Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Iechyd cyhoeddus darbodus

  • Dr Patricia Riordan, Cyfarwyddwr Iechyd a Gwella Gofal Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Crynodeb

Mae ymarfer iechyd cyhoeddus yn ddull trylwyr, seiliedig ar dystiolaeth, sy’n cynnwys dealltwriaeth feirniadol o batrymau clefydau ac iechyd, eu dosbarthiad a’u hachosion.  Mae hefyd yn golygu asesu ac adolygu’r hyn sy’n gweithio i newid y rhain yn gyson.

Mae ymarfer iechyd cyhoeddus yn cefnogi gofal iechyd darbodus drwy:

  • Sicrhau fod adnoddau yn cyfateb ag angen
  • Darparu tystiolaeth am effeithiolrwydd ymyriadau
  • Mesur canlyniadau ystyrlon
  • Dylanwadu a sicrhau newid
  • Gweithio gydag ac ar gyfer unigolion, cymunedau a phoblogaethau

Mae angen i iechyd cyhoeddus darbodus effeithiol yng Nghymru fod ar raddfa ar draws poblogaethau cyfan.  Mae angen gweithredu ar frys ar draws systemau lluosog, sectorau a sefydliadau yng Nghymru, fel y gallwn gwrdd â’r heriau iechyd yng Nghymru mewn modd unedig ac integredig.

Public health

Cyflwyniad

Mae’r maes iechyd cyhoeddus yng Nghymru wedi gweithio i barhau i gefnogi iechyd pobl Cymru drwy leihau anghydraddoldebau iechyd (tegwch), hyrwyddo camau i atal salwch, sicrhau bod yr hyn a wnawn yn gweithio (effeithiolrwydd), a gweithio gydag ac ar ran cymunedau mewn partneriaeth. Mae hyn yn golygu nad geiriau poblogaidd y foment yw llawer o ddulliau ac egwyddorion gofal iechyd darbodus. Yn hytrach maent yn greiddiol i’r hyn y mae ymarfer iechyd cyhoeddus da yng Nghymru yn ceisio ei gyflawni. Yn wahanol i’r rhai sy’n gweithio mewn ymarfer clinigol neu ofal cymdeithasol, mae iechyd cyhoeddus yn cymhwyso’r egwyddorion hyn i boblogaethau neu gymunedau cyfan ac nid dim ond unigolion. Drwy weithio gyda phobl Cymru mewn partneriaeth, bydd iechyd cyhoeddus darbodus yn cyd-greu’r amgylcheddau er mwyn galluogi pobl yng Nghymru i fyw bywydau iachach am gyfnod hwy.

Ymarfer iechyd cyhoeddus

Ymarfer iechyd cyhoeddus yw’r ‘wyddor a’r gelfyddyd o hybu a diogelu iechyd a lles, atal salwch ac ymestyn bywyd drwy ymdrechion cymdeithas’.

(Cyfadran Iechyd Cyhoeddus, 2010)  [1]

Mae gwyddor ymarfer iechyd cyhoeddus yn golygu mabwysiadu ymagwedd drwyadl sy’n seiliedig ar dystiolaeth tuag at iechyd y boblogaeth. Mae’r dull hwn yn cynnwys dealltwriaeth hanfodol o batrymau clefydau ac iechyd, eu dosbarthiad a’r hyn sy’n eu hachosi. Mae hefyd yn golygu asesu ac adolygu’r hyn sy’n gweithio yn barhaus er mwyn newid y patrymau hyn.

Ystyr celfyddyd iechyd cyhoeddus yw harneisio ein hasedau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a diwylliannol drwy gymdeithas gyfan a’u defnyddio i weithio tuag at nod cyffredin. Mae’n golygu dylanwadu, yn aml heb awdurdod, er mwyn:

  • grymuso unigolion i wneud dewisiadau iach iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd
  • galluogi cymunedau i ddatblygu ac ysgogi sgiliau ac asedau ar gyfer iechyd
  • helpu ein gwasanaethau iechyd i ganolbwyntio ar atal clefydau
  • creu’r amgylcheddau a pholisïau cyhoeddus sy’n cefnogi iechyd da.

