Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Gweithlu Darbodus

  • Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Datblygu’r Gweithlu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
  • Charlette Middlemiss, Cyfarwyddwr Cyswllt, Gwasanaethau Addysg a Datblygu’r Gweithlu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Cflwyniad

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: Mae ein dyfodol yn dibynnu ar allu, profiad ac ymrwymiad staff ar bob lefel yn y GIG.

Mae gweithlu GIG Cymru yn alluogwr ac yn ysgogwr hollbwysig ar gyfer sbarduno newid, ac mae’n rhaid sicrhau eu bod yn rhan hollbwysig o’r holl waith cynllunio a phenderfyniadau buddsoddi sy’n cael eu gwneud, er mwyn gwireddu’r cyfleoedd i wella gofal.

Y bobl hynny sy’n deall ac yn darparu gwasanaethau iechyd a’r defnyddwyr gwasanaeth sy’n awgrymu’r datblygiadau arloesol a’r syniadau gorau.  Dychmygwch ddylanwad ac effaith y 73,197 o bobl (sy’n gyfwerth ag amser cyflawn) sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru, pe byddent yn cydweithio i gyflawni gweledigaeth a rennir, sef sicrhau nod y Gweinidog o weithredu egwyddorion gofal iechyd darbodus yn llawn ar draws y gwasanaeth iechyd:

  • Peidio gwneud unrhyw niwed
  • Cynnal yr ymyriadau priodol lleiaf posibl
  • Trefnu gwaith ar sail yr egwyddor gwnewch yr hyn y gallwch chi yn unig ei wneud
  • Hyrwyddo cydraddoldeb
  • Ailfodelu’r berthynas rhwng y defnyddiwr a’r darparwr ar y sail o gyd-gynhyrchu

Ni fydd yn bosibl diwallu’r galw am ofal iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol oni fyddwn yn cynllunio, yn datblygu ac yn defnyddio’r gweithlu mewn ffordd wahanol.  Mae’r ymagwedd gofal iechyd darbodus yn darparu cyfle gwirioneddol i ystyried y ffordd mae’r gweithlu yn cael ei ddefnyddio.  Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar:

  1. Yr heriau gofal iechyd y mae angen i’r gweithlu ymateb iddynt;
  2. Cynllun y gweithlu presennol a’i allu i ymateb i heriau;
  3. Sut y gallai’r gweithlu ymddangos yn y dyfodol pe byddai egwyddorion gofal iechyd darbodus yn cael eu gweithredu;
  4. Yr offer a’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ac ail-gynllunio’r gweithlu.

NHS Wales

Yr heriau gofal iechyd y mae angen i’r gweithlu ymateb iddynt

Mae’r heriau sy’n ymwneud â’r gwasanaeth a’r gweithlu sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u cofnodi’n dda1 ac maent wedi llywio strategaethau gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.2 Gweithio’n wahanol – gweithio law yn llaw3 yw strategaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer y gweithlu, sy’n cynorthwyo GIG Cymru i reoli’r agenda cymhleth o ddiwygio’r gweithlu.

Mae angen gweithlu medrus a phrofiadol iawn i sicrhau gofal iechyd o’r safon uchaf, gofal diogel a gofal sy’n darparu gwerth am arian.  Mae’r canlynol yn grynodeb o’r prif heriau:

Economaidd

Mae adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield A Decade of Austerity in Wales?4 yn amcangyfrif y gallai bwlch o £2.5bn fodoli yn y cyllid sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer iechyd erbyn 2025-26 os yw’r cyllid yn wastad mewn termau real. Byddai angen i’r GIG wneud arbedion effeithlonrwydd o 3.7% y flwyddyn ar ôl 2015-16 er mwyn bodloni’r her ariannol hon. Bydd yr her economaidd yn golygu y bydd angen i GIG Cymru barhau i wneud mwy gyda llai, yn ogystal â pharhau i wneud newidiadau trawsnewidiol, yn cynnwys symud mwy o ofal o’r ysbytai ac i’r gymuned – mae adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield yn crybwyll cyfres o enghreifftiau o hyn sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru.

