Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Plant a gofal iechyd darbodus

  • Dr Shantini Paranjothy, Uwch-Ddarlithydd Clinigol, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Aimee Grant, Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Lisa Hurt, Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd

Crynodeb

Mae’r erthygl hon yn edrych ar sut y gall ffocws o’r newydd ar feichiogrwydd a blynyddoedd cynnar datblygiad plentyn helpu’r GIG yng Nghymru i ddarparu gofal iechyd darbodus. Mae hyn yn allweddol er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a helpu pobl i gymryd ymagwedd ragweithiol tuag at ddiogelu eu hiechyd eu hunain, sy’n rhan o ofal iechyd darbodus sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.

Mae angen i bolisi Llywodraeth Cymru a sefydliadau GIG Cymru roi blaenoriaeth i feichiogrwydd a chymorth y blynyddoedd cynnar er mwyn darparu manteision i iechyd a chreu cymdeithas decach ac iachach yn yr hirdymor.  Golyga hyn y dylid bod yn agored i ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi mewn dulliau o fesur a gwerthuso iechyd plant, er enghraifft, olrhain lefelau gordewdra mewn plant.

-

Cyflwyniad

Gofal iechyd darbodus yw,

“Gofal iechyd a gaiff ei greu, ei reoli a’i gyflenwi mewn ffordd ofalus a doeth, wedi’i nodweddu gan ragfwriad, agwedd wyliadwrus a chyllidebu gofalus sy’n cyflawni manteision pendant a chanlyniadau o ansawdd i gleifion.”

(Comisiwn Bevan, 2013)[2]

Mewn cyfnod o gyni, ble ceir toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus a mwy o alw am wasanaethau, mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio adnoddau gofal iechyd yn y ffyrdd mwyaf effeithiol ac effeithlon.

Ar bob cam bywyd ceir achos cymhellol atal salwch, ond mae’n hanfodol ymyrryd i hyrwyddo iechyd a lles yn y blynyddoedd cynnar (cyn beichiogi hyd at saith mlwydd oed) er mwyn lleihau’r baich yn sgil clefydau drwy gydol bywyd.[3-5]

Yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb iechyd yn ystod y blynyddoedd cynnar, mae manteision ychwanegol ymyriadau cynnar yn cynnwys gwell iechyd corfforol ac iechyd meddwl, canlyniadau addysgol a chymryd mwy o ran yn economaidd drwy gydol bywyd,[1,3,4,6] gan ddarparu arbedion hirdymor sylweddol. Er mwyn gwneud y mwyaf o’r manteision hyn, dylai ein hymyriadau yn y blynyddoedd cynnar fod yn rhagweithiol, yn hytrach nag aros i arwyddion cynnar y problemau godi cyn ymateb.[3] O’r holl ymyriadau, mae’n debyg mai canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar yw’r buddsoddiad mwyaf effeithiol er mwyn cyflawni gofal iechyd darbodus.

Mae egwyddorion ymyrraeth gynnar a gofal iechyd darbodus – sef peidio ag achosi niwed, ymyrryd cyn lleied â phosibl a hyrwyddo tegwch rhwng gweithwyr proffesiynol a chleifion – wedi’i fabwysiadu i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru yn ei strategaeth blynyddoedd cynnar,[5] ei strategaeth mamolaeth[7] a chanllaw Dechrau’n Deg.[8] Yn ogystal, mae strategaeth gofal iechyd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i leihau anghydraddoldebau iechyd.[9] Er mwyn darparu gofal iechyd darbodus, bydd angen i ni weithio i weithredu’r cynlluniau hyn drwy weithio’n effeithlon rhwng asiantaethau.

Rydym yn canolbwyntio yma ar bum her iechyd allweddol wrth ystyried sut y gallwn gyflawni gweledigaeth gofal iechyd darbodus mewn iechyd a lles plant yng Nghymru. Yr heriau allweddol rydym wedi’u dewis yw:

  • lleihau’r niwed yn sgil tybaco
  • cynyddu bwydo ar y fron
  • mynd i’r afael â gordewdra ymysg plant
  • hyrwyddo iechyd y geg da
  • hyrwyddo datblygiad da mewn perthynas â phlant.

