Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Gwneud penderfyniadau darbodus mewn gwasanaethau iechyd meddwl

  • Yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth y Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe

Pam mae iechyd meddwl yn bwysig

Mae problemau iechyd meddwl yn amrywio o bryderon am fywyd bob dydd i’r salwch meddwl mwyaf difrifol sy’n gwneud pobl yn anabl, fel dementia, sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amcangyfrif mai problemau iechyd meddwl yw rhai o’r achosion mwyaf o anabledd ledled y byd, yn cyfrif am tua 20% o faich cyffredinol afiechyd. Mae hon yn gyfran fwy nag unrhyw broblem iechyd unigol arall, gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd (16.2%) a chanser (15.6%). Mae iechyd meddwl gwael a salwch meddwl yn cael effaith sylweddol ar unigolion, cymdeithas a’r economi yn gyffredinol [1]. Ledled y byd, sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, iselder, epilepsi, dementia, dibyniaeth ar alcohol ac anhwylderau meddyliol, niwrolegol a chamddefnyddio sylweddau eraill yw’r cyfranwyr mwyaf at faich afiechyd yn fyd-eang, gan ragori ar glefyd cardiofasgwlaidd a chanser.

Iselder yw’r trydydd prif gyfrannwr at faich afiechyd yn fyd-eang ac mae’r defnydd o alcohol a chyffuriau anghyfreithlon yn cyfrif am fwy na 5%. Bob saith eiliad, bydd rhywun yn datblygu dementia, gan gostio hyd at $609bn i’r byd yn 2009. Erbyn 2020, amcangyfrifir y bydd 1.5 miliwn o bobl yn fyd-eang yn lladd eu hunain a bydd rhwng 15 miliwn a 30 miliwn o bobl yn ceisio lladd eu hunain [2].

Yng Nghymru, mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cyfrif am y maes mwyaf o wariant y GIG. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13, amrywiodd y gwariant ar raglenni clinigol o £7.66 y pen ar broblemau clyw i £200.87 y pen ar broblemau iechyd meddwl. Mae’r sefyllfa yn debyg mewn gwledydd datblygedig eraill. Er enghraifft, yn Lloegr, iechyd meddwl, sy’n cynnwys cleifion â dementia, yw’r categori unigol mwyaf o wariant y GIG wedi ei ddilyn gan broblemau cylchrediad (yn ymwneud â’r galon, a chylchrediad y gwaed mewn pibelli gwaed canolog ac ymylol) a chanserau a thiwmorau (gan gynnwys pobl yr amheuir bod ganddynt ganser neu sydd mewn perygl o’i ddatblygu) [3,4].

Ar wahân i’r costau uniongyrchol o ofalu am bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, ceir hefyd gostau anuniongyrchol sylweddol. Efallai y bydd angen i bobl â salwch meddwl mwy difrifol gael mynediad i amrywiaeth o wasanaethau cymunedol, gan gynnwys cymorth gyda thai, gofal personol, a chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddi.

Yr anhwylderau meddyliol cyffredin, sef pryder ac iselder, yw’r problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin yn y boblogaeth gyffredinol a cheir cysylltiadau rhwng iechyd corfforol gwael ac iechyd meddwl gwael [5,6]. Mae’r cyflyrau hyn yn cael eu rheoli bron yn gyfan gwbl mewn gofal sylfaenol.

Y rhwystrau mwyaf i bobl sy’n ceisio help a chymorth am broblem iechyd meddwl a chael yr help a’r cymorth hyn yw argaeledd gwasanaethau, stigma ac amharodrwydd pobl i geisio cymorth [7]. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i rai cyflyrau, fel ymddygiad sy’n peri’r risg o gyflawni hunanladdiad a hunan-niwed, ac i grwpiau penodol o’r boblogaeth, fel dynion ifanc a chanol oed neu bobl o rai cymunedau [8].