Mae’r bil cyflog yn cynrychioli 75% o gyfanswm cyllideb y GIG, ac felly bydd angen iddo ddangos gwerth am arian.

Newidiadau demograffig a chymdeithasol

Rhagwelir y bydd cynnydd yn y galw am wasanaethau gofal, yn rhannol oherwydd y cynnydd o 4% a ragwelir ym mhoblogaeth Cymru erbyn 2022 a chynnydd pellach o 8% a ragwelir erbyn 2037. Rhagwelir y bydd proffil demograffig Cymru yn newid hefyd, gyda gostyngiad o 3% yn y grŵp oedran 16 i 24 erbyn 2037 a chynnydd o 50% yn y grŵp oedran 65 oed a throsodd erbyn 2037. Mae gan Gymru gyfran uwch o bobl 85 oed a hŷn o gymharu â gweddill y DU yn ogystal â chyfraddau amddifadedd uwch.5

Mae proffil demograffig sy’n newid yn golygu cynnydd yn y cyflyrau hynny sy’n gysylltiedig ag iechyd, er enghraifft dementia a chanser.  Hefyd, mae canlyniadau dewisiadau ymddygiadol a ffordd o fyw, yn cynnwys yfed alcohol, diffyg ymarfer corff, cyfraddau smygu cyson uchel mewn rhai rhannau o Gymru, a chyfraddau cynyddol o ordewdra ar hyd a lled y wlad yn arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o gyflyrau cronig a chyflyrau a allai gyfyngu ar fywyd.

Bydd y cynnydd mewn cyflyrau cronig a chyd-forbidrwydd a fydd yn creu anghenion gofal iechyd cymhleth yn rhoi pwysau sylweddol ar y system gofal iechyd.  Bydd newidiadau i’r oedran ymddeol hefyd yn golygu y bydd angen i weithlu’r GIG weithio’n hwy ac efallai y bydd gan nifer ohonynt eu hanghenion gofal iechyd eu hunain.

Arloesedd a thechnoleg

Roedd Sgiliau Iechyd (2009) yn nodi’r prif heriau o ran sgiliau a chyflogaeth sy’n wynebu’r sector iechyd.  Dywedodd Candice Imison:

“The health sector is in constant evolution as medical science advances and new technologies are adopted. The surprise over the past 50 years is how little traditional patterns of working and service provision have changed in this context. Twenty-first century medicine is being delivered using structures and processes that have changed little since 1948 and the inception of the NHS.” 6

Mae’r cyhoedd yn gallu cael mynediad cynyddol i dechnoleg ac yn dod yn fwy gwybodus, sy’n cynyddu disgwyliadau ac yn creu newidiadau i’r berthynas gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.  Mae hunan-ddiagnosis a thriniaethau yr un mor gyffredin â siopa ar-lein erbyn hyn, ac maent ar gael yn eang.

Mae delweddu digidol, therapi bôn-gelloedd, sgrinio genetig, llawdriniaethau robotig ac adfywio meinweoedd yn cynrychioli rhai o’r datblygiadau arloesol i driniaethau a datblygiadau technegol a fydd yn parhau i drawsnewid y gwasanaethau gofal ac yn dylanwadu ar arferion gwaith.7 Bydd defnyddio technoleg i ail-gynllunio systemau a phrosesau’r GIG i gefnogi datblygiadau meddygol yn her.

