Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Meddygaeth – Troi penderfyniadau meddygol bob dydd yn ymarfer darbodus

  • Dr Graham Shortland, Cyfarwyddwr Meddygol a Phaediatregydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Crynodeb

Mae’r traethawd hwn yn cynnig myfyrdod cychwynnol i gynnwys meddygon a chleifion mewn trafodaethau ynghylch atal niwed, diddymu profion diangen, a gwerthuso triniaethau a gweithdrefnau.

Mae llawer o arfau i helpu meddygon a chleifion i wneud dewisiadau effeithiol, gan ddefnyddio tystiolaeth, i sicrhau gofal o ansawdd uchel. Mae sefyllfa pob claf yn unigryw ac mae’n rhaid i feddygon a chleifion ym mhob achos benderfynu ar gynllun triniaeth priodol gyda’i gilydd. Mae’r adran hon yn cynnwys enghreifftiau sydd eisoes yn cael eu defnyddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Medicine

Arfer meddygaeth

Mae meddygaeth yn bwnc mawr. Mae’n creu her o ran pa feysydd y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt a’u hystyried wrth feddwl sut i roi egwyddorion darbodus ar waith. Cynigia ei gwmpas y cyfle i ni ddefnyddio syniadau o amrywiaeth eang o fentrau ac arloesedd. Mae meddygaeth yn torri ar draws llawer o’r themâu mewn gofal iechyd doeth, yn arbennig rhagnodi, gofal sylfaenol, gofal iechyd perthynol, diagnosteg a llawdriniaeth.

Mae meddygaeth, mewn llawer ffordd, yn parhau i gael ei arfer mewn ffordd draddodiadol iawn. Bydd claf yn symud drwy lefelau gwasanaeth, gan ddibynnu ar gyfathrebu rhwng y meddyg gofal sylfaenol, meddyg yr ysbyty, arbenigwr trydyddol i gyrraedd adolygiad yn yr adran cleifion allanol.

Gofal iechyd nad yw’n ddarbodus

Mae’r ffigurau sy’n ymwneud â gofal iechyd nad yw’n ddarbodus yn syfrdanol.

Mae’n debyg fod llawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn ymwybodol bod tua 10 y cant o’r holl ymyriadau gofal iechyd yn gysylltiedig â rhyw fath o niwed.[1]

Ond faint ohonom sy’n ymwybodol nad yw tua 20 y cant o’r holl waith a gaiff ei wneud gan y gwasanaeth iechyd yn cael unrhyw effaith ar ganlyniadau cleifion?[2]

Neu bod rhai astudiaethau yn awgrymu mai dim ond 18 y cant o’r amser y mae cleifion yn ei dreulio mewn amgylcheddau clinigol sydd o werth uniongyrchol? Caiff gweddill yr amser – cymaint ag 82 y cant o amser y claf – ei dreulio yn aros am gam nesaf y broses?[3]

Gan ystyried ein tair egwyddor ddarbodus ac ymchwilio i’r ffeithiau syfrdanol hyn, mae’n bosibl dechrau datblygu newidiadau mewn ymarfer a allai arwain at well gofal yn ein systemau iechyd, ar draws maes eang meddygaeth.

Sut y gallwn wella ein systemau iechyd?

Drwy gwestiynu pethau bob dydd ac adolygu ein harferion, mae llawer o ffyrdd y gallwn fyfyrio ar yr egwyddor gofal iechyd darbodus o beidio ag achosi niwed. Daeth yr enghreifftiau hyn o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro o’r cwestiynau a godwyd gennym am arferion bob dydd a newidiadau mewn arferion gyda chymorth yr ymgyrch 1000 o Fywydau a Mwy, i’n helpu i beidio ag achosi niwed.

A oes angen pibell wythiennol ymylol ar eich claf?

Mae mewnosod pibell wythiennol ymylol (PVC), a elwir hefyd yn venflon, yn weithdrefn gyffredin mewn llawer o leoliadau gofal iechyd. Ond mae risg o haint yn sgil defnyddio PVC. Gall PVC achosi haint yn llif y gwaed drwy alluogi micro-organebau i gael mynediad uniongyrchol i lif y gwaed. Daw micro-orgenabau o hyb neu gysylltiadau halogedig, dwylo staff gofal iechyd, croen y claf lle gwneir y mewnosodiad a chyffuriau a thrwythiadau halogedig.

