Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Gwneud y mwyaf o gyfleoedd newydd trwy ofal fferyllol darbodus

  • Bethan Tranter, Prif Fferyllydd, Canolfan Ganser Felindre
  • Mair Davies, Cadeirydd, Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru

Crynodeb

Mae’r erthygl hon yn dangos sut y gall y tîm fferyllol ledled y GIG cyfan gyfrannu at yr agenda gofal iechyd darbodus. Mae’n cydnabod bod y broses o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn newid ac yn dangos sut y gall rolau fferylliaeth glinigol gynnig cyfleoedd newydd er mwyn newid dynameg gofal i gleifion mewn amgylcheddau gofal cymunedol a gofal acíwt.

Cyflwyniad

Mae fferyllwyr mewn sefyllfa ddelfrydol i weithredu egwyddorion gofal iechyd darbodus. Fel y trydydd grŵp proffesiynol mwyaf yn y GIG, mae gan y proffesiwn fferyllol gyfraniad sylweddol a gwerthfawr i’w wneud i ofal iechyd pobl yng Nghymru. Canfu Arolwg Iechyd Cymru yn 2013 fod 70 y cant o oedolion wedi nodi eu bod wedi defnyddio fferyllfa yn ystod y 12 mis diwethaf a nododd 36 y cant eu bod wedi prynu meddyginiaeth yn ystod y pedair wythnos flaenorol [1].

Mae’r tîm fferyllol nid yn unig yn cynnwys fferyllwyr medrus iawn sydd â gwybodaeth glinigol arbenigol o feddyginiaethau, ond hefyd technegwyr fferyllfa cymwys sydd hefyd wedi cofrestru â’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol a staff cymorth sy’n gweithio yn y gymuned ac yn yr ysbyty.

Mae gan bob ysbyty yn GIG Cymru dîm o fferyllwyr sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i gleifion ynglŷn â’u meddyginiaethau yn ogystal ag ymgymryd ag amrywiaeth o rolau er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau’n cael eu defnyddio’n ddiogel ac yn effeithiol.

Mae’r rhwydwaith o fwy na 700 o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru yn cynnig cyngor arbenigol ar feddyginiaethau a gwasanaethau dan arweiniad fferyllfa sydd ar gael yn lleol i bawb yng Nghymru.

Fel arbenigwyr meddyginiaethau, mae fferyllwyr a’u timoedd am sicrhau, wrth i GIG Cymru symud tuag at ddarparu gofal iechyd darbodus, ei fod yn manteisio i’r eithaf ar eu sgiliau. Mae’r tîm fferyllol yn gweithredu ar bob cam o’r prosesau sy’n ymwneud â meddyginiaethau – o rolau clinigol sy’n delio â chleifion i rolau technegol ac ariannol. Mae gan fferyllwyr y wybodaeth a’r sgiliau i helpu cleifion â chyflyrau meddygol hirdymor, drwy ddulliau rheoli a hyfforddi dwys mewn perthynas â meddyginiaethau. Y fferyllfa yw’r man galw cyntaf ar gyfer pobl sydd â mân anhwylderau ac mae fferyllwyr yn sicrhau bod pobl yn cael cymorth â phob agwedd ar eu defnydd o feddyginiaethau. Mae’n holl bwysig bod yr anghenion meddygol a fferyllol hyn yn cael eu cydlynu’n briodol drwy’r holl lwybrau gofal iechyd, gan gynnwys mewnbwn a chymorth gan y tîm fferyllol ar bob lefel.

Gofal fferyllol darbodus

Mae gofal iechyd darbodus yn dibynnu ar ddull gweithredu cydgysylltiedig a chydweithredol rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a phobl yng Nghymru. Mae meddyginiaethau yn nodwedd gyffredin ymhlith y rhan fwyaf o gyfnodau gofal iechyd. Mae’n holl bwysig bod penderfyniadau ynghylch meddyginiaethau a chyngor ynghylch gofal fferyllol yn cael eu harwain gan arbenigedd y tîm fferyllol. Mae angen sicrhau ar frys bod gwasanaethau ar gael sy’n integreiddio’r tîm fferyllol yn llawn o fewn modelau amlddisgyblaethol o ofal er mwyn cymhwyso egwyddorion gofal iechyd darbodus yn ymarferol.

Mae fferyllwyr wedi bod yn ymarfer llawer o egwyddorion gofal iechyd darbodus ers llawer o flynyddoedd ac maent yn gyfarwydd iawn â rolau a swyddogaethau dyddiol timau fferyllol ym mhob lleoliad gofal iechyd.