Cynllun y gweithlu presennol a’i allu i ymateb i’r heriau

Y GIG yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru. Mae’n wasanaeth cyhoeddus llafurddwys gyda staff sy’n gweithio mewn nifer o alwedigaethau a grwpiau galwedigaethol gwahanol, sy’n gweithio mewn lleoliadau gwahanol.  Mae’r staff yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG ac mae nifer o broffesiynau contractwyr yn darparu gwasanaethau i’r GIG, yn cynnwys deintyddion, optegwyr, fferyllwyr a mwy na 2,000 o feddygon teulu.5

Workforce Fig1_WELSH

 

Mae Ffigur un yn dangos y cynnydd yn y gweithlu dros y saith mlynedd ddiwethaf.  Er gwaethaf yr anawsterau sy’n cael eu profi ar hyn o bryd wrth recriwtio meddygon mewn rhai meysydd arbenigol, gwelwyd twf yn niferoedd cyffredinol y staff meddygol ymgynghorol.  Ar yr un pryd, wrth i niferoedd y staff ymgynghorol gynyddu (+25%) gwelwyd cynnydd yn nifer y meddygon teulu (+4) sy’n gweithio yng Nghymru.

Addysg

Mae’r GIG yng Nghymru yn buddsoddi tua £350 miliwn i gefnogi tua 15,000 o fyfyrwyr a hyfforddeion sy’n dilyn rhaglenni addysg sy’n ymwneud ag iechyd.  Mae’n amcangyfrif bod 60% o gyfanswm y gyllideb hyfforddiant (yn cynnwys addysg broffesiynol barhaus) yn cael ei wario ar feddygon, sy’n cynrychioli dim ond 12% o’r gweithlu a 35% ar nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sydd, gyda’i gilydd, yn cynrychioli 40% o’r gweithlu.

Mae hyfforddiant meddygol yn destun adolygiad sylweddol ar hyd a lled y DU – yr adolygiad Shape of Training – ac mae meysydd sylweddol o brinder a risg sy’n cynnig cyfleoedd i ysgogi datblygiad proffesiynau a grwpiau staff eraill.  Bydd yr Adolygiad o Fuddsoddi mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol, a gomisiynwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyflwyno ei ganfyddiadau yn ystod mis Chwefror 2015, ac mae’n debygol o gyflwyno goblygiadau arwyddocaol ar gyfer darparu addysg i’r gweithlu gofal iechyd yn y dyfodol.  Bydd yr adolygiad yn ystyried sut mae Llywodraeth Cymru’n cyflawni gwerth am arian a chyflenwad sicr o staff ar gyfer y GIG.  Bydd y canlyniad yn cynorthwyo GIG Cymru i gynllunio, datblygu a darparu’r gweithlu sydd ei angen i ddiwallu anghenion dinasyddion Cymru.

Yr addysg a’r hyfforddiant a roddir i weithlu GIG Cymru yw’r sail y datblygwyd y GIG arni a bydd yn parhau i fod yn elfen hollbwysig yn yr ymdrech i godi safonau gofal.  Mae’r gweithlu yn cael ei hyfforddi a’i addysgu gan ddefnyddio’r strwythurau sefydliadol a phroffesiynol cyfredol, sy’n llesteirio hyblygrwydd ac yn creu arferion gweithio proffesiynol ynysig.  Gellir dweud bod yr ymagwedd hon wedi bod yn briodol ar gyfer modelau gofal pan sefydlwyd y GIG yn wreiddiol, fodd bynnag, nid yw’n addas erbyn hyn i ddiwallu anghenion cleifion a’r gwasanaeth iechyd presennol.

Mae wyth deg y cant o’r staff y bydd eu hangen ar GIG Cymru ar gyfer y degawd nesaf eisoes yn gweithio yn y gwasanaeth, felly mae’r angen am hyfforddiant a datblygu sgiliau yn hollbwysig.

Nid yw’n hysbys faint sy’n cael ei wario ar y gweithlu gofal cymdeithasol ac mae nifer y gwirfoddolwyr ac aelodau teulu sy’n darparu rhyw fath o ofal yn uwch na’r holl weithwyr proffesiynol gyda’i gilydd, ond ni cheir llawer, os o gwbl, o fuddsoddiad yn eu hyfforddiant hwy.

