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru

Crynodeb

Mae cysylltiad agos rhwng egwyddorion ac arferion rheoli’r galw a syniadau presennol am ofal iechyd darbodus yng Nghymru a bydd yn helpu i gyfrannu at ei fabwysiadu’n llwyddiannus. Mae’r bennod hon yn rhoi cyflwyniad i rai o’r ymagweddau a fabwysiedir i reoli’r galw ac yn trafod eu perthnasedd a’u gwerth i ofal iechyd darbodus.

Demand Management

Dyfodol gwasanaethau cyhoeddus

Er mwyn i wasanaethau cyhoeddus ddod o hyd i ymateb digonol i’r wasgfa hirfaith ar wariant cyhoeddus cyffredinol, ar adeg pan mae’r galw am lawer o wasanaethau’n cynyddu, mae angen iddynt ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio ar fyrder. Os byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau fel yr ydym wedi gwneud yn y gorffennol mae’n bosibl iawn y gallai rhai gael eu gorlethu. Mae newid sylfaenol mewn gwasanaethau cyhoeddus yn angenrheidiol er mwyn i Gymru gyflawni a chynnal ymrwymiad i gyfiawnder a thegwch, egwyddorion sydd bob amser wedi bod yn sail i’n gwasanaethau cyhoeddus.

Yn wyneb yr her hon, mae diddordeb cynyddol mewn cyfres o ymagweddau sy’n dod i’r amlwg, y gellir eu grwpio gyda’i gilydd o dan y term rheoli’r galw. Mae rheoli’r galw yn helpu i nodi rhai o’r heriau a’r cyfleoedd dysgu cyffredin rhwng gwasanaethau iechyd, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Yr her

Mae cyni yma i aros. Ni ellir ei ddiystyru mwyach fel rhywbeth dros dro yn unig. Wrth bennu ei chyllideb nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwneud ei dewisiadau anoddaf ers datganoli; ac mae gostyngiadau termau real mewn cyllidebau yn debygol o fod yn fater o drefn i’r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.

Mae maint y pwysau ariannol, y galw a phwysau eraill o ran costau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi ei amlygu gan lawer o astudiaethau, gan gynnwys cyfres o bapurau a baratowyd gan Raglen Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025. Mae’r rhain yn rhagfynegi bwlch rhwng y cyllid sydd ar gael a phwysau o rhwng £2.6 biliwn a £4.6 biliwn erbyn 2025[1]. Mae modelu dilynol gan Ymddiriedolaeth Nuffield yn rhagweld y gallai’r bwlch, ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn unig, fod rhwng £1.1 biliwn a £3.6 biliwn erbyn 2025 [2].

Mae’r bwlch hwn yn rhannol yn sgil gofynion i leihau’r diffyg, ond mae hefyd yn deillio o ffactorau hysbys eraill fel effaith poblogaeth sy’n heneiddio, datblygiadau technolegol mewn meddygaeth a disgwyliadau cynyddol y cyhoedd.

Gan fod adnoddau’n brin, mae wedi dod yn bwysicach nag erioed mynd i’r afael â gwastraff, canolbwyntio adnoddau ar yr hyn sy’n gweithio a chyfyngu ar ganlyniadau anfwriadol a’u heffaith. Er eu bod yn rhan hanfodol o unrhyw ymateb, mae ffynonellau confensiynol arbedion effeithlonrwydd, megis caffael neu reoli ystadau, yn annhebygol o fod yn ddigonol ar eu pen eu hunain.

Gwella ansawdd a mynd i’r afael â chymhlethdod

Mae diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn aml wedi canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd y cyflenwad gwasanaethau gan wella perfformiad o ran darparu canlyniadau drwy bennu targedau. Rhoddwyd llai o ystyriaeth i ffyrdd o reoli’r galw am wasanaethau. Fel y mae Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 a dadansoddwyr eraill wedi dadlau, mae angen ymagwedd fwy radical arnom bellach, sy’n ystyried y system gyfan o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac sy’n pwysleisio pwysigrwydd deall y berthynas rhwng gwasanaethau cyhoeddus a’r rhai y mae eu hangen arnynt fwyaf.

Mae’r math hwn o newid systemig ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd ehangach yn ei gwneud yn ofynnol inni feddwl am faterion sy’n fwy cymhleth o lawer. Ar un pen y raddfa, mae galw diangen a grëir gan lythyrau a thaflenni sydd wedi eu drafftio’n wael sy’n arwain at nifer fawr o alwadau i ganolfan alwadau. Mae hyn wedi ei ddogfennu gan amrywiaeth eang o wasanaethau, er enghraifft sylweddolodd Cyngor Bwrdeistref Colchester fod hyn yn wir am ei dîm budd-daliadau a threthi[3].  Ar ben arall y raddfa, ceir materion cymhleth neu “ddrwg” – cyflyrau iechyd cronig, ymddygiad gwrthgymdeithasol, diweithdra hirdymor – ac ni all un sefydliad na sector fynd i’r afael â’r rhain ar ei ben ei hun, lle nad oes dealltwriaeth dda o’r achosion a lle y gall y broblem ymddangos yn anodd ei datrys.

