Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Cyfraniad hollbwysig tai at wella canlyniadau iechyd yng Nghymru

  • Matthew Kennedy, Cartrefi Cymunedol Cymru

Crynodeb

Mae’r bennod hon yn ystyried sut y mae tai, ac yn fwy penodol cymdeithasau tai, yn bartner allweddol o ran cyflawni’r ymagwedd newydd tuag at iechyd yng Nghymru a amlinellir yn egwyddorion gofal iechyd darbodus.  Byddwn yn ymhelaethu ar y ddealltwriaeth gonfensiynol am dai, gan amlygu sut y mae’r sector cymdeithasau tai yn addasu i ddiwallu’r angen mewn ffordd ataliol.  Bydd y bennod hefyd yn ymchwilio i syniadau cyfoes o ran sut y gall arloesedd yn ymwneud â chymdeithasau tai ategu, ysgogi a chynnal yr ymagwedd gofal iechyd darbodus.

Prudent Housing

Cyflwyniad

Mae tai wedi cael ei gydnabod fel ffactor sy’n dylanwadu ar iechyd ers yr ymdrechion cynnar i wella iechyd cyhoeddus yn y 19eg Ganrif.  Gall tai gwael nad ydynt yn gallu cadw gwres, sydd mewn cyflwr gwael neu na ellir eu haddasu i ddiwallu anghenion symudedd presennol neu anghenion o’r fath yn y dyfodol gael effaith sylweddol ar allu pobl i fwynhau yr ansawdd bywyd y maent yn ei ddymuno yn ogystal ag amddiffyn eu lles meddyliol a chorfforol eu hunain.

Gwyddom fod ein bywyd fel arfer yn cylchdroi o amgylch y cartref – o’r drefn ddyddiol i ddathliadau arbennig.  Gall peidio â chael cartref neu ddiffyg cartref cywir arwain at  oblygiadau difrifol a pharhaus.

Yn ogystal â chydnabod effaith tai gwael a digartrefedd, gwyddom hefyd fod gwella ansawdd tai a darparu’r ymyrraeth gywir ar yr adeg gywir i breswylwyr yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau iechyd[1].

Deall tai

I ddechrau, mae’n bwysig deall ystyr tai.  Gall “tai” gyfeirio at eiddo preswyl cymdeithasau tai, y sector preifat neu awdurdodau lleol.  Gan edrych yn fanwl ar y sector cymdeithasau tai yng Nghymru, mae’r heriau a’r cyfleoedd o ran gweithio gyda’r gwahanol sectorau tai yn unigryw. Felly, mae’n bwysig nad ydym yn rhy barod i gyffredinoli wrth feddwl am dai.

Mwy na brics a morter

Caiff tai oer effaith sylweddol.  Mae tai oer yn arwain at ddirywiad mewn iechyd pobl ac yn effeithio ar eu hanadlu, eu cylchrediad a’u hiechyd meddwl[2]. Mae cymdeithasau tai yn deall pwysigrwydd adeiladu cartrefi o ansawdd uchel.  Maent yn adeiladu i fodloni safonau amgylcheddol a gellir addasu’r tai yn rhwydd yn ôl yr angen.  Mae cymdeithasau tai hefyd yn gwneud llawer mwy i leddfu effaith tlodi tanwydd, gan gynnwys:

Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy Safon Ansawdd Tai Cymru a rhaglenni ynni megis Arbed.

Helpu tenantiaid i wneud y gorau o’u hincwm drwy gyfleoedd cyflogaeth, yn ogystal â phrosiectau megis yr ymgyrch Mae Budd-daliadau yn Newid. Mae’r prosiect hwn yn helpu tenantiaid i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl i’w cael. Un maes llwyddiannus oedd sefydlu’r Disgownt Cartref Cynnes – y llynedd, llwyddodd Mae Budd-daliadau yn Newid i helpu mwy na 900 o bobl i hawlio ad-daliad, a chyda’i gilydd cafwyd cyfanswm o £127,960 ar gyfer y flwyddyn.

Helpu i geisio negyddu’r cynnydd mewn prisiau ynni drwy gamau megis newid ymddygiad o ran y defnydd a wneir o ynni.