Cynllunio’r gweithlu

Er bod nifer o enghreifftiau gwahanol o arferion ailgynllunio’r gweithlu, mae’r rhain fel arfer yn arferion ad-hoc ac yn adweithio i bwysau lleol neu genedlaethol.  Mae rolau newydd wedi’u cyflwyno ond mae’r hen rolau wedi parhau, sy’n cynyddu costau ac yn peri dryswch; mae categorïau newydd o weithwyr wedi’u creu, gyda diffiniadau annigonol o’u rolau, yn arbennig mewn cysylltiad â rolau eraill, sy’n dyblygu swyddogaethau neu wasanaethau.

Dros y blynyddoedd, mae’r ymdrech iechyd byd-eang wedi canolbwyntio ar gynyddu rolau arbenigol, yn hytrach na rolau cyffredinol.  Mae hyn wedi cyfyngu hyblygrwydd y gweithlu ac, mewn rhai achosion, datblygiad gyrfa ymarferwyr unigol.  Mewn nifer o achosion, mae gweithwyr iechyd proffesiynol addysgedig a medrus iawn yn treulio cyfnodau sylweddol o’u hamser yn ymgymryd ag agweddau gofal, lle gallai fod yn fwy priodol i bobl eraill eu cyflawni, pobl sy’n meddu ar sgiliau gwahanol, a allai fod yn llai drud i’w cyflogi.  Mae nifer o ffactorau yn dylanwadu ar hyn, ond mae’n rhaid i ni eu datrys os ydym am lwyddo i foderneiddio’r gweithlu a chyflawni ymagwedd gofal iechyd ddarbodus at y gweithlu a chyflenwi gwasanaethau.

Cyflenwi gwasanaethau

Mae’r mwyafrif o staff y GIG yn gweithio mewn lleoliadau ysbyty, yn aml wedi’u hynysu oddi wrth sectorau eraill, yn groes i’r gofynion polisi ar gyfer integreiddio ar draws lleoliadau gofal eilaidd a sylfaenol/cymunedol.  Mae’r gweithlu meddygol – meddygon – yn benderfynwyr allweddol sy’n dylanwadu ar yr ymyriadau sy’n cael eu cyflwyno.  Fodd bynnag, mae’n dod yn fwyfwy anodd i gynnal y model meddygol gofal iechyd hwn, oherwydd yr anawsterau i recriwtio nifer ddigonol o feddygon mewn meysydd arbenigol penodol.

Mae’r mwyafrif o ofal yn cael ei ddarparu ar sail gweld a thrin, yn dilyn cyfnod o salwch ac, i raddau llai, model adsefydlu.  Yn y dyfodol, bydd angen newid y cydbwysedd i fodel ataliol a chynnal a chadw gweithredol.

O ystyried y newidiadau i ddemograffeg ac anghenion iechyd Cymru, bydd  angen i weithlu’r dyfodol fod yn wahanol.  Mae gwaith Horizon 2035 CfWI 8 yn darparu enghraifft o ffordd o feddwl wahanol am y gweithlu a’r ffordd mae’r gweithlu a gofal iechyd yn cael eu cynllunio, drwy chwyddwydr sgiliau a chymwysterau er mwyn diwallu’r her hon yn y dyfodol.

Gwybodaeth

Mae gan y GIG gyfoeth o ddata ond gwybodaeth annigonol.  Mae’n hollbwysig sicrhau bod y GIG yn gallu rhoi’r wybodaeth gywir am y gweithlu i’r bobl gywir er mwyn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau.  Mae’r systemau presennol ar gyfer y gweithlu a’r gwasanaeth yn parhau i fod yn ddarniog, ac nid ydynt wedi’u hintegreiddio’n llwyr ar gyfer dibenion cynllunio a chyflenwi.  Yn genedlaethol, ni wneir defnydd rheolaidd o’r offer a gynlluniwyd i helpu rheolwyr i edrych ar eu data ochr yn ochr â sefydliadau eraill y GIG, er mwyn hwyluso prosesau dadansoddi a meincnodi.9

Mae’r broses o gynllunio’r gweithlu wedi tueddu i ganolbwyntio ar nifer y proffesiynau sydd wedi’u rheoleiddio, sydd eu hangen i hysbysu gwaith comisiynu addysg, yn hytrach nac ar anghenion cleifion a’r sgiliau a’r cymwyseddau sydd eu hangen i gefnogi annibyniaeth.  Bydd angen i’r broses o gynllunio’r gweithlu, ar sail y pwyntiau penderfyniadau allweddol yn llwybrau gofal cleifion, ategu’r gwaith o gynllunio’r gweithlu yn y dyfodol.