Er bod yr achosion o heintiau lleol neu heintiau llif y gwaed sy’n gysylltiedig â PVC yn isel o gymhariaeth â dyfeisiadau mewnlifol eraill, mae cymhlethdodau’n arwain at afiachusrwydd sylweddol oherwydd pa mor aml y defnyddir PVC. Yn yr astudiaeth 2011-2012 Europe –wide point prevalence study dengys adroddiad Cymru bod tua 35% o gleifion yn y sector acíwt wedi cael PVC.

Fflebitis yw’r cymhlethdod mwyaf cyffredin sy’n gysylltiedig â thrwythiadau mewnwythiennol ymylol, gan fod hyn yn digwydd mewn tua 96 y cant o’r holl gleifion.[4] Mae heintiau yn llif y gwaed hefyd yn un o brif achosion afiachusrwydd a marwolaethau.

Yr organebau unigol mwyaf cyffredin o bob math o bibellau mewnwythiennol yw staffylococws ceulas-negyddol (35 y cant) a staffylococws awrëws yw’r ail mwyaf cyffredin (25 y cant).[5] Roedd staffylococws awrëws sy’n gwrthsefyll Methisilin (MRSA) yn gyfrifol am rhwng 40 a 45 y cant o heintiau staffylococws awrëws mewn arolwg cyffredinolrwydd yn 2006.[6]

Mae cymhlethdodau’n codi’n aml am fod pibell wythiennol ymylol wedi cael ei gadael yn ei lle yn rhy hir, neu am ei bod wedi cael ei gosod pan nad oes ei hangen. Yr hiraf y bydd y bibell yn ei lle, yr uchaf yw’r risg o gymhlethdodau. Mae gadael y bibell yn ei lle pan na fydd ei hangen yn golygu bod y claf yn agored i risg ddiangen.

Mae llawer o arbenigwyr rheoli heintiau yn credu bod modd lleihau haint yn llif y gwaed, sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, yn sylweddol, os nad ei ddileu’n gyfan gwbl.[7] Dangosodd astudiaeth o Awstralia[8] gyfradd bacteremia o un canwla ym mhob 3,000, ac yn fwy diweddar dangoswyd cyfradd haint o 0.2 fesul 1,000 o ddiwrnodau o ddefnyddio pibellau mewnwythiennol.[9]

Mae’r ymgyrch 1,000 o Fywydau a Mwy yn rhoi cyngor ynghylch defnyddio PVC yn ei ganllawiau ‘sut i, “Reducing Helathcare Associated Infaction – Appropriate and timely use of invasive devices”.

Er mwyn gwneud y gorau o’r gofal, mae’r canllaw hwn yn cynghori:

  • Dim ond os bydd eu hangen y dylid defnyddio PVC
  • Dylid eu tynnu cyn gynted â phosibl
  • Dylai pob triniaeth PVC gael ei chynnal yn aseptig.

Yr ymyriadau lleiaf posibl

Profion diangen

Nid yw triniaethau a gweithdrefnau bob amser yn ychwanegu gwerth at y gofal. Gallant wneud drwg i’r gofal drwy’r posibilrwydd o wneud cleifion yn agored i niwed, profion pellach, canlyniadau positif anghywir a chyfrannu at straen a chostau y gellir eu hosgoi. Gall profion, triniaethau a gweithdrefnau diangen roi mwy o straen hefyd ar adnoddau ein system gofal iechyd.[10]

Gwyddom y gall cleifion mewn ysbytai gael profion gwaed diddiwedd, er gwaethaf y ffaith eu bod yn glinigol sefydlog. Cynhelir profion gwaed diddiwedd ar gleifion mewn ysbytai ac mae’n gysylltiedig â chanlyniadau andwyol i’r claf, gan gynnwys anaemia a phoen. Dengys astudiaeth o Ganada bod fflebotomi yn arwain yn uniongyrchol at ostyngiad sylweddol mewn hemoglobin. O gofio bod anaemia mewn cleifion sydd yn yr ysbytai yn gysylltiedig â chynnydd yn hyd eu harhosiad, cyfraddau aildderbyn i’r ysbyty a gofynion trallwyso, gallai llai o brofion gwaed diangen wella canlyniadau i gleifion.[11-13]

Gellir sicrhau gostyngiad yn nifer y profion heb unrhyw effeithiau negyddol o ran digwyddiadau andwyol, cyfraddau aildderbyn i’r ysbyty, defnyddio gofal critigol na marwolaeth. Gall ymyriadau sydd â’r nod o leihau profion labordai hefyd arwain at arbedion sylweddol o ran costau.