Dewiswyd yr heriau allweddol hyn yn seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru ar gyfer:

  • nifer y plant yr effeithir arnynt
  • dosbarthiad anghyfartal canlyniadau gwael yn sgil lefelau amddifadedd cymdeithasol
  • pa mor ddifrifol yw’r canlyniadau yn ystod plentyndod ac yn ddiweddarach mewn bywyd
  • y posibilrwydd y gall niwed effeithio ar genedlaethau yn y dyfodol pe byddai’r tueddiadau presennol yn parhau.
Beichiogrwydd di-fwg

Mae nifer yr achosion o ysmygu ymysg menywod a’r amrywiaeth mewn lefelau ysmygu rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn ffactorau pwysig sy’n dylanwadu ar ganlyniadau iechyd y fam a’r plentyn. Mae cyfraddau ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn uwch yng Nghymru nag unrhyw wlad arall yn y DU.  Roedd tua chwarter (26 y cant) o famau yn ysmygu union cyn bod yn feichiog neu yn ystod beichiogrwydd, ond gwelwyd bod y lefelau ysmygu union cyn bod yn feichiog neu yn ystod beichiogrwydd ar eu huchaf yng Nghymru (33 y cant). Ledled y DU, roedd un o bob wyth mam (12 y cant) yn parhau i ysmygu drwy gydol beichiogrwydd ac yn parhau i ysmygu ar ôl geni’r baban a gwelwyd mai’r mamau yng Nghymru oedd fwyaf tebygol o ysmygu drwy gydol eu beichiogrwydd (16 y cant).[12]

Risgiau ysmygu yn ystod beichiogrwydd

Mae ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn gysylltiedig â risg cynyddol o gamesgoriad, marwolaeth amenedigol, a sawl cyflwr sy’n gysylltiedig â risg o salwch hirdymor, gan gynnwys geni cyn amser, pwysau geni isel,[11] anomaleddau cynhenid yn y baban,[12] a bod dros bwysau rhwng tair a thri deg a thair blwydd oed.[13] Dengys data ar blant a aned yng Nghymru rhwng 2000 a 2008 fod y risg o gael eu derbyn i’r ysbyty ar gyfer cyflyrau anadlol yn ystod plentyndod yn lleihau wrth i bob wythnos o feichiogrwydd fynd heibio hyd at 40 i 42 wythnos. Er bod y risg gynyddol ei hun yn fach ar gyfer babanod cynamserol hwyr (dros 35 wythnos) mae nifer y plant yr effeithir arnynt yn uchel ac felly mae’n cael effaith ar wasanaethau gofal iechyd.[14]

Sut y gallwn helpu menywod beichiog i roi’r gorau iddi?

Mae gennym dystiolaeth o ansawdd uchel ynghylch pa mor effeithiol yw ymyriadau o ran hyrwyddo rhoi’r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd. Nid yw rhoi cyngor yn unig i fenywod beichiog sy’n ysmygu a chynnig ymyriadau byr yn effeithiol er mwyn hwyluso ymdrechion i roi’r gorau iddi yn llwyddiannus.[15] Gall ymyriadau rhoi’r gorau i ysmygu mwy dwys, megis ymyriadau seicolegol ynghyd â therapi disodli nicotin (NRT), leihau ysmygu tuag at ddiwedd beichiogrwydd rhwng tri a chwech y cant.[16] Awgryma gwerthusiadau o’r gwasanaethau yn Lloegr a’r Alban y ceir hyblygrwydd o amgylch y safle a’r lleoliad a gall y staff clinigol sy’n darparu’r ymyriadau wella’r cysylltiad â’r cleient, hwyluso’r broses o gael NRT a chael gwell canlyniadau yn sgil hynny.  Yn 2010-11, roedd dros hanner y gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn Lloegr yn cynnig gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd arbenigol ac roedd gan draean y gwasanaethau gyllideb warchodedig ar gyfer cefnogi ysmygwyr beichiog.[17]

Manteision i iechyd ac arbed costau

Gan ddefnyddio model Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal [18]  rydym yn amcangyfrif y gellir osgoi cymaint â 23 o’r 3,368 o achosion o gymhlethdodau i’r fam a’r baban bob blwyddyn yng Nghymru (gallai’r GIG osgoi cost o £443,064), pe byddai nifer y menywod beichiog sy’n defnyddio gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn cynyddu o 11 i 25 y cant. Yng Nghymru mae angen i ni roi blaenoriaeth i weithredu canllawiau NICE ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn systematig [16] ar draws pob bwrdd iechyd.

Dylid ystyried sut y gall y GIG weithio mewn ffordd fwy integredig i weithredu’r dystiolaeth ar y maes blaenoriaeth allweddol hwn, a chael ymagwedd ddi-dor tuag at gydweithio ar draws holl wasanaethau’r GIG ac asiantaethau partner. Yn benodol, mae angen ymchwilio i werth gweithio gyda sefydliadau eraill, megis Action on Smoking and Health (ASH) Cymru.