Beth fydd gweithlu’r dyfodol pe byddai’r egwyddorion gofal iechyd darbodus yn cael eu cyflwyno?

Efallai na fydd gweithlu’r dyfodol yn ymddangos yn wahanol iawn i’r gweithlu presennol, yn nhermau’r grwpiau proffesiynol cyffredinol – bydd angen meddygon, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, nyrsys a rolau cymorth bob amser.  Fodd bynnag, bydd angen i sgiliau’r unigolion hyn; pan fydd gwasanaethau’n cael eu cyflenwi yn y dyfodol a model y gweithlu a chyfansoddiad y timau clinigol, fod yn wahanol iawn.

Cynllun y gweithlu

Bydd cynllunwyr gwasanaethau a’r gweithlu yn gweithio gydag arweinwyr clinigol i gytuno pwy sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu gofal ar adeg benodol yn nhaith y claf, gan alluogi i newidiadau gael eu gwneud i’r gymysgedd sgiliau ac ysgogi i’r proffesiynau gwahanol i integreiddio.  Bydd hyn yn sicrhau y bydd aelodau o staff unigol ond yn gwneud yr hyn y gallant hwy yn unig ei wneud.  Bydd ffiniau blaenoriaethau proffesiynol yn cael eu hailddiffinio er mwyn lleihau dyblygiad, gwella parhad gofal a lleihau risgiau i gleifion.

Bydd proses integreiddio well yn golygu y bydd staff o ddisgyblaethau a gwasanaethau gwahanol yn cydweithio’n fwy effeithiol mewn timau amlddisgyblaeth ac aml-asiantaeth.  Bydd hyn yn golygu bod y defnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol yn cael ei wneud o sgiliau, cymwyseddau a phrofiadau’r staff, a fydd yn arwain at ddefnydd mwy darbodus o’r gweithlu.

Mae buddsoddi yn addysg a datblygiad y gweithlu yn hollbwysig er mwyn darparu gofal o safon uchel ar draws ystod eang o leoliadau amrywiol.  Bydd hyn yn cynnwys proses gychwynnol o baratoi ar gyfer rolau, ar ba bynnag lefel, ac a oes gofynion rheoliadol ai peidio.  Ni fydd y broses o fuddsoddi a datblygu’r gweithlu yn dod i ben ar ôl cwblhau’r gwaith paratoi cychwynnol, a bydd pob aelod o staff yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r dystiolaeth ddiweddaraf, beth bynnag yw eu rôl yn y GIG yng Nghymru.

Bydd cyrff rheoliadol yn pennu cwricwlwm a chanlyniadau penodol ar gyfer rhaglenni addysg sy’n arwain at gofrestriad proffesiynol, fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn parhau i allu nodi gofynion penodol i’w cynnwys yn y rhaglenni.  Yn ogystal ag ymgorffori egwyddorion gofal iechyd darbodus yng nghwricwlwm y dyfodol, byddant yn cael eu defnyddio hefyd i gyflenwi’r ddarpariaeth addysg.  Bydd hyn yn arwain at:

  • Cynnydd mewn addysg ryngbroffesiynol;
  • Mwy o gydweithio ar draws darparwyr addysg;
  • Cynnydd yn yr addysg sy’n cael ei chyflenwi ar draws y sector iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector;
  • Addysg yn cael ei chyflenwi mewn ffyrdd wedi’u targedu ar gyfer staff penodol, er mwyn dylanwadu ar lwybr gofal y claf;
  • Datblygu addysg unwaith ar gyfer Cymru gyfan (pan fydd hynny’n briodol);
  • Datblygu fframweithiau addysg cyffredin er mwyn cefnogi rolau newydd a rolau estynedig ar draws grwpiau staff gwahanol;
  • Bydd tystiolaeth gadarn yn sail i’r holl hyfforddiant sy’n cael ei gyflenwi yng Nghymru.