Edrych y tu hwnt i’r ffisegol

Er mwyn cyflawni’r posibiliadau yn llawn, mae’n rhaid inni edrych y tu hwnt i effaith a chyfleoedd i ymyrryd â’r amgylchedd ffisegol yn unig.  Fel yr amlygir yn y bennod hon, mae’r cyfleoedd i dai gyflawni’r agenda gofal iechyd darbodus yn llawn yn seiliedig ar ein gallu i edrych y tu hwnt i dai fel rhan o’r amgylchedd ffisegol yn unig.  Bydd angen inni ehangu ein dealltwriaeth o botensial tai, i gwmpasu agweddau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd tai hefyd.

Cymdeithasau Tai yw rhai o’r sefydliadau sydd fwyaf ynghlwm sy’n ymwneud fwyaf â rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.  Mae eu swyddogaethau yn mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn yr ydym yn eu hystyried yn swyddogaethau landlordiaid traddodiadol, er enghraifft mae llawer o Gymdeithasau Tai bellach yn cynnig:

  • Ystod o wasanaethau gofal amrywiol a hyblyg
  • Tai â chymorth gan weithio gyda grwpiau a allai fod yn agored i niwed a’u gwasanaethu
  • Ymgysylltu â’r gymuned
  • Cynhwysiant digidol
  • Cyngor ariannol
  • Mentrau cyflogaeth a sgiliau

Mae gofal iechyd darbodus yn ein hysgogi i feddwl yn fwy dwys am y ffactorau sy’n effeithio ar fywyd unigolyn y tu allan i ddrws yr ysbyty, ar ôl iddo gael triniaeth.  Mae llawer o’r ffactorau cyffredin sy’n ysgogi newid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru o ran cynnydd yn y galw, lleihad mewn adnoddau a disgwyliadau’r cyhoedd yr un fath â’r rhai sy’n effeithio ar gymdeithasau tai.

Ein tenantiaid, cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, cwsmeriaid…

Bydd yr heriau sy’n wynebu tenantiaid a chymdeithasau tai yng Nghymru yn sicr o effeithio ar y GIG yn ogystal â gwasanaethau cymdeithasol.  Mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU wedi cael effaith sylweddol ar landlordiaid a thenantiaid cymdeithasol fel ei gilydd.  Rydym yn rhagweld y bydd y rhain ond yn rhoi mwy o bwysau ar gyllid llawer o deuluoedd ac unigolion.

Mae cael gwared â’r cymhorthdal ystafell sbâr wedi golygu y bu’n rhaid i lawer o denantiaid symud i eiddo llai, ac weithiau mae’n rhaid iddynt symud o’r sector rhentu cymdeithasol i’r sector preifat.  Yn draddodiadol, mae cymdeithasau tai wedi adeiladu tai i deuluoedd sydd, yn yr amgylchedd presennol, wedi golygu prinder eiddo un a dwy ystafell wely, er bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y ddarpariaeth hon.  Mae cyflwyno taliadau uniongyrchol, ble mae’r tenant yn cael ei fudd-dal tai yn uniongyrchol yn hytrach na’i dalu’n syth i’r landlord, yn arwain at oblygiadau o ran sut y mae unigolion yn rheoli eu harian ac yn talu eu rhent ac mae rhai mewn perygl o fynd i ôl-ddyledion rhent o ganlyniad i hynny.

Gwyddom fod galw cynyddol am gyngor a chymorth wrth i ddiwygiadau lles arwain at gynnydd mewn pryderon ariannol.  Er bod yr ymgyrch ‘Mae Budd-daliadau yn Newid’ a chymdeithasau tai yn parhau i ddarparu cyngor annibynnol i denantiaid y mae’r polisi wedi cael effaith andwyol arnynt, gwelwyd goblygiadau – a bydd goblygiadau o hyd – i wasanaethau iechyd meddwl, meddygfeydd ac adrannau damweiniau ac achosion brys wrth i’r pwysau ariannol ar unigolion a theuluoedd arwain at gyfnodau estynedig o argyfwng.