Yn ogystal â gwelliannau cynaliadwy i iechyd, mae iechyd cyhoeddus yn canolbwyntio ar ddiogelu’r cyhoedd rhag bygythiadau megis clefydau trosglwyddadwy a pheryglon amgylcheddol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn cefnogi datblygu gofal iechyd effeithiol, teg, sy’n lleihau niwed ac sy’n rhoi pobl wrth ei wraidd.

Mae ymarfer iechyd cyhoeddus yn cefnogi gofal iechyd darbodus

Mae cylch gwaith ymarfer iechyd cyhoeddus yn rhan annatod o ofal iechyd darbodus drwy:

  • hybu cydraddoldeb drwy weithio i sicrhau bod adnoddau’n llifo i feysydd lle mae’r angen mwyaf
  • darparu tystiolaeth i ennill cefnogaeth barhaus ar gyfer ymyriadau effeithiol a dileu’r ymyriadau hynny nad ydynt yn gweithio
  • helpu i sicrhau bod canlyniadau iechyd ystyrlon yn cael eu mesur, nid dim ond gweithgaredd
  • dylanwadu ar newid a sicrhau newid, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, gydag awdurdod i wneud hynny ac yn aml heb awdurdod o’r fath
  • gweithio gydag ac ar ran unigolion, cymunedau a phoblogaethau.
Iechyd cyhoeddus mewn partneriaeth

Yn ogystal ag adeiladu ar egwyddorion gofal iechyd darbodus, mae iechyd cyhoeddus hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill ar bob lefel, o’r gwleidyddol (dylanwadu ar bolisi) i’r personol (newid ymddygiad iechyd unigolion). Mae’r profiad maith hwn o gydweithio ar bob lefel o ddylanwad, yn uniongyrchol ac mewn partneriaeth, yn ffordd bwysig y gall ymarfer iechyd cyhoeddus gefnogi gofal iechyd darbodus. Drwy bartneriaethau effeithiol, mae gwariant gofal iechyd yn mynd ymhellach ac yn creu mwy o werth. Daeth Syr Derek Wanless i’r casgliad fod gwariant y GIG yn fwyaf cost-effeithiol lle roedd lefelau ymgysylltu’r cyhoedd â’u hiechyd yn uchel.[2,3]

Yn ei adolygiad o’r GIG yng Nghymru daeth Wanless i nifer o gasgliadau am ddyfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac o ran iechyd cyhoeddus darbodus, daeth i’r casgliad:

  • y bydd y cyhoedd sy’n ymgysylltu’n llawn â materion iechyd yn cael effaith gadarnhaol ar y gwasanaeth iechyd, drwy gynyddu gweithgaredd hybu iechyd, atal clefydau, gwell hunanofal a mwy o ymddygiad sy’n canolbwyntio ar iechyd
  • bydd ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd yn gofyn am bartneriaeth weithredol rhwng y rhai sy’n darparu gofal a’r rhai sy’n ei dderbyn
  • pan ymgysylltir yn effeithiol â’r cyhoedd, dim ond pan fydd newid sylweddol yn y ffordd y bydd iechyd cyhoeddus yn cael ei weld, y ffordd y darperir adnoddau ar ei gyfer a’r ffordd y caiff ei ddarparu’n genedlaethol y bydd canlyniadau iechyd dymunol yn debygol o gael eu cyflawni. [2]

Mae angen i wasanaeth iechyd cyhoeddus darbodus effeithiol, gyda phartneriaethau effeithiol, cyfraniad y gymuned a sylfaen dystiolaeth gref, gael ei ddarparu yng Nghymru ar raddfa fawr ar draws poblogaethau cyfan. Nid her i un person, un asiantaeth neu un system fydd yr her o ddarparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus darbodus. Bydd angen cymryd camau ar fyrder ar draws nifer o systemau, sectorau a sefydliadau i ymateb i’n heriau iechyd mewn modd unedig ac integredig. Mae hyn yn gofyn am newid sylweddol yn y modelau gofal iechyd presennol a thraddodiadol gan drin yn bennaf pobl sy’n ddifrifol wael er mwyn atal salwch (camau atal sylfaenol), atal salwch presennol rhag gwaethygu (camau atal eilaidd) ac felly gadw pobl yn iach am gyfnod hwy.