Mae hyfforddiant meddygol yn destun adolygiad arwyddocaol ar hyd a lled y DU (adolygiad Shape of Training) ac mae meysydd sylweddol o brinderau a risgiau, ac mae hyn yn darparu cyfleoedd i ysgogi datblygiad proffesiynau a grwpiau staff eraill.  Bydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn ymateb i’w adolygiad ar hyfforddiant nyrsys yn 2015 a bydd yr adolygiad o’r ddarpariaeth addysg yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2015.

10 yn pwysleisio mai gofal sylfaenol yw’r pwynt gofal cyntaf i 90% o bobl gyda’r GIG yng Nghymru.  Mae datblygu gweithlu lleol medrus yn un o’r pum maes blaenoriaeth i’w gweithredu.  Mae angen inni gynllunio ar gyfer gweithlu cynaliadwy o feddygon teulu, er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth a chanolbwyntio ar sicrhau bod y tîm gofal sylfaenol ehangach, sy’n darparu gofal ar sail unigolion yn briodol, a chefnogi cynnydd yn nifer y gweithwyr proffesiynol a’u cymysgedd sgiliau.  Gallai’r datblygiadau gynnwys practisau meddygon teulu 24 awr mewn adrannau brys ysbytai; rolau newydd, yn cynnwys gweithwyr cyswllt cymunedol sy’n cynorthwyo pobl sy’n profi tlodi neu grwpiau anodd eu cyrraedd.  Bydd systemau’n cael eu hailgynllunio a bydd meddygon ymgynghorol yn gweithio y tu hwnt i’r ffiniau traddodiadol o gyflenwi gofal y tu allan i ysbytai, fel awgrymwyd yn adroddiad Kings Fund Specialists in Out-of-Hospital Settings. 11

Bydd y gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio fwyfwy gyda’i gilydd, i ail-archwilio cynnwys gwaith ac ail-gynllunio llwybrau gofal er mwyn sicrhau bod gofal di-dor yn cael ei gyflenwi ar draws y gwahanol sectorau.  Bydd cytundeb rhwng y sectorau i sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu, bod niwed yn cael ei leihau a bod y lefel uchaf o barhad gofal yn cael ei ddarparu.  Bydd rolau timau yn cael eu nodi’n glir, bydd gofal yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael a bydd y staff yn gweithio hyd eithaf eu cymwyseddau.  Mae rolau newydd wedi’u datblygu, a bydd mwy yn cael eu datblygu, er mwyn alinio’r gweithlu gydag anghenion y gwasanaeth, a bydd hyn yn parhau.  Ymhlith yr enghreifftiau o hyn mae gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaethau cyfeillio i’r henoed er mwyn llai unigedd ac iselder a hyfforddwyr bywyd i gefnogi’r agenda iechyd cyhoeddus.

Bydd y rhan fwyaf o’r systemau gwybodaeth wedi’u hintegreiddio’n llwyr gyda’r cofnod staff electronig newydd (EST) ac maent yn darparu darlun cenedlaethol manylach o’r gweithlu, a fydd yn helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau am gynllunio a chynllun y gweithlu yn y dyfodol.  Mae gwybodaeth am sgiliau, cymwyseddau a chymwysterau’r gweithlu yn cael ei chasglu hefyd, er mwyn galluogi mwy o hyblygrwydd ac addasrwydd ymhlith y gweithlu.

Er mwyn cefnogi arfer, bydd yn fwyfwy pwysig sicrhau bod y staff yn cael eu hyfforddi a’u haddysgu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg.  Bydd y gallu i ddefnyddio technoleg yn datblygu i fod yn sgil graidd i weithlu’r dyfodol, a bydd yn galluogi defnyddwyr gwybodaeth i wneud dewisiadau cytbwys a chyfranogi yn y broses o gyflenwi eu gofal, a fydd yn cefnogi’r agenda cyd-gynhyrchu yn ei dro.