Gellir sicrhau gwelliannau pellach o ran lleihau profion diangen drwy ddefnydd priodol o samplau. Er mwyn annog defnydd priodol o ymchwiliadau, mae proses wedi cael ei chyflwyno ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gefnogi staff a lleihau gwastraff. Erbyn hyn, mae Gwaedwyr yn cymryd gwaed gan gleifion mewnol pan ddarperir ffurflen gais am sbesimen wedi’i chwblhau’n llawn. Os na fydd ffurflenni wedi’u cwblhau’n iawn, cânt eu rhoi yn ôl i staff y ward ac mae ffurflenni a gaiff eu diwygio ar unwaith yn golygu y bydd y Gwaedwr yn tynnu gwaed gan y claf. Os bydd ffurflenni cais yn hwyr neu heb eu cwblhau, caiff y cleifion hynny eu gwaedu gan staff y ward neu bydd rhaid aros tan y sesiwn fflebotomi nesaf.

Pan gaiff y samplau eu cymryd gan staff ar wahân i’r Gwaedwyr, mae’r labordai’n cadw’r samplau am 24 awr cyn eu prosesu os na chaiff y ffurflen gais am sbesimen ei chwblhau’n llawn. Mae eithriadau o ran samplau nad ydynt yn syml i’w cymryd  eto neu lle y gallai oedi arwain at ganlyniadau annilys, ac mae hyn yn cynnwys samplau o feinwe, hylif serebrogefnol, mêr yr esgyrn, nwyon y gwaed, neu samplau sy’n amlwg yn rhai brys fel y gwelir oddi wrth y manylion clinigol.

Mae gwella manylion y ceisiadau wedi caniatáu i’r galw gael ei fonitro ac wedi arwain at ostyngiad yn nifer y samplau a wrthodir. Dechreuwyd ar y fenter y tro cyntaf ym mis Mawrth ar gyfer cleifion mewnol yn Ysbytai Caerdydd a’r Fro ac ym mis Ebrill 2013 gwrthodwyd 2306 o samplau. Erbyn hyn, mae cyfartaledd y samplau a wrthodir yn fisol yn llai na 300.

Mae’r fenter hefyd wedi lleihau nifer y cleifion a gaiff eu profi’n ddiddiwedd, gan fod y pwyslais ar gael y cais yn iawn y tro cyntaf.

Lleihau canlyniadau diangen – Labordy Sgrinio Babanod Cymru

Mae hyn yn effeithio ar bawb y mae’r GIG yn gofalu amdanynt. Yn 2013, datblygodd Labordy Sgrinio Babanod Cymru brotocol profion newydd ar gyfer sgrinio babanod am anhwylderau clefyd y crymangelloedd. Nod sgrinio yw canfod babanod sydd â chlefyd y crymangelloedd er mwyn sicrhau triniaeth gynnar. Cyn datblygu’r offeryn sgrinio newydd, roedd y prawf a ddefnyddiwyd yn flaenorol wedi canfod babanod a oedd â’r anhwylder hwn yn ogystal â babanod a oedd yn cario’r anhwylder clefyd y grymangell. Roedd potensial i’r dull hwn beri niwed yn sgil profion pellach yn ogystal â chostau sylweddol.

Roedd y protocol profion newydd yn seiliedig ar sbectrometreg màs tandem a dim ond y babanod hynny sydd â’r anhwylder yr oedd yn ei ganfod. Drwy atal nifer fawr o fabanod sy’n ei gario rhag cael eu canfod, mae profion dilynol diangen ac atgyfeirio i wasanaethau cwnsela genetig yn cael eu hosgoi. Yn ogystal â lleihau’r niwed posibl, mae’r protocol newydd wedi lleihau costau’r rhaglen sgrinio.

Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU wedi cymeradwyo’r defnydd hwn o dechnoleg newydd a phrotocol profi newydd. Cafodd y protocol newydd ar gyfer sgrinio babanod newydd-anedig am anhwylderau clefyd y grymangell ei gyflwyno yng Nghymru ym mis Mehefin 2013.

Hybu tegwch rhwng gweithwyr proffesiynol a chleifion

Un o’r prif heriau ar gyfer gofal iechyd darbodus fydd gwella’r llwybr i gleifion ar draws systemau cymunedol, gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Gellir gwneud penderfyniadau unrhyw bryd ar y llwybr, gan roi cyfle i ni atal atgyfeiriadau diangen, annog ymarfer y cytunir arno a lleihau amrywiaeth diangen mewn triniaeth ar gyfer ein cleifion.

