Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Cydgynhyrchu Gofal Iechyd Darbodus: esboniad

  • Ruth Dineen, Sylfaenydd a Chyd-gyfarwyddwr, Cydgynhyrchu Cymru

Crynodeb

Bydd cydgynhyrchu yn cynyddu effaith yr holl egwyddorion gofal iechyd darbodus. Mae’n ddull lle y mae pobl a gweithwyr proffesiynol yn rhannu grym ac yn cydweithio mewn partneriaeth gyfartal. Mae cydgynhyrchu yn gwerthfawrogi’r holl gyfranogwyr yn gyfartal ac mae’n seiliedig ar bobl, nid systemau. Yn hytrach na rhoi pobl mewn systemau sy’n bodoli eisoes, mae gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda phobl i ganfod y ffordd orau o sicrhau canlyniadau sy’n bwysig iddynt hwy.

Mae prosiectau a gweithgareddau a gydgynhyrchwyd yng Nghymru wedi cael effaith sylweddol ar iechyd, lles a chydlyniant cymunedol. Fel egwyddor, mae’n rhaid i gydgynhyrchu gael ei groesawu ar draws yr holl leoliadau a systemau gofal iechyd, er mwyn i waith GIG Cymru roi ffocws o’r newydd ar bobl.

 

Beth yw cydgynhyrchu

Agwedd at wasanaethau cyhoeddus sy’n galluogi dinasyddion a phobl broffesiynol i rannu grym a chydweithio mewn partneriaeth gyfartal, gan greu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gymorth pan fydd ei angen arnynt a chyfrannu at newid cymdeithasol yw cydgynhyrchu.

Y nodweddion allweddol [1]
  • Gwerthfawrogi’r holl gyfranogwyr yn gyfartal a’u gwerthfawrogi fel asedau

Mae gan bawb gyfraniad i’w wneud, pa un ai fel arbenigwyr drwy brofiad neu fel arbenigwyr drwy hyfforddiant. Dylem gydnabod hyn ym mhopeth a wnawn, ac adeiladu ar ein cryfderau.

  • Datblygu a chefnogi rhwydweithiau cyfoedion

Mae cyfalaf cymdeithasol – rhwydweithiau cyfeillgarwch a chymorth – yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd a’n lles. Mae rhwydweithiau cyfoedion yn helpu i feithrin hyder a rhoi llais i bobl, ac maent yn gyfle i helpu eraill.

  • Dwyochredd

Mae’r awydd i roi rhywbeth yn ôl yn awydd cyffredin. Pan fo hynny’n bosibl, dylem gyfnewid rhoddion unffordd am rai dwyffordd. Daw ‘rwyt ti fy angen i’ yn ‘Rydym angen ein gilydd’.

  • Ffocws ar ganlyniadau

Ffocws cydgynhyrchu yw cyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig i unigolion, yn hytrach na’r broses o ddarparu gwasanaethau. Rôl y gweithiwr proffesiynol yw hwyluso’r daith honno.

Yr hyn nad yw’n gyfystyr â chydgynhyrchu

Os ydych yn gwneud yr holl bethau hyn ond nad yw dinasyddion yn cymryd rhan fel partneriaid cyfartal gyda grym cyfartal, nid ydych yn cydgynhyrchu. Rydych yn cydweithredu. Efallai bod hyn yn welliant, ond nid dyma yw cydgynhyrchu.

Pobl nid systemau

Mae egwyddor Gofal Iechyd Darbodus 5 yn gofyn inni ‘ail-lunio’r berthynas rhwng y defnyddiwr a’r darparwr ar sail cydgynhyrchu’. Mae hwn yn gais mawr ac yn un hanfodol bwysig.

Mae cydgynhyrchu yn golygu bod dinasyddion a gweithwyr proffesiynol yn rhannu grym ac yn cydweithio’n gyfartal. Mae’n ddull o weithio sy’n seiliedig ar berthynas o ymddiriedaeth a dwyochredd, ar gydnabod fod pawb yn arbenigwr yn ei fywyd ei hun, gyda rhywbeth i’w gyfrannu. Mae’r cydberthnasau hyn yn creu diwylliant lle y mae gweithwyr proffesiynol yn dod yn fwy parod i rannu grym, a’r dinasyddion yn eu tro yn dod yn fwy parod i rannu cyfrifoldeb. Ac nid yw’n syndod bod hynny’n gwella’r canlyniadau i bawb.