Offer ac adnoddau i gefnogi newidiadau i’r gweithlu

Mae nifer o offer ac adnoddau wedi’u datblygu i gefnogi newidiadau i’r gwasanaeth a datblygu ac ailgynllunio’r gweithlu yn y GIG yng Nghymru.  Mae llawer o’r adnoddau hyn wedi’u datblygu gan y Gwasanaethau Addysg a Datblygu’r Gweithlu,  (WEDS). 9 Mae Ffigur 2 yn nodi’r offer sydd ar gael, a sut maent yn cefnogi’r ymagwedd gofal iechyd darbodus i gyflenwi gofal iechyd.

Workforce Fig2_Welsh

 

Casgliad

Wrth gynllunio ar gyfer y gweithlu iechyd yng Nghymru yn y dyfodol, cydnabyddir bod 80% o staff GIG Cymru sydd eu hangen ar gyfer y 10 mlynedd nesaf neu fwy, eisoes yn gweithio i’r gwasanaeth.  Felly, mae’r gwaith o ailgynllunio, datblygu a defnyddio’r gweithlu presennol a’i fodelu ar gyfer diwallu anghenion y gwasanaeth yn y dyfodol yn hollbwysig.

Ni ellir gwahanu’r gwaith o ddatblygu ac ailgynllunio’r gweithlu oddi wrth y cyd-destun sefydliadol y mae staff yn gweithio ynddo.  Mae ansawdd gwasanaeth yn dibynnu ar y gweithwyr sy’n ei gyflawni, ond hefyd y lleoliadau lle mae’n datblygu.13 Bydd sefydliadau’n creu’r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r gwasanaeth a chefnogi’r broses o ail-gynllunio’r gweithlu sydd ar gael.

Mae’r ymdrech i wella effeithlonrwydd a chyflawni gwelliannau, sy’n sail i bob un o’r egwyddorion gofal iechyd darbodus yn golygu, mewn system ag adnoddau cyfyngedig, bod gan weithwyr iechyd proffesiynol ddyletswydd i sefydlu eu bod yn llwyddo, yn ogystal â sefydlu eu bod yn llwyddo mwy nac unrhyw beth arall y gellir ei wneud gyda’r un adnoddau.14

Yn 2014-15. Comisiynwyd WEDS gan gyfarwyddwyr gweithlu a threfniadaeth GIG Cymru i weithio ar y materion cynllunio’r gweithlu strategol, ar draws y system gyfan, ar gyfer gweithlu’r GIG.15 Mae’r adroddiad yn nodi’r angen i:

  • Datblygu sgiliau cynllunio’r gweithlu ac ailgynllunio’r gweithlu mewn sefydliadau, a chynorthwyo arweinwyr a rheolwyr clinigol i gyflenwi’r agenda hon;
  • Datblygu strategaethau clir ar gyfer hyfforddi a datblygu’r gweithlu craidd presennol yn ogystal â chomisiynu addysg i staff newydd;
  • Datblygu strategaethau datblygu sefydliadol a’r gweithlu er mwyn cefnogi’r broses ailgynllunio;
  • Mynd i’r afael ag anghenion y gweithlu cymorth ar draws y meysydd gofal iechyd a gofal cymdeithasol;
  • Blaenoriaethu’r gwaith cynllunio sy’n mynd i’r afael â’r angen i gyflenwi gofal yn agosach at gartrefi cleifion a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i:
  • Datblygu sgiliau er mwyn cefnogi hyn yn y gwasanaethau gofal sylfaenol a’r gwasanaethau cymunedol
  • Ehangu’r defnydd o dechnolegau cefnogol
  • Datblygu rolau o amgylch timau clinigol gyda:
  • Rolau a chyfrifoldebau clir
  • Dilyniant gyrfaol wedi’i nodi

Yn gryno, bydd angen i GIG Cymru gyflawni’r canlynol, os yw am sicrhau bod y gweithlu yn barod am y dyfodol:

Cynllunio gweithlu’r dyfodol – sicrhau bod gweithlu’r dyfodol yn cyfateb â’r gwaith o gynllunio gwasanaethau a chynlluniau ariannol.