Cadw cleifion yn ddiogel gyda chymorth meddyginiaethau

Gall meddyginiaethau estyn bywyd ac achub bywyd ond gallant hefyd beri niwed os cânt eu defnyddio’n anghywir. Er mwyn lleihau niwed a sicrhau’r buddiannau mwyaf posibl, mae fferyllwyr yn aelodau hanfodol o’r tîm amlddisgyblaethol.

Dosbarthu awtomataidd

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i weithredu rhaglen gynhwysfawr o systemau dosbarthu cyffuriau awtomataidd – “robotiaid” – ar draws fferyllfeydd ysbytai. Mae’r robotiaid hyn wedi ategu gwelliannau yn y cymysgedd sgiliau rhwng fferyllwyr, technegwyr fferyllfa a staff cymorth, gan wella amseroedd dosbarthu cyffuriau ar gyfer cleifion allanol, meddyginiaethau wrth ryddhau ac yn bwysicach, maent wedi lleihau gwallau wrth ddosbarthu cyffuriau. Mae’r buddiannau hyn wedi rhoi mwy o amser i fferyllwyr ddatblygu rolau mwy clinigol gyda mwy o gysylltiad â chleifion mewn ysbytai.

Mae’r cyfleoedd i gynnwys systemau dosbarthu cyffuriau awtomataidd mewn fferyllfeydd cymunedol yn datblygu. Mae awtomeiddio bellach yn symleiddio’r prosesau dosbarthu cyffuriau mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru ac yn rhyddhau amser ac adnoddau i ategu’r broses o ddatblygu rolau clinigol i fferyllwyr sy’n gweithio yn y gymuned.

Grymuso cleifion

Mae’r tîm fferyllol, ym mhob lleoliad, yn anelu at sicrhau bod cleifion yn cael y meddyginiaethau iawn ar yr adeg iawn. Mae fferyllwyr yn defnyddio tystiolaeth i helpu i addysgu cleifion am eu meddyginiaethau, ac yn gwrando ar eu credoau a’u pryderon, gan sicrhau eu bod yn cael cymorth a gwybodaeth briodol. Mae’r tîm fferyllol yn meithrin perthnasau â chleifion, gan sicrhau eu bod ond yn derbyn y meddyginiaethau ar sail tystiolaeth sydd eu hangen arnynt a’r rhai maent yn barod i’w cymryd. Drwy ryngweithio â’r tîm fferyllol mae cleifion hefyd yn cael cymorth i hunanreoli cyflyrau cronig a hunanofalu am fân gyflyrau acíwt.

Llywodraethu

Mae trefniadau llywodraethu meddyginiaethau cadarn hefyd yn elfen hanfodol o’r broses o ddarparu gofal fferyllol diogel ac effeithiol. Mae proses lywodraethu yn diogelu cleifion ond mae’r broses hon, i raddau helaeth, yn anweledig ac ni chaiff ei chydnabod na’i gwerthfawrogi’n ddigonol. Mae trefniadau llywodraethu da wrth wraidd y gwaith o gynllunio systemau a phrosesau, ac yn sail i’r ffordd y caiff y rhain eu gweithredu a’u monitro er mwyn diogelu cleifion rhag niwed sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau. Mae fferyllwyr hefyd yn darparu arweinyddiaeth ar feddyginiaethau ac maent yn gyfrifol am ddatblygu fformiwlâu meddyginiaethau lleol, gan ystyried tystiolaeth glinigol a diogelwch ynghyd â chost.

Rheoli cyflwr clefydau

Mae fferyllwyr yn aelodau tîm allweddol o ran datblygu polisïau a gweithdrefnau ar sail tystiolaeth i ategu dull rheoli cyflwr clefydau. Mae’r polisïau hyn yn rhoi arweiniad i staff meddygol a nyrsio wrth iddynt ragnodi a dosbarthu meddyginiaethau yn ddiogel. Maent yn gweithredu fel offeryn diogelwch pwysig i GIG Cymru gan sicrhau hefyd bod cleifion â chyflyrau tebyg yn cael eu trin yn gyfartal yn ôl angen clinigol.