Dim ond blaen y gyllell yw diwygio lles

Dim ond un o nifer o ffactorau yw diwygio lles sydd gyda’i gilydd yn dwysáu yr hyn sydd wedi creu tlodi dwfn am gyfnod maith i lawer o gymunedau ledled Cymru.  Gwyddom na ellir datrys tlodi drwy ddiwallu anghenion tai yn unig.  Rhaid rhoi sylw, ymysg pethau eraill, i gyflogaeth, iechyd a chynhwysiant cymdeithasol… Dyma pam mae rhoi sylw i anghenion ar yr adeg gywir yn parhau i fod mor hanfodol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, a hyd yn oed fwyfwy rhwng byrddau iechyd a chymdeithasau tai.  Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau a’r cyfleoedd i gefnogi pobl yn y ffordd gywir, ar yr adeg gywir.

Cefnogi Pobl

Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth megis digartrefedd, cam-drin domestig a chamddefnyddio sylweddau.  Cymdeithasau tai yw rhai o’r darparwyr sy’n cynnig y gwasanaethau hyn sydd wedi’u cynllunio i atal unigolion rhag ymyriadau mwy dwys yn y tymor hwy.  Mae’r gwasanaethau hyn yn cydweithio ag unigolion i nodi heriau a rhwystrau a mynd i’r afael â hwy, dod o hyd i gyfleoedd a gwneud y gorau ohonynt i gyflawni eu nodau a’u dyheadau a chefnogi pobl i symud ymlaen a pharhau i fyw’n annibynnol.

Fodd bynnag, mae toriadau i gyllid y rhaglen yn codi cwestiynau ynghylch sut y gall y rhaglen barhau i ddiwallu’r galw mewn ffordd ataliol a darbodus.  Mae hefyd yn werth ystyried y cyfleoedd sydd y tu hwnt i’r materion sy’n ymwneud â’r gyllideb Cefnogi Pobl.  Bydd y rhain hefyd yn ein helpu i fynd gam o’r ffordd tuag at gefnogi pobl yn y ffordd gywir ar yr adeg gywir:

  • Cysylltu â darparwyr tai i sicrhau y gellir derbyn gofal diwedd oes yn y cartref
  • Gweithio gyda chymdeithasau tai i edrych ar sut y gall mwy o le mewn gofal ychwanegol a thai gwarchod ddarparu llety cam-i-lawr
  • Dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ryddhau capasiti mewn gweithluoedd rheng flaen perthnasol – er enghraifft, gallai gweithwyr proffesiynol anfeddygol annog cleifion i gymryd meddyginiaeth
  • Gwneud defnydd llawn o wasanaethau cyngor ariannol er mwyn sicrhau bod materion iechyd sy’n deillio o galedi ariannol yn cael sylw
  • Creu adnoddau mewn cymunedau – cyfuno cyfleusterau cymunedol gyda fferyllfeydd, meddygfeydd meddygon teulu ac ati, a gweithio gyda chymdeithasau tai ac adnoddau iechyd a’u defnyddio
  • Defnyddio ymagwedd gydweithredol i ddiwallu anghenion tai yn strategol, er mwyn osgoi lleoli pobl oddi wrth eu teulu neu’u cymuned leol.
Ein gweithlu ar y cyd

Gan gyflogi mwy nag 8,000 o bobl yn llawn amser yn ystod 2013-14[3], nodir lefelau uchel o foddhad staff yn gyson mewn cymdeithasau tai.  Pe byddech yn edrych ar unrhyw arolwg boddhad tenantiaid, o’r un mwyaf cyfredol, i un flynyddoedd yn ôl, nid yw’n syndod bod hyn yn cael ei adlewyrchu mewn lefelau uchel o foddhad ymysg y rhai sy’n derbyn y gwasanaethau.

