Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol yn canolbwyntio ar bobl drwy gymhwyso gofal iechyd darbodus

  • Dr Sally Lewis, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Interim a Chyfarwyddwr Clinigol Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Crynodeb

Mae’r erthygl hon yn cydnabod y gwerth y gall gofal iechyd darbodus ei ychwanegu at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol.  Mae clefydau cronig yn dod yn fwy o faich a cheir dyfeisiadau newydd mewn gofal iechyd.  Bydd angen i glinigwyr gofal sylfaenol fod yn fwy medrus wrth wneud penderfyniadau gyda chleifion ynghylch triniaethau.

Ni all canllawiau clinigol ar gyfer gofal sylfaenol fod yn ‘fater unigol’ mwyach gan nad yw hynny’n ddefnyddiol wrth weithio gyda phoblogaeth sy’n heneiddio sydd â mwy o broblemau cysylltiol.  Mae angen i glinigwyr gofal sylfaenol hefyd wybod ble i gyfeirio pobl i gael gwybodaeth a chymorth i barhau i fyw’n iach a rheoli cyflyrau hirdymor mor effeithiol â phosibl.

Gofalsylfaenol

Beth yw gofal iechyd darbodus?

Mae gofal iechyd darbodus yn darparu athroniaeth ac yn amlinellu egwyddorion i lywio ein gwaith a fydd yn cynnal y GIG yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau i ddod.  Nid yw’n unigryw i Gymru; mae’n rhan o symudiad byd-eang i sicrhau ein bod yn defnyddio adnoddau gofal iechyd yn ddoeth.  Ei nod yw lleihau niwed i gleifion, canolbwyntio ar y triniaethau a’r systemau hynny sy’n ychwanegu gwerth gwirioneddol i gleifion unigol a chyflawni’r canlyniadau iechyd sy’n bwysig i gleifion a chymunedau.  Mae gofal iechyd darbodus yn hynod berthnasol i ofal iechyd sylfaenol.  Gofal sylfaenol yw cyswllt cyntaf pobl â’r gwasanaethau iechyd, ble y rhoddir sylw i bryderon iechyd dyddiol a ble y gellir trefnu mwy o ofal arbenigol pan fo angen.

Tri pheth efallai na wyddoch am ofal iechyd darbodus yw

  • Mae’n cynnwys y cleifion yn uniongyrchol yn y broses o gynllunio eu gofal eu hunain a chymryd rhan mewn gwasanaethau cyd-greu
  • Mae’n canolbwyntio ar gael y canlyniadau gorau i gleifion, a chael gwared ar arferion nad oes llawer o fudd iddynt, neu nad oes budd o gwbl iddynt, neu a allai hyd yn oed achosi niwed
  • Mae’n rhan o symudiad byd-eang i geisio lleihau gorfeddyginiaethu niweidiol
Gofal Elen Benfelen

Ar gyfer unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau’r GIG, nod gofal iechyd darbodus yw anelu at leihau gorfeddyginiaethu a niwed anfwriadol.  Ei nod hefyd yw lleihau ymchwiliadau diangen a baich y driniaeth y mae cleifion yn ei brofi o ganlyniad i hynny.  Mae’n ein hannog i ddefnyddio dim ond yr ymyriadau hynny sy’n arwain at y budd a’r gwerth mwyaf i unigolyn.  Gallwn wneud hyn drwy deilwra arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gynlluniau rheoli unigol; helpu pobl i bennu nodau iechyd realistig a’u helpu i’w cyflawni.  Dyma yw ystyr “ymyrryd cyn lleied â phosibl”. Mae Dr Jessica Otte hefyd wedi’i ddisgrifio fel “gofal Elen Penfelen”, hynny yw, y gofal sy’n berffaith i unigolyn a’i amgylchiadau personol.[1]