Mae pwysigrwydd addysgu ac ymgysylltu cleifion fel y gallant wneud dewis hyddysg am eu gofal yn hanfodol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod gan bobl fynediad at ddeunyddiau sy’n addas i gleifion i’w helpu i ddysgu am y profion, y triniaethau neu’r gweithdrefnau dan sylw, pryd maent yn angenrheidiol a phryd maent yn ddiangen, a beth y gall pobl ei wneud eu hunain i wella eu hiechyd. Mae caniatáu i gleifion wneud dewis hyddysg hefyd yn dibynnu ar yr amgylchedd a lleoliad y cyfathrebu rhwng y claf a’r gweithiwr proffesiynol. Mae’n rhaid i ni gydnabod bod sefyllfa pob claf yn unigryw – mae’n rhaid i weithwyr iechyd proffesiynol a’r bobl sy’n cael gofal iechyd weithio ar y cynlluniau triniaeth priodol gyda’i gilydd.

Gall clinigau cleifion allanol fod yn amgylcheddau heriol i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol. Gall y triniaethau a gaiff eu cynnig ar draws yr arbenigeddau ar gyfer cleifion allanol amrywio, ond mae llawer o gamau cyffredin yn y ffordd y mae’r clinigau hyn yn gwasanaethu cleifion. Er mwyn darparu cleifion â gofal diogel o safon uchel, mae’n bwysig bod y clinigau cleifion allanol yn cael eu rhedeg yn effeithlon.

Mae tair enghraifft o welliannau diweddar i wasanaethau a gwaith ailgynllunio yn dangos sut y gall lleoliadau cleifion allanol sicrhau gwell canlyniadau i gleifion drwy ddefnyddio egwyddorion gofal iechyd darbodus.

Dod â gofal diabetes yn nes adref

Nod Menter Diabetes Gymunedol Caerdydd a Bro Morgannwg oedd safoni gofal diabetes ar draws meddygfeydd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Roedd y fenter hefyd yn awyddus i symud y broses o reoli’r rhan fwyaf o ddiabetes math 2 o’r ysbyty i’r gymuned.

Er mwyn gwneud hynny a symleiddio’r gwasanaeth, cafodd nifer o newidiadau eu gwneud i arferion gwaith, yn arbennig o ran yr effaith ar arferion gwaith meddygon ymgynghorol:

  • dyrannwyd meddyg ymgynghorol i bob un o’r 72 o feddygfeydd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
  • mae’r meddyg ymgynghorol yn cefnogi meddygfeydd drwy negeseuon e-bost, gydag amser ymateb o fewn un wythnos waith
  • mae meddygon ymgynghorol yn ymrwymo i ddau ymweliad â meddygfeydd, ar gyfer pob meddygfa y maent yn ei chefnogi, bob blwyddyn
  • cynllun mentora i nyrsys practis gyda hwylusydd nyrs diabetes i uwchsgilio mewn ardaloedd lle mae angen hynny.

Sefydlwyd y fenter ym mis Medi 2012. Mae mwy o feddygfeydd yn cymryd rhan yn y fenter ac mae ymrwymiad y meddygon ymgynghorol i’r gwasanaeth yn cynyddu. Mae’n darparu gofal yn nes at gartref y claf ac yn cynnig rhagor o fynediad at ofal, triniaeth ac addysg. Drwy ddiweddaru sgiliau a meithrin sgiliau newydd, cofnodwyd gwell hyder o ran rheoli diabetes math 2 mewn practisau cyffredinol sy’n cymryd rhan yn y fenter.

Drwy archwilio’r gwasanaeth, rydym wedi canfod:

  • cynnydd mewn gallu a pharodrwydd i bractis cyffredinol gysylltu â meddygon ymgynghorol am gyngor
  • gostyngiad mewn cyfraddau atgyfeirio am farn o ran diabetes (hyd 30 y cant)
  • gwell ansawdd o ran atgyfeirio gan feddygon teulu i glinigau diabetes mewn ysbytai
  • dim rhestr aros ar gyfer cleifion newydd mewn clinigau diabetes
  • gostyngiad absoliwt o ran atgyfeirio diabetes math 2 (dim gan rai meddygfeydd)
  • tystiolaeth o gynnydd yn nifer y cleifion sy’n dechrau cymryd meddyginiaethau i’w chwistrellu yn y gymuned yn hytrach nag mewn ysbytai.

Mae ein profiad o ailstrwythuro’r gwasanaeth diabetes wedi ein dysgu bod cael llwybrau y cytunir arnynt yn ein cynorthwyo i weithio yn fwy effeithlon gan nad oes angen i gleifion ddod i’r ysbyty mor aml. Gallant gael gwell gofal yn lleol. Mae lleihau amrywiaeth diangen mewn gofal diabetes hefyd wedi golygu y gallwn brofi a gweithredu canllawiau cenedlaethol a mentrau lleol i barhau i wella ein gwasanaeth. Rydym bellach yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd mewn meysydd eraill.

