Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Gweledigaeth cliriach – gwell canlyniadau iechyd llygaid trwy ymarfer darbodus

  • Sali Davis Chief Executive, Optometry Wales
  • Huw Belamy, Chairman, South West Wales Regional Otical Committee
  • David O'Sullivan, Optometric Adviser HDUHB
  • Jill Paterson, Deputy Director of Primary Care, Community, Mental Health & Long Term Care
  • Bryan Beardsworth, Assistant Head of Primary Care and Dental Services
  • Donna Thomas, Low Vision Service Wales Manager

Mae Cymru yn gwneud cynnydd da ym maes gofal llygaid. Er bod mwy i’w wneud, mae’r duedd gyffredinol yn dangos gwelliant.  Mae Law yn Llaw at Iechyd:  Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Gofal Iechyd Llygaid [1] yn nodi agenda glir ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud, gan weithio mewn partneriaeth ledled Cymru.

Er mwyn cyflawni nodau gofal iechyd darbodus, mae angen dull cynhwysfawr eang ei gwmpas ar draws amrywiaeth o wasanaethau, a fydd yn arwain at ddarparu gofal amserol, diogel o’r ansawdd uchaf i gleifion.

Fel gyda’r rhan fwyaf o wasanaethau gofal iechyd, nid oes claf cyffredin. Yn hynny o beth, mae angen i wasanaethau fod yn hyblyg ond ar yr un pryd mae angen iddynt allu dangos prosesau clir; mae angen iddynt fod yn bersonol ond gan wrthsefyll y cynnydd o ran anghenion cleifion a’r galw amdanynt.

Ni all hyd yn oed y prosesau gorau i liniaru risg ddiystyru’r hen ddywediad bod eich llwyddiant neu eich cryfder yn dibynnu ar yr agwedd wannaf. O ran darparu gofal llygaid, ceir nifer o gysylltiadau a rhyngwynebau rhwng gwasanaethau y mae angen eu hystyried er mwyn darparu gwasanaeth di-dor i gleifion sy’n gweithredu yn y modd mwyaf diogel ac effeithlon â phosibl.

Yn ystod y broses o ddatblygu gwasanaethau, mae cyfathrebu a chydweithio yn hanfodol er mwyn sicrhau bod hyd yn oed y gorau o blith arloesi gwasanaethau neu wella parhaus yn cael y cyfle i ddwyn ffrwyth. Er mwyn cyflawni ein nodau rhaid inni ddatblygu ymhellach lwybrau cleifion sy’n syml, ond eto’n effeithiol ac yn sicrhau bod gan gleifion a chydweithwyr ym maes gofal iechyd – sydd weithiau â dealltwriaeth gyfyngedig o’r cyfleoedd gwasanaeth cyfreithiol – ffordd effeithlon ac effeithiol o ddarparu triniaeth ddiogel ac effeithiol i gleifion.

Mae’r canlyniadau gorau yn cael eu cyflawni drwy wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd yn cydweithio i ddiwallu anghenion ein cleifion. Yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus, rydym yn parhau i ddatblygu gwasanaethau optometreg er mwyn i ofal, a oedd ar un adeg yn rhywbeth ar gyfer gwasanaethau arbenigol mewn ysbytai, yn gallu cael ei ddarparu fel mater o drefn mewn cymunedau lleol.

Image copyright: © Paul Boxley

Pwy sy’n ymwneud â’r gwaith hwn?