Beth yw’r heriau iechyd cyhoeddus sy’n wynebu Cymru?

Er bod gan Gymru rai arwyddion iechyd da, mae gennym hefyd iechyd gwaeth na llawer o wledydd eraill y gorllewin. Mae cysylltiad cryf rhwng anghydraddoldebau iechyd mewn cymunedau ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Mae disgwyliad oes yng Nghymru yn gyffredinol wedi cynyddu flwyddyn ers 2005. Fodd bynnag, pan fyddwn yn cymharu’r poblogaethau â’r amddifadedd mwyaf gyda’r rhai â’r amddifadedd lleiaf, rydym yn canfod gwahaniaeth o fwy na 18 mlynedd mewn disgwyliad oes ac nid yw hyn yn dangos unrhyw arwyddion o wella, sy’n destun pryder (gweler Ffigur 1 isod).

Public Health graph - Patricia Riordan

 

Mae’r ffactorau sy’n achosi salwch a’u cysylltiad ag amddifadedd yn gymhleth. Maent yn ymwneud ag incwm, tai, cyfleoedd gwaith ac addysg. Mae cysylltiad cryf rhyngddynt a ffactorau ffordd o fyw megis ysmygu, camddefnyddio alcohol, gordewdra, deiet ac ymarfer corff. Yn eu tro, caiff y rhain effaith fawr ar siawns unigolyn o ddatblygu canser, clefydau cylchredol a chlefydau anadlol sy’n achosion sylfaenol sylweddol y gwahaniaethau mewn disgwyliad oes.[4] Mae strategaethau effeithiol i frwydro yn erbyn y ffactorau hyn yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Yn wyneb cyfnod o gyni yn y sector cyhoeddus, mae’r GIG ledled y DU yn ymdrin â chynnydd yn y galw tra bod cyllidebau yn parhau i fod yn sefydlog. Yng Nghymru mae diffyg buddsoddi mewn gwasanaethau GIG a chaiff cyfran is o’n cyllideb GIG ei gwario ar waith atal ac iechyd cyhoeddus o gymharu â gwledydd eraill y DU. Mae’n anodd mesur gwariant ar iechyd cyhoeddus sy’n golygu ei bod yn anodd asesu’r gwariant gwirioneddol ym maes iechyd cyhoeddus. Golyga hyn y dylai sicrhau gwerth gwirioneddol o wasanaethau iechyd cyhoeddus, a gwireddu potensial iechyd cyhoeddus darbodus fod yn flaenoriaeth i’r GIG yng Nghymru.

Iechyd cyhoeddus darbodus ar waith

Mae gennym eisoes dystiolaeth a phrofiad o lawer iawn o waith iechyd cyhoeddus darbodus yng Nghymru. I gefnogi’r gwaith hwn fe wnaethom gais am astudiaethau achos o iechyd cyhoeddus darbodus ar waith, ac arweiniodd hyn at nifer o enghreifftiau da ac arloesol. Mae’r rhain bellach wedi eu casglu ynghyd ac maent ar gael ar-lein. <NEED web address>.[5] O’r rhain, rydym wedi dewis y rhai sy’n amlygu egwyddorion gofal iechyd darbodus ac yn dangos sut y maent yn cael eu cymhwyso yng Nghymru.

 

 1. Camau gweithredu sy’n seiliedig ar degwch ym maes iechyd cyhoeddus

Mae camau gweithredu sy’n seiliedig ar degwch ym maes iechyd cyhoeddus yn mynd i’r afael â’r ffaith bod dulliau i wella tegwch fel arfer yn costio mwy a’r un yw’r fantais i iechyd. Maent yn cynnwys penderfyniad cyson i ganolbwyntio a gweithio’n unffurf, ond gyda mwy o ymdrech i weithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd fwyaf ymylol, dan anfantais, sy’n agored i niwed neu mewn angen. Mae’n galw ar weithwyr proffesiynol i ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth o werthoedd a diwylliant cymunedau difreintiedig ac yn gweithio mewn partneriaeth â hwy i gyd-greu gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion ac sy’n effeithiol o ran gwella canlyniadau iechyd.