Rhannu’r broses o wneud penderfyniadau

Dyma faes y mae meddygon gofal sylfaenol yn rhagori ynddo ac rydym yn aml yn eiriolwyr dros ofal ein cleifion.  Fodd bynnag, wrth i ni weld cynnydd mewn clefydau cronig a llawer o ddyfeisiadau newydd mewn gofal iechyd, mae angen i ni wneud mwy o benderfyniadau ynghylch ymyriadau. Bydd angen i Feddygon Teulu fod yn fwy medrus wrth rannu’r opsiynau triniaethau sydd ar gael gyda chleifion, ynghyd â risg, manteision a chanlyniadau tebygol y driniaeth.  Yn ogystal, cydnabyddir nad oes fawr o werth i ganllawiau clinigol ar un cyflwr i boblogaeth sy’n heneiddio sydd â mwy o gydafiachusrwydd.  Bydd angen i ni ddiweddaru’r canllawiau er mwyn adlewyrchu anghenion cleifion a gwell cymorth mewn gofal sylfaenol er mwyn gwneud hynny’n dda.  Gallai hyn gynnwys ystod o wasanaethau cymunedol sy’n cynnwys gwasanaethau eraill i gleifion sy’n chwilio am wybodaeth, sy’n awyddus i ddysgu neu barhau i fyw’n iach a rheoli cyflyrau hirdymor mor effeithiol â phosibl.

Ar gyfer byrddau iechyd, sy’n rheoli gofal sylfaenol fel rhan o wasanaethau iechyd integredig yng Nghymru, dylai’r ymagwedd ddarbodus ganiatáu i ni ddatblygu gwasanaethau sy’n darparu canlyniadau sy’n bwysig i gleifion ac ailgydbwyso gwasanaethau i gynnwys yr ymyriadau y gwyddys eu bod yn darparu’r manteision iechyd gorau.  Cynhelir llawer o’r ymyriadau hyn mewn gofal sylfaenol ac maent yn cael effaith ar iechyd y boblogaeth.[2-5]

Mae’r ffyrdd o gymhwyso egwyddorion gofal iechyd darbodus yn ymarferol mewn gofal sylfaenol yn niferus ac  yn amryrwiol.  Er nad yw’n bosibl disgrifio’r holl agweddau gofal sylfaenol yn yr erthygl hon, mae’r adran nesaf yn rhoi enghreifftiau o reoli gofal iechyd holistaidd gyda chleifion a chydgynllunio gwasanaethau gofal sylfaenol er mwyn i’r boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu fanteisio i’r eithaf arnynt.

Gweithredu gofal iechyd darbodus mewn gofal sylfaenol
1. Canolbwyntio mwy ar atal salwch, hyrwyddo lles a byw’n iach, gan wella cydlyniant cymunedol

Clystyrau o feddygon teulu yw grwpiau bychan o feddygfeydd meddygon teulu sy’n cydweithio â’i gilydd a phartneriaid eraill i ddatblygu gwasanaethau i ddiwallu angen lleol.  Maent yn y sefyllfa berffaith i helpu pobl sydd â materion iechyd mor amrywiol â rhoi’r gorau i ysmygu, rheoli pwysau, dementia, cyfeillio ac iechyd meddwl.

Yn aml, mae’r atebion gorau i’w canfod yn lleol, a bydd yn bwysig i fyrddau iechyd ystyried sut y caiff gwasanaethau arloesol a luniwyd ar egwyddorion darbodus eu cynnwys mewn cynlluniau clwstwr a chynlluniau cyflawni ar draws y bwrdd iechyd.

Mae pobl yn arbenigwyr ar eu bywyd eu hunain.  Caiff gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol eu tywys gan ofal iechyd darbodus tuag at swyddogaeth hwyluso ac oddi wrth y swyddogaeth ‘cywiro’ traddodiadol.  Mae hyn yn golygu symud y pŵer a bydd angen i bawb feddu ar y sgiliau i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ar y cyd.  Y newid mewn pŵer hwn yw sail y cydgynhyrchu ac er mwyn i’r ymagwedd hon weithio’n dda bydd angen i ofal sylfaenol gael gwybodaeth i gefnogi’r broses o gydweithio ag ystod eang o bartneriaid, grwpiau ac arweinwyr cymunedol.  Mae gan y broses gydgynhyrchu y gallu i ryddhau asedau cymunedol a allai annog y broses o ddatblygu amgylchedd iachach ac felly ymddygiad yn iachach.[6,7]

Enghraifft: cydweithio er mwyn rhoi’r gorau i ysmygu

Gwella’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu sydd ar gael i bobl sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) drwy gynyddu ystod, math a lleoliad y gwasanaeth sydd ar gael.  Gwella’r gwasanaeth adsefydlu cleifion yr ysgyfaint sydd ar gael, yn ogystal â chysylltu â grwpiau Anadlu’n Rhydd sy’n darparu addysg a chymorth i gleifion na fyddai o bosibl yn gallu cael gwasanaeth adsefydlu cleifion yr ysgyfaint yn ffurfiol.  Nod y cydweithio hwn yw darparu dewis o adnoddau cymunedol sydd ar gael yn rhwydd i gleifion a’u galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eu gallu i roi’r gorau i ysmygu ar sail eu hamgylchiadau penodol.