Diogelu rhag niwed

Gall cleifion gael eu diogelu rhag niwed yn y dyfodol drwy sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn dysgu o ddigwyddiadau a gwallau ac yn gweithredu’r newidiadau angenrheidiol mewn systemau ac ymarfer. Fferyllwyr sy’n gweithio mewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yw’r swyddogion diogelwch meddyginiaethau. Mae hyn yn ffurfioli rôl hirsefydlog sy’n ymwneud â hyrwyddo’r broses o gofnodi digwyddiadau meddyginiaeth a rhoi cyngor a chanllawiau awdurdodol ar waith. Mae rôl fferyllwyr fel Hyrwyddwyr Cerdyn Melyn wedi gwrthdoi’r dirywiad yn y broses o gofnodi adweithiau niweidiol i gyffuriau. Mae’r cynllun Cerdyn Melyn yn rhoi data ar adweithiau niweidiol i feddyginiaethau, a gaiff eu casglu ar lefel y DU, a’u defnyddio i lywio achosion o drwyddedu meddyginiaethau yn y dyfodol ac i leihau’r risg o adweithiau niweidiol [2].

Croesi lleoliadau gofal

Gall niwed gael ei achosi o ganlyniad i fethiannau cyfathrebu pan fydd gofal cleifion yn croesi’r ffiniau rhwng lleoliadau gofal. Mae ymchwil fewnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi dangos na chafodd 22 allan o 60 o newidiadau rhagnodi ar lythyron cyngor wrth ryddhau (DAL) eu dilyn wrth ragnodi mewn gofal sylfaenol. Bydd gweithredu’r e-DAL (trosglwyddo gwybodaeth DAL yn electronig) yn mynd i’r afael â llawer o’r materion a nodwyd gan y gwaith ymchwil.

Sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar gymorth gofal iechyd

Mae’r rhwydwaith fferyllol cymunedol yng Nghymru yn rhoi’r cyfle i bobl gael gafael ar gyngor ar hybu iechyd a hunanofal, heb fod angen atgyfeiriad neu apwyntiad ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddynt hwy – er enghraifft, ar y stryd fawr neu mewn archfarchnad. Gall y tîm fferyllol drin anhwylderau cyffredin, rhoi gwybodaeth am ffordd o fyw iach, cyngor ar feddyginiaethau a darparu ymyriadau manteisgar sy’n ymwneud ag iechyd ar yr adeg y dosberthir y feddyginiaeth.

Perthnasau

Drwy ryngweithio’n rheolaidd â’r tîm fferyllol, gall cleifion a’u gofalwyr feithrin perthnasau cadarnhaol iawn. Mae fferyllwyr fel arfer yn sylwi ar newidiadau yn iechyd, lles cyffredinol a sefyllfa gymdeithasol claf o ganlyniad i gyswllt rheolaidd o’r fath, sy’n rhoi cyfleoedd i fynd i’r afael ag anghenion holistaidd unigolion.

Gwasanaethau presennol

Ar hyn o bryd mae fferyllwyr yn cynnig nifer o wasanaethau i ategu iechyd a lles cleifion, megis gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu. Ymhlith y gwasanaethau eraill a gynigir mae gwasanaethau adolygu’r defnydd o feddyginiaeth, sy’n rhoi claf wrth wraidd yr ymgynghoriad, gan rymuso cleifion i weithio gyda fferyllwyr i sicrhau eu bod yn deall pa feddyginiaethau maent yn eu cymryd a ph’un a ydynt yn llwyddiannus.

Bydd fferyllwyr mewn ysbytai ac yn y gymuned yn aml yn gweithio gyda’i gilydd pan gaiff claf ei ryddhau o ofal, gan sicrhau bod fferyllwyr yn y gymuned yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i feddyginiaethau. Gwneir hyn drwy’r gwasanaeth adolygu meddyginiaethau wrth ryddhau. Mae cyfle i ehangu’r gwasanaeth pwysig hwn a manteisio ymhellach ar ddatblygiadau mewn technoleg er mwyn sicrhau’r buddiannau mwyaf posibl i gleifion fel rhan o’r agenda gofal iechyd darbodus.