Mynd i’r afael ag asthma

Mae presgripsiynau corticosteroidau a fewnanadlir ar gyfer trin asthma yn cyfrif am tua £6.5m y flwyddyn. Mae hyn yn cyfrif am y rhan fwyaf o gyfanswm gwariant Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar gyffuriau anadlol, sef 63 y cant. Mae’r rhan fwyaf o’r gwariant ym maes gofal sylfaenol. Yr hyn sy’n destun pryder yw’r dystiolaeth sy’n dangos er bod eitemau presgripsiwn yn cynyddu, bod yr achosion o asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) yn sefydlog (data Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau 2005).

Lleihau amrywiad

Mae canllawiau cenedlaethol yn bodoli, wedi’u llunio gan Gymdeithas Thorasig Prydain (BTS), ond mae amrywiadau mawr mewn arferion rhagnodi o fewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Er y byddai’n bosibl rheoli 80 y cant o asthma gyda corticosteroid dogn isel a fewnanadlir, mae rhwng 31 y cant ac 81 y cant yn cael presgripsiwn dogn uchel.

Mae potensial i wella gofal i gleifion a sicrhau arbedion o ran costau drwy:

  • roi dogn priodol is o gorticosteroidau a fewnanadlir
  • sicrhau dogn cywir drwy well asesiad a dilyn canllawiau BTS
  • sicrhau diagnosis.

Cynhaliwyd nifer o fentrau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn 2012-13 i wella gofal cleifion a sicrhau arbedion o ran costau. Roedd y rhain yn cynnwys

  • cyfarfodydd rhagnodi ar gyfer pob arweinydd rhagnodi a nyrs anadlol arweiniol mewn gofal sylfaenol
  • archwiliad o ofal asthma a COPD
  • dosbarthu posteri llwybr asthma a COPD yn eang.

Ar ben hynny, defnyddiwyd meddalwedd Script-Switch i arwain clinigwyr at ganllawiau BTS wrth fynd ati i ragnodi corticosteroidau dogn uchel a fewnanadlir.

Mae’r dull hwn wedi arwain at ostyngiad mewn costau rhagnodi ac wedi lleihau amrywiad mewn rhagnodi a gofal clinigol. Mae gan weithwyr iechyd proffesiynol well dealltwriaeth, gan arwain at well asesiadau a rhagnodi. Yn bennaf oll, mae’r llwybr gofal bellach yn fwy cyson ar draws y rhyngwyneb gofal sylfaenol ac eilaidd heb unrhyw negeseuon cymysg.

Mae data hefyd i awgrymu bod y fenter hon wedi arwain at lai o ragnodi corticosteroidau dogn uchel ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, er gwaethaf tueddiadau cynyddol mewn Byrddau Iechyd Prifysgol eraill.

Medicine Graham Shortland graphWELSH

Partneriaethau cleifion yn sicrhau gwell canlyniadau ym maes osteoarthritis

Mae gordewdra yn ffactor risg sefydledig ar gyfer datblygiad a chynnydd osteoarthritis yn pen-gliniau a phoen yn y pen-gliniau. Mae nifer o dreialon wedi dangos bod cyfuniad o golli pwysau ac ymarfer corff yn arwain at welliant mewn gweithrediad a symud ymysg cleifion sydd ag osteoarthritis yn y pen-gliniau. Mae rhai astudiaethau hefyd yn cofnodi llai o boen14 ac mae un yn awgrymu y gallai colli pwysau, o ran y rhai sydd dros eu pwysau a’r rhai sy’n ordew, osgoi’r angen am lawdriniaethau gosod pen-glin newydd15. Nid yw’r canlyniadau ar ôl llawdriniaeth cystal ar gyfer pobl sy’n ordew oherwydd y risg o heintiau i’r anaf, y gallu i symud llai, ac ysigiad.

Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar gyfer gofal a rheoli osteoarthritis yn datgan y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol gynnig cyngor ar y triniaethau canlynol i bob unigolyn sydd ag osteoarthritis clinigol:

  • Mynediad at wybodaeth briodol
  • Gweithgaredd ac ymarfer corff
  • Ymyriadau i sicrhau colli pwysau os yw’r person dros ei bwysau neu’n ordew.