2. Rhagnodi darbodus

Gellir dadlau mai rhagnodi diogel ac effeithiol sy’n cael un o’r effeithiau mwyaf mewn ymarfer meddygol.

Mae’r chwyldro meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn parhau i ddatblygu canllawiau i ni eu dilyn a cheir llif cyson o ddyfeisiadau newydd mewn gofal iechyd, a hynny heb os yn y maes rhagnodi.  O ganlyniad bydd hyn yn arwain at dwf cyflym o ran nifer ac amrywiaeth y meddyginiaethau y byddwn yn eu rhagnodi i’n cleifion.

A yw hyn yn beth drwg? Nid o reidrwydd, a dim ond os byddwn yn fodlon bob tro y byddwn yn rhagnodi cyffur ei fod yn ychwanegu gwerth at reolaeth unigolyn ac na fydd yn gwneud unrhyw niwed.  Dyma yw sail rhagnodi darbodus ac mae’n hanfodol ein bod yn penderfynu gwir werth y meddyginiaethau rydym yn eu rhagnodi i bob un o’n cleifion.

Diffinnir gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth fel “ymagwedd i ddarparu gofal sy’n cynnal neu’n gwella ansawdd ac yn cyfyngu ar gynnydd mewn costau”.[8] Credaf ei bod yn ymagwedd hanfodol os ydym am gadw a chynnal ethos ganolog y GIG yng Nghymru.

Er mwyn penderfynu a oes gwerth i unrhyw beth mae angen i ni edrych ar y canlyniadau a ddarperir gan yr ymyrraeth o gymharu â’i gost.  Wrth i ni ystyried presgripsiwn, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd llawer gwell o rannu’r broses o bennu nodau gyda’n cleifion a pheidio â chymryd yn ganiataol mai dyma yw’r hyn maent am ei gael a’i angen.  Mae hyn yn gofyn am ymagwedd fwy cynnil ac unigolyddol tuag at feddyginiaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’n rhaid i ni roi cyngor eglur ar y cychwyn ynghylch y peryglon a’r manteision a rheoli disgwyliadau, ac y byddwn yn ailasesu effeithiolrwydd y cyffur a’i sgil-effeithiau ar ddyddiadau penodedig.  Rhaid i ni fod yn fwy parod i fynd i’r afael â pholyfferylliaeth er mwyn atal y niwed y gallai hyn ei achosi.

Fel rhagnodwyr, ein nod yw lleddfu symptomau ac atal cymhlethdodau drwy drin clefydau.  Nid ydym am wneud unrhyw niwed.  O brofiad, pan fo materion yn ymwneud ag ansawdd a diogelwch y claf yn y fantol, mae rhagnodwyr yn llamu i’r adwy a newid patrymau rhagnodi yn gyflym.  Gwelwyd hyn yn amlwg iawn mewn rhagnodi cyffuriau ansteroidaidd a gwrthlidiol yn ddiweddar yn dilyn datblygiad tystiolaeth ar ddiogelwch cymharol gwahanol asiantaethau.

(Cyhoeddwyd yr adran hon gyntaf fel blog Gwella 1000 o Fywydau)

3. Pennu nodau a gwneud penderfyniadau ar y cyd

Drwy ddarparu gwybodaeth berthnasol ac eglur i gleifion ynghylch y dewis o driniaethau, mae’n bosibl gwneud penderfyniadau sy’n bodloni anghenion cleifion ac ystyried dewisiadau a blaenoriaethau personol.  Ar gyfer y gweithiwr proffesiynol mae hyn yn golygu y dylent gyfleu manteision a risgiau posibl ymyrraeth yn onest ac eglur.  Ar gyfer y claf neu’r defnyddiwr gwasanaeth, mae trafod dewisiadau yn rhoi cyfle iddynt a disgwylir iddynt gymryd mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau am eu hiechyd a’r driniaeth a chymryd mwy o gyfrifoldeb drostynt.