Yn draddodiadol, mae darparwyr gwasanaethau yn gofyn cwestiynau sy’n ‘ticio’r bocsys’: beth sydd ei angen arnoch, beth rydych yn gymwys i’w gael? Gyda chydgynhyrchu, daw’r cwestiynau’n sgwrs: sut beth yw bywyd da i chi, ar ba gryfderau y gallwn adeiladu, a sut y gallwn weithio gyda chi i gyrraedd eich nodau? Mae’n ymwneud â meddwl llai am roi pobl mewn gwasanaethau a bennwyd ymlaen llaw, a mwy ynghylch grymuso pobl i gyfrannu at gyflawni amcanion sy’n bwysig iddynt hwy.

Mewn geiriau eraill, caiff cydgynhyrchu ei arwain gan bobl, nid gan systemau.

Beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol?

Pe bai cydgynhyrchu yn dod yn ‘ffordd rydym yn gwneud pethau yma’, beth fyddai hynny’n ei olygu? A beth fyddem yn ei wneud yn wahanol?

Dyma un farn gan Dave Horton, sy’n ymarferydd cydgynhyrchu.

“Rydym yn symud ar draws y ffiniau sy’n bodoli rhyngom ni ac eraill ac yn gwrando ar bobl sydd â phrofiadau gwahanol ac yn eu gwerthfawrogi.

Gyda’n gilydd, rydym yn canfod anghenion cyffredin ac yn gweithio gydag eraill i ddiwallu’r anghenion hyn.

Rydym yn meithrin perthnasoedd lle y mae pawb yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt a lle y gall pawb wneud cyfraniad a gaiff ei werthfawrogi.

Drwy’r cydberthnasau hyn, a’n cydymdrechion, rydym yn newid ein cymdeithas i fod yn un sy’n fwy teg a chyfartal.” [2]

Nid damcaniaethu heb orwelion yw hyn. Dyma sy’n digwydd yn un o faestrefi Caerdydd, lle mae Dave yn rheolwr datblygu ACE – Action in Caerau and Ely[3], yn darparu rhaglen atal tlodi Cymunedau yn Gyntaf [4]. Mae rhwydwaith o tua 80 o sefydliadau a grwpiau cymunedol yn cydgynhyrchu prosiectau a gweithgareddau. Mae’r rhan fwyaf yn aelodau o fanc amser Timeplace y prosiect ACE (a gaiff ei ddarparu mewn partneriaeth â Spice[5]) sy’n cynnig dros 31,000 o oriau o wirfoddoli gan y gymuned ar gyfer y gymuned. Ceir strategaeth iechyd a luniwyd gan y gymuned, cynlluniau mentora a bod yn gyfaill, a Llysgenhadon Cymunedol gwirfoddol sy’n helpu eraill i gael llais a gwneud cyfraniad, yn arbennig mewn cysylltiad â gwasanaethau sy’n gwella iechyd corfforol ac iechyd meddwl.

Beth yw’r effaith?

Mewn gair, anhygoel! Mewn gwerthusiad diweddar o Timeplace dros gyfnod o ddwy flynedd, datgelwyd gwelliant sylweddol yn iechyd, hapusrwydd a lles y cyfranogwyr.[6] Er enghraifft, dywedodd 73 y cant eu bod yn teimlo’n fwy cadarnhaol am y dyfodol, roedd 44 y cant yn teimlo’n iachach, dywedodd 26 y cant fod angen llai o gymorth gofal cymdeithasol arnynt ac roedd 32 y cant yn dweud nad oedd angen iddynt fynd i weld y meddyg mor aml. Mae’r rhwydweithiau’n gryfach, gydag 86 y cant o gyfranogwyr wedi gwneud ffrindiau newydd a 71 y cant yn ymweld â phobl neu’n gweld pobl yn amlach.

Bu effaith gadarnhaol hefyd ar sefydliadau’r sector cyhoeddus sy’n gweithio yn y gymuned: yn y cyd-destun newydd hwn, mae eu hanner wedi gallu darparu gwell gwasanaethau gyda’r un adnoddau neu lai o adnoddau.