Mae’r baich, y gost, poblogaeth sy’n heneiddio, anghydraddoldebau cymdeithasol ac agweddau proffesiynol a chymdeithasol tuag at broblemau iechyd meddwl yn golygu ei fod yn faes lle gall gofal iechyd darbodus gael effaith fawr. Dyma dri chysyniad i’w hystyried mewn perthynas â gofal iechyd meddwl darbodus.

Blaenoriaethu

Mae strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed Llywodraeth Cymru, Siarad â fi 2 [9], y cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus arni ar hyn o bryd, yn nodi tri chysyniad i’w hystyried wrth ddarparu gwasanaethau. Dyma’r tri chysyniad: pobl sy’n flaenoriaeth; darparwyr gofal sy’n flaenoriaeth a lleoedd sy’n flaenoriaeth. Gall yr egwyddorion hyn gael eu hymestyn hefyd i feysydd eraill o ddarpariaeth iechyd meddwl.

Pobl sy’n flaenoriaeth

Mae pobl sy’n flaenoriaeth yn grwpiau o bobl sydd mewn perygl mawr o gyflawni hunanladdiad a hunan-niwed a cheir eraill sy’n benodol gyfrifol am ymateb, neu sydd mewn sefyllfa dda i ymateb, i bobl mewn argyfwng. Yma mae’r egwyddor gofal iechyd darbodus o beidio â gwneud unrhyw niwed yn arbennig o berthnasol. Mae angen teilwra’r amrywiaeth o wasanaethau er mwyn diwallu anghenion grwpiau risg uchel i wella eu hiechyd meddwl ac mae angen i lwybrau gofal fod mor fyr a syml â phosibl. Ymhlith yr enghreifftiau o’r dull hwn, sydd hefyd yn mynd i’r afael ag egwyddor gofal iechyd darbodus o beidio â gwneud niwed mae:

  • Gwasanaethau cyswllt seiciatrig i’r oedrannus – Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wasanaethau cysylltu seiciatrig sefydledig wedi eu harwain gan feddygon ymgynghorol i bobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu £1.1m o gyllid Buddsoddi i Arbed i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i sefydlu gwasanaeth cyswllt seiciatrig o dan arweiniad meddyg ymgynghorol i bobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl a gwasanaeth asesu acíwt newydd sy’n cwmpasu gweithgarwch gofal heb ei drefnu.

Nod y gwasanaethau newydd hyn yw sicrhau bod cleifion yn cael eu hasesu’n gyflym pan fyddant yn cyrraedd yr ysbyty; lleihau hyd yr arhosiad, lleihad amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a gwella profiad y claf.

  • Hyd arhosiad i gleifion â dementia – Mae cyflwr cleifion â dementia sy’n colli eu cof yn gwaethygu po hiraf maent yn aros yn yr ysbyty a daw’n gynyddol anodd iddynt drosglwyddo o’r ward i’r cartref [10]. Byddai dull gofal iechyd darbodus yn annog amseroedd mynediad byrrach a rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn gyflym lle y bo’n briodol. Mae timau datrys argyfyngau a thriniaeth yn y cartref fel yr un yn Abertawe wedi eu cynllunio i gynnig cymorth argyfwng, dewisiadau eraill yn lle mynediad i’r ysbyty, a hwyluso rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn gynnar drwy gynnig cymorth ychwanegol lle y bo angen.
  • Asesu defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd blaenorol – Mae rhan tri o’r Mesur Iechyd Meddwl yn rhoi’r hawl i bobl sydd wedi eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd sy’n teimlo bod eu hiechyd meddwl yn dirywio i wneud cais am asesiad gan wasanaeth gofal eilaidd. Mae’r llwybr cyflym yn ôl i wasanaethau arbenigol yn achos ailwaelu yn rhoi’r sicrwydd i unigolion y gallant ailymgysylltu â gwasanaethau os bydd yr angen yn codi. Effaith hyn fu lleihau’r llwyth achosion o wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gan ryddhau gallu ac adnoddau a’u galluogi i dreulio mwy o amser ar achosion brys a chymhleth.