Gwell canlyniadau

Mae cleifion sy’n teimlo bod rhywun wedi gwrando arnynt a’u deall ac wedi bod yn rhan o benderfynu ar y cynllun rheoli mwyaf priodol i’w cyflwr yn fwy tebygol o gadw at y cynllun, cael gwell canlyniadau a bod yn fodlon ar eu gofal.  Ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gallai hyn olygu sgyrsiau anodd â chleifion, rhoi gwerthusiad onest iddynt ynghylch y manteision y gallai triniaethau “arwrol” eu cynnig iddynt a’u galluogi i wneud penderfyniadau sy’n bwysig iddynt hwy.  Mae hyn yn berthnasol iawn i ofal diwedd oes.

Er y gwyddom fod cleifion deallus yn fwy tebygol o wrthod rhai ymyriadau, mae rhannu opsiynau a sicrhau dealltwriaeth yn cymryd amser.  Er mwyn cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd bydd yn bwysig i fyrddau iechyd sicrhau bod gofal sylfaenol yn meddu ar y dulliau a’r adnoddau angenrheidiol.[9,10]

Defnyddio tystiolaeth yn dda

Gan fod canllawiau bellach yn cefnogi arfer proffesiynol, mae’n rhaid i ni sicrhau nad ydym yn methu â darparu gofal unigolyddol wrth geisio ymarfer meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yw “defnyddio’r dystiolaeth gyfredol orau yn gydwybodol, yn benodol ac yn synhwyrol wrth wneud penderfyniadau am ofal claf unigol.  Golyga hyn y caiff arbenigedd clinigol unigol ei integreiddio gyda’r dystiolaeth glinigol allanol orau a ddaw o ymchwil systematig.”[11]

Un o’r methiannau cyffredin mewn gofal unigolyddol yw rhoi gormod o bwyslais ar dystiolaeth ymchwil, neu ymddwyn fel pe bai meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn gywir neu’n anghywir.

 

Er enghraifft, dengys ymchwil fod triniaeth “A” yn lleihau’r risg o gael cyflwr “B” ac felly dylid cynnig triniaeth “A” i’r holl gleifion sydd mewn perygl o gael cyflwr “B”.  Enghraifft o sut y gellir gorbwysleisio’r dystiolaeth hon yw ei bod yn rhaid cynnig statin i glaf 80 mlwydd oed sydd wedi cael trawiad ar y galon gan fod hyn yn feddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth dda. Heb unrhyw amheuaeth mae’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (QoF) wedi gwella lefel y gofal ar sawl lefel ond mae hefyd wedi annog y math hwn o gamddehongli meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth.[12]

Cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd

Mae enghreifftiau o sut y gellir cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd mewn gofal sylfaenol yn cynnwys:

  • defnyddio adnoddau sain/gweledol i roi cyngor a gwybodaeth gyson o ansawdd uchel y gellir ei ailadrodd gymaint o weithiau ag sydd ei angen
  • galluogi cyswllt â grwpiau cymorth
  • cynlluniau rhagweld gofal i atgyfnerthu rheolaeth y claf dros yr hyn sy’n digwydd i’w ofal yn y dyfodol mewn amryw o wahanol amgylchiadau
  • annog cleifion i ofyn tri chwestiwn [13]:
    • Beth yw fy opsiynau?
    • Beth yw’r manteision a’r risgiau posibl?
    • Pa mor debygol yw’r risgiau a’r manteision hyn?
4. Gweithio gyda chydweithwyr gofal eilaidd a chleifion i ymchwilio i ddulliau amgen yn hytrach nag atgyfeirio traddodiadol, gwella mynediad i arbenigwyr a phrofiad y claf.

Mae angen i fyrddau iechyd hwyluso’r gwaith hwn.  Mae hyn yn hanfodol mewn gofal sylfaenol er mwyn edrych ar sut rydym yn trefnu profion diagnostig a’r effaith a gaiff hyn ar y profion radiolegol sydd ar gael yn benodol.  Gwyddom nad yw rhai mathau o ddelweddu ar gael mewn rhai cyflyrau penodol ond er hynny gofynnir amdanynt yn rheolaidd.  Mae angen i ni ddeall y rheswm dros hyn, a gweithio gyda chydweithwyr mewn gofal eilaidd i wneud y defnydd gorau o gyngor arbenigol a phrofion radiolegol er mwyn osgoi oedi mewn diagnosis.

Enghraifft o ail-greu llwybr: epilepsi

Roedd ail-greu’r llwybr i gleifion allanol niwroleg yng Ngwent yn cynnwys darparu llinell gyngor drwy e-bost ac ail-greu’r broses gofal dilynol i gleifion ag epilepsi.  Roedd y gwasanaeth ar gael i gleifion yn ôl yr angen yn hytrach na gorfod aros am apwyntiadau dilynol mympwyol a’i chael yn anodd cael gafael ar feddyg ymgynghorol pan fydd ganddynt broblem.