Ar ben hynny, mae lefelau uwch o ymgysylltu y tu hwnt i’r gymuned wrth fagu hyder a chymryd mwy o ran. Er enghraifft, mae trigolion Trelái-Caerau yn gweithio gyda staff y GIG i gyd-ddylunio’r llinell ffôn newydd Galw Iechyd Cymru / 111. Mae eu cyfraniad yn helpu i sicrhau y bydd y system newydd yn effeithiol ac yn arloesol, ac y bydd y ddarpariaeth yn cynnwys y gymuned mewn partneriaeth â’r GIG.

Sefydlwyd Connecting Communities, sy’n fenter gydgynhyrchu debyg yn Falmouth, yn 1998. Cafodd y canlyniadau eu gwerthuso dros gyfnod o dair blynedd gan Brosiect Grymuso Iechyd (HELP), Prifysgol Exeter[7]. Roedd gostyngiad o 70 y cant mewn iselder ôl-enedigol; gostyngiad o 50 y cant mewn asthma ymysg plant; gostyngodd beichiogrwydd ymysg merched ifanc yn eu harddegau i ddim; a gwelwyd gostyngiad o 42 y cant mewn achosion diogelu plant. Ar ben hynny, gwelwyd gostyngiad o 50 y cant mewn troseddau, gwelwyd cynnydd o 71 y cant mewn cyflogaeth, ac roedd cyrhaeddiad addysgol yng nghyfnod allweddol 3 wedi codi 100 y cant – gyda’r holl ganlyniadau yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd a lles. Amcangyfrifir bod gweithredu cynnar wedi arbed rhwng £3.8 (amcangyfrif ceidwadol) a £6.4 (amcangyfrif mwy hael) am bob punt a gaiff ei gwario.

Ar raddfa lai, mae SUN, (Service Users Network[8]) yn Croydon yn grŵp cydgynhyrchu gwirfoddol i gefnogi cyfoedion ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol. Ar ôl dim ond chwe mis o aelodaeth, roedd ymweliadau â’r ysbyty wedi’u cynllunio ar gyfer y grŵp hwn wedi gostwng o 725 i 596, gostyngodd yr ymweliadau nas cynlluniwyd o 414 i 286; aeth y defnydd o welyau dydd mewn ysbytai o 300 i 162 o ddyddiau a gwelwyd gostyngiad o 30 y cant mewn ymweliadau ag adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Dyma beth y gall cydgynhyrchu ei gyflawni, drwy adfer ‘dyngarwch twymgalon fel yr ysgogiad i wasanaethau cyhoeddus, yn hytrach na chydymffurfio â phrosesau a systemau cynyddol ganolog ac amhersonol.’[9]

Darbodusrwydd, egwyddorion a chydgynhyrchu

Felly, sut mae cydgynhyrchu yn cyd-fynd â’r strategaeth Iechyd Darbodus?

Yr Egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus yw:

  1. Peidio â gwneud unrhyw niwed;
  2. Cyflawni’r ymyriadau priodol lleiaf posibl;
  3. Dim ond gwneud yr hyn y gallwch chi, a neb arall, ei wneud;
  4. Hybu tegwch ar sail angen clinigol;
  5. Ailfodelu’r berthynas rhwng y defnyddiwr a’r darparwr ar sail cydgynhyrchu.

Gellir dadlau bod yr egwyddorion hyn yn berthnasol i bawb. Fodd bynnag, mae eu ffurf mewn dogfennau Gofal Iechyd Darbodus (gan gynnwys hon) yn benodol. Mae egwyddorion 1 i 4 yn canolbwyntio ar ymddygiad gweithwyr iechyd proffesiynol ac ar fodel meddygol iechyd. Mae’n sicr y bydd cymhwyso’r egwyddorion hyn yn annog defnydd mwy ystyrlon ac effeithiol o adnoddau, gan gynnwys adnoddau staffio. Mae’n amlwg fod hyn yn bwysig. Ond nid yw hynny’n ddigon. Waeth pa mor deilwng ydynt, ni fydd yr egwyddorion hyn ynddynt eu hunain yn arwain at gydraddoldeb a chydgyfrifoldeb, sef uchelgais ganolog Gofal Iechyd Darbodus.