Dylid ystyried staff cymdeithasau tai – o swyddogion tenantiaid i nyrsys arbenigol – fel estyniad i’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.  Mae cyfleoedd rhagorol ar gael i wasanaethu ein cymunedau drwy ymagwedd ag iddi ffocws sy’n gwneud y gorau o’n gweithlu gwybodus ac amryddawn.  Mae gofal iechyd darbodus yn annog staff gofal iechyd i ddim ond gwneud yr hyn y mae ganddynt y sgiliau a’r gallu i’w wneud er mwyn sicrhau y defnyddir arbenigedd yn y ffordd gywir ar gyfer y bobl gywir, yn  briodol ddigon.  Fodd bynnag, mae angen inni hefyd ystyried yr hyn y gall aelodau eraill o staff, ar draws y sector cyhoeddus ei wneud mewn partneriaeth â’r gwasanaeth iechyd.

Gweithio gyda chymunedau ac ar eu rhan

Mae’r cyfuniad o dlodi, diwygio lles, toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus, y galw am dai, yr angen am gymorth i denantiaeth a rôl ehangach y sector i gefnogi iechyd, cyflogaeth ac annibyniaeth wedi arwain at sefyllfa ble nad oes gan gymdeithasau tai, yn yr un modd â’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill, unrhyw ddewis ond bod yn ddarbodus.

Gall cymdeithasau tai yng Nghymru uniaethu’n fawr ag egwyddorion gofal iechyd darbodus a’r neges sy’n sail i gydweithredu â’r cyhoedd.  Mae’n agor y drws i ymagwedd gyffredin, ac iaith gyffredin rhwng y meysydd tai a gofal iechyd a fydd yn creu canlyniadau cyson o ansawdd uchel i’r rhai yr ydym yn gweithio â hwy.

Mae cyfraniadau unigol yn cyfrif

Er mwyn gwneud i ofal iechyd darbodus weithio, mae’n hanfodol ein bod ni, ynghyd â phobl Cymru, yn dod yn arbenigwyr mewn meithrin gallu pobl i gyflawni eu gwerth, eu huchelgais a’u rôl mewn cymdeithas.  Yn y sector cymdeithasau tai yng Nghymru, rydym wedi gweld y gwerth aruthrol a ddaw yn sgil craffu gan denantiaid, grwpiau ffocws a gwirfoddolwyr.  Wedi’i defnyddio mewn gwella busnes, mae datblygu cymunedau cryfach a datblygiad personol yn dangos y gall yr ymagwedd hon arwain at ganlyniadau â gwerth uchel i bob un dan sylw.

Gan ddeall y gwerth hwn, mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn gweithio gyda chymunedau i gefnogi gweithgareddau parhaus sy’n sicrhau llais a rheolaeth o ran y ffordd y mae cymdeithasau tai yn gweithredu, yn ogystal â gwella iechyd a lles drwy gymryd rhan mewn gweithgarwch cymunedol.

Cynlluniau bancio amser

Mae cynlluniau bancio amser, a luniwyd yn wreiddiol gan Edgar Cahn, pan oedd yn yr ysbyty yn gwella ar ôl trawiad ar y galon[4], yn ddull o ymgysylltu â chymunedau a gwobrwyo pobl am fuddsoddi eu hamser, eu sgiliau a’u harbenigedd ymysg ei gilydd a chyda sefydliadau.  Mae hon yn ymagwedd sydd wedi’i mabwysiadu’n llwyddiannus gan lawer o gymdeithasau tai yng Nghymru.

Mae cynlluniau bancio amser yn syml iawn.  Am bob awr y mae rhywun yn ei gyfrannu mae’n cael credyd amser y gellir ei gyfnewid am ystod o weithgareddau a ddarperir gan sefydliadau cenedlaethol mawr yn ogystal â darparwyr annibynnol lleol.  Gallai’r buddiannau gynnwys tripiau i’r sinema, defnyddio cyfleusterau hamdden ac amrywiaeth o dripiau undydd[5].

Yr hyn y mae cynlluniau bancio amser yn ei ddangos yw bod cymorth a ysgogir ar lawr gwlad mewn cymunedau, mewn llawer o achosion, yn fyw ac yn iach.  Y math hwn o weithgaredd yw’r union weithgaredd y mae gofal iechyd darbodus a chyd-gynhyrchu yn ein hannog i gyd, fel sefydliadau ac fel unigolion, i’w ddefnyddio.  Mae’n rhaid i’r broses o ail-ddiffinio’r berthynas â’r cyhoedd gynnwys pwyslais ar werthfawrogi’n llawn yr hyn y gall pobl ei gynnig a’r hyn y maent yn ei gynnig eisoes yn eu hardal leol.