Mae materion “drwg” yn amlochrog; mae angen i atebion adlewyrchu hyn a chael eu haddasu i adlewyrchu’r cyd-destun lleol ac amgylchiadau unigol. Bydd mynd i’r afael â hwy’n effeithiol yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus gydweithio a gweithio gyda phobl Cymru a phoblogaethau targed penodol, er mwyn iddynt allu chwarae rhan fwy gweithredol o lawer o ran helpu i ddiffinio’r broblem, cynllunio atebion a chymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu lles eu hunain a’u defnydd o wasanaethau.

Bydd gwella ansawdd a mynd i’r afael â chymhlethdod ar adeg o bwysau parhaus ar adnoddau yn galw am newidiadau sylfaenol i’r ffyrdd y mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u darparu. Nid yw’r meddylfryd, yr offer a’r strwythurau presennol yn mynd i fod yn ddigonol. Ac, yng ngoleuni hyn, mae syniadau newydd wedi dod i’r amlwg, er enghraifft defnyddio dealltwriaeth o ymddygiad, ac ailedrychir ar rai dyheadau hŷn nad ydynt wedi eu gwireddu hyd yma, megis cydgysylltu gwasanaethau.

Beth yw rheoli’r galw?

Mae rheoli’r galw yn faes sy’n dod i’r amlwg gan gwmpasu amrywiaeth o ymagweddau ac arferion. Yn y bôn mae’n ymwneud â cheisio lleihau costau a phwysau arall o ran adnoddau (sy’n aml yn rhai y mae modd eu hosgoi neu eu hatal) ar wasanaethau cyhoeddus yn ogystal â chyflawni gwell canlyniadau drwy feithrin perthynas fwy ymatebol, hyddysg a chytbwys rhwng darparwyr gwasanaethau a’r bobl maent yn eu gwasanaethu. Mae’n gwrthgyferbynnu’r galw am wasanaethau ag angen, fel ffordd o wahaniaethu rhwng y defnydd aneffeithlon o wasanaethau cyhoeddus a darpariaeth briodol[4].

Mae traddodiad hir o arweinwyr, rheolwyr a gweithwyr proffesiynol gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ar agweddau amrywiol ar reoli’r galw. Fodd bynnag, dim ond yn ddiweddar y mae’r drafodaeth wedi canolbwyntio ar yr hyn mae’n ei olygu ar gyfer y ffordd y mae sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a systemau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio yn eu cyfanrwydd. Mae hyn yn cynnwys sut maent yn berthnasol i’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaethau yn ogystal â chysylltiadau â diwygio’r gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach.

Galw ac angen

Gallwn nodi pedwar math o alw diangen, a allai fod yn wastraffus[5]:

Galw gormodol: darpariaeth ddiangen neu dargedu gwasanaethau yn annigonol. Ymhlith yr enghreifftiau mae gor-ragnodi, darparu cymorth gofal neu brawf labordy diangen, hyd yn oed aros mewn gwely acíwt am gyfnod rhy hir.  Ar ochr y defnyddiwr gall gynnwys galwadau 999 nad ydynt yn argyfyngau

Galw oherwydd methiant: a achosir gan gynllunio gwasanaethau yn wael neu fethiant gwasanaeth i ddatrys mater yn ddigonol yn y gorffennol. Gall hyn gynnwys atgyfeirio neu drosglwyddo diangen gan staff rheng flaen, asesiadau niferus, neu fethu ag ymateb i gais syml y tro cyntaf

Galw y gellir ei osgoi (neu ei atal): lle mae gwasanaethau yn mynd i’r afael â symptomau neu ganlyniadau ymddygiad yn hytrach na’r achosion sylfaenol, er enghraifft ymyriadau sy’n darparu sylfaen gymdeithasol ac emosiynol gadarn i blant neu gymorth i bobl reoli eu hiechyd eu hunain yn dda

Galw cyd-ddibynnol: mae gwasanaethau cyhoeddus yn hyrwyddo dibyniaeth yn anfwriadol, weithiau’n gysylltiedig â pherthynas cyflenwr a ŵyr orau rhwng y darparwyr a’r dinesydd nad yw’n adeiladu ar alluoedd ac adnoddau’r derbynnydd.