 

Enghraifft o arfer da: Modelau Mynediad i Gymorth ar gyfer Rhoi’r Gorau i ysmygu i Famau (MAMSS)
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phedwar bwrdd iechyd i archwilio ymarferoldeb darparu gwasanaethau rhoir gorau i ysmygu arbenigol effeithiol i fenywod beichiog (Modelau Mynediad i Gymorth ar gyfer Rhoi’r Gorau i ysmygu i Famau, MAMSS).  Caiff y cylluniau peilot eu gwerthuso gan ddefnyddio cynllun lled-arbrofol a bydd y canlyniadau ar gael yn ystod gaeaf 2014–15. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2014).[35]

 

Bwydo ar y fron

Mae manteision tymor byr a thymor hir bwydo ar y fron i iechyd a lles babanod a mamau yn dra hysbys.[1,19-21] Pe bai 45 y cant o fenywod yn bwydo ar y fron yn unig am bedwar mis yn y DU, amcangyfrifir y gellid arbed o leiaf £17m mewn costau triniaethau yn flynyddol ar gyfer salwch aciwt ymysg babanod, yn ogystal â’r manteision cynyddrannol dros oes pob carfan flynyddol o famau am y tro cyntaf.[1]

Dechrau a rhoi’r gorau iddi

Er bod tua hanner yr holl famau yng Nghymru yn dechrau bwydo ar y fron, mae’r cyfraddau’n gostwng yn gyflym iawn yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf – rhoddodd tua dwy ran o dair o fenywod a ddechreuodd fwydo ar y fron y gorau iddi cyn chwe wythnos ac roedd hyn yn gynt na’r disgwyl ar gyfer y rhan fwyaf o fenywod.[22] Ar hyn o bryd dim ond un y cant o famau yng Nghymru sy’n bwydo ar y fron yn unig am chwe mis, sef y cyfnod a argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd.[10] Ceir anghydraddoldebau amlwg mewn cyfraddau bwydo ar y fron – mae mamau sy’n iau (o dan 20 oed), o gefndir ethnig gwyn Prydeinig, ac sydd â statws economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o ddechrau bwydo ar y fron neu barhau i wneud hynny am fwy na chwe wythnos. [10] Mae cymorth proffesiynol ar gyfer bwydo ar y fron ar gael ledled Cymru ond nid yw wedi cael fawr o ddylanwad ar ddechrau bwydo ar y fron neu barhau i wneud hynny mewn ardaloedd sydd â lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol.

Mae angen dulliau arloesol

Mae angen dulliau newydd ar frys i gefnogi menywod sydd fwyaf tebygol o fethu â dechrau bwydo ar y fron a pharhau i wneud hynny [22]. Hefyd mae angen ymyriadau ar frys i normaleiddio bwydo ar y fron.[23] Mae hysbysebion yn y cyfryngau yn llwyddiannus wrth hyrwyddo newidiadau iechyd, er mai prin yw’r dystiolaeth i gefnogi’r dulliau hyn parthed bwydo ar y fron.[24] Ochr yn ochr â hyn, dylai cymorth rhagweithiol, sy’n canolbwyntio ar y fam fod ar gael yn fuan ar ôl geni er mwyn sicrhau bod y menywod sydd am fwydo ar y fron yn dechrau gwneud hynny’n llwyddiannus.  Dylai hyn ystyried y rhwystrau hysbys i fwydo ar y fron (gan gynnwys rhwystrau corfforol, cymdeithasol ac emosiynol) a’u gwerthuso’n drylwyr.  Dylid ymchwilio i effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd modelau newydd ar gyfer darparu’r math hwn o gymorth.

 

Enghraifft o arfer da: Cyfweld ysgogiadol yn seiliedig ar gyfaill cefnogol ar gyfer bwydo ar y fron
Ar hyn o bryd mae Prifysgol Caerdydd, dan nawdd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd ac Asesu Technoleg Iechyd (NIHR HTA), yn datblygu ac yn profi rhaglen gymorth bwydo ar y fron a ddarperir gan gyfeillion cefnogol. Gall cymorth cyfaill o bosib fod yn ffordd gosteffeithiol o ddarparu cymorth mwy dwys pan fydd ei angen fwyaf.  Bydd y prosiect yn cael ei werthuso’n drylwyr.