Gall y sector gwirfoddol chwarae rôl sylweddol o ran sicrhau bod cymorth i broblemau iechyd meddwl ar gael yn haws ac yn hygyrch. Mae’r elusen iechyd meddwl Hafal wedi gweithio gyda nifer o gomisiynwyr y GIG a phartneriaid awdurdod lleol ledled Cymru ac wedi datblygu’r Llwybr Gwellhad/Cost i bobl â salwch meddwl difrifol a pharhaus fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.

Er mwyn darparu gofal iechyd meddwl darbodus i’r grwpiau hyn, mae Hafal yn dadlau bod angen newid diwylliant gwasanaethau er mwyn cyflwyno ethos o wellhad a dyhead lle ceir un o sefydlogrwydd ar hyn o bryd. Drwy hyn bydd pobl yn cael eu cynorthwyo i wneud cynnydd a symud ymlaen yn hytrach na chael eu cynnal yn eu cyflwr presennol. Mae gwellhad yn golygu arbedion hirdymor ond mae sefydlogrwydd yn golygu cost barhaus [11].

Mae aelodau Hafal yn credu bod gwasanaethau iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar wellhad, o ansawdd uchel yn seiliedig ar gynlluniau gofal a thriniaeth effeithiol yn gallu grymuso cleifion i symud yn benderfynol o ddibyniaeth ar wasanaethau cost uchel drwy gymorth cost is ac ymlaen at weithgarwch economaidd, gan gyfrannu at gymdeithas drwy gyflogaeth a threthiant.
Mae gweithredu cynlluniau gofal a thriniaeth o dan y Mesur Iechyd Meddwl yn rhoi cyfle i gyflawni newid sylweddol o ran effeithiolrwydd cost gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd drwy gytuno ag unigolion beth yw’r camau tymor-byr, ymarferol tuag at nodau hirdymor, a fydd yn eu symud ar hyd y llwybr o ddibyniaeth uchel ac i mewn i lefelau is o gymorth ac, yn y pen draw – i lawer – annibyniaeth gyda lefelau isel iawn o gymorth gan ofal sylfaenol [9].

Lleoedd sy’n Flaenoriaeth

Mae llawer o leoliadau lle mae’r egwyddor gofal iechyd darbodus o drefnu’r gweithlu o amgylch gwnewch yr hyn y gallwch chi ei wneud yn unig yn arbennig o berthnasol. Un enghraifft o hyn yw mewn carchardai a dalfeydd yr heddlu i leihau achosion o hunanladdiad a hunan-niwed.

Mae Siarad â fi 2 yn cydnabod bod carchardai a dalfeydd yr heddlu yn lleoedd sy’n flaenoriaeth i ganolbwyntio ymdrechion i atal hunanladdiad. Mae pobl ar bob cam o fewn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol, gan gynnwys pobl ar remand a’r rhai a ryddhawyd yn ddiweddar o’r carchar, mewn mwy o berygl o gyflawni hunanladdiad. Mae’r perygl mwyaf yn bodoli yn ystod wythnos gyntaf eu carchariad ac mae’n fwy ymhlith carcharorion benywaidd.

Mae cyfran uchel o droseddwyr yn ddynion ifanc, sydd eisoes mewn mwy o berygl o gyflawni hunanladdiad.  Mae gan y mwyafrif llethol (hyd at 90%) o’r holl garcharorion fater iechyd meddwl ac/neu faterion camddefnyddio sylweddau.  Caiff carcharorion eu gwahanu oddi wrth eu teulu a’u ffrindiau ac felly maent wedi eu hynysu o’u rhwydweithiau cymorth arferol.