Mae rhaglen arloesol o ofal y cymalau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael ei llunio i gefnogi cleifion i ddefnyddio’r ymyriadau hyn a thrwy hynny leihau’r angen am lawdriniaeth. Darperir hyn drwy roi mynediad atgyfeirio syml ar waith ar gyfer cleifion gordew i ddeiet ar sail tystiolaeth a chefnogaeth ymarfer corff.

Roedd y llwybr newydd yn agored i bobl â phoen cronig yn y pen-glin, a ystyriwyd ei fod yn osteoarthritis, a oedd hefyd yn cael eu hystyried yn ordew: gyda mynegai màs y corff o 30 neu uwch. Roedd y llwybr yn cyfuno dau wasanaeth a oedd yn bodoli eisoes. Y cyntaf oedd rhaglen rheoli pwysau am wyth wythnos o dan yr enw “Pryd o Fwyd”, a gynhaliwyd mewn lleoliadau cymunedol ac o dan arweiniad deietegydd. Roedd yr ail, “Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff”, yn cael ei gynnal gan staff awdurdodau lleol dros gyfnod o 16 wythnos mewn canolfannau hamdden lleol. Cafodd y llwybr newydd, 24 wythnos ei dreialu rhwng mis Ebrill 2012 a mis Chwefror 2013.

Nod y llwybr peilot oedd:

  • cynyddu iechyd cyffredinol a chyhyrysgerbydol a goddefiant i ymarfer corff
  • lleihau poen a chynyddu symudedd er mwyn osgoi’r angen am lawdriniaeth
  • gwella cryfder y cyhyrau a statws iechyd yn gyffredinol
  • lleihau afiachusrwydd llawdriniaeth pe bai hyn yn dod yn angenrheidiol.

Gweithredwyd y rhaglen beilot mewn tri cham mewn cysylltiad â ffynhonnell yr atgyfeiriadau:

  • Cam un – brysbennu o restr aros yr adran orthopedeg
  • Cam dau – atgyfeirio’n uniongyrchol gan glinigwyr gofal eilaidd
  • Cam tri – mynediad agored i feddygon teulu er mwyn sicrhau bod cymorth ffordd o fyw yn cael ei gynnig cyn gynted â phosibl yn ystod llwybr y claf.

Cafwyd dros 330 o atgyfeiriadau yn ystod camau peilot y llwybr newydd. Derbyniodd tua thraean yr holl atgyfeiriadau y gwahoddiad i ymuno â’r rhaglen.

Ar ddiwedd yr wyth wythnos gyntaf, derbyniodd 69 o bobl y gwahoddiad i gyflwyno data canlyniad. Dengys dadansoddiad o hyn bod y rhan fwyaf wedi colli pwysau, gyda chyfartaledd y pwysau a gollwyd yn 2 y cant. Roedd y rhan fwyaf wedi gweld gwelliant yn hyblygrwydd eu pen-gliniau hefyd, gyda chynnydd ar gyfartaledd yn yr Oxford Knee Score (OKS) o 4.2. Dangosodd y cyfranogwyr hefyd welliant yn eu sgôr ansawdd bywyd gyda chyfartaledd gwelliant yn yr holiadur EQ-5D (VAS) o 6.5.

Er bod y pwysau a gollwyd ar ôl wyth wythnos yn llai ymysg y rhai â mynegai màs y corff o 40 neu uwch, yr hyn sy’n ddiddorol yw ei bod yn ymddangos bod gwelliant uwch na’r cyfartaledd gan y grŵp hwn yn eu sgoriau Oxford Knee a sgoriau ansawdd bywyd. Ar adeg gwerthusiad y rhaglen beilot, dim ond ar gyfer chwe chlaf o wythnos 24 yr oedd y data canlyniadau ar gael. Fodd bynnag, roedd y chwech wedi colli pwysau (cyfartaledd o 8.9 y cant) a chofnododd bump ohonynt sgor OKS gwell (cynnydd o 5.5 ar gyfartaledd) a sgôr ansawdd bywyd (cynnydd o 9.1 ar gyfartaledd).

Canfu gwerthusiad o’r rhaglen beilot fod y rhaglen wedi cyrraedd ei nod o leihau poen a gwell symudiad i’r rhai a gwblhaodd y cwrs. Ers y rhaglen beilot, mae’r dull newydd wedi cael ei ymgorffori mewn llwybrau gofal clinigol arferol ar gyfer osteoarthritis. Mae’r rhaglen beilot wedi llywio datblygiad Polisi Canlyniadau Gorau Caerdydd a’r Fro. Dangosodd gwerthusiad parhaus o’r rhaglenni rheoli pwysau deietetig ar gyfer 2013 fod 69 y cant o’r bobl a ddechreuodd y rhaglen wedi ei chwblhau, a bod 78 y cant o’r rhain wedi colli pwysau, gyda chyfartaledd y pwysau hwnnw a gollwyd dros wyth wythnos yn 2.7kg (amrywiaeth rhwng 0.1 a 8.6kg).