Mae’n bosibl gweithio gyda phob un o’r pedair egwyddor gyntaf hyn i hybu newid sy’n ymddangos yn ddarbodus ond sy’n parhau i gadw’r berthynas bresennol o ran grym – yn fewnol, gyda phartneriaid a rhwng y rhai sy’n darparu gwasanaethau gofal iechyd a’r rhai sy’n eu defnyddio. Gallwn barhau i ganolbwyntio ar gydymffurfio, a chynnal y “pellter rhwng y gweithiwr proffesiynol a ‘defnyddiwr gwasanaethau’ neu’r ‘cwsmer’,”[10] yn unol systemau sy’n osgoi risg, y mae llawer ohonynt, mewn gwirionedd, yn tanseilio cydberthynas ddynol.

Dim ond egwyddor 5 yn benodol sy’n gwneud i ni newid, ganolbwyntio o’r newydd ar bobl a’n cydberthynas â hwy, gan dderbyn y model cymdeithasol o iechyd a’i holl gymhlethdodau.

A dim ond egwyddor 5 sy’n cynnig y posibilrwydd o drawsnewid y GIG o sefydliad sy’n trin pobl wael i fod yn sefydliad sy’n gweithio mewn partneriaeth gyfartal â dinasyddion i wella iechyd a lles pob un ohonom.

“Honiad: Os ymatebwn i’r her o gydgynhyrchu, bydd yn cynyddu effaith yr holl egwyddorion gofal iechyd darbodus. Os na wnawn hynny, bydd yn golygu, ar y gorau, risg i fusnes arferol, ond gydag ychydig o dasgau ticio blychau ychwanegol. Ar ei waethaf, bydd yn golygu methiant y GIG.”

Heb gydgynhyrchu, byddwn yn parhau i wneud niwed, er yn anfwriadol.

Dyma enghraifft.

Mae Carol Kaseleht yn ddoniol, yn garedig, yn glyfar ac mae ganddi ddiddordeb yn y byd. Bu’n byw mewn canolfan tai gwarchod yn y Fenni am ddeng mlynedd. Roedd yn rhydd i fynd a dod gyda chymorth sgwter symudedd, roedd ganddi gyfeillion, bywyd cymdeithasol a chyfle, sef pethau y mae’r gweddill ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, i wneud ei dewis ei hun am yr hyn roedd hi’n ei wneud, beth roedd hi’n ei fwyta, gyda phwy roedd hi’n treulio ei hamser. Roedd yn rhydd ‘i eistedd yn yr haul a gwylio’r byd yn mynd heibio’. Mewn geiriau eraill, roedd ganddi fywyd cyffredin.

Yna, ar ôl cwympo sawl gwaith, cafodd ei chludo i’r ysbyty yn y pen draw – ‘ysbyty neis, roeddynt yn garedig iawn imi yno’. Roedd Carol yn gwella ac yn teimlo’n barod i fynd adref. Yna daeth meddyg ymgynghorol ati nad oedd wedi ei gweld o’r blaen ac edrychodd ar ei nodiadau meddygol. Heb unrhyw drafodaeth bellach, dywedodd wrthi y byddai’n rhaid iddi symud i ofal preswyl. ‘Nid oedd yn fodlon adael i mi fynd adref. Ddim hyd yn oed i gael brwsh dannedd neu ddillad isaf glân. Roedd yn brofiad dychrynllyd – roeddwn yn teimlo fel petawn wedi cael fy arestio.’

Roedd ofn arni pe bai’n dewis cartref gofal preswyl y byddai’n rhaid iddi symud eto pe bai ei chyflwr yn gwaethygu ac, o dan bwysau i wneud penderfyniad cyflym, mae Carol, bellach, yn byw mewn cartref nyrsio. Mae gwahanol raddau o ddementia ar y preswylwyr eraill. Mae’r cartref ar fryn serth felly ni all ddefnyddio ei sgwter i fynd allan am dro. Mae’n gaeth. Nid oes ganddi neb i gynnal sgwrs â hi, neb i chwerthin gyda hi, neb i rannu profiadau gyda hi. ‘Rwy’n teimlo fel carcharor’.[11]

O safbwynt hollol glinigol, mae’n bosibl fod y meddyg ymgynghorol wedi gwneud y penderfyniad cywir. Ond, wrth gwrs, mae penderfyniadau meddygol / clinigol yn bodoli mewn cyd-destun unigol, dynol. O’r safbwynt hwnnw roedd y penderfyniad yn un trychinebus.