 

Deiet iach a phwysau babanod

Cofnododd y rhaglen mesur plant Cymru yn ddiweddar fod 26 y cant o blant rhwng pedair a phum mlwydd oed yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew.[25] Ceir llawer o achosion sy’n achosi gordewdra mewn plant ac maent yn gymhleth – ceir cysylltiadau ag ysmygu ymysg mamau a bwyd fformiwla,[1,14] a’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at hynny ymysg plant yn y blynyddoedd cynnar yw deiet gwael a diffyg ymarfer corff.

Bydd rhoi sylw i ysmygu ymysg mamau a bwydo ar y fron felly yn ffordd dda o fynd i’r afael â gordewdra ymysg babanod a phlant yn y blynyddoedd cynnar.  Yn ddelfrydol, mae angen ymyriadau i hyrwyddo bwyta’n iach ac ymarfer corff i blant i ategu’r rhain, ond ar hyn o bryd ceir diffyg ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.  Fodd bynnag, byddai’n ddarbodus, o gofio bod rhaid i ni ddelio â’r mater iechyd cyhoeddus pwysig hwn ar fyrder, dal ati gyda dulliau arbrofol er mwyn datblygu a phrofi ymyriadau newydd.  Drwy fonitro a gwylio yn barhaus mae’n rhaid i ni amlygu’r broblem gordewdra yn ystod plentyndod gyda rhieni.  Gallwn roi cyngor a chymorth iddynt sefydlu deiet iach a dod yn fwy gweithgar drwy weithgareddau corfforol sydd ar gael drwy amryw o fentrau parhaus y blynyddoedd cynnar sydd ar gael ledled Cymru.

Iechyd y geg da

Mae nifer yr achosion o bydredd dannedd wedi lleihau dros y 40 mlynedd diwethaf.  Gwelir pydredd dannedd o hyd ymysg bron i hanner y plant a’r glasoed yn y DU, er bod nifer yr achosion yn amrywio’n sylweddol yn ôl lefel amddifadedd.[26] Mae hon yn broblem iechyd cyhoeddus bwysig gan fod iechyd y geg gwael yn gysylltiedig â phoen, bod yn absennol o’r ysgol, cyrhaeddiad addysgol is,[27] diffyg cwsg yn ogystal â phydredd dannedd.[26] Awgryma tystiolaeth ddiweddar y gallai nifer y plant y mae angen tynnu eu dannedd sydd wedi pydru neu wedi’u heintio o dan anesthetig cyffredinol fod yn cynyddu, gyda rhai plant yn cael amryw o lawdriniaethau.[26]

Yng Nghymru, mae’r rhaglen Cynllun Gwên yn hyrwyddo iechyd y geg da. Cynigia’r rhaglen hon sgrinio deintyddol mewn ysgolion ledled Cymru, ac mae’n darparu farnais fflworid a selio tyllau mewn dannedd plant fel y bo’n briodol, yn rhoi brwsys dannedd a phast dannedd am ddim i blant eu defnyddio gartref a hyrwyddo goruchwylio’r broses o lanhau dannedd yn ddyddiol mewn ysgolion a meithrinfeydd. Caiff effeithiolrwydd y fenter hon ei werthuso maes o law. Dylid ystyried gweithredu strategaethau newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth, megis darparu atchwanegiadau fflworid.[28]

 

Enghraifft o arfer da: Selio neu farnais
Mae Prifysgol Caerdydd, dan nawdd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd ac Asesu Technoleg Iechyd (NIHR HTA), yn gwerthuso effeithiolrwydd clinigol a pha mor gost-effeithiol yw darparu farnais fflworid a selio tyllau mewn dannedd plant yn y tymor canolig. Caiff yr ymchwil ei gwblhau yn 2016 ac fe fydd yn cyfrannu at ddatblygu polisi yn y dyfodol.

 

Gwella datblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar gan gynnwys lles cymdeithasol ac emosiynol

Gwelwyd yn gyson fod datblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar – gan gynnwys meysydd corfforol, cymdeithasol ac emosiynol, ieithyddol a gwybyddol – yn gysylltiedig â llawer o agweddau sy’n ymwneud â lles ar ôl tyfu’n oedolyn, gan gynnwys iechyd corfforol a meddyliol, cymhwysedd mewn llythrennedd a rhifedd, troseddu, a chyfranogiad economaidd.[29-31] O ganlyniad mae buddsoddi mewn datblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar yn ddarbodus. Erbyn hyn, dylid buddsoddi yn y gwasanaethau y profwyd eu bod o fudd i wella datblygiad a lles cymdeithasol ac emosiynol plentyn yn y blynyddoedd cynnar, i sicrhau gwytnwch o ran iechyd, lles a datblygiad plant[6] er mwyn darparu gofal iechyd darbodus.