Sgrinio am Oes – Cynyddu’r Nifer sy’n Manteisio ar y Gwasanaeth

Awdur: Ian Scale, Ymgynghorydd Locwm, Tîm Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda

Amcan: Cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar raglenni sgrinio cenedlaethol yn enwedig ymhlith grwpiau lle mae’r nifer sy’n manteisio arnynt yn isel

Lleoliad neu grwpiau: Ystod o grwpiau, gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, cymunedau teithwyr ac unigolion ag anableddau dysgu ac asiantaethau/gweithwyr proffesiynol perthnasol.

Yr hyn a ddysgwyd: Mae’r rhaglenni sgrinio cenedlaethol i oedolion yn chwilio am newidiadau yn y fron, y coluddyn neu geg y groth yn ogystal ag Ymlediad Aortaidd Abdomenol. Anfonir gwahoddiadau at unigolion i fynd i apwyntiad sgrinio neu, yn achos sgrinio’r coluddion, i gwblhau a dychwelyd eu pecyn prawf cartref eu hunain. Mae llai o unigolion mewn rhai cymunedau yn manteisio ar y cynnig i gael eu sgrinio – ac eto mae cyfraddau uwch o’r rhan fwyaf o fathau o ganser i’w gweld ymysg y grwpiau hyn. Mae cynnydd yn y nifer sy’n manteisio ar y gwasanaeth sgrinio yn golygu bod mwy o gyflyrau yn cael eu darganfod yn gynharach a allai arwain at driniaeth fwy llwyddiannus.

Camau gweithredu:

  • Gwella tegwch drwy ei gwneud yn haws i bob unigolyn fanteisio ar y cynigion i gael eu sgrinio
  • Gwneud y cynnig yn berthnasol i wahanol gymunedau

Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol perthnasol a phartneriaid yn y Trydydd Sector i gyrraedd unigolion sy’n llai tebygol o fanteisio ar gynigion sgrinio.

Rhagor o Wybodaeth: Sgrinio am Oes.

 

Gwella’r nifer sy’n manteisio ar frechiadau Hepatitis B mewn carchardai yng Nghymru

Awduron: Stephanie Perrett, Jane Salmon, Marion Lyons

Amcan: Gwella iechyd yr afu/iau ymysg carcharorion yng Nghymru drwy gynnwys brechu rhag hepatitis B fel rhan o ymgyrch ehangach.

Lleoliad: Datblygwyd a lansiwyd ymgyrch iechyd yr afu/iau mewn carchardai yng Nghymru ym mis Ebrill 2012. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys:

Camau gweithredu: Fel rhan o’r ymgyrch iechyd yr afu/iau, cafodd y brechiad hepatitis B ei hyrwyddo.

Yr hyn a ddysgwyd: Mae data o fis Ionawr 2012 i fis Rhagfyr 2013 yn dangos bod nifer cyfartalog y brechiadau hepatitis B, yn seiliedig ar y cwrs a gwblhawyd gan gynnwys brechiad atgyfnerthu, wedi cynyddu o dri y cant yn ystod hanner cyntaf 2012 i 33 y cant yn ail hanner 2013.

Roedd cynnwys nifer o grwpiau gwahanol, yn staff y carchar ac yn garcharorion, wrth ddatblygu’r ymgyrch hon yn hanfodol i gyflawni’r gwelliant hwn.

Adnoddau: Ymgyrch Iechyd yr Afu/Iau mewn Carchardai

 


2. Lleihau niwed yn sgil camau gweithredu neu ddiffyg camau gweithredu effeithiol

Ar gyfer ymyriadau ar lefel y boblogaeth, gall niwed ddeillio o gamau gweithredu neu ddiffyg camau gweithredu. Gall fod yn anodd cyflawni’r cydbwysedd hwn.[1] Mae dealltwriaeth o’r dystiolaeth a’r costau o ran cyfleoedd sy’n ymwneud â dewisiadau yn hanfodol.

Lleihau Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd: menter gofal iechyd darbodus

Awdur: Dr Mike Simmons, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Ms Sharon Evans, Bwrdd Iechyd Prifysgol ABM

Amcan:

Defnyddio dull gwyddonol cymhleth i leihau heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn y gymuned ac yn y sector aciwt yn ardal y bwrdd iechyd.