Mae’n werth nodi nad yw’r categorïau hyn yn annibynnol ar ei gilydd; yn wir bydd gwasanaethau a fydd yn gweld pob un o’r mathau hyn o alw i ryw raddau. Ceir tystiolaeth bod rhyw gyfran o’r defnydd naill ai’n ddiangen neu’n aneffeithlon mewn llawer o wasanaethau.  Mae enghreifftiau cyffredin o ddefnydd diangen neu aneffeithlon yn cynnwys achosion lle:

  • Mae asesiad o anghenion yn penderfynu bod rhywun yn gymwys ar gyfer rywbeth, hyd yn oed os nad oes ei angen ar y person hwnnw neu os nad yw’n bwriadu ei ddefnyddio
  • Mae amser yn cael ei wastraffu’n holi’r un cwestiynau i bobl ar fwy nag un achlysur, oherwydd bod pob pwynt cyswllt yn dechrau fel pe bai hwnnw’n bwynt cyswllt cyntaf
  • Mae’r problemau a wynebir yn rhai niferus sy’n rhyngweithio â’i gilydd, ond mae’r gwasanaethau sydd ar gael wedi eu cynllunio ar sail cylch gwaith sefydliadol yn hytrach nag anghenion defnyddiwr y gwasanaethau.

Beth bynnag fo’r achos, yr allwedd yw deall yr ymddygiad a’r amgylchiadau sy’n ysgogi’r galw, yn hytrach na’r angen, am wasanaeth.

Mae’r cysyniad hwn o alw yn ehangach na’r syniad o ofal iechyd nad yw’n ddarbodus[6]. Mae’n cydnabod bod y system iechyd yn wynebu galw sy’n deillio o ffactorau y tu allan i’w chylch gwaith neu ei rheolaeth, boed hynny’n wasanaethau eraill neu’n ffactorau cymdeithasol ehangach.  Mae hyn yn awgrymu y gallai fod yn werth cael trafodaeth ehangach ar yr her sy’n wynebu GIG Cymru – un sy’n ystyried y ffordd y mae’r system iechyd yn rhyngweithio â’r gymdeithas ehangach.

Strategaethau i reoli’r galw

Mae amrywiaeth o dechnegau ar gyfer deall a rheoli’r galw bellach yn dod i’r amlwg ar draws amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus. Nid ydym wedi ceisio llunio rhestr derfynol ond mae’r llenyddiaeth yn cyfeirio at amrywiaeth o strategaethau gan gynnwys:

Deall cwsmeriaid – gan ddefnyddio offer fel paneli defnyddwyr, mapio teithiau cwsmeriaid, dadansoddi setiau data, haenu risgiau, i greu darlun cliriach o sut a pham mae pobl yn ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus

Cynllunio ac integreiddio gwasanaethau ar sail y defnyddiwr – drwy gynnwys defnyddwyr wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, gwella integreiddio’r ddarpariaeth, cyd-gynhyrchu, gwella hunanreolaeth, cymorth rhwng cymheiriaid a chymorth cymunedol

Newid y berthynas rhwng y dinesydd a’r wladwriaeth – annog mwy o gydlyniant a gwytnwch cymunedol, a newid disgwyliadau cyhoeddus

Buddsoddi mewn atal ac ymyrraeth gynnar – symud i fyny’r gadwyn o ran ymyriadau i osgoi ymyriadau mwy costus, adweithiol ymhellach i lawr y gadwyn

Canolbwyntio ar werth a chanlyniadau – symud i ffwrdd o ddefnyddio costau ac allbwn fel matricsau perfformiad fel ffordd o leihau gwastraff a dileu darpariaeth ormodol

Defnyddio gwyddor ymddygiad fel sail i ymyriadau – deall a thargedu ysgogiadau ymddygiad, segmentu grwpiau defnyddwyr, defnyddio technegau newid ymddygiad.

Mae’r diagram isod yn amlinellu’r math o alw a sut y gellir defnyddio strategaethau gwahanol i addasu’r berthynas rhwng gwasanaethau a’r rhai sy’n eu defnyddio, er mwyn ateb y galw yn effeithiol.

 

Demand Management

Rheoli’r galw mewn llywodraeth leol

Mae llywodraeth leol wedi dangos diddordeb cynyddol mewn strategaethau i reoli’r galw a cheir nifer cynyddol o astudiaethau achos ac enghreifftiau. Mae ansawdd y dystiolaeth yn amrywio ac nid yw gwerthusiad annibynnol o ymyriadau sy’n defnyddio’r strategaethau hyn yn gyffredin, er bod rhai asiantaethau wedi ceisio meintioli’r manteision. Ceir tystiolaeth weddol gryf i awgrymu y gall strategaethau rheoli’r galw helpu i gyflawni gwell canlyniadau, ond mae’n llai clir i ba raddau y mae hyn yn mynd law yn llaw â lleihad cyffredinol yn y gost.