Adolygiad Marmot

Argymhellodd adolygiad Marmot y dylid cynyddu cyfran y gwariant a ddyrennir i’r blynyddoedd cynnar a lleihau canlyniadau niweidiol mewn beichiogrwydd ac ymysg babanod drwy roi blaenoriaeth i ddarparu cymorth cyn-enedigol ac ôl-enedigol i deuluoedd.[29] Amlygodd hefyd fanteision darparu ymyrraeth yn seiliedig ar ‘gyffredinoliaeth gyfrannol’, gan nodi:

“Er mwyn lleihau pa mor serth yw’r graddiant cymdeithasol mewn iechyd, mae’n rhaid i’r camau gweithredu fod ym mhob man, ond ar raddfa a dwysedd sy’n gymesur â lefel yr anfantais.”

(Marmot et al. 2010)[29]

Datblygwyd y cysyniad hwn yn adroddiad Allen a adolygodd y dystiolaeth ar gyfer ymyriadau cynnar gyda’r nod o ddod o hyd i raglenni er mwyn gwella parodrwydd ar gyfer mynd i’r ysgol (0 i bump), parodrwydd ar gyfer mynd i’r ysgol uwchradd (pump i 11) a pharodrwydd am fywyd (11 to 18). Roedd y rhan fwyaf o’r rhaglenni yn seiliedig ar dystiolaeth yn y blynyddoedd cynnar yn targedu grwpiau risg uchel penodol ac nid oedd gan lawer o’r rhaglenni cyffredinol dystiolaeth gadarn ac nid oeddent yn mynd i’r afael â datblygiad plant yn gyffredinol, gan gynnwys lles cymdeithasol ac emosiynol.[3]

Beth sy’n gweithio?

Mae tystiolaeth o ansawdd uchel ar gael neu wedi’i chynllunio yn sgil adolygiadau systematig o effeithiau llawer o ymyriadau penodol i hyrwyddo datblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys rhaglenni sy’n hyfforddi rhieni a rhaglenni addysgol mewn canolfan.  Fodd bynnag, nid yw’r adolygiadau hyn bob amser yn darparu’r darlun llawn o’r ymyriadau sy’n berthnasol i bolisi ac ymarfer iechyd cyhoeddus yng Nghymru.  Naill ai nid ydynt yn llwyddo i ddarlunio modelau’r rhaglenni sydd ar hyn o bryd yn gonglfaen ein rhaglenni blynyddoedd cynnar yn llawn (cymorth gweithiwr iechyd proffesiynol cyffredinol, a ddarperir yn bennaf gan ymwelwyr iechyd, sydd fwyaf dwys yn ystod dwy flynedd gyntaf bywyd plentyn), neu nid ydynt yn llwyddo i ddarparu archwiliad cynhwysfawr o ganlyniadau datblygiad plant yn y blynyddoedd cyntaf un (hyd at ac yn cynnwys tair blwydd oed).  Nid ydynt yn llwyddo i fynegi’r gydberthynas rhwng datblygiad plant a lles cymdeithasol ac emosiynol nac ychwaith yn disgrifio’r sail ddamcaniaethol dros ymyriadau a chysylltu hyn ag effaith yr ymyrraeth.

Yn amlwg mae angen ymchwilio i effaith mwy o gysylltiad rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a rhieni a phlant rhwng y cyfnod cynenedigol a dwy flwydd oed.  Mae angen i ni adolygu canlyniadau datblygiad plant a lles cymdeithasol ac emosiynol mewn plant rhwng tri mis a thair blwydd oed a datblygu polisïau cynhwysfawr sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Y camau nesaf: datblygu agenda iechyd plant darbodus yng Nghymru

1. Syniadau ymarferol i ysgogi newid

Er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y meysydd iechyd plant hyn gan ddefnyddio’r agenda gofal iechyd darbodus, mae angen i ni roi blaenoriaeth i fuddsoddiad a chanolbwyntio mwy ar fesurau ataliol yn y blynyddoedd cynnar.  Mewn meysydd megis gordewdra ymysg plant, ble nad oes fawr o dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio, mae gofal iechyd darbodus yn gofyn i ni amlygu pa mor fawr yw’r broblem, ac yna ymdrechu’n galed i ddatblygu, profi a gwerthuso effaith bosibl yr ymyriadau newydd, gan roi pwyslais ar weithredu’n amserol ar raddfa fawr.