Defnyddio dwy reol wrth farnu camau posibl i leihau heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd:

Yn gyntaf, peidio ag achosi niwed

Yn ail, cymryd camau neu gyfeiriad cadarnhaol.

Grwpiau:

Menter bwrdd iechyd cyfan, yn pwysleisio honiad y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru bod atal a lleihau heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn gyfrifoldeb i’r holl staff.

Yr hyn a ddysgwyd:

  1. Mae’r gwasanaeth iechyd yn system gymhleth sy’n gallu ymateb i reolau syml.
  2. Bydd hunan-drefnu yn digwydd drwy ddiffinio rheolau cadarnhaol syml.
  3. Gall cyfarwyddyd manwl o’r brig i lawr greu rheolau negyddol gwrthnysig a dylid eu hosgoi.

Dylid rhoi blaenoriaeth i’r rheol ‘peidio ag achosi’, oni bai bod cam cadarnhaol arall yn ei disodli.

Adnoddau:

Grŵp iechyd Cymru sy’n edrych ar gymhlethdod.

Cyflwyniad  ar ofal iechyd darbodus a chymhlethdod.

 

Prosiect peilot fferyllydd cymunedol – gwneud y gorau o driniaeth â meddyginiaethau gyda methiant y galon

Awduron: Gareth Holyfield, Iechyd Cyhoeddus Cymru; gyda Don Wilkes a Jenny Pugh-Jones, Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Amcan: Gwella adolygiad o fynediad at feddyginiaethau i gleifion â methiant y galon.

Lleoliad: Clinig fferyllydd cymunedol mewn meddygfa yn ardal Hywel Dda.

Y grwpiau dan sylw: Fferyllydd cymunedol, cleifion â methiant y galon, meddygfa, a thîm cardiaidd mewn ysbyty.

Yr hyn a ddysgwyd:

  1. Mae optimeiddio’r driniaeth â chyffuriau yn gwella gofal i gleifion methiant y galon a dangosodd y cynllun peilot hwn werth ychwanegol cynnwys fferyllydd cymunedol arbenigol yn rhan o’r tîm cardiaidd.
  2. Roedd 42 y cant o’r holl gleifion a atgyfeiriwyd at y fferyllydd angen newid eu triniaeth gyffuriau, sy’n dangos pwysigrwydd a gwerth y tîm cymunedol.
  3. Mae’r clinig wedi annog pobl mewn cymunedau gwledig i ymgysylltu’n lleol a chael mynediad at wasanaethau arbenigol gwahanol drwy eu fferyllydd cymunedol

Adnoddau: Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.


 3. Defnyddio ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth yn barhaus

Mae gan ymarfer iechyd cyhoeddus rôl hanfodol o ran sicrhau bod pawb, yn amrywio o’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i bobl Cymru, y wybodaeth orau er mwyn asesu effaith camau i wella iechyd.

Mae tystiolaeth o ansawdd uchel ar gyfer ymyriadau sy’n gweithio o ran materion iechyd cyhoeddus yn brin, oherwydd natur gymhleth a rhyngberthynol y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a’r cyfnodau maith sydd dan sylw. Mae datblygu tystiolaeth dda yn cymryd llawer o amser ac yn gallu gwrthdaro â’r angen i weithredu ar frys.

Rhan o iechyd cyhoeddus darbodus yw cynnal gwerthusiadau cadarn o fentrau, parodrwydd i herio diwylliant ac ymarfer sy’n cael eu derbyn a pharodrwydd i gyflwyno ffyrdd newydd o weithio lle mae’r rhain yn debygol o gael mwy o effaith. Pan gaiff y dull hwn ei roi ar waith, mae’n heriol.

Adolygiad Trawsnewid y Maes Gwella Iechyd, gan ddefnyddio proses cyllidebu rhaglenni a dadansoddiad ymylol (PBMA)

Awduron: Dr Rhiannon Tudor Edwards, Prifysgol Bangor, Dr Julie Bishop, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Amcanion:

Cynnal adolygiad yn seiliedig ar dystiolaeth o effaith rhaglenni gwella iechyd yng Nghymru.

Defnyddio PBMA i ymchwilio i ddewisiadau eraill posibl a meysydd i fuddsoddi ac i ddadfuddsoddi ynddynt yn seiliedig ar dystiolaeth.