Y gymysgedd gywir o sgiliau yn y tîm fferyllol

Mae nifer o wahanol rolau a chyfrifoldebau o fewn pob tîm fferyllol. Bydd unigolion wedi cymhwyso i wahanol lefelau a byddant yn meddu ar lefelau amrywiol o arbenigedd a gwybodaeth glinigol. Ers llawer o flynyddoedd mae’r proffesiwn fferylliaeth wedi cydnabod y buddiannau i ofal cleifion drwy sicrhau bod aelodau o staff â hyfforddiant priodol yn cyflawni rolau sy’n benodol iddynt hwy yn unig. Ymhlith yr enghreifftiau o rolau newydd sydd wedi datblygu yn y tîm fferyllol mae:

Fferyllwyr-ragnodwyr anfeddygol – fel arbeniwyr yn y maes meddyginiaethau, mae fferyllwyr mewn sefyllfa dda i ymgymryd â’r rôl ddatblygol naturiol o ragnodi. Ers i ragnodi anfeddygol gael ei gyflwyno gyntaf yng Nghymru, bu cynnydd cyson yn nifer y fferyllwyr sy’n rhagnodwyr annibynnol cymwys. Mae fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol bellach wedi’u sefydlu mewn nifer o arbenigeddau clinigol ledled Cymru ac yn darparu sgiliau ychwanegol gwerthfawr i helpu i gynorthwyo cleifion.

Technegwyr fferyllol gwirio achrededig – yn gymwys i ymgymryd â gwiriadau cywirdeb technegol terfynol ar bob presgripswn a ddosberthir. Mae hyn yn golygu unwaith y bydd gwiriad clinigol wedi’i wneud ar bresgripsiwn gan fferyllwr, ni fydd yn rhaid i fferyllwr wirio’r presgripsiwn hwnnw eto cyn ei roi i’r claf. Mae hyn yn lleihau’r gofyniad i fferyllwr weithio o fewn cyfyngiadau fferyllfa, gan ryddhau fferyllwyr i dreulio mwy o amser yn uniongyrchol gyda chleifion.

Technegwyr fferyllol rheoli meddyginiaethau – yn gweithio ochr yn ochr â fferyllwyr ar wardiau ysbyty ac yn helpu i sicrhau bod gan gleifion hanes meddyginiaethau cywir a bod meddyginiaeth sydd wedi’i labelu a’i dosbarthu’n gywir ar gael yn locer ochr gwely’r claf. Mae’r broses hon yn golygu y gellir defyddio meddyginiaethau’r claf ei hun yn yr ysbyty, gan helpu i leihau gwastraff a sicrhau bod cleifion yn deall eu meddyginiaethau a’u bod yn gallu bod yn gyfrifol amdanynt yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod gan staff nyrsio fynediad uniongyrchol i feddyginiaethau sydd wedi’u labelu ar gyfer cleifion unigol gan wella effeithlonrwydd a diogelwch rowndiau dosbarthu meddyginiaethau. Gall hefyd helpu i hwyluso proses rhyddhau gyflymach ar gyfer cleifion gan fod meddyginiaethau ar gael ar y ward ar yr adeg y caiff y presgripswn ei ysgrifennu. Drwy gael technegwyr rheoli meddyginiaethau ar y ward bydd gan fferyllwyr fwy o amser i ganolbwyntio ar ymholiadau clinigol mwy cymhleth.

Uchelgeisiau ar gyfer gwasanaethau fferyllol darbodus

Daeth y proffesiwn fferylliaeth yng Nghymru at ei gilydd yn ddiweddar i lunio dogfen weledigaethol ar gyfer dyfodol fferylliaeth, ‘Your Care, Your Medicines’[3] sy’n nodi’r uchelgais i’r maes fferylliaeth gael ei integreiddio’n llawn yn y tîm gofal iechyd fel y gall rannu ei sgiliau a’i wybodaeth unigryw ymhellach, er budd pobl yng Nghymru.

1. Defnyddio sgiliau’r tîm fferyllol ymhellach

Gall pobl yng Nghymru gael mynediad mwy cyfleus i ofal iechyd priodol os defnyddir gwybodaeth glinigol fferyllwyr i’r eithaf. Gall mwy o glinigau dan arweiniad fferyllfa mewn ysbytai ac yn y gymuned gael effaith gadarnhaol ar allu clinigol a bydd hyn yn helpu i gynorthwyo meddygon ynghyd â helpu i leihau’r pwysau arnynt. Yn y pen draw bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld yn gyflym mewn lleoliadau sy’n fwy cyfleus iddynt hwy.

Mae fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol bellach wedi’u sefydlu mewn nifer o arbenigeddau clinigol ledled Cymru ac maent yn darparu sgiliau ychwanegol gwerthfawr, yn enwedig mewn arbenigeddau clinigol lle ceir anawsterau recriwtio meddygol, e.e. oncoleg, meddygaeth arennol ac anadlol.