Ymhlith yr enghreifftiau o fentrau rheoli’r galw mae:

  • Defnyddio meddwl drwy systemau darbodus mewn gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill
  • Ymyrraeth gynnar i wella cyfleoedd bywyd pobl sy’n agored i niwed
  • Cydgynhyrchu â phobl hŷn
  • Defnyddio grwpiau cymheiriaid yn hytrach na dibynnu ar weithwyr proffesiynol
  • Integreiddio gwasanaethau.

Ceir llai o enghreifftiau o ddod â’r holl strategaethau hyn at ei gilydd i gyflawni newid ar draws y sefydliad – mae Sir Fynwy ac Oldham yn aml yn cael eu dyfynnu fel enghreifftiau o gynghorau sy’n ceisio cyflawni hyn. Mae eraill sy’n ailystyried y ffordd gyfan y maent yn gweithio a’u perthynas â chymunedau ond mae hwn yn parhau i fod yn waith ar y gweill yn enwedig oherwydd bod mwy i’w wneud i gadarnhau’r achos busnes. Ceir hefyd angen cymhellol i sicrhau bod casgliad o ffynonellau tystiolaeth gwahanol ac amrywiol, sy’n gallu bod yn ddryslyd weithiau, yn fwy hygyrch i wneuthurwyr polisi prysur, rheolwyr a gweithwyr proffesiynol er mwyn iddynt allu mabwysiadu dulliau o reoli’r galw y maent yn gwybod y byddant yn gweithio.

Rheoli’r galw a’r gwasanaeth iechyd

Mae cynnydd yn y galw ac adnoddau cyfyngedig wedi bod yn ysgogi diwygiadau ym maes gofal iechyd ers peth amser. Mae pwysau demograffig, ochr yn ochr â chostau cynyddol technolegau a chyffuriau newydd a bil cyflog sydd ond yn rhoi lle cyfyngedig i sicrhau effeithlonrwydd wedi golygu bod llawer o ddulliau o reoli’r galw wedi eu treialu ym maes gofal iechyd. Mae’r term rheoli’r galw wedi dod yn fwy cyfarwydd yn y gwasanaeth iechyd dros y degawd diwethaf[7],  er ei fod yn aml yn cael ei ddefnyddio mewn ystyr llawer mwy cyfyngedig i gyfeirio at lif cleifion yn unig.

Ceir cryn dipyn o lenyddiaeth ar y mathau hyn o fentrau ac mae nifer o ymagweddau sy’n cyd-fynd yn weddol agos â’r ddealltwriaeth ehangach o reoli’r galw a gyflwynir yn y bennod hon.  Mae enghreifftiau’n cynnwys:

Ailgynllunio systemau ac arferion gofal iechyd – Cafwyd llawer o astudiaethau o systemau ac arferion, yn amrywio o ddefnyddio technegau darbodus i Choosing Wisely. Mae Cronfa’r Brenin[7] wedi adolygu dulliau o reoli’r galw. Mae’r adolygiad hwn yn cydnabod na fydd strategaethau rheoli’r galw ar eu pen eu hunain yn datrys problemau cyllidebol y GIG yn y dyfodol ac mae’n amlygu amrywiaeth o ymyriadau a allai fod yn werthfawr fel defnyddio mesurau canlyniadau a nodir gan gleifion, gwneud penderfyniadau ar y cyd yn ogystal â chrybwyll y defnydd o TG, technolegau cynorthwyol, y dystiolaeth gynyddol ar gyfer defnyddio dulliau teleiechyd a monitro o bell gan gleifion eu hunain.

Buddsoddi mewn atal ac ymyrraeth gynnar – Dros y degawdau diwethaf mae’r ffocws ar atal wedi symud yn gynyddol tuag at iechyd y boblogaeth, a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd – amodau bywyd bob dydd sy’n cyfrannu at iechyd ac afiechyd[8].

Mae’r dystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio wrth newid ymddygiad iechyd yn amrywio o ran ansawdd a swm. Ceir tystiolaeth dda am yr ymddygiad y mae angen mynd i’r afael ag ef, ond mae’r dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd ymyriadau yn dal i ddatblygu. Er enghraifft, mae sut i fynd i’r afael ag ysmygu a chamddefnyddio sylweddau yn cael ei ddeall yn well na sut i gynyddu gweithgarwch corfforol. Yn yr un modd, er y ceir ymyriadau y dangoswyd eu bod yn llwyddiannus, er enghraifft rhaglenni addysg gan ddefnyddio nodiadau atgoffa, darparu cymorth wedi ei dargedu a chodi ymwybyddiaeth [9], nid yw effeithiau hirdymor ac effeithiolrwydd cost cymharol ymyriadau ataliol wedi eu deall yn dda o hyd.