Grwpiau:

Grŵp aml-randdeiliaid dan arweiniad yr Athro Rhiannon Tudor Edwards i gynnal PBMA. Ystyriodd y panel dystiolaeth aml-ffynhonnell (gan gynnwys safbwyntiau’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth) i wneud argymhellion am fuddsoddi a dadfuddsoddi yn y dyfodol.

Yr hyn a ddysgwyd:

Canfuwyd bod PBMA yn offeryn tryloyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol a theg. Argymhellodd yr ymarfer hwn ddadfuddsoddiad o £8.8 miliwn lle roedd diffyg tystiolaeth o effeithiolrwydd. Rhoddodd y dadansoddiadau ymylol flaenoriaeth i iechyd plant, iechyd a lles meddyliol, a rheoli tybaco fel meysydd allweddol i fuddsoddi ynddynt.

Dangosodd yr ymarfer y canlynol:

  1. Gwerth ystyried tystiolaeth o ffynonellau niferus gyda’i gilydd.
  2. Pwysigrwydd deall beth sydd ei angen er mwyn cael effaith ar y boblogaeth ymlaen llaw a gwirio bod hynny’n digwydd.
  3. Yr angen i fyfyrio ac adolygu’n rheolaidd, gyda mewnbwn gan bartneriaid a defnyddwyr gwasanaeth, er mwyn sicrhau bod y nodau gwreiddiol a rhagdybiaethau yn dal i fod yn ddilys.
  4. Yr angen i newid y ffocws o ofal eilaidd i wasanaethau atal sylfaenol – o unigolyn i’r boblogaeth.

Adnoddau: Tudor Edwards et al. 2014. BMC Public Health, 14:837.

Adroddiad.

Cysylltwch â: julie.bishop4@wales.nhs.uk

 

Cynllun Fferylliaeth Gymunedol ar gyfer Cydymffurfio â Meddyginiaethau Twbercwlosis (TB)

Awdur: Sian Evans, Iechyd Cyhoeddus Fferyllol

Amcan:

Mynd i’r afael ag achosion parhaus o dwbercwlosis, mewn pentref yn Ne Cymru, lle roedd dulliau traddodiadol o reoli’r clefyd yn aneffeithiol.

Camau gweithredu: Datblygwyd model gwasanaeth triniaeth newydd  i wella mynediad i’r gwasanaeth iechyd, cefnogi rheoli meddyginiaethau TB claf a lleihau amharu a’r pwysau ar gapasiti cymorth yn y gwasanaeth ysbyty. Cafodd y gwasanaeth ei gyflwyno drwy fferyllfa gymunedol wedi’i gefnogi gan dîm arbenigol TB yr ysbyty.

Lleoliad neu grwpiau:

Un fferyllfa gymunedol, cleifion â TB cudd, tîm anadlol mewn ysbyty, Bwrdd Iechyd Cwm Taf ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yr hyn a ddysgwyd:

Yn sgil datblygu model gwasanaeth sy’n fwy derbyniol i’r gymuned leol, cafwyd triniaeth fwy effeithiol:

  • Gwelwyd gwelliant o ran cadw at gyfundrefnau meddyginiaeth i gleifion a oedd yn defnyddio gwasanaeth cydymffurfio â meddyginiaeth twbercwlosis newydd y fferyllfa gymunedol.
  • Canfuwyd bod y gwasanaeth fferylliaeth gymunedol yn fwy effeithiol a chost-effeithiol na’r gwasanaeth ysbyty.
  • Roedd dull hyblyg wedi’i deilwra o ddarparu triniaeth TB o gymorth i gleifion ddeall eu risgiau iechyd a thrafod materion yn ymwneud â meddyginiaeth yn rheolaidd gyda gweithiwr iechyd proffesiynol, ac roedd hynny’n eu hannog i gadw at y gyfundrefn.

Adnoddau: Mae canlyniadau cymharu’r ddau ddull i’w gweld yn ein hadroddiad gwerthuso.