Mae’r Samariaid yn rhedeg cynllun Gwrando sy’n gweithredu ym mhob carchar yng Nghymru. Cynllun cymorth gan gymheiriaid yw hwn lle mae carcharorion yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi gan y Samariaid, gan ddefnyddio’r un canllawiau ag sydd ganddynt hwy eu hunain, i wrando â chyfrinachedd llwyr ar eu cyd-garcharorion.  Amcanion y cynllun yw cynorthwyo i leihau nifer y marwolaethau a achoswyd gan yr unigolyn ei hun, lleihau hunan-niwed a helpu i leddfu teimladau’r rhai sydd mewn trallod. Dechreuodd y cynllun Gwrando cyntaf yn CEM Abertawe ym 1991 ac mae Samariaid Abertawe’n parhau â’r gwaith hwn heddiw. Mae’r Samariaid hefyd yn darparu presenoldeb mewn hostelau mechnïaeth er enghraifft yn Abertawe ac ym Mangor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau gweithredu polisi Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Carcharorion yng Nghymru, sydd wedi eu cynllunio i sicrhau bod staff carchardai a gofal iechyd yn mabwysiadu mesurau sy’n nodi’r angen, y risg a’r posibilrwydd y bydd y rhai sy’n cael eu derbyn i’r ddalfa yn cyflawni hunanladdiad. Pwysleisir pwysigrwydd sgrinio wrth dderbyn, cymryd camau dilynol ar unwaith i ymateb i arwyddion o risg a mabwysiadu safonau gofal gweddus yn y carchar, a gyflawnir trwy staff a charcharorion eraill. Mae’r polisi hefyd yn nodi’r dyletswyddau a nodir drwy’r Mesur Iechyd Meddwl ar fyrddau iechyd a’r pwysigrwydd a roddir i ofal a thriniaeth y rhai sydd ag anghenion penodol [12].

Rhoi pwysau cyfartal i broblemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol

Mae gofal sylfaenol yn lleoliad blaenoriaeth ar gyfer darparu gofal iechyd meddwl darbodus, oherwydd dyma lle y mae 95% o’r problemau iechyd meddwl a nodwyd yn cael eu trin. Dyma oedd yr achos ym 1990 ac mae’n dal yn wir nawr sy’n golygu bod gofal iechyd meddwl yn weithgarwch craidd ymarfer cyffredinol [13].

Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol
Mae Rhan un o’r Mesur Iechyd Meddwl yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau yn eu lle i alluogi unigolion â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol gael eu cynorthwyo o fewn gofal sylfaenol, yn hytrach na chael eu hatgyfeirio i wasanaethau gofal eilaidd. Mae hyn yn cyfeirio adnoddau i reng flaen darparu gwasanaethau, gan dargedu unigolion sy’n cael profiad o broblemau iechyd meddwl yn gynnar, gyda’r nod o atal dirywio dilynol a’u cynorthwyo i aros mor annibynnol â phosibl. Mewn llawer o achosion gall hyn osgoi’r angen am ymyriad mwy arbenigol yn ddiweddarach.

Gwnaeth adroddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Whole-Person Care: From Rhetoric to Reality dynnu sylw at yr anghydraddoldebau sylweddol rhwng gofal iechyd corfforol a meddwl, gan gynnwys marwolaethau y gellir eu hatal cyn pryd, cyfraddau triniaeth is ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl a thanariannu gofal iechyd meddwl mewn perthynas â graddfa ac effaith problemau iechyd meddwl [12]. Nododd nifer o ffyrdd y gellir gwerthfawrogi iechyd meddwl gymaint ag iechyd corfforol.

Yr her i wasanaethau yw sicrhau bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael mynediad cyfartal i’r gofal a’r driniaeth fwyaf effeithiol a diogel, ymdrechion cyfartal i wella ansawdd gofal, mynediad cyfartal yn seiliedig ar angen, statws cyfartal o fewn addysg ac ymarfer gofal iechyd, dyheadau yr un mor uchel i ddefnyddwyr gwasanaethau a statws cyfartal o ran mesur canlyniadau iechyd.