5. Bydd disgwyl i ofal sylfaenol beidio â defnyddio ymyriadau sydd â gwerth clinigol isel nad oes tystiolaeth gadarn ar eu cyfer.

Gallai hyn olygu rhoi’r gorau i driniaethau a gweithdrefnau a wnaed yn y gorffennol mewn rhai meysydd arfer.  Gallai hyn ysgogi gwrthwynebiad a dadl.  Mewn meysydd eraill dylem geisio lleihau niwed posibl, er enghraifft lleihau nifer yr achosion o Clostridium difficile yn y gymuned drwy osgoi rhagnodi gwrthfiotigau sbectrwm eang pan fo’n bosibl a lleihau swm y gwrthfiotigau a ragnodir yn gyffredinol, yn unol â thystiolaeth.

Ceir tueddiad i ffafrio ymchwil feintiol mewn meddygaeth yn hytrach nag ymchwil ansoddol, ac adlewyrchir y pwyslais hwn yn y dystiolaeth.  Mae peidio â rhoi digon o bwyslais ar ddata yr ymchwilir orau iddynt drwy ddefnyddio dulliau ansoddol, megis gwerthoedd a dewisiadau, yn tueddu i gamliwio’r hyn rydym yn ei ystyried yn bwysig.

Y camau nesaf
  1. Bydd angen cynnydd cychwynnol yng ngallu’r system i greu cyfle ac adnoddau i ddarparu’r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd yn ymarferol er mwyn galluogi’r ffordd newydd hon o weithio i gael ei sefydlu.
  2. Efallai na fydd cleifion sydd ag anghenion fwy cymhleth yn defnyddio canllawiau cyfredol rhyw lawer. Mae angen i’n tystiolaeth gynnwys problemau cysylltiol fwy heriol cleifion hŷn a heriau polyfferylliaeth er mwyn caniatáu i feddygon teulu ddod i benderfyniadau priodol gyda’r cleifion hyn ynghylch peryglon a manteision ymyriadau.
  3. Mae gan y broses o gydgynhyrchu y gallu i helpu i greu amgylchedd iachach er mwyn cefnogi ffordd o fyw iachach. Er mwyn cymryd rhan lawn yn y broses o gydgynhyrchu, bydd angen i ofal sylfaenol gael ei ategu gan wybodaeth ac adnoddau sy’n cefnogi cydweithio ag ystod eang o bartneriaid.
  4. Efallai mai rhagnodi darbodus sy’n cael yr effaith fwyaf ar ofal iechyd darbodus yn ymarferol. Mae meddygon teulu mewn sefyllfa dda i ddarparu arferion rhagnodi darbodus. Mae’n rhaid i ni fod yn fwy parod i fynd i’r afael â polyfferylliaeth er mwyn atal y niwed y gallai hyn ei achosi.
  5. Mae angen i bob un ohonom wybod sut i ddefnyddio tystiolaeth yn effeithiol.  Drwy ategu ein bod yn deall tystiolaeth a sut i’w defnyddio’n dda, mae gwneud penderfyniadau ar y cyd yn meddu ar y gallu i godi safon y ddadl pan wneir penderfyniadau mwy heriol ynghylch ymyriadau gofal iechyd, megis rhoi’r gorau i driniaethau aneffeithiol.