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o arfer da cyfredol mewn fferyllfeydd yng Nghymru:

Dulliau Atal Cenhedlu Hormonaidd Brys – Mae llawer o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru yn cynnig gwasanaeth lle y gall merched gael mynediad i ddulliau atal cenhedlu hormonaidd brys ynghyd â chyngor ar iechyd rhywiol yn uniongyrchol gan y fferyllfa, gan gynyddu mynediad a dewis i gleifion. Caiff cleifion gyngor diduedd, cyfrinachol a phroffesiynol a gallant gael eu hatgyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cymorth neu driniaeth bellach os bydd angen. “During 2011-12 the provision of emergency hormonal contraception (EHC) replaced the supervised administration of prescribed medicines as the enhanced service provided by the largest number of community pharmacies.” [4]

Rhagnodwyr fferyllol – mae fferyllwyr sy’n cyflawni’r rôl hon wedi cael effaith gadarnhaol ar sawl ward ysbyty a lleoliad clinigol [5]. Mae fferyllwyr rhagnodi wedi gallu rheoli a rhagnodi cyflenwad pellach o feddyginiaeth ar gyfer cyflyrau hirdymor. Ceir enghraifft o hyn yng Nghwm Taf lle mae fferyllydd rhagnodi wedi bod yn gweithio ar y ward lawfeddygol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ymhlith y buddiannau a welwyd roedd cydymffurfiaeth ardderchog â chanllawiau rhagnodi, ysgafnhau’r baich rhagnodi i feddygon, proses gyflym o ragnodi meddyginiaethau pan gaiff cleifion eu derbyn i’r ysbyty a phroses ryddhau brydlon. I gael mwy o fanylion cliciwch yma <http://www.clinicalpharmacy.org.uk/volume1_2/2010/december/p338_sharprac_web.pdf>.

Gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu mewn fferyllfeydd cymunedol – mae’r gwasanaethau sefydledig hyn wedi dangos gwelliannau o ran mynediad cleifion i gymorth a thriniaeth yn lleol [6]. Mae’r gwasanaeth fferyllol gwell hwn wedi bod yn hynod lwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, o ran nifer yr ysmygwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth a’r cyfraddau rhoi’r gorau iddi. Mae adroddiad gwerthuso – ‘Merthyr Tydfil pilot of a local enhanced community pharmacy smoking cessation service (Year 1)’ yn datgan y canlynol: “56.7% (55/97) of treated clients self reported that they had successfully quit at the 4-week follow up.”

Brechiad rhag y ffliw – yn ystod 2012-13, derbyniodd 1,537 o bobl ledled Cymru eu brechiadau ffliw mewn fferyllfa gymunedol. Dangosodd canlyniadau’r holiadur i gleifion fod 94% o’r cleifion a gafodd y brechiad drwy fferyllfa gymunedol yn fodlon iawn ar y gwasanaeth [7].

2. Gofal heb ei drefnu

Uchelgais fferyllwyr yng Nghymru, fel y nodir yn ‘Your Care, Your Medicine’[4], yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn manteisio ar ganfod a thrin cyflyrau iechyd yn gynnar wrth ymgysylltu â’r tîm fferyllol. Mae cyfle i symptomau anhwylderau cyffredin ac achosion brys nad ydynt yn bygwth bywyd gael eu trin gan y tîm fferyllol a chael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd eraill pan fydd angen ymchwilio ymhellach ac yn fwy arbenigol i symptomau. Rhagwelwn wasanaeth brysbennu mewn adrannau damweiniau ac achosion brys gyda nyrsys a fferyllwyr yn gweithio gyda’i gilydd i drin achosion llai difrifol, gan alluogi cleifion sydd ag anafiadau a salwch mwy difrifol i gael eu gweld yn gyflymach gan feddygon. Yn ogystal, rhagwelwn y bydd y fferyllydd yn gallu delio â materion sy’n ymwneud â meddyginiaeth pan gaiff claf ei dderbyn i’r ysbyty, gan weithio gyda’r claf i sicrhau bod unrhyw broblemau’n cael eu datrys, gan osgoi derbyniadau dilynol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi dechrau edrych ar ‘Facilitating Avoidance of Medication-Related Admissions’; i weld y deunydd cliciwch yma [8].

Ymhlith yr arfer da cyfredol gyda fferyllwyr yng Nghymru mae:

Dewis Fferyllfa – mae’r gwasanaeth anhwylderau cyffredin hwn wedi cael ei dreialu mewn dwy ardal o Fyrddau Iechyd Prifysgolion Betsi Cadwaladr a Chwm Taf ers Mai 2013. Mae’n caniatáu i bobl gael triniaeth am ddim o’u fferyllfa leol ar gyfer ystod o salwch cyffredin heb bresgripsiwn a’r bwriad yw lleihau’r pwysau ar feddygfeydd meddygon teulu lleol [9]. I bob diben, mae’r gwasanaeth yn ategu’r broses o reoli gofal heb ei drefnu ac yn helpu i gadw cleifion allan o ysbytai a meddygfeydd meddygon teulu.