Mae nifer mawr o randdeiliaid yn ymwneud â datblygu a gwella unrhyw wasanaeth gofal iechyd. Mae’r prif weithwyr proffesiynol sy’n cydweithio i ddarparu gwasanaethau gofal llygaid o safon a hygyrch yn cynnwys:

  • Optegwyr cyflenwi, sy’n rhoi cyngor ar sbectol a lensys cyffwrdd ac yn eu gosod a’u cyflenwi, gan ystyried ffordd o fyw ac anghenion galwedigaethol cleifion;
  • Offthalmolegwyr sy’n arbenigo mewn clefyd y llygaid, triniaeth a llawdriniaeth. Bydd ganddynt gymhwyster meddygol, gan weithio’n bennaf mewn ysbytai llygaid ac adrannau llygaid ysbytai;
  • Mae optometryddion yn arbenigwyr sydd wedi eu hyfforddi i ganfod nam ar y golwg, arwyddion o anaf, afiechyd neu annormaledd llygadol a phroblemau gydag iechyd cyffredinol. Maent yn gweithio yn y gymuned yn bennaf gan gynnig cyngor a rheoli cyflyrau, gallant hefyd wneud atgyfeiriadau pan fydd angen cyngor neu driniaeth arbenigol.
  • Mae orthoptyddion yn gweithio gydag offthalmolegwyr mewn ysbytai ac yn y gymuned ac maent yn ymdrin yn bennaf â chyflyrau sy’n ymwneud â symudiadau’r llygaid ac anallu’r llygaid i weithio gyda’i gilydd a rheoli glawcoma.

Mae’r gweithwyr proffesiynol hyn bellach yn gweithio’n agosach gyda’i gilydd i ymgorffori egwyddorion gofal iechyd darbodus mewn gwasanaethau gofal llygaid i wella’r gofal i gleifion a gwneud gwasanaethau yn fwy hygyrch. Mae’r egwyddor o wneud yr hyn y gallwch chi ei wneud yn unig wedi bod yn amlwg drwy bob datblygiad gwasanaeth, gyda’r nod ar y cyd o sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld gan glinigwyr â chymwysterau addas.

Gwneud iddo ddigwydd – Beth mae gwasanaethau gofal llygaid yn ei wneud i wireddu gofal iechyd darbodus?

Rôl ehangach yr optometrydd a’r cymysgedd sgiliau – sicrhau bod pob proffesiwn yn gweithio ar frig eu cymhwysedd ac y ceisir cyngor arbenigol mewn achosion priodol yn unig.

Symud gweithgarwch allan o ysbytai i mewn i leoliadau sylfaenol a chymunedol er mwyn cynyddu mynediad i wasanaethau llygaid mewn ysbytai i gleifion â chyflyrau mwy difrifol a sicrhau bod gwasanaethau ar gael mor lleol â phosibl.

Perchnogaeth a dealltwriaeth cleifion – sicrhau bod gan gleifion ddealltwriaeth lawn o ddiagnosis, triniaeth, rheoli cyflyrau ac effeithiau dewisiadau ffordd o fyw. Mae hyn yn rhan bwysig o sicrhau eu bod yn cael eu grymuso i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl.

Cysylltedd TG – sicrhau bod pob gwasanaeth gofal sylfaenol wedi ei gysylltu â gwasanaethau ysbyty i alluogi datblygu llwybrau atgyfeirio cyflym ac effeithlon a galluogi clinigwyr i rannu gwybodaeth yn y gymuned ac mewn ysbytai.

Llwybrau cleifion newydd – sicrhau nad yw triniaethau newydd a thriniaethau a ddatblygwyd yn ddiweddar yn cael eu derbyn drwy ddulliau hanesyddol o fynediad i gleifion.

Er bod tipyn o waith i’w wneud o hyd, mae’r gwelliannau hyn wedi arwain at ddatblygu cymysgedd sgiliau sy’n galluogi cleifion i gael mynediad at amrywiaeth eang o wasanaethau o leoliadau yn y gymuned, gan arwain at lai o alw ar wasanaethau gofal llygaid ysbyty.

Rôl ehangach yr optometrydd a’r cymysgedd sgiliau

Yn hanesyddol, mae mynediad cleifion i wasanaethau gofal llygaid wedi bod drwy atgyfeiriadau gan feddyg teulu, fferylliaeth gymunedol neu adrannau damweiniau ac achosion brys. Yn anffodus, nid yw’r rhain wedi gallu cynnig mewnbwn arbenigol ar gam cynnar, sy’n gallu achosi oedi i gleifion wrth gael gafael ar ofal.