Cyswllt: Sian Evans, Iechyd Cyhoeddus Cymru  sian.evans14@wales.nhs.uk

Emma Hinks, Bwrdd Iechyd Cwm Taf  emma.hinks@wales.nhs.uk


 4. Cyd-greu iechyd gyda phobl, cleifion a phartneriaid

Mae cyd-greu iechyd yn mynnu bod yr adnoddau a’r asedau sydd eu hangen i wella iechyd yn cael eu rhannu rhwng unigolion, eu teuluoedd a’u cymunedau, yn ogystal ag ar draws llywodraeth, y byd academaidd, a gwasanaethau’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn cydweithio ac yn defnyddio ein hadnoddau a’n hasedau i gyd-greu Cymru iachach. Ffordd newydd o weithio yw cyd-gynhyrchu ac mae’n cyflwyno sawl her. Mae’r enghreifftiau a roddir yma yn dangos y cyfeiriad ar gyfer iechyd cyhoeddus o ran mabwysiadu egwyddorion cyd-gynhyrchu.

 

Gwasanaethau sgrinio yn gweithio gyda’r gymuned drawsrywiol yng Nghymru

Amcanion:

Gwell ymwybyddiaeth o sgrinio ar gyfer unigolion yn y gymuned drawsrywiol, gan alluogi penderfyniadau gwybodus.

Codi ymwybyddiaeth a gwella hyfforddiant ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda’r grŵp hwn

Gwella profiad y grŵp hwn o ddefnyddwyr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaeth sgrinio.

Grwpiau:

Gan weithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr o’r gymuned a sefydliadau trawsrywiol gan gynnwys Transgender in Wales, Female to Male Wales, Unique Transgender Network a Chanolfan y GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Yr hyn a ddysgwyd:

Defnyddiwyd dull cyd-gynhyrchu, gan ddechrau drwy nodi blaenoriaethau ar y cyd.

Datblygwyd safonau ansawdd, gan nodi’r gofal y dylai dynion a menywod trawsrywiol ddisgwyl ei gael.

Datblygwyd adnoddau hefyd mewn partneriaeth, gan gynnwys taflen wybodaeth, cwestiynau cyffredin, a fideos YouTube.

Nodwyd bod hyfforddiant i staff yn bwysig, gan godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n wynebu defnyddwyr gwasanaethau trawsrywiol.

Adnoddau:

Fideo ‘Don’t fear the smear’.

Fideo Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol.

 

Cynllun Ymchwil Cymunedol y Drenewydd

Awduron: Nicola Gordon, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus; Sophia Bird, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd.

Amcan:

Darganfod a oes modd i ymyriadau ar rwydweithiau cymdeithasol effeithio ar ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Grwpiau:

  • Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys
  • Cyngor Sir Powys
  • Bwrdd Iechyd Powys
  • Y sector gwirfoddol
  • Arweinwyr cymunedol

Camau gweithredu: Gwnaed gwaith ymchwil cymunedol i fapio cysylltiadau cymdeithasol yn y Drenewydd, gan adnabod aelodau o’r gymuned sydd â chysylltiadau cymdeithasol cryf.

Bydd y rhaglen yn cysylltu â’r bobl hyn a’u gwahodd i ddod yn Gysylltwyr Cymunedol, sy’n trosglwyddo negeseuon iechyd allweddol ac yn cyfeirio pobl at wasanaethau priodol.

Yr hyn a ddysgwyd: Defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i gyfathrebu negeseuon iechyd.

Rhagor o wybodaeth: Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys PowysPHT.Admin@wales.nhs.uk neu 01874 712 738

 

Casgliad

Mae angen rhoi iechyd cyhoedd darbodus ar waith ledled Cymru a hynny ar fyrder. Nid oes dadl gryfach ar gyfer sicrhau gwell cydbwysedd rhwng atal a thrin mewn polisi, ymarfer a chyllid iechyd os ydym am osgoi argyfwng yn y GIG yng Nghymru.

Yn 2014, mae anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru yn parhau i fod yn ystyfnig ac yn gyndyn o ddiflannu. Byddwn yn parhau i ddioddef anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru, oni bai ein bod yn gwneud pethau’n wahanol ac yn ddarbodus. Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd sy’n bodoli eisoes yn cynnig manteision economaidd sylweddol. Yn ogsytal â lleihau’r pwysau ar ofal iechyd yng Nghymru yn sgil yr arbedion, byddwn hefyd yn mwynhau manteision cynyddu cynhyrchiant economaidd, cynnydd mewn refeniw treth a llai o daliadau lles.