Yn yr un modd, heb gydgynhyrchu, byddem yn cyfyngu ar ein gallu i gynnal yr ymyrraeth briodol leiaf gan na fyddem yn gallu gwerthfawrogi’n llawn anghenion, gobeithion ac asedau y rhai rydym yn eu trin, na’r asedau cymunedol, yn rhai ffurfiol neu anffurfiol, a allai fod ar gael i’w helpu nhw – ac i’n helpu ninnau.

Ac oni bai ein bod yn cynnwys y gweithlu yn ein dull cydgynhyrchu, byddwn yn debygol o wneud penderfyniadau am ‘yr hyn y gallwch ei wneud’ yn seiliedig ar ddim ond hierarchaeth glinigol sefydledig, ac anwybyddu sgiliau hanfodol cyfathrebu, ymddiriedaeth, empathi, a’r holl alluoedd a photensial sydd gan ein staff ac nad ydym wedi ystyried holi amdanynt neu eu cydnabod.

Ar ben hynny, os mai’r cyfan fydd yn digwydd yw bod egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus yn cael eu pasio ymlaen oddi fry fel cyfres arall o ofynion ar staff a gaiff eu gorweithio, ni fydd perchnogaeth, dim ymgysylltu a dim cyfranogiad. Y canlyniad fydd cydymffurfio anystyrlon.

Mae rheswm arall pam y dylem sicrhau bod cydgynhyrchu yn ganolog i Ofal Iechyd Darbodus, sef yr angen i gysoni diwylliant ac ymarfer ar draws gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae cydgynhyrchu a chanlyniadau personol yn ganolog i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a bydd yn greiddiol i’r rheoliadau a’r cod ymarfer. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod canlyniadau personol yn sail i integreiddio, ac yn gonglfaen rheoleiddio, asesu a gwella gofal cymdeithasol. Wrth siarad yn y Gynhadledd Gwasanaethau Cymdeithasol Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2014, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd ar y pryd:

Mae’n rhaid i ni wireddu ein hymrwymiad i berthynas newydd â phobl … gan edrych nid yn unig ar beth sydd ei angen arnynt ond ar beth y gallant ei gyfrannu, ac adeiladu ar gryfderau a galluoedd pobl … a chynnwys pobl yn y gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau. Mae’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol yn gosod y seiliau.

Mae integreiddio yn ei gwneud yn ofynnol i’r GIG wneud ymrwymiad tebyg yn y pen a’r galon.

Rhannu grym, rhannu cyfrifoldeb

Mae cydgynhyrchu yn bodoli ar sawl ffurf, a rhai yn llai diniwed nag eraill.

Mae’r New Economics Foundation yn cynnig dwy olygfa wrthgyferbyniol:

  • golygfa’r toriadau sy’n defnyddio cydgynhyrchu dirprwyol,
  • a golygfa’r trawsnewid sy’n canolbwyntio ar gydgynhyrchu ychwanegol.

Yn y cyntaf, y prif fwriad yw arbed arian a / neu leihau nifer y staff: mae’r sector cyhoeddus yn trosglwyddo cyfrifoldeb dros wasanaethau i ddefnyddwyr y gwasanaeth a / neu gymunedau.

Yn yr ail, caiff adnoddau’r sector cyhoeddus eu cyfuno ag adnoddau unigol a chymunedol, gan ddarparu cyfleoedd newydd i gyfranogi a chydweithredu.

Mae cydgynhyrchu yn gweithredu ar amrywiaeth o lefelau effaith hefyd.

  • Ar lefel sylfaenol rydym i gyd yn cydgynhyrchu. Os gwnaf ragor o ymarfer corff, bwyta fy 5 y dydd neu gymryd fy meddyginiaeth yn ôl y presgripsiwn, rwy’n helpu i gydgynhyrchu fy iechyd.
  • Mae’r lefel ganolradd yn cydnabod yr hyn y gall pobl ei gynnig i wasanaethau, ond nid yw’n mynd i’r afael â’r anghydbwysedd grym rhwng dinasyddion a gweithwyr proffesiynol sydd wrth wraidd hynny. Mae ymgynghoriadau o safon dda a rhannu penderfyniadau yn enghreifftiau o gydgynhyrchu canolradd.
  • Mewn cydgynhyrchu trawsffurfiol, mae dinasyddion yn bartneriaid cyfartal yn y gwaith o ddylunio, comisiynu, darparu a gwerthuso gwasanaethau.