Newid y berthynas rhwng y dinesydd a’r wladwriaeth – Mae’r Sefydliad Iechyd, ymhlith eraill, yn dadlau’r achos dros hunanreoli. Mae’r dull hwn yn cael ei ategu gan eu hadolygiad o 550 o ddarnau o ymchwil o ansawdd uchel, sy’n dangos effeithiolrwydd hunanreoli[10].

Mae awduron yr adolygiad hwn yn nodi:

“Hundreds of systematic reviews, randomised controlled trials and large observational studies have examined the impact of supporting self-management for people with long term conditions. Whilst the findings of individual studies are mixed, the totality of evidence suggests that supporting self-management can have benefits for people’s attitudes and behaviours, quality of life, clinical symptoms and use of healthcare resources.”[10]

Mae rhai astudiaethau a gafodd eu cynnwys yn yr adolygiad yn dadlau bod cynorthwyo hunanreoli yn lleihau’r defnydd o wasanaethau iechyd a’u costau. Awgrymwyd y gall rhaglenni cymorth hunanreoli leihau ymweliadau â gwasanaethau iechyd hyd at 80 y cant.

Mae canfyddiadau eraill yn awgrymu ei bod yn fwy tebygol bod patrymau defnydd gwasanaeth yn newid, yn hytrach nag yn lleihau ar y cyfan. Er enghraifft, gall pobl ymgysylltu’n amlach â nyrs practis, hyfforddwr dros y ffôn neu â chymheiriaid, ond yn llai aml gyda gwasanaethau ysbytai. Y nod yw peidio â lleihau’r cyswllt cyffredinol, ond yn hytrach cynorthwyo patrwm gwahanol o gyswllt a all arwain at lai o argyfyngau a derbyniadau cleifion mewnol.

Dadleuwyd bod rhai ymyriadau cydgynhyrchu hirdymor wedi bod yn straeon llwyddiant, fel Rhwydwaith Esther yn Sweden, sy’n helpu i ganolbwyntio gwasanaethau ar anghenion cleifion[11].  Fodd bynnag, mae dadl ynghylch i ba raddau y mae llwyddiant y system gofal iechyd yn Sweden, sydd ag adnoddau da, i’w briodoli i Rwydwaith Esther.

Defnyddio canfyddiadau ymddygiad i gynllunio ymyriadau – Mae ymddygiad afiach wedi cael effaith fawr ar y galw am wasanaethau iechyd ac efallai na fydd pobl bob amser yn ymateb yn gadarnhaol i gyfarwyddyd uniongyrchol, deddfwriaeth neu orfodaeth. Mae damcaniaeth ‘hwb’ yn seiliedig ar y cysyniad y gall atgyfnerthu cadarnhaol ac awgrymiadau anuniongyrchol ddylanwadu ar gymhellion a phenderfyniadau unigolion. Mae’r cysyniad o roi hwb yn cydnabod bod gennym ryddid i ddewis ond mae’n honni y dylai’r llywodraeth annog y cyhoedd i wneud y peth cywir[12]. Mae’r Tîm Deall Ymddygiad, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel yr Uned Hwb ac y mae ei weithwyr, Llywodraeth y DU a’r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau (NESTA)[13] yn berchen arno’n rhannol, wedi creu’r fframwaith Mindspace i helpu llunwyr polisïau i gynllunio ymyriadau gyda chanfyddiadau ymddygiad mewn cof.

Cafwyd astudiaethau ar y defnydd o gymhellion i ddylanwadu ar ymddygiad iechyd [14, 15, 16, 17, 18], ac mae’r rhain yn cynnwys:

  • Defnyddio cymhellion ariannol ac anariannol i newid ymddygiad
  • Defnyddio ymgyrchoedd gwybodaeth i newid ymddygiad
  • Gwella cymhelliad a hyder unigolion drwy gymorth i newid ymddygiad.
Cyflwr y dystiolaeth

Fel mewn llywodraeth leol, ymddengys mai cymharol brin yw’r enghreifftiau o’r holl strategaethau i reoli’r galw yn dod at ei gilydd yn y gwasanaeth iechyd i gyflawni newid ar lefel systemau.  Mae gwybodaeth am sut i gynorthwyo newid ymddygiad a rhoi’r egwyddorion hyn ar waith yn dal i gael ei datblygu. Awgryma gwaith ymchwil fod angen i bobl fod eisiau newid er mwyn iddynt newid ymddygiad[10]. Mae ymchwilwyr yng Nghronfa’r Brenin yn dadlau bod newid ymddygiad yn broses gymhleth sy’n gofyn am ymrwymiad hirdymor. Maent hefyd yn dadlau bod dulliau sy’n gweithio ar gyfer un ymddygiad yn annhebygol o fod yn hawdd eu trosglwyddo i ymddygiad arall[14] ac maent yn pwysleisio ei bod yn bwysig bod ymyriadau yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o natur yr ymddygiad y maent yn ceisio mynd i’r afael ag ef a’u bod yn targedu grŵp penodol o unigolion.