Mae iechyd cyhoeddus darbodus yn dechrau gyda gwaith atal, gan ddefnyddio’r dystiolaeth ym maes iechyd cyhoeddus. Mae angen i iechyd cyhoeddus darbodus fod yn seiliedig ar yr hyn rydym yn ei wybod sy’n gweithio o ran gwella iechyd y boblogaeth. Lle nad yw’n glir mae angen i ni arloesi gydag eraill a gwerthuso ein heffaith yn gadarn, a bod yn barod i newid er mwyn sicrhau gwell iechyd a lles.

Er mwyn darparu gwasanaeth iechyd cyhoeddus darbodus, bydd angen i ni harneisio’r adnoddau a’r asedau sydd gennym yn ogystal â mabwysiadu dulliau newydd ac arloesol er mwyn bod yn effeithiol. Gallwn wneud hyn drwy greu cyfleoedd i unigolion a chymunedau osod yr agenda ar gyfer newid, diffinio problemau lleol a chwilio am atebion lleol.


Cyfeiriadau

  1. Faculty of Public Health. What is Public Health?. [Internet] 2010 [cited 2014 August 22]; Available at: http://www.fph.org.uk/what_is_public_health
  2. Wanless D. Securing our future health: taking a long-term view. [Internet] 2002 [cited 2014 September 19]; Available at http://si.easp.es/derechosciudadania/wp-content/uploads/2009/10/4.Informe-Wanless.pdf
  3. Project Team, advised by Sir Derek Wanless, 2003. The Review of Health and Social Care in Wales, s.l.: s.n.
  4. Hussey R. Chief Medical Officer for Wales Annual Report 2012–2013: Healthier, Happier, Fairer. [Internet] 2013 [cited 2014 September 5]; Available at: wales.gov.uk/docs/phhs/publications/131009reporten.pdf
  5. Case studies

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Dr Patricia Riordan  yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

"Er mwyn darparu gwasanaeth iechyd cyhoeddus darbodus rydym yn cydnabod y bydd angen i ni harneisio'r adnoddau a'r asedau sydd gennym i wella iechyd y boblogaeth ar draws pob sector o'n cymdeithas yn ogystal â mabwysiadu dulliau newydd ac arloesol i fod yn effeithiol. Gallwn wneud hyn drwy greu cyfleoedd i unigolion a chymunedau i osod yr agenda ar gyfer newid, i ddiffinio problemau lleol ac i chwilio am atebion lleol."

Gwneud iddo ddigwydd

  1. Mae gwyddor ymarfer iechyd cyhoeddus yn golygu mabwysiadu dull trwyadl sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Dull sy'n cynnwys dealltwriaeth feirniadol o batrymau clefydau ac iechyd, eu dosbarthiad a'u hachosion.
  2. Mae'r maes iechyd cyhoeddus yn gweithio gydag eraill ar bob lefel, yn amrywio o ddylanwadu ar bolisi i newid ymddygiad iechyd unigolion.
  3. Er bod gan Gymru rai arwyddion iechyd da, mae anghydraddoldebau iechyd rhwng cymunedau yn parhau ac mae cysylltiad cryf rhwng y rhain ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol.
  4. Mae gwasanaeth iechyd cyhoeddus darbodus yn dechrau gydag atal, gan ddefnyddio tystiolaeth o'r maes iechyd cyhoeddus. Mae angen i iechyd cyhoeddus darbodus fod yn seiliedig ar yr hyn y gwyddom ei fod yn gweithio i wella iechyd y boblogaeth.
  5. Rydym yn gallu darparu iechyd cyhoeddus darbodus drwy greu cyfleoedd i unigolion a chymunedau osod yr agenda ar gyfer newid, diffinio problemau lleol a chwilio am atebion lleol. Mae'r astudiaethau achos o iechyd cyhoeddus darbodus yn yr erthygl hon yn dangos enghreifftiau arloesol o'r hyn mae angen i ni adeiladu arno ledled Cymru ar gyfer y dyfodol.

Presentations done. Packed. #ILF ITALY. Lymphoedema Network Wales showcasing #prudenthealthcare @karen_morgan10 @e_coveney @JaneFitzpatric4