Y Camau Nesaf

Gellir cymryd pum cam ymarferol i symud oddi wrth drafod gofal iechyd darbodus tuag at ei weithredu:

  1. Cwestiynu’r holl ymarfer arferol sy’n cynnwys risg. Gofynnwch a yw dyfeisiadau meddygol fel pibellau a chathetr yn angenrheidiol i’ch claf? Beth y gallwn ni ei wneud i leihau’r defnydd diangen?
  2. Newid ein perthynas â phrofion. Nid yw mwy bob amser yn well o ran profion. A fydd eich claf yn elwa ar y profion hyn? A fydd y budd yn fwy na’r risg, yr anghyfleustod neu’r gost?
  3. Rhoi amser a chyfle i gleifion feddwl am opsiynau o ran triniaeth. Cyn penderfynu ar y driniaeth, gadewch i gleifion ystyried yr opsiynau gorau iddynt hwy o ran eu hanghenion a’u hamodau.
  4. Defnyddio llwybrau safonol ar gyfer gwasanaethau a ddefnyddir yn aml. Mae safoni llwybrau yn lleihau’r amrywiad mympwyol, yn gwella effeithlonrwydd ac yn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal priodol. Mae llwybrau yn sicrhau ein bod yn chwilio am gymorth arbenigol pan mae ei angen yn unig.
  5. Meddwl yn ehangach sut i gefnogi cleifion i ddiwallu eu hanghenion o ran ffordd o fyw. Sut y gallwch eu cynorthwyo i fynd i’r afael â materion iechyd fel ysmygu, gordewdra ac iselder, sy’n cael effaith ar eu hiechyd a’u profiad o ofal iechyd?
Diolchiadau

Aled Roberts, Lindsay George a Helen Lawton – Diabetes

Simon Barry, Ramsey Sabit, Guy Marshall a Fiona Walker – Anadlol

Caroline Hill ac Andrew Goringe – Profion diangen

Sian Griffiths – Osteoarthritis

Eleri Davies – Gwella 1000 o Fywydau Heintiau Gwella Gofal Iechyd

Stuart Moat – Sgrinio Babanod


 

Cyfeiriadau

  1. Vincent C, Neale G, Woloshynowych M. Adverse events in British hospitals: preliminary retrospective record review BMJ 2001;322:517.
  2. MacArthur H, Phillips C, Simpson H. Improving quality reduces costs Cardiff:1000 Lives Improvement; 2012.
  3. The Health Foundation. Learning report ‘Improving Patient Flow. How two Trusts focussed on flow to improve the quality of care and use available capacity effectively’ London: The Health Foundation; 2013.
  4. Weise N, Stijnen T, Van den Broek Should In-line Filters Be Used in Peripheral Intravenous Catheters to Prevent Infusion-Related Phlebitis? A Systematic Review of Randomized Controlled Trials. Anesth Analg 2010;110:1624-9.
  5. Drug and Therapeutics Bulletin (no author given). Managing bloodstream infection associated with intravascular catheters. DTB 2001;39:75-80 [online] [Accessed 2012 January 23] Available at: http://dtb.bmj.com/content/39/10/75.full. pdf+html
  6. Smyth ETM. Healthcare acquired infection prevalence survey [Conference presentation] 6th international conference of the Hospital Infection Society; 2006;Amsterdam; The Netherlands. See also: Hospital Infection Society. Third prevalence survey of healthcare associated infections in acute hospitals in England. 2006 [online] [Accessed 2012 January 23] Available at http://www.dh.gov.uk/en/Publicationsandstatistics/Publications/ PublicationsPolicyAndGuidance/DH_078388
  7. Jarvis Choosing the best design for intravenous needless connectors to prevent bloodstream infections. 2010. [Accessed 2012 January 23] Available at:
    http://www. infectioncontroltoday.com/articles/2010/07/choosing-the-best-design-for-intravenous-needleless-connectors-to-prevent-bloodstream-infections.aspx.
  8. Collignon Intravascular catheter-associated sepsis: a common problem. The Australian study on intravascular catheter-associated sepsis. Med J Australia 1994;161:374-8.
  9. McLaws M L, Taylor The Hospital Infection Standardised Surveillance (HISS) programme: analysis of a two-year pilot. J Hosp Infect 2003;53:259- 67.
  10. Attali M, Barel Y, Somin M, Beilinson N, Shankman M, Ackerman A, Malnick SD. A cost-effective method for reducing the volume of laboratory tests in a university-associated teaching hospital. Mt Sinai J Med 2006 Sep;73(5):787-94.
  11. Lin RJ, Evans AT, Chused AE, Unterbrink ME. Anemia in general medical inpatients prolongs length of stay and increases 30-day unplanned readmission rate. South Med J 2013 May;106(5):316-20.
  12. Smoller BR, Kruskall MS. Phlebotomy for diagnostic laboratory tests in adults. Pattern of use and effect on transfusion requirements. N Engl J Med 1986 May 8;314(19):1233-5.
  13. Thavendiranathan P, Bagai A, Ebidia A, Detsky AS, Choudhry NK. Do blood tests cause anemia in hospitalized patients? The effect of diagnostic phlebotomy on hemoglobin and hematocrit levels. J Gen Intern Med 2005 Jun;20(6):520-4.
  14. Messier SP, et al. Exercise and weight loss in obese older adults with knee osteoarthritis: a preliminary study. J Am Geriatr Soc 2000; 48:1062-1072.
  15. Coggon D, Reading I, Croft P et al. Knee osteoarthritis and obesity. International Journal of Obesity and Related Metabolic Disorders. 2001; 25 (5): 622-7