2. Newid polisïau i hyrwyddo beichiogrwydd iach a blynyddoedd cynnar iach

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i weithredu rhaglen flaengar o ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus.  Gan ddefnyddio dulliau modelu gofal iechyd mae angen i ni ganfod yr ymyriadau a fyddai’n cael yr effaith fwyaf ar ganlyniadau iechyd y boblogaeth a sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu’n systematig ar raddfa fawr ac yn gyflym. Dylid gwerthuso’r rhaglenni cyfredol yn drylwyr os nad oes ganddynt dystiolaeth gref, gan ddefnyddio Hap-dreial wedi’i Reoli neu gynlluniau lled-arbrofol.

3. Ehangu mynediad i ymyriadau presennol sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Ar hyn o bryd, mae llwybrau at ymyriadau yn dibynnu’n aml ar weithwyr iechyd proffesiynol.  Ochr yn ochr â’r llwybr ffurfiol gwerthfawr hwn, gwelwyd bod gweithwyr iechyd lleyg yn hyrwyddo bwydo ar y fron a derbyn brechiadau yn effeithiol.[33] Dylid felly ystyried defnyddio hyrwyddwyr iechyd cymunedol i gefnogi ymddygiad iach a chael ymyriadau mewn grwpiau cymunedol, ysgolion, clybiau ieuenctid, canolfannau i blant a gwasanaethau cymdeithasol.  Dylai’r hyrwyddwyr iechyd cymunedol hyn gael hyfforddiant byr i atgyfeirio pobl i gael cyngor neu driniaeth a chymorth rheolaidd gan weithiwr iechyd proffesiynol.

4. Mynd i’r afael ag ymddygiadau niferus sy’n peri risg i iechyd

Yng Nghymru, mae amryw o ymddygiadau sy’n peri risg i iechyd yn ystod beichiogrwydd a phlentyndod yn cydfodoli.  Er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr effeithiau posibl, dylid rhoi blaenoriaeth i ddatblygu neu fabwysiadu ymyriadau i fynd i’r afael ag amryw o risgiau i iechyd.

5. Dylid mabwysiadu’r egwyddor cyffredinoliaeth gyfrannol

Ochr yn ochr â’r ymyriadau cyffredinol, dylid targedu cymorth ychwanegol i’r rhai sydd ei angen fwyaf, er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd.[5,30]

6. Dylid creu llwyfan goruchwylio integredig cadarn

Diben system oruchwylio’r blynyddoedd cynnar fyddai canolbwyntio a rhoi blaenoriaeth i’r blynyddoedd cynnar, cymell gwelliannau mewn anghydraddoldebau y blynyddoedd cynnar ac olrhain cynnydd, canfod meysydd o arfer da a chofnodi bylchau y dylid rhoi sylw iddynt, cydlynu cymorth a gwerthuso rhaglenni.  Byddai datblygu system o’r fath, gan ddefnyddio’r ystod o ddata gofal iechyd a chymdeithasol a gesglir yn arferol yng Nghymru yn caniatáu cynnydd er mwyn mesur canlyniadau, yn yr hirdymor a’r tymor byr.[1,3,33]