Mae cyfeirio cleifion yn gywir ar y cyfle cyntaf yn rhan hanfodol o ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol, sy’n lleihau gwastraff. Mae mewnbwn arbenigol ar gam cynnar hefyd yn sicrhau mai dim ond y bobl hynny ag angen priodol sy’n cael eu hatgyfeirio i wasanaethau o dan bwysau, gan arwain at ostyngiad yn y galw ac amseroedd aros is.

Yn draddodiadol mae gwasanaethau gofal llygaid mewn ysbyty wedi dod o dan bwysau sylweddol, heb fanteisio i’r eithaf ar weithlu cefnogol posibl yn y gymuned a gofal sylfaenol. Yr her fu integreiddio’r proffesiynau unigol, gan arwain at fwy o effeithiolrwydd.

Cyflwynwyd Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru [2] yn 2013, a rhoddodd gylch gwaith manwl pellach i optometryddion mewn gofal sylfaenol, a sefydlwyd yn wreiddiol gan fenter gofal llygaid Cymru yn y 2000au. Mae’n darparu archwiliad manwl o’r llygaid gan optometrydd yn y gymuned, sydd am ddim ar y pwynt mynediad.  Yn dilyn asesiad gan glinigydd medrus priodol, mae’r gwasanaeth wedi galluogi mwy o gleifion i gael eu rheoli mewn gofal sylfaenol ac mae’n sicrhau mai dim ond y cleifion hynny y mae angen barn, gofal a thriniaeth arbenigol bellach arnynt sy’n cael eu hatgyfeirio i adran offthalmoleg ysbyty.

Mae’r gwasanaeth yn darparu dewislen o wasanaethau cenedlaethol gwell sydd ar gael yn lleol, gan ddod â gofal yn agosach at gartrefi’r cleifion mewn modd cadarnhaol. Mae cleifion cymwys yn rhai â phroblem llygaid acíwt y mae angen sylw brys arnynt neu’r rhai sydd mewn perygl uwch o glefyd y llygaid neu y byddai’n arbennig o anodd iddynt golli eu golwg.

Gall cleifion hunanatgyfeirio neu gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg, fferyllydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol perthynol.  Pan fydd cleifion yn ymddangos gyda phroblem llygaid acíwt, bydd optometryddion yn eu hasesu o fewn 24 awr.  Ymhlith y cleifion sydd hefyd yn gymwys am archwiliadau gyda Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru mae’r rhai sydd â byddardod llwyr, cleifion â golwg mewn un llygad yn unig a chleifion â dirywiad macwlaidd sych sy’n mynychu ar gyfer monitro blynyddol.

Mae archwiliad gyda Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru ar gael i bobl o gefndir Asiaidd neu Ddu/Affricanaidd/Caribïaidd sydd â risg uwch o glefydau’r llygaid sy’n bygwth golwg fel diabetes a glawcoma.

Mae rôl ehangach optometryddion a Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru yn parhau i ddatblygu ac yn 2015 bydd optometryddion ac optegwyr cyflenwi yn gallu atgyfeirio cleifion i wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.

Bwriedir ehangu Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru, ac ymhlith y cynlluniau sy’n cael eu treialu mae brysbennu seiliedig ar optometreg o ran atgyfeiriadau newydd i wasanaethau llygaid ysbyty ac apwyntiadau dilynol.  Mae mwy o wybodaeth am Wasanaeth Gofal Llygaid Cymru ar gael yn http://www.eyecare.wales.nhs.uk/hafan.

Mae Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru [3] yn rhan o Wasanaeth Gofal Llygaid Cymru, ac mae’n wasanaeth adsefydlu i oedolion a phlant â nam ar eu golwg. Fe’i cynhelir yn ganolog gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cyn 2004, gallai pobl yng Nghymru â nam ar eu golwg orfod teithio cryn bellter, ac yn aml byddent yn gorfod aros chwe mis i 18 mis er mwyn cael apwyntiad ysbyty ar gyfer cymorth GIG gyda’u hanghenion golwg gwan.