Mewn ymarfer casglu data eang a gwblhawyd yn ddiweddar gan Spice [6], sef menter gymdeithasol sy’n gweithio gyda sefydliadau a chymunedau i ddatblygu cynlluniau bancio amser, gwelwyd bod cynlluniau bancio amser wedi bod o fudd i ymatebwyr yn y ffyrdd canlynol:

  • Dywedodd 45 y cant eu bod yn teimlo’n iachach
  • Dywedodd 95 o bobl fod ganddynt gymhelliant i ddechrau grŵp cymunedol
  • Dywedodd 19 y cant nad ydynt wedi bod i weld y meddyg mor aml ers dechrau ennill cyflog a defnyddio credydau amser
  • Roedd 76 y cant yn teimlo y gallent gyfrannu mwy o’u hamser.
Ymagwedd yr Alban

Yn yr Alban, gwneir cynnydd drwy gysylltu gofal sylfaenol a gweithgarwch cymunedol. Mae’r ymagwedd yn ategu rôl y gwasanaethau rheng flaen i gynnig ymyriadau parhaus, gan wneud y defnydd gorau o adnoddau sy’n cael eu hysgogi gan bobl ar lawr gwlad.

Mae System Gwybodaeth Leol ar gyfer yr Alban (ALISS), yn defnyddio cronfa ddata fawr y gall pobl fwydo gweithgareddau iddi ac yna gall unrhyw ddefnyddiwr edrych ar y gronfa ddata a’i chwilio yn ôl yr angen.  Gellir gwneud hyn yn annibynnol neu drwy ymweld â’u meddyg teulu.  Drwy fapio gweithgareddau cymunedol, mae’r system ALISS yn galluogi rhywun i drafod dewisiadau gyda’i feddyg teulu gan wella ei les a lleihau’r angen am feddyginiaeth neu wasanaethau gofal iechyd eraill.[7]

Mae’r adroddiad “Improving Links in Primary Care Project” yn dangos sut y mae system ALISS wedi bod o fudd i gleifion o’u safbwynt hwy.  Mae’r safbwyntiau hyn yn cyfleu potensial yr ymagwedd hon:

“Er bod y cyffuriau gwrthiselder wedi fy helpu i sefydlogi roeddwn yn isel o hyd, ond yna cefais wybod am y grŵp Cymorth i Fenywod lleol a’r grŵp cymunedol a allai helpu gyda’r plant gan fy mod yn ei chael hi’n anodd magu dau fachgen bach ar fy mhen fy hun.  Rwy’n gweld fy ffrindiau’n amlach, ac rydym yn cyfarfod heb y plant.  Mae hefyd wedi fy helpu drwy roi amser imi feddwl am fynd i’r coleg ac rwy’n bwriadu gwneud hynny – rwyf am hyfforddi i fod yn barafeddyg ac mae hyn wedi rhoi uchelgais go iawn imi mewn bywyd.  Roeddwn ar ddos eithaf uchel o gyffuriau gwrthiselder ond mae’n llawer is erbyn hyn.”  Claf sy’n defnyddio ALISS [7]

“Nid oeddwn erioed wedi siarad â’r meddyg teulu am fy mhroblemau ariannol oherwydd amser i ffwrdd o’r gwaith, ond roedd yn fy mhoeni ac o bosibl nid oedd yn helpu’r ffordd roeddwn yn teimlo’n emosiynol.  Dim ond pan ddywedwyd wrthyf bod gennyf hawl i gael cymorth ariannol a budd-daliadau penodol y gwnes i edrych i mewn i’r peth ac, wir i chi, cefais gymorth gyda hyn.  Cefais hyd yn oed gymorth i gwblhau’r ffurflen a oedd yn hunllef.  Roedd yn help mawr imi ac roedd yn fodd o  leddfu’r pwysau ariannol.” Claf sy’n defnyddio ALISS [7]

Gyda phwysau sylweddol ar wasanaethau gofal sylfaenol, mae’n hanfodol ein bod hefyd yn ceisio gwneud y cysylltiadau cywir.  Mae’n rhaid rhoi sylw i gyflyrau economaidd-gymdeithasol sy’n sail i ddirywiad mewn iechyd mewn ffordd holistaidd.