Cyfeiriadau

  1. RENFREW MJ, POKHREL S, QUIGLEY M, MCCORMICK F, FOX-RUSHBY J, DODDS R, DUFFY S, TRUEMAN P, WILLIAMS, A. Preventing disease and saving resources: the potential contribution of increasing breastfeeding rates in the UK. London: UNICEF; 2012.
  2. BEVAN COMMISSION. Simply Prudent Healthcare: achieving better care and value for money in Wales [Internet]; 2013 [cited 2014 August 01]; Available at http://www.bevancommission.org/sitesplus/documents/1101/Bevan%20Commission%20Simply%20Prudent%20Healthcare%20v1%2004122013.pdf.
  3. ALLEN G. Early intervention: the next steps, an independent report to Her Majesty’s government by Graham Allen MP: The Stationery Office. 2011.
  4. Field F. The Foundation years: preventing poor childern becoming poor adults. The Report of the Independent Review on Poverty and Life Chances. HM Government. December 2010. http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20110120090128/http://povertyreview.independent.gov.uk/media/20254/poverty-report.pdf [accessed 15.09.2014]
  5. WELSH GOVERNMENT. Building a Brighter Future: early years and childcare plan. In: DEPARTMENT FOR EDUCATION AND SKILLS & DEPARTMENT FOR COMMUNITIES AND TACKLING POVERTY (eds.). Cardiff: Welsh Government; 2013a.
  6. DAVIES SC 2013. Chief Medical Officer’s annual report 2012: Our children deserve better: prevention pays [Internet] 2013 [cited 2014 February 26]. London: Department of Health; Available at https://gov.uk/government/publications/chief-medical-officers-annual-report-2012-our-children-deserve-better-prevention-pays
  7. WELSH GOVERNMENT. A Strategic Vision for Maternity Services in Wales [Internet] 2013c [cited 2014 September 02]; Available at http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/strategies/maternity/?lang=en
  8. WELSH GOVERNMENT. Flying Start strategic guidance. Cardiff: Welsh Government; 2013b.
  9. WELSH GOVERNMENT. Fairer health outcomes for all: reducing inequalities in health strategic action plan. Cardiff: Welsh Government; 2011.
  10. HEALTH AND SOCIAL CARE INFORMATION CENTRE. Infant Feeding Survey 2010 [Internet] 2012 [cited 2014 June 04]; Available at http://www.hscic.gov.uk/catalogue/PUB08694.
  11. ECONOMIDES D, BRAITHWAITE J. Smoking, pregnancy and the fetus. The J R Soc Promo Health 1994;114, 198-201.
  12. HACKSHAW A, RODECK C, BONIFACE S. Maternal smoking in pregnancy and birth defects: a systematic review based on 173 687 malformed cases and 11.7 million controls. Hum Reprod Update 2011;17, 589-604.
  13. OKEN E, LEVITAN E, GILLMAN M. Maternal smoking during pregnancy and child overweight: systematic review and meta-analysis. Int J Obesity 2007; 32, 201-210.
  14. PARANJOTHY S, DUNSTAN F, WATKINS WJ, HYATT M, DEMMLER JC, LYONS RA, FONE D. Gestational Age, Birth Weight, and Risk of Respiratory Hospital Admission in Childhood. Pediatrics 2013; 132, e1562-e1569.
  15. HAJEK P, WEST R, LEE A, FOULDS J, OWEN L, EISER JR, MAIN N. Randomized controlled trial of a midwife‐delivered brief smoking cessation intervention in pregnancy. Addiction 2001.; 96, 485-494.
  16. NATIONAL INSTITUTE FOR HEALTH AND CARE EXCELLENCE. Quitting smoking in pregnancy and following childbirth. NICE; 2010b.
  17. FAHY S, COOPER S, COLEMAN T, NAUGHTON F, BAULD L. Provision of smoking cessation support for pregnant women in England: results from an online survey of NHS stop smoking services for pregnant women. BMC Health Services Research 2014; 14,
  18. NATIONAL INSTITUTE FOR HEALTH AND CARE EXCELLENCE. PH26 Quitting smoking in pregnancy and following childbirth: costing template [Internet] 2010a [cited 2014 September 02]; Available at http://www.nice.org.uk/Guidance/PH26/Costing.
  19. ROYAL COLLEGE OF MIDWIVES. Maternal emotional wellbeing and infant development: a good practice guide for midwives. [Internet] 2012 [cited 2013 July 19]; Available at www.rcm.org.uk/EasySiteWeb/GatewayLink.aspx?alId=306309.
  20. NICE 2012. Social and emotional well-being: early years. CGPH40. [Internet] 2012 [cited 2013 July 19]; Available at. http://www.nice.org.uk/nicemedia/live/13941/61149/61149.pdf.
  21. NICE 2011. Improving the nutrition of pregnant and breastfeeding mothers and children in low-income households. [Internet] 2011 [cited 2013 July 17]; Available at http://www.nice.org.uk/nicemedia/live/11943/40097/40097.pdf.
  22. MCANDREW F, THOMPSON J, FELLOWS L, LARGE A, SPEED M, RENFREW MJ. Infant feeding survey 2010. [Internet] [cited 2014 September 14]; Available at http://www.hscic.gov.uk/catalogue/PUB08694/Infant-Feeding-Survey-2010-Consolidated-Report.pdf
  23. BROWN A, LEE M. An exploration of the attitudes and experiences of mothers in the United Kingdom who chose to breastfeed exclusively for 6 months postpartum. Breastfeeding Medicine 2011; 6, 197-204.
  24. WAKEFIELD MA, LOKEN B, HORNIK RC. Use of mass media campaigns to change health behaviour. The Lancet 2010; 376, 1261-1271.
  25. PUBLIC HEALTH WALES. Child Measurement Programme 2012/13. 2014a.
  26. BHATIA SK, MAGUIRE SA, CHADWICK BL, HUNTER ML, HARRIS JC, TEMPEST V, MANN MK, KEMP AM. Characteristics of child dental neglect: A systematic review. J Dent 2014; 42, 229-239.
  27. JACKSON SL, VANN JR WF, KOTCH JB, PAHEL BT, LEE JY. Impact of poor oral health on children’s school attendance and performance. Am J Public Health 2011; 101,
  28. TUBERT-JEANNIN S, AUCLAIR C, AMSALLEM E, TRAMINI P, GERBAUD L, RUFFIEUX C, SCHULTE AG, KOCH MJ, REGE-WALTHER M, ISMAIL A. Fluoride supplements (tablets, drops, lozenges or chewing gums) for preventing dental caries in children. Cochrane Database of Syst Rev, 2011.
  29. MARMOT M, ALLEN J, GOLDBLATT P, BOYCE T, MCNEISH D, GRADY M, GEDDES I. Fair society, healthy lives: Strategic review of health inequalities in England post-2010 [Internet] 2010 [cited 2014 September 14]; Available at
  30. STEWART-BROWN S L, FLETCHER L, WADSWORTH ME. Parent–child relationships and health problems in adulthood in three UK national birth cohort studies. Eur J Public Health 2005;15, 640-646.
  31. IRWIN LG, SIDDIQI A, HERTZMAN C. Early child development: a powerful equalizer. Final report to the WHO Commission on social determinants of health, Geneva; 2007.
  32. LEWIN S, MUNABI-BABIGUMIRA S, GLENTON C, DANIELS K, BOSCH-CAPBLANCH X, VAN WYK BE, ODGAARD-JENSEN J, JOHANSEN M, AJA GN, ZWARENSTEIN M. Lay health workers in primary and community health care for maternal and child health and the management of infectious diseases. Cochrane Database Syst Rev, 3. 2010.
  33. LYONS RA, FORD DV, MOORE L, RODGERS SE. Use of data linkage to measure the population health effect of non-health-care interventions. The Lancet 2014;383, 1517-1519.
  34. PUBLIC HEALTH WALES. 2014b. Models for Access to Maternal Smoking cessation Support (MAMSS) [Online]. Available: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/64809 [Accessed 02/09/14]