Gall nam ar y golwg neu olwg sy’n gwaethygu achosi nifer o broblemau sylweddol neu gyfrannu atynt, gan gynnwys:

  • Camreoli meddyginiaeth
  • Colli annibyniaeth ac iselder
  • Anallu i goginio/glanhau/siopa
  • Risg uwch o gwympiadau, llosgiadau neu ddiffyg maeth
  • Problemau gydag addysg/cyflogaeth/teithio

Cydnabuwyd y gallai optometryddion ac optegwyr cyflenwi ar y stryd fawr, gydag ychydig bach o hyfforddiant ychwanegol, gael eu hachredu i ddarparu gwasanaeth adsefydlu golwg arbenigol i’r rhai â nam ar eu golwg yn eu cymuned leol eu hunain.  Mae’r gwasanaeth GIG hwn sydd am ddim ar y pwynt cyflenwi bellach yn cael ei gynnig o tua 190 o bractisau optometryddion/optegwyr ar y stryd fawr yng Nghymru ac, ym mis Ebrill 2014, roedd y gwasanaeth wedi gweld mwy na 28,000 o gleifion unigol.

Bydd optometrydd achrededig neu optegydd cyflenwi’r Gwasanaeth Golwg Gwan yn:

  1. Cynnig asesiad golwg gwan hyd at awr o hyd gan arbenigwr yng nghymuned y claf ei hun, o fewn pythefnos fel arfer;
  2. Treialu, rhagnodi a chyflenwi amrywiaeth eang o gymhorthion golwg gwan gan gynnwys chwyddwydrau electronig a rhai â llaw, lampiau a rhai dyfeisiau nad ydynt yn optegol (am ddim);
  3. Darparu gwybodaeth a chyngor manwl ar gyflwr/gyflyrau llygaid yr unigolyn a’u rheoli;
  4. Cynnig atgyfeiriadau i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill, gwasanaethau addysg a chyflogaeth yn ôl yr angen;
  5. Argymell a chyfeirio i adnoddau lleol, grwpiau cymorth a gwasanaethau;
  6. Darparu cymhorthion newydd yn lle cymhorthion golwg gwan sy’n cael eu colli neu sy’n torri yn ogystal â diweddaru ac ailgylchu cymhorthion presennol wrth i amgylchiadau cleifion newid;

Mae’r gwasanaeth wedi ei gynllunio’n bennaf i helpu i roi’r wybodaeth, y cymorth offer a’r adnoddau i gleifion a’u teuluoedd i:

  • Ddeall a rheoli eu cyflwr/cyflyrau llygaid eu hunain yn well;
  • Helpu i gyrraedd eu nodau/dyheadau cyraeddadwy eu hunain o ran golwg;
  • Meithrin gwell ymwybyddiaeth o o’r cymorth pellach a’r cymorth gwirfoddol sydd ar gael yn y gymuned a mynediad i hyn.

Mae Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru ar ffurf swyddogion adsefydlu i’r rhai â nam ar y golwg (ROVIs). Maent yn darparu cymorth gyda sgiliau byw bob dydd, mynediad i wasanaethau cymdeithasoli, cyfeillio a chymorth, gwneud ceisiadau grant, cyfathrebu a chysylltu ag asiantaethau eraill gan gynnwys y GIG a chymdeithasau.

Symud gweithgarwch allan o ysbytai

Mae darparu mewn lleoliad cymunedol yn aml yn rhoi mwy o amser i glinigwr ddatblygu perthynas â’i gleifion, yn enwedig mewn achosion lle maent yn monitro cyflyrau a thriniaethau. Bydd yn haws cyflawni cydgynhyrchu rhwng y claf a’r clinigwr mewn amgylchedd lle mae’r claf yn gyfforddus a lle mae ganddo amser i feithrin perthynas â’r clinigwr.