Gall cymdeithasau tai, awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol i gyd gefnogi cymunedau i ddatblygu gweithgareddau sy’n fuddiol i’r naill ochr a’r llall a hefyd bod yn fuddiolwyr cyswllt cymunedol eu hunain.  Wrth ei ddefnyddio gyda gweithwyr proffesiynol megis meddygon teulu, gall adnodd fel hwn fod yn ddull pwerus iawn o leihau dibyniaeth ar wasanaethau iechyd craidd, cynyddu effaith unigolion ar eu hiechyd eu hunain ac iechyd y rhai o’u hamgylch.

Enghreifftiau o ymarfer arloesol

In One Place – Rhaglen Gydweithredol Gwent

Rhaglen gydweithredu ffurfiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, pum awdurdod lleol a naw cymdeithas dai yw In One Place.

Caiff y rhaglen ei chynnal o dan gytundeb cydweithredu sy’n rhwymo mewn cyfraith a gymeradwywyd drwy brosesau craffu pob sefydliad partner ac a lofnodwyd yn ffurfiol ar Ionawr 23, 2014. Fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol a’r Gronfa Gofal Canolraddol.

Mae cytundeb cydweithredu In One Place yn galluogi partneriaid i:

Sefydlu cyfrwng arbennig sy’n hwyluso ymagwedd gydweithredol tuag at ddelio â gofynion llety pobl sydd ag anghenion gofal cymdeithasol ac iechyd cymhleth mewn un lle, gan alluogi partneriaid i symleiddio gweithdrefnau caffael pan fyddant yn berthnasol.

Cytuno ar lety ar wahân a gofynion cymorth gofal yn y dyfodol, pan fo’n bosibl.

Cysoni prosesau cynllunio iechyd, gofal cymdeithasol a thai i sicrhau bod anghenion llety presennol ac yn y dyfodol (a gofal a chymorth) yn cael sylw cyn gynted â phosibl.

Yn ogystal â chanlyniadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaethau a’u rhwydweithiau cymorth, mae gan y model In One Place y gallu i greu arbedion sylweddol ar draws asiantaethau drwy leihau costau llety drwy ddefnyddio budd-dal tai, asedau cyfalaf ac arian grant yn effeithiol.

Drwy gydweithio, gellid defnyddio’r model hefyd i gynnal effeithlonrwydd mewn costau gofal heb unrhyw effaith negyddol ar ansawdd y gofal a’r cymorth. Mae Tîm In One Place yn disgwyl cyflawni gwell ansawdd gwasanaeth a chanlyniadau gwell i bob rhanddeiliad drwy ddefnyddio cartref rhywun yn sail i’r holl ofal a chymorth.

Mae rhai modelau ariannol cynnar wedi dangos cynilion posibl o fwy na £80,000 y flwyddyn fesul achos gofal iechyd parhaus yn y GIG wedi’i rannu rhwng llety (£9k) a gofal a chymorth (£71k). Mae tîm y rhaglen In One Place yn disgwyl adolygu pob achos cyfredol (78), gan gynnwys lleoliadau y tu allan i’r sir yn benodol (24) yn erbyn y model In One Place.  Yn ogystal ag achosion presennol, mae tîm In One Place yn ymwybodol o 29 o achosion pontio o wasanaethau plant dros y ddwy neu dair blynedd nesaf.

Lleihau oedi wrth drosglwyddo gofal – Cymdeithas Tai Taf

Caiff y Prosiect Goleudy ei reoli’n uniongyrchol gan Gymdeithas Tai Taf, gan weithio mewn partneriaeth â thîm Cefnogi Pobl Cyngor Sir Casnewydd.  Cyngor dinas Casnewydd sy’n ariannu’r prosiect i ddarparu cymorth yn ôl yr angen – gwasanaeth sy’n darparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai i oedolion sy’n agored i niwed er mwyn eu galluogi i gadw eu hannibyniaeth yn eu cartref eu hunain.