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

WATCH DR GRAHAM SHORTLAND

“Faint ohonom sy’n ymwybodol nad oes yw 20 y cant o’r holl waith a wnaiff y gwasanaeth iechyd yn cael unrhyw effaith ar ganlyniadau cleifion? Neu bod rhai astudiaethau yn awgrymu mai dim ond 18 y cant o’r amser y mae cleifion yn ei dreulio mewn amgylcheddau clinigol sydd o werth uniongyrchol iddynt? Caiff gweddill yr amser – cymaint ag 82 y cant o amser y claf – ei dreulio yn aros am gam nesaf y broses?”

Gwneud iddo ddigwydd

  1. Mae’n debyg ein bod yn ymwybodol bod un o bob deg o ymyriadau gofal iechyd yn peri niwed ond efallai na wyddom fod 20 y cant o’n gwaith yn cael unrhyw effaith ar ganlyniadau cleifion ac mai dim ond 18 y cant o’r amser y mae cleifion yn ei dreulio yn ein gofal sy’n cynnig unrhyw werth therapiwtig iddynt - caiff gweddill yr amser ei dreulio yn aros.
  2. Wrth wneud yr hyn rydym wastad wedi’i wneud, cawn yr un canlyniad ag yr ydym wastad wedi’i gael. Cwestiynwch bopeth, rhowch y gorau i dybio fod ymyrraeth yn sicrhau budd ac archwiliwch y risgiau. Mae mewnosod pibell wythiennol ymylol yn enghraifft dda, mae’r risg unigol o haint yn isel ond am ein bod yn mewnosod cymaint, mae cymhlethdodau yn creu afiachusrwydd sylweddol ledled Cymru.
  3. Ceisiwch ddarparu’r ymyriad priodol lleiaf posibl pryd bynnag y bo’n bosibl. Oherwydd ein bod yn gallu gwneud rhywbeth, nid yw’n golygu y dylem ei wneud. Gallwn ddechrau drwy ddileu profion diangen a rhoi’r gorau i gynhyrchu canlyniadau diangen. Mae’r achos o sgrinio babanod newydd-anedig am glefyd y crymangelloedd yn dangos sut y gall gor-brofi beri niwed diangen i gleifion a chostau diangen i GIG Cymru.
  4. Efallai mai hyrwyddo tegwch rhwng cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol yw ein her fwyaf. Drwy weithio ar draws disgyblaethau, lleoliadau a thrwy gynnwys cleifion, gallwn ail-ddylunio gwasanaethau gyda’n gilydd i wella gwasanaethau a diwallu anghenion cleifion yn fwy priodol.
  5. Gwell rhwystro clwy bob amser na’i wella ac, os gallwn fynd i’r afael ag achosion salwch, mae gennym siawns o leihau baich clefydau, gwella ansawdd bywyd a lleihau’r angen am ymyriadau meddygol drud.

@ChoosingWiselyW #MakingChoicesTogether agrees. We promote teaching skills for #shareddecisiomaking to all clinicians. #prudenthealthcare twitter.com/richardlehman1…

@WelshGovernment ..so LHBs in Wales need more psychologists to support them, & keep them from harm. #PrudentHealthcare @DiabetesUKCymru twitter.com/glycosmedia/st…