Mae canolfannau triniaeth diagnostig offthalmig (ODTCs) yn cael eu datblygu ledled Cymru a byddant yn datblygu gwasanaeth sy’n canolbwyntio mwy ar gleifion gan ddefnyddio tîm amlddisgyblaethol o dan arweiniad offthalmolegydd ymgynghorol a chan gynnwys optometryddion, nyrsys offthalmig, orthoptyddion, ffotograffwyr meddygol a thechnegwyr.

Bydd defnyddio cofnodion cleifion electronig yn galluogi monitro cyflyrau fel glawcoma o fewn ODTC. Gall cleifion gael eu gweld gan y tîm amlddisgyblaethol mewn lleoliadau sy’n gyfleus iddynt hwy, a gall yr offthalmolegydd ymgynghorol adolygu’r nodiadau clinigol drwy ddulliau rhithwir. Bydd hyn yn rhyddhau amser clinigol gwerthfawr yn y gwasanaethau ysbyty ac yn defnyddio’r set sgiliau ar draws nifer o broffesiynau a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld yn y lleoliad priodol gan y tîm priodol.

Perchenogaeth a dealltwriaeth cleifion

Mae swyddogion cyswllt gofal llygaid bellach wedi eu lleoli mewn adrannau offthalmoleg ysbyty i gynnig cyngor, cymorth emosiynol a gwybodaeth am gyflyrau iechyd i gleifion, y budd-daliadau y gall pobl fod â hawl iddynt, materion cyflogaeth, sefydliadau ac enwau cyswllt defnyddiol, cofrestru colli golwg ac adsefydlu. Drwy sicrhau bod gan bobl sydd newydd gael diagnosis o golli golwg fynediad i wybodaeth a chymorth, mae’r swyddogion hyn yn helpu i liniaru rhai o’r effeithiau negyddol sy’n gysylltiedig â cholli golwg, gan gynnwys iechyd meddwl gwael, risg uwch o gwympiadau a cholli annibyniaeth.

Cafwyd bod arddangosfeydd gwybodaeth mewn ystafelloedd aros i gleifion yn ysgogi diddordeb cleifion ac yn eu cynnwys. Ymddengys fod y rhain yn llwyddo pan fydd gwybodaeth feddygol yn cael ei chyflwyno mewn iaith gyfeillgar i gleifion.  Er enghraifft, ffeithiau difyr sy’n nodi y gall eich llygaid ganfod tua 10 miliwn o wahanol liwiau, neu bod pob baban newydd-anedig yn ddall i liwiau ac yn methu cynhyrchu dagrau tan ei fod tua chwe wythnos oed a phe bai’r llygad dynol yn gamera digidol byddai ganddo 576 megapicsel.

Cysylltedd TG

Yn 2015, am y tro cyntaf bydd practisau optometrig ledled Cymru wedi eu cysylltu â seilwaith electronig ehangach y GIG. Bydd hyn yn galluogi optometryddion i wneud atgyfeiriadau electronig i’r gwasanaeth llygaid ysbyty.

Bydd datblygu cofnodion cleifion electronig ymhellach yn galluogi llif dwy ffordd y wybodaeth glinigol rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd a bydd yn symleiddio’r broses o reoli cleifion â chlefyd y llygaid.

Llwybrau cleifion newydd

Er bod y llygad yn organ fach, mae’n gymhleth iawn ac yn ein hysbytai ceir timau o weithwyr proffesiynol gofal llygaid wedi eu hyfforddi’n arbennig sy’n darparu triniaeth i afiechydon a phroblemau a all effeithio ar bob rhan o’r llygad. Mae offthalmolegwyr, nyrsys offthalmig, orthoptyddion, ffotograffwyr meddygon a thechnegwyr yn darparu gwasanaethau arbenigol i gyflyrau gan gynnwys:

  • glawcoma
  • cataract
  • retina meddygol, gan gynnwys dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig â henaint
  • wfeitis (llid haen ganol y llygad)
  • retinol-gwydrog (problem gyda chefn y llygad)
  • ocwloblastigau (sy’n ymwneud â’r amrannau)
  • y gornbilen a’r segment blaen (yn ymwneud â blaen y llygad)
  • retinol a laser YAG (triniaeth ychwanegol i’r llygad)
  • pediatrig a llygad croes

Mae nifer y bobl yr ardystiwyd bod ganddynt nam ar y llygad yng Nghymru wedi gostwng dros y pum mlynedd diwethaf gan ostwng o 1,737 yn y flwyddyn mis Ebrill 2008 tan fis Mawrth 2009 i 1,362 yn y flwyddyn mis Ebrill 2012 tan fis Mawrth 2013. Mae’r gostyngiad hwn mewn nam ar y llygaid yng Nghymru yn rhannol o ganlyniad i driniaethau newydd fel y driniaeth ar gyfer dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint. Yn 2007, nid oedd triniaeth ar gael ar gyfer dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint. Y llynedd (2013-14) cynhaliwyd bron 15,000 o driniaethau o’r fath yn y gwasanaeth llygaid ysbyty sy’n atal colli golwg.

Llawdriniaeth cataractau yw’r llawdriniaeth fwyaf cyffredin yng Nghymru ac i symleiddio’r daith i gleifion ymhellach mae optometryddion yn cymryd rhan yn yr asesiad cyn ac ar ôl llawdriniaethau i gleifion. Mae hyn yn rhyddhau’r pwysau ar wasanaethau llygaid ysbyty ac yn galluogi cleifion i gael rhan sylweddol o’u gofal yn agos i’r cartref mewn lleoliad cymunedol cyfleus.

Mae Gwasanaeth Sgrinio ar gyfer Retinopatheg Diabetig Cymru (DRSSW) yn wasanaeth am ddim a sefydlwyd i’r holl bobl gymwys sydd wedi cofrestru bod ganddynt ddiabetes yng Nghymru i leihau’r risg o golli golwg yn sgil retinopatheg diabetig. Mae retinopatheg diabetig yn gymhlethdod y llygaid a all effeithio ar unrhyw un sydd â diabetes, beth bynnag yw’r math neu’r driniaeth, gan achosi niwed i’r pibellau gwaed sy’n cyflenwi’r retina – y rhan o’r llygad sy’n gweld.

Yn gyffredinol, nid oes unrhyw symptomau amlwg o ran retinopatheg diabetig tan iddo gyrraedd cam datblygedig felly mae canfod yn gynnar yn hanfodol. Os cewch ddiagnosis o ddiabetes, byddwch yn cael eich atgyfeirio gan eich meddyg teulu a dylech gael gwahoddiad i fynd i gael eich sgrinio o fewn tri mis i gael eich rhoi ar gofrestr DRSSW.

Mae sgrinio’r retina yn weithdrefn syml a ddylai gymryd tua 40 munud. Cymerir ffotograffau o’r retina gan ddefnyddio camera arbenigol ac yna caiff y ffotograffau eu hanfon ymlaen at dîm o raddwyr retina a fydd yn chwilio am arwyddion o retinopatheg diabetig. Ar ôl eu cwblhau, caiff y canlyniadau eu hanfon at y claf a’r meddyg teulu.

Casgliad

Y newidiadau o ran cynnydd ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru yw’r rhai mwyaf sylweddol am genhedlaeth. Er mwyn darparu dull gofal iechyd darbodus mae’n hanfodol bod y rhai sy’n darparu gofal llygaid, pa un a ydynt ym maes optometreg neu offthalmoleg yn cael eu paratoi i groesawu’r newidiadau ac ateb yr heriau a ddaw yn sgil yr amlygiad newydd hwn i ofal llygaid.  l