Heriau a Chyfleoedd a Rennir

Ceir cyfatebiaeth glos rhwng egwyddorion gofal iechyd darbodus ac ymagweddau rheoli’r galw.  Mae egwyddorion gofal iechyd darbodus, sef peidio â gwneud niwed, dim ond gwneud yr hyn y  gallwch ei wneud a defnyddio cyn lleied o ymyriad â phosibl, yn rhai y gellir eu mapio i’r gwahanol fathau o alw. Yn yr un modd, ceir canolbwynt a rennir ar ganlyniadau, ar gydgynhyrchu, ac ar newid y berthynas rhwng y gwasanaeth a’i ddefnyddwyr – neu, yn fwy cyffredinol, rhwng y dinesydd a’r wladwriaeth.

Mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, mewn ffyrdd gwahanol, yn mynd i’r afael â’r materion hyn yn awgrymu bod cryn botensial iddynt weithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol i gronni gwybodaeth a dysgu. Ceir dau faes allweddol lle y gwelwn heriau sylweddol ond lle y gellir gwneud cynnydd gwirioneddol.

Annog datblygu a lledaenu arloesedd

Mae angen treialu dulliau newydd, nodi’r hyn sy’n gweithio ac yna annog lledaenu syniadau da.

Mae’r sector cyhoeddus yn wael iawn am feithrin arloesedd. Mae’n digwydd, ond mae arloeswyr yn aml yn llwyddo er gwaethaf, nid oherwydd, y strwythurau a’r systemau dominyddol [19]. Mae materion cymhleth yn galw am arloesi ac atebion lleol, ac ar draws y sector cyhoeddus mae angen deall sut i annog hyn.

Rhwydwaith What Works

Mae nodi a lledaenu arferion da yn un o’r rhesymau pam y sefydlwyd y Rhwydwaith ‘What Works’ ledled y DU. Grŵp o sefydliadau a chanddynt ddiddordeb mewn nodi a lledaenu’r hyn sy’n gweithio yn eu meysydd gwahanol yw hwn. Ceir saith Canolfan ‘What Works’ sy’n gweithio ar iechyd a gofal cymdeithasol, lleihau troseddu, cyrhaeddiad addysgol, ymyrraeth gynnar, lles, heneiddio yn well, twf economaidd lleol. Mae What Works Scotland a’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn rhan o’r Rhwydwaith What Works. Mae’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn goruchwylio rhaglen ymchwil i’r hyn sy’n gweithio o ran trechu tlodi. Mae pob un yn mabwysiadu dull ychydig bach yn wahanol ond mae’r cysyniad yn seiliedig yn fras ar fodel y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Mewn Iechyd a Gofal (NICE) – adolygu’r dystiolaeth yn systematig a cheisio annog y defnydd o ymyriadau sy’n gweithio a rhoi’r gorau i’r rhai nad ydynt yn gweithio.

Yr her o ran beth sy’n gweithio

Mae dau fater pwysig y mae gwaith y Rhwydwaith yn tynnu sylw atynt. Yn gyntaf, mae angen gwella ansawdd y gwerthuso. Prin iawn yw’r rhaglenni a’r ymyriadau sy’n cael eu gwerthuso mewn ffordd sy’n galluogi asesiad cadarn o’u gwerth cymharol. Nid yw hyn yn gymaint o broblem i ymarfer clinigol, lle mae dulliau gwyddonol yn norm, ond mae’n broblem o ran diwygio gofal iechyd.

Nododd adolygiad diweddar o gydgysylltu gofal fod y diffyg gwerthuso yn y maes hwn yn golygu mai prin yw’r dystiolaeth i ategu cysylltiad cadarnhaol rhwng cydgysylltu gofal yn well a sicrhau gwell profiadau i gleifion, canlyniadau gofal ac effeithlonrwydd ariannol[20].  Mae asesiad yr awduron, sef nad yw’n ymddangos bod y gwaith o fonitro a mesur canlyniadau yn cael ei werthfawrogi rhyw lawer yn y GIG, yn wir am y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd, ac nid dim ond yn y DU.