Creodd y Prosiect Goleudy leoliad gweithiwr cymorth i denantiaid ysbyty, gan i’r prosiect sylweddoli bod oedi mewn cymorth i gleifion sy’n gadael Ysbyty Brenhinol Gwent oherwydd atgyfeiriadau trydydd parti a gwaith papur a chyswllt diangen.  Gwnaed cais am weithiwr cymorth i denantiaid gan dîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty yng Nghasnewydd.

Roedd gan y tîm gwaith cymdeithasol brofiad mewn atgyfeirio cleifion i gael cymorth gan y Prosiect Goleudy ac roedd yn gwerthfawrogi gwerth y cymorth sy’n gysylltiedig â thai.  Fodd bynnag, cafwyd oedi diangen wrth ddechrau darparu cymorth a chytunodd y Prosiect Goleudy, y tîm Cefnogi Pobl a thîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty y byddai o bosibl yn fanteisiol cael gweithiwr wedi’i neilltuo o fewn tîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty. Gallai’r gweithiwr cymorth i denantiaid hwyluso’r broses o ryddhau o’r ysbyty’n ddiogel a chynnig pecyn cymorth mwy cynhwysfawr, gan weithio mewn partneriaeth â gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol yr ysbyty.

Roedd canlyniadau’r prosiect hwn yn cynnwys:

Gwasanaeth cyflymach a mwy ymatebol i’r rhai sy’n aros i gael eu rhyddhau

Cymorth parhaus yn ôl yr angen wedi’i drefnu pan fo’n briodol er mwyn gallu cynnal annibyniaeth a chyflawni nodau unigol

Lleihad yn nifer y bobl sy’n dychwelyd i’r ysbyty oherwydd archwiliadau diogelwch, cymorth sy’n gysylltiedig â thenantiaeth a dangos y ffordd i asiantaethau eraill neu lety mwy priodol

Arbed costau i wasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Closer to Home – Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf

Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yn darparu tai ledled Cymru a Swydd Amwythig er mwyn galluogi oedolion ag anabledd dysgu i fyw’n annibynnol, gyda chymorth yn y gymuned.

Mae Closer to Home yn gam cadarnhaol tuag at leihau nifer y bobl mewn lleoliadau sefydliadol sydd ag anableddau dysgu ac sy’n ymddwyn yn heriol hefyd.  Mae’n bwysig iawn o gofio’r sgandal yn Winterbourne View yn Lloegr.

Nod y fenter yw galluogi pobl ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol sy’n byw y tu allan i sir eu cartref i symud yn ôl i’w hardal leol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd ac Abertawe.  Mae hyn yn atal lleoliadau pellach y tu allan i’r ardal ac yn lleihau nifer y derbyniadau i wasanaethau aciwt.

Mae Dewis Cyntaf yn darparu swyddogaeth landlord fel rhan o’r mentrau, ac mae’n dod o hyd i’r math o lety sydd ei angen ac yn ei ddatblygu.  Mantais llety byw â chymorth yw ei fod yn hyrwyddo hawl ac annibyniaeth unigolyn i fyw mewn cartref arferol yn y gymuned.  Yn ogystal, mae’n rhoi hawl gyfreithiol i unigolion penodol, fel tenant, fyw yn eu cartref, gyda gofal a chymorth priodol ac mewn eiddo sydd wedi’i addasu i gyd-fynd â’u hanghenion.

Yn seiliedig ar yr astudiaeth achos hon, dyma enghraifft o’r arbedion (y flwyddyn) y gellid eu cyflawni:

Cost lleoli y tu allan i’r dalgylch £311,000 y person

Closer to Home                         £90,000 y person

Arbedion                                   £221,000 y person

Caiff eiddo ychwanegol ar gyfer y cynllun hwn ei ddarparu gan Gymdeithas Tai Dewis Cyntaf yn ardal Abertawe yn y bartneriaeth hon yn ystod 2014-15.