Bydd modd dangos bod y cysyniad o ofal iechyd darbodus yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus mewn perthynas â gofal offthalmig mewn nifer uwch o’r boblogaeth sy’n cael profion llygaid, os bydd nifer y rhai sy’n cael profion llygaid yn cynyddu bydd hyn yn sicrhau bod colli golwg y gellir ei atal yn cael ei ganfod, yn cael diagnosis ac yn cael ei drin yn gynharach.  I’r rhai sydd eisoes â chyflyrau sy’n bygwth eu golwg credwn y bydd gwasanaethau fel DRSSW a Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru yn helpu i sicrhau bod y claf yn cael ei drin y lle cywir ar yr adeg gywir, bydd brysbennu llwyddiannus ym maes gofal sylfaenol yn galluogi cydweithwyr gofal eilaidd i reoli gofal y claf hwnnw mewn ffordd amserol ac effeithlon.

Mae’r camau allweddol yr eir i’r afael â hwy fel a ganlyn:

  1. Addysgu gweithwyr proffesiynol gofal llygaid sylfaenol e.e. optometryddion, optegwyr cyflenwi am y cysyniad o ofal iechyd darbodus fel bod cleifion yn eu tro yn gallu cymryd cyfrifoldeb am brofion llygaid rheolaidd (bob dwy flynedd yn y rhan fwyaf o amgylchiadau)
  1. Addysgu gweithwyr proffesiynol iechyd llygaid gofal eilaidd am Wasanaeth Gofal Llygaid Cymru a’r cyflyrau y gellir eu rheoli mewn lleoliad gofal sylfaenol yn y gymuned
  1. Llwybrau clir i ofal eilaidd i sicrhau bod gofal y claf yn cael ei ddarparu gan y personél priodol
  1. Defnyddio Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru yn llawn i sicrhau nad yw cleifion yn cael mynediad i wasanaethau gofal eilaidd pan ellid eu gweld mewn gofal sylfaenol
  1. Ymgyrch iechyd cyhoeddus a fydd yn codi ymwybyddiaeth o wasanaethau’r stryd fawr, cymunedol

Bydd Gwasanaeth Gofal Llygaid newydd Cymru sy’n cyd-fynd ag egwyddorion gofal iechyd darbodus yn disgwyl gwell canlyniadau a gwell gwerth gan optometryddion ac ymgynghorwyr ym maes gofal eilaidd a rhaid inni fod yn barod i adolygu’r gwasanaeth ac ystyried sut y gellir ymestyn y gwasanaeth i ddefnyddio sgiliau’r gweithwyr gofal llygaid hyn yn llawn.  Drwy ofal iechyd darbodus golygwn ofal iechyd sy’n cael ei lunio, ei reoli a’i ddarparu mewn ffordd ofalus a doeth a nodweddir gan feddwl ymlaen llaw, gwyliadwriaeth a chyllidebu gofalus sy’n cyflawni manteision gwirioneddol a chanlyniadau o safon i gleifion.


Cyfeiriadau

  1. Welsh Government – Together for Health: Eye Health Care – http://www.wales.nhs.uk/documents/Eye-Health-Care-Delivery-Plan-Wales-e.pdf
  2. Wales Eye Care Service – http://www.eyecare.wales.nhs.uk.
  3. Low Vision Service Wales – http://www.eyecare.wales.nhs.uk/low-vision-service-wales

Open Eyes Project – http://www.wales.nhs.uk/nwis/integrated-eye-care-for-wales

Visual Impairment – http://wales.gov.uk/newsroom/healthandsocialcare/2014/visual-impairment/?lang=en

New Patient Pathways – Vaughan Gething (Deputy Minister for Health) – http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2014/eyecare/?lang=en


Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

@ChoosingWiselyW #MakingChoicesTogether agrees. We promote teaching skills for #shareddecisiomaking to all clinicians. #prudenthealthcare twitter.com/richardlehman1…

@WelshGovernment ..so LHBs in Wales need more psychologists to support them, & keep them from harm. #PrudentHealthcare @DiabetesUKCymru twitter.com/glycosmedia/st…