Cyfeiriadau

  1. Otte J. Less is more medicine [Internet]. [cited 2014 August 16]; Available at http://www.lessismoremedicine.com/
  2. Declaration of Alma Ata World Health Organisation [Internet]; [cited 2014 August 16] Available at http://www.who.int/publications/almaata_declaration_en.pdf
  3. Primary Care: Now more than ever The World Health Report WHO 2008 [Internet]. [cited 2014 August 16]; Available at http://apps.who.int/iris/bitstream/10665/69863/1/WHO_IER_WHR_08.1_eng.pdf?ua=1
  4. Owen L, Morgan A, Fischer A, Ellis S, Hoy A, Kelly MP. The cost-effectiveness of public health interventions. J Public Health Sept 2011:1-9. doi:10.1093/pubmed/fdr075.
  5. Elwood P, Galante J, Pickering J, Palmer S, Bayer A, Ben-Shlomo Y, Langley M, Gallacher J. Healthy lifestyles reduce the incidence of chronic diseases and dementia: evidence from the Caerphilly Cohort Study [Internet]. 2013. [cited 2014 August 16]; PLoS ONE 8(12): e81877. doi: 10.1371/journal.pone.0081877. Available at http://www.plosone.org/article/info%3Adoi%2F10.1371%2Fjournal.pone.0081877
  6. Co-production Wales. All in this together. [Internet]. [cited 2014 August 16]; Available at www.allinthistogetherwales.wordpress.com/…/aitt-5-coproducing-resilient- communities
  7. The ALISS project – a local information system for Scotland [Internet]. [cited 2014 August 16]; Available at www.aliss.scot.nhs.uk/index.php/753-2
  8. Porter ME. What is value in healthcare? N Engl J Med 2010; 363:2477-81. [cited 2014 August 16]
  9. option grid [Internet]. [cited 2014 August 16]; Available at http://www.optiongrid.org/optiongrids.php
  10. Mulley A, Trimble C, Elwyn G. Patients’ preferences matter. The King’s Fund; 2012; Available at www.kingsfund.org.uk/publications/patients-preferences-matter
  11. Sackett D, Rosenberg WMC, Muir Gray JA, Haynes RB, Richardson, WS. Evidence based medicine: what it is and what it isn’t. BMJ 1996; 312-7. [cited 2014 September 16].
  12. Melzer D, Tavokoly B, Winder RE, Masoli JAH, Henley WE, Ble A, Richards SH. Much more medicine for the oldest old: trends in electronic medical records [Internet]. 2014 [cited 2014 August 16]; Available at http://ageing.oxfordjournals.org/content/early/2014/08/07/ageing.afu113.abstract
  13. National Voices. Ask 3 questions [Internet]. [cited 2014 August 16]; Available at www.nationalvoices.org.uk/ask-3-questions
Darllen pellach

Edwards RT, Burrows JR.  Transitioning from hospital-based to Enhanced Care at Home (ECH) for older adults in rural areas – a case study from the National Health Service (NHS) in Wales, UK, as an example of prudent healthcare. [Conference paper] The Commonwealth Fund, Harkness Alumni Health Policy Forum, Washington DC, July 2014.


Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Dr Sally Lewis yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

“Tri pheth efallai na wyddoch am ofal iechyd darbodus yw:

Mae’n cynnwys y cleifion yn uniongyrchol yn y broses o gynllunio eu gofal eu hunain a chymryd rhan mewn gwasanaethau cyd-greu

Mae’n canolbwyntio ar gael y canlyniadau gorau i gleifion, a chael gwared ar arferion nad oes llawer o fudd iddynt, neu nad oes budd o gwbl iddynt, neu a allai hyd yn oed achosi niwed

Mae’n rhan o symudiad byd-eang i geisio lleihau gor-feddyginiaethu niweidiol.”

Gwneud iddo ddigwydd

  1. Gall gofal sylfaenol ddarparu gofal iechyd darbodus drwy ganolbwyntio mwy ar ymddygiad sy’n atal salwch, hyrwyddo lles ac iechyd ac yn gwella cydlyniant cymunedol.
  2. Rhagnodi darbodus – un o’r effeithiau mwyaf ar ofal iechyd darbodus fydd rhagnodi diogel ac effeithiol mewn gofal sylfaenol.
  3. Rhannu’r broses o bennu nodau a gwneud penderfyniadau – mae trafod dewisiadau gyda chleifion yn creu cyfle i gleifion a disgwyliad iddynt gymryd mwy o ran yn eu hiechyd a’u triniaeth a chymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hiechyd.
  4. Gyda chymorth byrddau iechyd, gall gofal sylfaenol weithio gyda chydweithwyr gofal eilaidd a chleifion i ymchwilio i ddulliau amgen o atgyfeirio traddodiadol, gwella’r arbenigwyr sydd ar gael a gwella profiad y claf.
  5. Gall gofal sylfaenol leihau ymyriadau drwy beidio â defnyddio ymyriadau sydd â gwerth clinigol isel a ble nad oes tystiolaeth gadarn.

@ChoosingWiselyW #MakingChoicesTogether agrees. We promote teaching skills for #shareddecisiomaking to all clinicians. #prudenthealthcare twitter.com/richardlehman1…

@WelshGovernment ..so LHBs in Wales need more psychologists to support them, & keep them from harm. #PrudentHealthcare @DiabetesUKCymru twitter.com/glycosmedia/st…