 3. Rheoli Meddyginiaethau ar gyfer Cyflyrau Cronig

Dylai cleifion sydd â chyflyrau cronig allu cysylltu’n rheolaidd â fferyllydd sydd â’r arbenigedd i roi cyngor a hyfforddiant ar feddyginiaeth, a byddai hyn, yn ddelfrydol, yn digwydd mewn lleoliad sy’n fwyaf addas i’r claf. Dylai cleifion deimlo eu bod yn cael eu grymuso a’u cefnogi i gymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch eu meddyginiaeth a’u hanghenion iechyd.

Er mwyn i’w uchelgais hon ar gyfer rheoli cyflyrau cronig gael ei gwireddu, mae’n hanfodol bod y tîm fferyllol yn gallu cael mynediad i’r un wybodaeth feddygol â’r meddygon teulu. Bydd rhannu data yn y ffordd hon hefyd yn gwella diogelwch cleifion, yn enwedig wrth iddynt drosglwyddo o un lleoliad gofal i un arall neu yn ôl i’r gymuned.

Ymhlith yr enghreifftiau o arfer da wrth barhau i ddarparu gofal mae:

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru – yn ategu’r broses o ddatblygu canllawiau i fynd i’r afael â rhai o faterion polyfferylliaeth gan ganolbwyntio’n arbennig ar ragnodi ar gyfer pobl eiddil ac oedrannus [10].

Mae’r Gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau yn anelu at wella’r broses o reoli meddyginiaethau ar ôl i glaf gael ei ryddhau o leoliad gofal [11].

Optimeiddio meddyginiaethau ar gyfer trin methiant y galon – prosiect fferyllol cymunedol peilot yn Hywel Dda, sy’n anelu at roi cyngor arbenigol i gleifion fel rhan o’r llwybr atgyfeirio integredig ar gyfer cleifion sy’n dioddef methiant y galon mewn ardaloedd gwledig. Nododd y gwerthusiad peilot y canlynol: “42% of all the patients referred to the pharmacist required changes to their drug treatment, which is a measure of the importance and value within the community team”. I weld y ddogfen werthuso lawn cliciwch yma [12].

4. Anghenion byw â chymorth i bobl yng Nghymru

Mae’n angenrheidiol bod pobl sydd ag anghenion byw â chymorth, p’un a ydynt yn byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu mewn cartref gofal, yn cael yr un mynediad i’r tîm fferyllol i’w helpu i reoli eu meddyginiaethau yn effeithiol ac er mwyn cynnal eu hiechyd a’u lles.

Ymhlith yr enghreifftiau o arfer da cyfredol mae:

Gwasanaethau adolygu’r defnydd o feddyginiaethau cartref yn ardaloedd Byrddau Iechyd Prifysgolion Cwm Taf a Betsi Cadwaladr sy’n darparu gwasanaethau fferyllol i gartrefi cleifion hŷn sy’n gaeth i’w cartref, gan gynnig cyngor a chymorth i ddefnyddio meddyginiaethau a mynd i’r afael ag anghenion fferyllol parhaus cleifion [13].

5. Gwella profiad cleifion ar ddiwedd eu hoes

Mae angen i gleifion sydd ag anghenion gofal lliniarol a diwedd oes gael eu grymuso i lunio eu llwybrau clinigol eu hunain gyda chymorth gan y tîm fferyllol, gan sicrhau eu bod yn cael eu trin â pharch ac urddas, ac i fynd i’r afael ag anghenion meddyginiaethol ac anghenion cymdeithasol, yn cynnwys dewis iaith. Un enghraifft o arfer da yw ‘Bocsys Wrth Gefn’.

Bocsys ‘Wrth Gefn’ – bocsys wedi’u selio yw’r rhain sy’n cynnwys meddyginiaethau penodol y gellir eu defnyddio yn ystod y cyfnodau diwedd oes ar gyfer claf sydd â salwch terfynol. Caiff y bocsys yma eu rhagnodi gan y meddyg teulu a gellir eu darparu gan fferyllfeydd cofrestredig er mwyn sicrhau bod gan y tîm gofal fynediad prydlon i feddyginiaethau pwysig. Mae’r bocsys hyn wedi cael eu defnyddio mewn llawer o fyrddau iechyd yng Nghymru. I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth a ddarperir ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan cliwich yma <http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=814&pid=60311>.