Mae cydgynhyrchu trawsffurfiol yn arwain at rannu grym a rhannu cyfrifoldeb, sy’n amcanion allweddol y strategaeth Gofal Iechyd Darbodus.

Cydgynhyrchu yn y GIG yng Nghymru

Y newyddion da yw bod cydgynhyrchu, yn ganolradd ac yn drawsffurfiol, eisoes yn digwydd yn y GIG yng Nghymru. Mae Clybiau Coesau Powys, system arwyddion Ysbyty Llwynhelyg, canllaw’r Parth Anableddau Dysgu a Chanolfan Plant Serennu De Gwent ymysg y degau o enghreifftiau o arfer da.

Felly hefyd y mae ‘Storïau er mwyn Gwella’ gan 1000 o Fywydau, lle roedd defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu hyfforddi fel ymchwilwyr, gan ddefnyddio storïau pobl i wella darpariaeth gwasanaethau. O ran cydgynhyrchu, roedd yr holl gyfranogwyr yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolion cydradd ac fel asedau, sefydlwyd rhwydweithiau cyfoedion, sefydlwyd dwyochredd ac ymddiriedaeth mewn perthnasoedd, ac roedd y ffocws ar ganlyniadau personol. Nid yw’n syndod bod hyn wedi cael effaith gref ar ymdeimlad y cyfranogwyr ohonynt eu hunain a, thrwy hynny, ar eu hiechyd a lles.

“Rydym wedi symud o fod yn ddefnyddwyr gwasanaeth i fod yn ymchwilwyr – sy’n hunaniaeth gadarnhaol sydd wedi ysgogi pob un ohonom. Rydym yn ddefnyddiol, mae pwrpas i ni, cawn ein gwerthfawrogi am helpu i greu darn anhygoel o waith.

… mae hyder wedi dychwelyd, ac angerdd a phwrpas hefyd, yn ogystal â theimlad aruthrol o falchder o fod yn rhan o brosiect mor anhygoel. Mae bod yn rhan o dîm, rhannu, cefnogi, darganfod ac, yn bwysig, chwerthin gyda’n gilydd, wedi bod yn hynod gadarnhaol.” [12]

Gallai’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd wedi dod i’r amlwg o’r prosiectau hyn, a phrosiectau eraill, fod yn fan cychwyn egnïol i gydgynhyrchu trawsffurfiol a newid gwirioneddol mewn diwylliant.

Felly, beth sy’n ein rhwystro?

Un rhwystr mawr yw’r ymagwedd tuag at ofal iechyd a gofal cymdeithasol sy’n seiliedig ar dasgau, sy’n osgoi risg ac sy’n caniatáu, neu hyd yn oed yn ein hannog, i anwybyddu ein dynoliaeth gyffredin, i roi’r gorau i bryderu am y rhai y disgwylir i ni ofalu amdanynt. Nid methiant meddygol yn unig oedd wrth wraidd yr helynt yng Nghanol Swydd Stafford. Roedd yn ymwneud â methiant o ran tosturi, wedi’i gymhlethu gan ‘system a oedd yn rhoi blaenoriaeth i hunan-fudd corfforaethol yn hytrach na diogelwch cleifion’.[13]

Mae problem arall: nid diffyg tosturi ond diffyg tegwch a dwyochredd – am y rhesymau gorau posibl yn aml. Caiff y gweithwyr proffesiynol eu hyfforddi i fod yn arbenigwyr a disgwylir iddynt fod yn awdurdod, gan gynnig cyngor a darparu atebion. Caiff defnyddwyr y gwasanaeth eu hystyried, ganddynt hwy eu hunain ac eraill, yn dderbynwyr goddefol yr arbenigedd hwn, gyda phroblemau’n aros i gael eu datrys.

“Mae’r byd o helpu eraill sydd mewn angen wedi’i adeiladu, bellach, ar drafodion unffordd .. a chyda’r bwriadau gorau, mae trafodion unffordd yn aml yn anfon dwy neges yn anfwriadol. Maent yn dweud: ‘Mae gennym rywbeth sydd ei angen arnoch chi – ond nid oes gennych chi ddim sydd ei angen na’i eisiau arnom na’i na dim rydym yn ei werthfawrogi. Maent hefyd yn dweud: ‘Y ffordd o gael rhagor o gymorth yw drwy ddod yn ôl gyda rhagor o broblemau.’”[14]

Y canlyniad yw goddefgarwch a dibyniaeth, gan danseilio hyder a hunanhyder pobl, gan arwain at effaith negyddol ar iechyd a lles. Gall canfyddiadau o’r fath ddod yn hunanfoddhaol, gan arwain at ragdybiaethau o anallu ac annigonolrwydd pobl gan weithwyr iechyd proffesiynol a phobl eu hunain.