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Dr Shantini Paranjothy yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

“Mae manteision tymor hir a thymor byr bwydo ar y fron i iechyd a lles babanod a mamau yn dra hysbys.  Pe bai 45 y cant o fenywod yn bwydo ar y fron yn unig am bedwar mis yn y DU, amcangyfrifir y gellid arbed o leiaf £17m mewn costau triniaethau yn flynyddol ar gyfer salwch aciwt ymysg babanod, yn ogystal â’r manteision cynyddrannol dros oes pob carfan flynyddol o famau am y tro cyntaf.”

Gwneud iddo ddigwydd

  1. Dylid ystyried sut y gallai’r GIG weithio mewn ffordd fwy integredig er mwyn gweithredu’r dystiolaeth i roi cymorth i fenywod beichiog roi’r gorau i smygu, a chael ymagwedd ddi-dor tuag at gydweithio ar draws holl wasanaethau’r GIG ac asiantaethau partner.
  2. Mae angen dulliau newydd ar frys i gefnogi’r menywod sydd fwyaf mewn perygl o fethu â dechrau bwydo ar y fron a methu â pharhau i wneud hynny.
  3. Mae’n rhaid i ni ddelio ar frys ag un o’r prif broblemau iechyd cyhoeddus sef gordewdra ymysg plant, a dygnu ymlaen gydag ymagweddau arbrofol i ddatblygu a phrofi ymyriadau newydd. Mae’n rhaid i ni amlygu’r broblem gordewdra ymysg plant gyda’r rhieni drwy waith monitro a goruchwylio parhaus.
  4. Mae angen i ni adolygu canlyniadau datblygiad plant a lles cymdeithasol ac emosiynol ymysg plant rhwng tri mis a thair blwydd oed a chyfrannu at ddatblygu polisïau cynhwysfawr, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Presentations done. Packed. #ILF ITALY. Lymphoedema Network Wales showcasing #prudenthealthcare @karen_morgan10 @e_coveney @JaneFitzpatric4