Y Camau Nesaf tuag at wasanaethau fferyllol mwy darbodus
  1. Lleihau Niwed

Mae angen gweithredu ar y cyd ar draws GIG Cymru i sicrhau bod cynhyrchion fferyllol yn rhoi’r buddiannau mwyaf posibl, gan leihau eu niwed a rhyddhau amser fferyllwyr i ddarparu gwasanaethau clinigol. Mae defnyddio systemau dosbarthu cyffuriau awtomataidd i leihau gwallau dosbarthu, manteisio ar sgiliau clinigol y tîm fferyllol er budd cleifion a sicrhau bod gwybodaeth am feddyginiaethau yn cael ei rhannu’n briodol wrth i gleifion symud drwy’r GIG yn gamau allweddol i sicrhau bod cleifion yn cael y buddiannau gorau posibl o’u meddyginiaethau.

  1. Cymysgedd sgiliau

Mae angen adolygu cymysgedd sgiliau’r tîm fferyllol er mwyn llywio gweithlu’r GIG a’r broses o gynllunio gwasanaethau. Mae angen cymryd camau ar draws Cymru i sicrhau bod cleifion yn gallu manteisio ar y broses o wneud sgiliau’r tîm fferyllol yn rhan annatod o fodelau gwasanaeth.

  1. Hyrwyddo gwasanaethau

Mae angen i’r cyfoeth o adnoddau sydd ar gael gan fferyllwyr yn y gymuned a thrwy wasanaethau fel Dewis Fferyllfa, gael eu hyrwyddo’n eang i bobl yng Nghymru er mwyn iddynt allu gweld bod fferyllwyr yn rhan hanfodol o’r gwasanaethau iechyd sydd ar gael iddynt. Mae annog y cyhoedd i geisio cyngor cynnar gan eu fferyllfa gymunedol leol a sicrhau bod y tîm fferyllol yn gallu cefnogi gwasanaeth brysbennu’r adran ddamweiniau ac achosion bwys ynghylch materion sy’n ymwneud yn benodol â meddyginiaethau yn enghreifftiau o’r modd y gall y tîm fferyllol gydweithredu ar draws lleoliadau er mwyn atal gofal heb ei drefnu a lleihau derbyniadau brys a derbyniadau heb eu cynllunio i’r ysbyty.

  1. Cynlluniau gofal fferyllol

Dylai cleifion sydd â chyflyrau cronig, cyrsiau meddyginiaeth cymhleth a’r rhai sydd ag anghenion byw â chymorth gael y cyfle i gael cynllun gofal fferyllol personol. Mae cynllun gofal fferyllol yn ffordd o weithio mewn partneriaeth â’r cleifion i gytuno ar gynllun sy’n ymwneud â’r meddyginiaethau maent yn eu cymryd a’r nodau iechyd maent yn disgwyl eu cyflawni o gymryd eu meddyginiaethau yn gywir a gwneud newidiadau cadarnhaol i’w ffordd o fyw. Gellir llunio’r cynlluniau hyn ar y cyd rhwng y claf a’r fferyllydd a dylai fod cyfleoedd i’w hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod yr holl feddyginiaethau a ragnodir yn briodol, yn effeithiol ac yn ddiogel.

  1. Gwneud penderfyniadau

Gellir cynnwys y tîm fferyllol yn weithredol o fewn penderfyniadau am feddyginiaethau ar bob cam o’r llwybr gofal er mwyn sicrhau bod cyngor arbenigol ar feddyginiaethau ar gael i gleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Mae cynnwys y tîm fferyllol yn y broses o ddarparu gofal ar ddiwedd oes yn arbennig o bwysig pan fydd angen gwneud penderfyniadau anodd ynghylch triniaeth a meddyginiaeth.

Casgliad

Mae posibilrwydd mawr i wasanaethau fferyllol yng Nghymru ategu’r broses o ddarparu gofal iechyd darbodus. Mae rheoli ac ategu’r defnydd diogel o feddyginiaethau – o roi cyngor ar hunanofal i helpu cleifion sydd â salwch sy’n bygwth bywyd i hunanreoli cyrsiau cyffuriau cymhleth – yn ogystal ag ehangu gofal clinigol presennol a chyfleoedd i hybu iechyd ochr yn ochr â chymorth a chyngor ar feddyginiaethau, yn rhoi cyfle i sicrhau gwerth, effeithlonrwydd a gwella profiad cleifion y gall y GIG yng Nghymru fanteisio i’r eithaf arno. Mae’r proffesiwn yn barod, bodlon ac abl.