‘Gwrandewch, tydw i’n neb, dim ond fy enw a’r hyn rwyf wedi’i wneud … Hoffwn i gymryd rhan a hoffwn i eich helpu i gyd. Gallaf roi cyngor i chi, ond rwy’n credu ei bod yn well peidio fy nghynnwys i yn hyn … oherwydd fy oedran a’r cof yn pallu,… oherwydd fy mod i mor ddi-fudd.’[15]

Fodd bynnag, mae pobl sydd wedi cymryd rhan mewn cydgynhyrchu yn gweld realiti gwahanol:

“Mae’n anodd cyfleu mewn ychydig eiriau y budd rwyf fi wedi’i gael wrth gynnal gwaith ymchwil cyfranogol. Efallai mai’r peth pwysicaf i mi ei ddysgu yw ein bod yn aml yn drysu rhwng diffyg cyfle a diffyg gallu. Rwyf wedi cael fy atgoffa mor aml, os caiff pobl gyfle i ymgysylltu â gwaith ymchwil a’r gefnogaeth i gymryd rhan, eu gallu yn hytrach na’u diffyg gallu a ddaw i’r amlwg. Mae hefyd wedi fy nysgu i fod yn feirniadol o’m hymarfer fy hun, i chwilio am ffyrdd o wneud pethau’n well, a chofio fy mod i’n dysgu drwy’r amser.” [16]

Yn yr Alban, mae’r prosiect The Good Life yn rhoi’r gwirionedd hwn ar waith. Mae pobl sydd ag anawsterau dysgu yn dylunio ac yn darparu hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol. Nod y grŵp yw newid agweddau, dylanwadu ar bolisi a chynllunio, a gwella’r ffordd y mae staff y GIG yn cyfathrebu â defnyddwyr gwasanaethau. Mae eu hyfforddiant wedi cael clod cyffredinol, gan newid tybiaethau ac arferion, a bywydau ei aelodau. Mae hefyd wedi helpu i amlygu gwybodaeth a galluoedd y bobl hynny sydd ag anawsterau dysgu, gan eu cydnabod fel cyfranogwyr cyfartal a gwerthfawr.

O drafod i weithredu

Roedd adroddiad 2014 Y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yn galw am ail-ddylunio gwasanaethau a arweinir gan werthoedd i ddiwallu gwir anghenion, yn seiliedig ar:

  • gydweledigaeth …a diben cyffredin rhwng llywodraeth … dinasyddion a chymunedau;
  • ffocws llawer cryfach ar gydgynhyrchu gyda dinasyddion a chymunedau;
  • pwyslais llawer cryfach ar alluogi, grymuso ac atal.[17]

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“nid y sector cyhoeddus, ei strwythurau … a’i dargedau yn unig yw hanfod cydgynhyrchu. Ni fydd cydgynhyrchu … yn gweithio heb ysgogi, cydnabod a gwobrwyo pobl a’u cyfraniadau ochr yn ochr â rhai’r gwasanaethau statudol … nid oes un ffordd iawn o wneud pethau na dull cenedlaethol o ddarparu gwasanaethau, ac eithrio dechrau gyda’r egni, yr angerdd, y creadigrwydd a’r nerth mewn cymunedau ac adeiladu o’r fan honno.”[18]

Mae tystiolaeth o raglen A Better Life Sefydliad Joseph Rowntree, yn ategu’r farn hon, gan ddod i’r casgliad:

  • Mae’n rhaid i ni ddefnyddio llawer o asedau, cryfderau ac adnoddau … pobl … a chydnabod a chreu cyfleoedd iddynt roi a derbyn cymorth.
  • Mae’n rhaid i ni i gyd gael ein trin fel dinasyddion: rhanddeiliaid cyfartal gyda hawliau a chyfrifoldebau, nid yn unig fel rhai sy’n derbyn gofal yn oddefgar.