Mae rheswm i gredu bod hyn yn mynd i newid. Mae’r Rhwydwaith What Works yn rhan o fudiad rhyngwladol ehangach o unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwella’r broses o baratoi a defnyddio tystiolaeth. Mae adeiladu tystiolaeth gryfach yn galw am weithredu ar bob lefel, o’r llywodraeth ganolog i’r ymarferydd, ac ar draws sectorau. Mae angen inni ymgorffori ymarfer a gwerthuso myfyriol.

Mae’r ail fater yn broblem oesol – sut i sicrhau bod arferion da yn lledaenu ar draws system. Mae gennym ddealltwriaeth weddol dda o’r ffactorau sy’n helpu neu’n rhwystro lledaenu arloesedd[21, 22] Ond, rydym yn bell o wybod sut i droi hyn yn set o ddulliau neu arferion sy’n gweithio’n gyson. O ystyried yr heriau a wynebir, mae cyflymdra presennol y lledaenu yn peri pryder.

Fel y dywedodd cadeirydd NICE, yr Athro David Haslam: “It takes … about 16 years for a really good idea to move from being proven to being taken up by everybody.” [23]

Unwaith eto, mae diddordeb o’r newydd yn hyn, gyda’r Sefydliad Gwaddol Addysgol (un o ganolfannau What Works) yn cynnal treialon i weld beth yw’r ffordd orau o ledaenu ei ganfyddiadau i ymarferwyr. Ac mae NESTA yn gwneud gwaith diddorol yn edrych ar sut y mae datblygiadau arloesol yn cael eu mabwysiadu[24].

Cyflawni newid systemig

Credwn mai’r ail her fawr, a’r cyfle mawr hefyd, yw cyflawni newid ar draws y system. Mae ystyried y galw am wasanaeth o reidrwydd yn arwain at feddwl am y cysylltiadau rhwng gwasanaethau a’r gymdeithas ehangach ac am newid diwylliant; yn sefydliadol ac yn gymdeithasol. Mae’r materion sy’n wynebu iechyd cyhoeddus yn enghraifft dda o hyn.

Bydd mynd i’r afael â deiet, gweithgarwch corfforol, ysmygu, a chamddefnyddio alcohol a sylweddau i gyd yn galw am gamau gweithredu gan unigolion a sefydliadau o bob rhan o’r sector cyhoeddus, a bydd yn galw am newid diwylliannol ar draws cymdeithas. Sut mae cyflawni hyn?

Ceir canllawiau i weithredu, ond nid oes ffordd sicr o lwyddo. Dyma rai o’r ffactorau a fydd yn bwysig:

Arweinyddiaeth: mae cyflawni newid systemig mewn amgylchedd lle mae pŵer yn wasgaredig yn galw am weledigaeth, naratif cymhellol, ac arweinyddiaeth gymunedol i reoli’r broses newid;

Creu’r fframwaith perfformiad cywir: canolbwyntio ar werth a chanlyniadau ond hefyd galluogi cymharu a chyfuno yn genedlaethol;

Mynd i’r afael â rhwystrau sy’n atal gwladwriaethau rhag cydweithio: mynd i’r afael â’r ffactorau ymddygiad a strwythurol sy’n golygu mai eithriad yn hytrach na norm yw darparu gwasanaeth cydgysylltiedig. Rhan allweddol o hyn fydd mynd i’r afael â’r anghymesuredd mewn cyfrifyddu ar gyfer costau a manteision, er enghraifft caiff costau ymyriad eu talu o un gyllideb, ac mae’r manteision yn cael eu gwireddu mewn un arall[25].

Mae gan lywodraeth ganolog rôl bwysig hefyd. Er na all reoli’r system, mae ganddi ddulliau niferus y gall eu defnyddio a gall y rhain, mewn egwyddor, helpu i annog trawsnewidiad. Bydd yn hanfodol sicrhau cydlyniaeth a chydgysylltiad ar draws y rhain. Ond bydd datganoli pŵer ac ymreolaeth yn angenrheidiol er mwyn galluogi arloesedd.