Datblygu gweithlu’r dyfodol – yn cynnwys comisiynu addysg, datblygu staff a phroses recriwtio a chadw.

Cyflenwi gweithlu’r dyfodol – sicrhau bod cynlluniau’n cael eu cyflenwi, bod prosesau yn effeithiol, bod clinigwyr yn cymryd rhan a bod arfer gorau yn cael ei rannu.


Cyfeiriadau

1 Imison, C. et al. NHS Workforce Planning: Limitations and Possibilities; 2009 [Accessed 5 Jan 2015]. Available from http://bit.ly/1s4zPtc

  • NHS Confederation, Urgent and Emergency Care Forum. A workforce fit for the future: Working together to improve the delivery of urgent and emergency care; August 2014 Briefing. [Accessed 5 Jan 2015]. Available from http://bit.ly/1AEkMYZ
  • Centre for Workforce Intelligence (CfWI). Big picture challenges for health and social care: Implications for workforce planning, education, training and development; [Accessed 5 Jan 2015]. Available from http://bit.ly/1tIPCsZ
  • Wanless D. Securing our future health: taking a long-term view; 2002 [Accessed 5 Jan 2015]. Available from http://bit.ly/1IpmqOA

2 Welsh Government. Together for Health: A Five Year Vision for the NHS in Wales; [Accessed 5 Jan 2015]. Available from http://bit.ly/1xDZRV6

3 Welsh Government. Working Differently – Working Together: A Workforce & Organisational Development Framework; 2012 [Accessed 5 Jan 2015]. Available from http://bit.ly/1tOdNvY

4 The Nuffield Trust. A decade of austerity in Wales? 2014 [Accessed 5 Jan 2015]. Available from http://bit.ly/1pfTLow

5 Statistics for Wales. 2012-based National Population Projections for Wales; November 2013 Bulletin [Accessed 5 Jan 2015]. Available from http://bit.ly/1AElkOy

6 Imison, C. Tomorrow’s workforce? A perspective on employment and skills in the United Kingdom’s health sector. In Skills for Health. Tomorrow’s workforce: Commentaries on the future of skills and employment in the UK’s health sector; 2009. p. 29-34 [Accessed 5 Jan 2015]. Available from http://bit.ly/1tIRl1H

7 Health Education England (HEE). The Delivery of 21st Century Services – The Implications for the Evolution of the Healthcare Science Workforce; 2014 [Accessed 5 Jan 2015]. Available from http://bit.ly/1HLQt4C

8 CfWI 2035 Horizon Scanning [Accessed 5 Jan 2015]. Available from: www.horizonscanning.org.uk

9 Workforce, Education & Development Services [Accessed 5 Jan 2015]. Available from:  Gwall! Dydy cyfeirnod yr hyperddolen ddim yn ddilys.

10 Welsh Government. Our plan for a primary care service for Wales up to March 2018 [Accessed 5 Jan 2015]. Available from: www.wales.nhs.uk/sitesplus/986/opendoc/252458

11 The King’s Fund. Specialists in out-of-hospital settings: finding from six case studies; 2014 [Accessed 5 Jan 2015] Available from: http://bit.ly/1Dk0Htj

12 Skills for Health [Accessed 5 Jan 2015] Available from: http://www.skillsforhealth.org.uk/

13 Bevan Commission. Simply Prudent Healthcare; 2013 [Accessed 5 Jan 2015] Available from: http://bit.ly/1pYu0XR

14 Workforce, Education & Development Services; 2014 [Accessed 5 Jan 2015] Available from: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/866/opendoc/240621


Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Stephen Griffiths yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.