Fodd bynnag, mae rhywun ar goll o’r darlun hwn o hyd – ar goll naill ai yn y categorïau o weithwyr proffesiynol a dinasyddion. Mae staff y GIG, wrth gwrs, yn ddinasyddion hefyd. Bydd eu hegni, eu hangerdd a’u creadigrwydd yn fan cychwyn ychwanegol ac yn cynnig y posibilrwydd o gydgynhyrchu gwirioneddol drawsnewidiol.

Felly beth ddylem ei wneud?

Y bobl a all wneud cydgynhyrchu yn realiti yn y GIG yw’r bobl sy’n cymryd rhan ynddo. Sef pawb ohonom, gan gynnwys y llywodraeth. Mae’n rhaid i ni ymgysylltu â phawb – o’r cychwyn cyntaf. Yna, gallwn ddechrau.

  1. Mapio eich asedau – Beth rydym yn ei wybod, pwy rydym yn ei adnabod, pa sgiliau sydd gennym, pa adnoddau y gallwn eu defnyddio?
  1. Nodau Cyffredin – Beth rydym eisiau ei wneud? Beth ddylem ei flaenoriaethu?
  1. Cydgynllunio – Datrys problem yn greadigol: sut y gallwn wneud hyn gyda’n gilydd?
  1. Bwrw ati! – A bwrw ati’n gydgynhyrchiol.
  1. Dathlu, gwerthfawrogi, rhannu  Ailadrodd drwyddo draw.

 

Yn bennaf oll, mae’n rhad i ni fynd ar y daith hon fel partneriaid cyfartal, gan rannu grym a rhannu cyfrifoldeb.

 Cyfeiriadau

  1. Cahn, E. No more throw-away people: the co-production imperative. London: Essential Books; 2004
  2. Horton, D. The characteristics of love: a dangerous game. http://allinthistogetherwales.wordpress.com/media/ [Accessed 2014 September 8]
  3. Action in Caerau and Ely (ACE): www.aceplace.org/ [Accessed 2014 September 8]
  4. Communities First: http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/regeneration/communitiesfirst/ [Accessed 2014 September 8]
  5. Spice Innovations: www.justaddspice.org/ [Accessed 2014 September 8]
  6. Apteligen. Evaluation of Spice Time-credits. 2014. unpublished
  7. Health Empowerment Leverage Project (HELP). Empowering Communities for Health. Exeter: HELP / NHS Alliance; November 2011
  8. Service User Network (SUN) http://www.nesta.org.uk/sites/default/files/co-production_catalogue.pdf, pp 17-19 [Accessed 2014 September 8]
  9. Andrews, N. Who’s helping who? Challenging professional boundaries in social care services. http://allinthistogetherwales.wordpress.com/media/ [Accessed 2014 September 8]
  10. Horton, D. ibid
  11. Carol Kaseleht, participant in Joseph Rowntree Foundation A Better Life programme, phone interview with Ruth Dineen, September 2014
  12. Participant-researcher, 1000 Lives Stories for Improvement project
  13. House of Commons [HOC]. Report of the Mid Staffordshire NHS Foundation Trust Public Inquiry. HC 898, London: TSO; 2013
  14. Cahn, E. ibid
  15. Focus Group participant, Joseph Rowntree Foundation ‘A Better Life’ for older people with high support needs. York: Joseph Rowntree Foundation; 2013. http://www.jrf.org.uk/topic/betterlife [Accessed 2014 September 8]
  16. Ruth Northway, Professor of Learning Disability Nursing, University of South Wales
  17. Commission on Public Service Governance and Delivery: Summary Report. WG 19847; January 2014. p78
  18. WCVA. Co-production – putting people at the centre post Williams. WCVA; 2014 http://www.wcva.org.uk/media/905306/wcva_co-production_putting_people_at_the_centre_e_7_.pdf [Accessed 2014 September 8]

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Ruth Dineen yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

“Honiad: Os ymatebwn i’r her o gydgynhyrchu, bydd yn cynyddu effaith yr holl egwyddorion gofal iechyd darbodus. Os na wnawn hynny, bydd yn golygu, ar y gorau, risg i fusnes arferol, ond gydag ychydig o dasgau ticio blychau ychwanegol. Ar ei waethaf byddai’n golygu methiant y GIG.”

Presentations done. Packed. #ILF ITALY. Lymphoedema Network Wales showcasing #prudenthealthcare @karen_morgan10 @e_coveney @JaneFitzpatric4