 

Cyfeiriadau

  1. Welsh Government, The Welsh Health Survey of 2013
  2. Yellow Card Scheme, MHRA https://yellowcard.mhra.gov.uk/the-yellow-card-scheme/ [Accessed 5th January 2015]
  3. Royal Pharmaceutical Society and the Welsh Pharmacy Committee Your Care, Your Medicines: Pharmacy at the heart of patient-centred care. (2014). Available at http://www.rpharms.com/wales-pdfs/YourCareYourMedicines.pdf Accessed 5th January 2015
  4. http://wales.gov.uk/docs/statistics/2014/141112-community-pharmacy-services-2013-14-en.pdf
  5. Kailey Sassi-Jones (2010) Benefits of implementing pharmacist prescribing on a surgical ward, British Journal of Clinical Pharmacy Vol.2 Dec 2010. Available at: http://www.clinicalpharmacy.org.uk/volume1_2/2010/december/p338_sharprac_web.pdf [Accessed 5th January 2015]
  6. NPHS and Merthyr Tydfil LHB (2009) Evaluation report: Merthyr Tydfil pilot of a local enhanced community pharmacy smoking cessation service (Year 1). Available at:

https://www2.nphs.wales.nhs.uk/PharmaceuticalPHTDocs.nsf/61c1e930f9121fd080256f2a004937ed/df39478c60e603e0802575e80053ae5f/$FILE/Final%20Eval%20MT%20Pharm%20Stop%20Smoking%2024%204%2009.pdf [Accessed 5th January 2015]

  1. Welsh Government (2013) Community Pharmacy Influenza vaccination 2012-13, Welsh Government Available at: http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/131009pharmacyflureporten.pdf [Accessed 5th January 2015]
  2. Thomas, J (2011) Facilitating Avoidance of medication –related admissions, Patient Safety Congress May 2011. Available at: http://yhhiec.org.uk/wp-content/uploads/2012/05/PSC2011-Facilitating-Avoidance-of-medication-related-admissions-pdf.pdf [Accessed 5th January 2015]
  3. All Wales Medicines Strategy Group (2013) All Wales Common Ailments Service Formulary, May 2013. Available at: http://www.awmsg.org/docs/awmsg/medman/All%20Wales%20Common%20Ailments%20Service%20Formulary.pdf [Accessed 5th January 2015]
  4. All Wales Medicines Strategy Group (2014) Polypharmacy: Guidance for Prescribing in Frail Adults. July 2014. Available at: http://www.awmsg.org/docs/awmsg/medman/Polypharmacy%20-%20Guidance%20for%20Prescribing%20in%20Frail%20Adults.pdf [Accessed 5th January 2015]
  5. Welsh Institute for Health and Social Care (2014) Evaluation of the Discharge Medicines Review Service, March 2014. Available at: http://www.cpwales.org.uk/Contractors-Area/Pharmacy-Contact—Services/DMR/DMR-Evaluation_Final-Report_13082014.aspx [Accessed 5th January 2015]
  6. Hywel Dda Heath Board, Evaluation of the Hywel Dda Community Pharmacist pilot optimising medicines treatment in heart failure. Available at:http://www2.nphs.wales.nhs.uk:8080/pharmaceuticalphtdocs.nsf/61c1e930f9121fd080256f2a004937ed/a68535c450a8b431802578e7004eaf8c/$FILE/RuralHealthPharmacyEvaluationHywelDda%20v1.pdf [Accessed 5th January 2015]
  7. The Pharmaceutical Journal, 15 February 2014, Vol 292, No 7797, p181 | URI: 11134249. Available at: http://www.pharmaceutical-journal.com/news-and-analysis/news/medicines-care-for-those-most-in-need/11134249.article [Accessed 5th January 2015]

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Bethan Tranter & Mair Davies yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

Prudent pharmaceutical care

@ChoosingWiselyW #MakingChoicesTogether agrees. We promote teaching skills for #shareddecisiomaking to all clinicians. #prudenthealthcare twitter.com/richardlehman1…

@WelshGovernment ..so LHBs in Wales need more psychologists to support them, & keep them from harm. #PrudentHealthcare @DiabetesUKCymru twitter.com/glycosmedia/st…