Y dyfodol

Yn ogystal â newid y ffordd y caiff gwasanaethau gofal iechyd eu darparu, bydd Dewis Cyntaf hefyd yn newid y ffordd y mae’r gwasanaethau cyhoeddus, y sector gwirfoddol a’r sector preifat yn cydweithio.  Yn y sector cymdeithasau tai, rydym yn fwy ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu’r GIG, awdurdodau lleol a’r sector annibynnol ac yn cydnabod y caiff yr heriau hyn eu rhannu ar draws y gwasanaethau.  Bydd rhannu sgyrsiau am y materion hyn yn ein helpu i ddefnyddio geirfa gyffredin, trafod ein heriau a gweithredu atebion gan gynnwys y cyhoedd yn llawn yn y broses o ddatrys problemau a dod o hyd i atebion.

Cysondeb

Mae gofal iechyd darbodus yn nodi ein hymrwymiad ar y cyd i gysondeb.  Mae llawer o’r enghreifftiau yr ydym yn eu hamlygu yma yn unigryw i leoliad neu ranbarth penodol.  Ond mae’n rhaid inni, drwy’r ymagwedd gofal iechyd darbodus, symud i sefyllfa ble nad ydym yn ystyried hyn fel arfer gorau mwyach ond yn hytrach fel arfer cyffredin.

Mae cymdeithasau tai yn gweld yr effaith uniongyrchol y mae tlodi, diwygio lles a thoriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus a chyllidebau allweddol yn ei chael ar unigolion a theuluoedd.  Mae’r amodau anodd hyn yn golygu bod pobl angen amrywiaeth eang o wasanaethau, ac ni fu erioed mor bwysig ystyried y ffordd orau inni ddiwallu’r galw cynyddol hwn.  Ar yr un pryd mae angen inni sicrhau bod pobl yn gallu rheoli’r broses o wella eu lles eu hunain gan roi cymorth iddynt yn hytrach na chreu dibyniaeth ar ein gwasanaethau.

Cymryd camau gweithredu

Nod y bennod hon yw amlygu rhai o’r cysylltiadau a wnaed eisoes a’r cyfleoedd i greu gwerth yn y dyfodol.  Drwy gydnabod cyfleoedd, cymryd camau ac ychwanegu at y cyfraniadau a amlygwyd yn y bennod hon, gyda’n gilydd gallwn baratoi’r ffordd, gan ddefnyddio cymdeithasau tai fel asiantau ar gyfer newid, er mwyn i egwyddorion gofal iechyd darbodus fod o fudd i bobl yn y cartref a thu hwnt.

 


Cyfeiriadau

  1. Woodfine L et al. Enhancing ventilation in home of children with asthma: pragmatic randomised control trial, The British Journal of General Practice. 2011; vol.61(724-732)
  2. Local Action on Health Inequalities: Fuel poverty and cold home-related health problems” UCL Institute of Health Equity 2014
  3. Year 7: The Socio-Economic Impact of the Welsh HA & Community Mutual Sector. http://chcymru.org.uk/uploads/events_attachments/WERU_Full_report_FINAL.pdf [accessed 8 December 2014]
  4. Edgar Cahn http://www.timebanking.org.uk/edgar_cahn.asp [accessed 2 December 2014]
  5. United Welsh Housing Association – Welcome to the World of Timebanking. http://www.uwha.co.uk/tenant/Time%20Banking%20%28Welcome%20to%20the%20World%29.html [accessed 8 December 2014]
  6. An Evaluation of Spice Time Credits. http://www.justaddspice.org/images/stories/downloads//article/103/xSpice%20Apteligen%20Report_Electronic_Dec2014.pdf [accessed 7 December 2014]
  7. Improving Links in Primary Care. http://www.alliance-scotland.org.uk/news-and-events/news/2014/09/improving-links-in-primary-care-report-launched/#.VIXFhzGsVyx [accessed 27 November 2014]

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Matthew Kennedy yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

@ChoosingWiselyW #MakingChoicesTogether agrees. We promote teaching skills for #shareddecisiomaking to all clinicians. #prudenthealthcare twitter.com/richardlehman1…

@WelshGovernment ..so LHBs in Wales need more psychologists to support them, & keep them from harm. #PrudentHealthcare @DiabetesUKCymru twitter.com/glycosmedia/st…