 

 Cyfeiriadau

  1. Jeffs M. Future Pressures on Wales Public Services: Financial, demand and other cost pressures to 2025 and a review of potential responses. Wales Public Services 2025; 2013 [Available at: http://www.walespublicservices2025.org.uk/wp-content/uploads/2013/09/Mark-Jeffs-WPS2025-Full-Report1.pdf]
  2. Roberts A,Charlesworth A. A Decade of Austerity in Wales? The funding pressures facing the NHS in Wales to 2025/26; Nuffield Trust; 2014.
  3. Local Government Association. Managing Customer Demand: Understanding and changing behaviours to help meet the financial challenge; LGA; 2013. [Available at: http://www.local.gov.uk/publications/-/journal_content/56/10180/4046716/PUBLICATION]
  4. Sheaff R, Pickard S, Smith K. Public service responsiveness to users’ demands and needs: theory, practice and primary healthcare in England. Public administration; 2002; 80(3), 435-452.
  5. Randle A, Kippin H. Managing Demand: Building future public services. RSA; 2014.
  6. Bradley P, Willson A, Buss P, Harrhy S, Laing H, Shortland G, van Woerden H. Achieving Prudent Healthcare in NHS Wales. Iechyd Cyhoeddus Cymru; 2014.
  7. Imison C, Gregory S. Approaches to demand management: Commissioning in a cold climate. The Kings Fund; 2010. [Available at: http://www.kingsfund.org.uk/sites/files/kf/field/field_publication_file/approaches-demand-management-seminar-highlights-oct10.pdf]
  8. WHO. Closing the gap in a generation: Health equity through action on the social determinants of health. Commission on Social Determinants of Health FINAL REPORT; 2008. [Available at: http://whqlibdoc.who.int/publications/2008/9789241563703_eng.pdf?ua=1]
  9. National Voices. Prioritising person centred care. Promoting prevention: Summarising evidence from systematic reviews; 2014. [Available at: http://www.nationalvoices.org.uk/sites/www.nationalvoices.org.uk/files/promoting_prevention.pdf]
  10. de Silva D. Helping people help themselves: A review of the evidence considering whether it is worthwhile to support self-management; 2011. [Available at: http://www.health.org.uk/public/cms/75/76/313/2434/Helping%20people%20help%20themselves%20publication.pdf?realName=03JXkw.pdf]
  11. Davies J, Wackerberg N, Fuge B, Harris A, Barrett-Lee P,  Matthias J.  Person driven care. London The Stationary Office, Cardiff; 2012.
  12. Thaler R, Sunstein CR. Nudge. Llundain: Yale University Press; 2008.
  13. Cabinet Office and Institute for Government. MINDSPACE. Influencing Behaviour through Public Policy. Llundain: Cabinet Office; 2010.
  14. Dixon A, Robertson R, Appleby J, Burge P, Devlin N, Magee H. Patient choice: how patients choose and how providers respond. Llundain: The King’s Fund; 2010. [Available at: www.kingsfund.org.uk/ publications/patient-choice]
  15. Coulter A, Ellins J. Effectiveness of strategies for informing, educating and involving patients. BMJ; 2007, 335, 7609, 24–7
  16. McDowell A. A Retrospective Analysis of the Efficacy of the Teens and Toddlers Programme. Llundain: Children Our Ultimate Investment UK; 2004.
  17. Payne C. Personal communication. New Mexico State University College of Business; 2010.
  18. Jochelson K Paying the Patient: Improving health using financial incentives. Llundain: The King’s Fund; 2007. [Available at: www.kingsfund.org.uk/publications/other_work_by_our_staff/paying_the.html]
  19. Mulgan G. Innovation in the public sector: How can public sector organisations better create, improve and adapt? NESTA; 2014.
  20. Goodwin N, Sonola L, Theil V, Kodner D. Co-ordinated care for people with complex chronic conditions: Key lessons and markers for success. The Kings Fund; 2013
  21. Greenhalgh T, Robert G, MacFarlance F, Bate P, Kyriakidou O. Diffusion of Innovations in Service Organisations: Systematic Review and Recommendations. The Milbank Quarterly; 2004, 82,4, 581-629. Blackwell Publishing.
  22. Downe J. A Shared Responsibility: Maximising Learning from the Invest to Save Fund. Public Policy Institute for Wales; 2014.
  23. Ruis F, Breckon J. The NICE way: Lessons for social policy and practice from the national institute for health and care excellence. NICE; 2014.
  24. Stokes K, Baker R, Pigott R. Which doctors take up promising ideas? New insights from open data. NESTA; 2014 [Available at: http://www.nesta.org.uk/sites/default/files/which_doctors_take_up_promising.pdf]
  25. Randle A, Kippin H. Managing Demand: Building future public services. RSA; 2014.

 


Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Dan Bristow yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

Demand Management infographic

@ChoosingWiselyW #MakingChoicesTogether agrees. We promote teaching skills for #shareddecisiomaking to all clinicians. #prudenthealthcare twitter.com/richardlehman1…

@WelshGovernment ..so LHBs in Wales need more psychologists to support them, & keep them from harm. #PrudentHealthcare @DiabetesUKCymru twitter.com/glycosmedia/st…