Mae canllawiau ymarfer iechyd meddwl Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar fodel gofal haenog. Nod hyn yw sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n briodol fel bod arbenigedd ac ymyriadau’n cyfateb i gymhlethdod yr angen a lleihau’r angen am asesiadau lluosog i unigolion. Mae’r model hwn wedi ei nodi mewn canllawiau gwasanaeth i blant a phobl ifanc ac ar gyfer iechyd meddwl oedolion.

Dewisiadau eraill yn lle rhagnodi gwrthiselyddion Mae gwella gofal iechyd meddwl mewn gofal sylfaenol hefyd yn golygu cynnal yr ymyriad priodol lleiaf posibl. Polisi Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod ymyriadau fferyllol yn cael eu defnyddio dim ond lle y nodir hynny yn glinigol, a bod amrywiaeth o ddewisiadau eraill priodol ar gael [14]. Anogir darparwyr gwasanaethau i ystyried dewisiadau eraill yn lle meddyginiaeth ar gyfer rheoli problemau iechyd meddwl lefel isel, lle mae hyn yn ddiogel ac yn briodol. Ymhlith y dewisiadau eraill yn lle gwrthiselyddion ar gyfer iselder ysgafn i gymedrol mae therapïau siarad, ymarfer corff a bibliotherapi.

Lleihau stigma

Mae’r stigma sy’n gysylltiedig â salwch meddwl yn rhwystr mawr i ddarparu gofal i bobl. Pan fydd person yn cael ei labelu gan ei salwch mae’n cael ei weld fel rhan o grŵp ystrydebol. Mae agweddau negyddol yn creu rhagfarn sy’n arwain at gamau gweithredu negyddol a gwahaniaethu. Mae agweddau o’r fath yn ei gwneud yn fwy anodd i bobl gael mynediad i ofal iechyd a chael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae’r stigma sy’n gysylltiedig â salwch meddwl yn rhwystr mawr i bobl sy’n ceisio gofal am broblemau iechyd meddwl ac yn cael y gofal hwnnw. Ac mae’r stigma yn cwmpasu mwy na’r salwch – mae’n effeithio ar y rhai sy’n sâl, eu teuluoedd ar draws cenedlaethau, sefydliadau sy’n darparu triniaeth, cyffuriau seicotropig a gweithwyr iechyd meddwl. Mae stigma yn golygu nad oes gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau cymunedol ac iechyd feddwl mawr o bobl â salwch meddwl, gan arwain at amharodrwydd i fuddsoddi adnoddau mewn gofal iechyd meddwl. At hynny, mae stigma yn arwain at wahaniaethu [15].

Mae hyrwyddo tegwch a lleihau stigma yn un o egwyddorion craidd gofal iechyd darbodus. Mae ymgyrch Amser i Newid Cymru yn cael ei darparu gan bartneriaeth o dair elusen iechyd meddwl flaenllaw yng Nghymru – Gofal, Hafal a Mind Cymru. Mae’n nodi nifer o ffyrdd i herio stigma yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus.  Yn ôl yr ymgyrchwyr hyn, mae llawer o bobl yn dweud y gall dioddef gwahaniaethu yn y gwaith a sefyllfaoedd cymdeithasol fod yn fwy o faich na’r salwch ei hun. At hynny, maent yn dadlau bod stigma yn effeithio ar gymdeithas a’r economi hefyd. Er enghraifft, pan fydd pobl sy’n gallu gweithio yn cael eu gwrthod rhag gwneud hynny, a phan fydd pobl yn cael eu hatal rhag chwarae rhan weithredol yn eu cymunedau. Felly mae wynebu stigma a mynd i’r afael ag ef yn enghraifft o’r egwyddor gofal iechyd darbodus o fynd ati yn gyntaf i beidio â gwneud niwed. Drwy ymgysylltu â’r gymuned wrth fynd i’r afael â stigma dadleuir y bydd hyn yn helpu i greu perthynas newydd rhwng y cyhoedd, pobl â phroblemau iechyd meddwl a GIG Cymru, yn seiliedig ar fod yn agored a rhannu gwybodaeth am stigma ac iechyd meddwl [16].

Eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol Mae hyrwyddo tegwch hefyd yn helpu i leihau stigma. Gwnaeth Rhan 4 o’r Mesur Iechyd Meddwl [17] ehangu’r ddarpariaeth o eiriolaeth i bob claf mewnol sy’n cael gofal neu driniaeth am broblem iechyd meddwl. Mae hyn wedi ei gynllunio i sicrhau bod llais y defnyddiwr gwasanaethau yn cael ei glywed a bod ei flaenoriaethau a’i bryderon yn cael eu cydnabod ac yn cael sylw mewn dulliau gofal a thriniaeth.

Ymgysylltu:  Mae cynnwys defnyddiwr gwasanaethau a gofalwyr wrth gynllunio a darparu polisi a gwasanaethau hefyd yn rhan o ofal iechyd darbodus. Mae defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar y byrddau partneriaeth iechyd meddwl lleol a chenedlaethol ac ar y fforwm defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr cenedlaethol yn chwarae rhan bwysig o ran monitro perfformiad a chynnydd wrth gyflawni’r camau yn y cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

Dull sy’n seiliedig ar wellhad Mae gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn seiliedig ar yr egwyddor y bydd ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar wellhad, gyda chanlyniadau disgwyliedig clir. Byddant yn seiliedig ar asesiad trylwyr o bob unigolyn ac yn cael eu darparu gan staff medrus wedi’u hyfforddi sy’n cael eu goruchwylio’n briodol. Lle bynnag y bo modd, bydd ymyriadau y cytunwyd arnynt yn ategu hunanreoli unigolion, yn hyrwyddo iechyd meddwl ac yn atal dirywiad.

Cynllunio gofal a thriniaeth Mae Rhan 2 o’r Mesur Iechyd Meddwl yn ymgorffori cydgynhyrchu cynllunio gofal a thriniaeth mewn deddfwriaeth, gyda’r defnyddiwr gwasanaethau yn gadarn yng nghanol y broses fel cyd-awdur ei gynllun.

Casgliad

Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn un o brif gydrannau GIG Cymru. Dim ond os bydd tegwch rhwng iechyd corfforol a meddyliol o ran cynllunio, darparu a chyllido gwasanaethau y gellir darparu gofal iechyd darbodus. Yn y bennod hon mae enghreifftiau o iechyd meddwl darbodus wedi eu hamlygu ar lefel poblogaeth gydag atal hunanladdiad mewn gofal sylfaenol drwy wasanaethau cyswllt, rhagnodi gwrthiselyddion a therapïau seicolegol ac ym maes gofal eilaidd gyda gwasanaethau cyswllt yn yr ysbyty cyffredinol ac mewn gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol. Mae’r cysyniad o bobl sy’n flaenoriaeth a lleoedd sy’n flaenoriaeth yn cael ei ddatblygu fel ffordd ddefnyddiol o lunio cysyniad o ofal iechyd meddwl darbodus.


 

Cyfeiriadau

  1. Whiteford HA, Degenhardt L, Rehm J, et al. Global burden of disease attributable to mental and substance use disorders: findings from the Global Burden of Disease Study 2010. Lancet [Internet]. 2013 Nov 9 [cited 2014 Jul 13];382(9904):1575–86. Available from: http://www.thelancet.com/article/S0140673613616116/fulltext
  2. Collins PY, Patel V, Joestl SS, et al. Grand challenges in global mental health. Nature [Internet]. 2011 Jul 7 [cited 2014 Oct 7];475(7354):27–30. Available from: http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?artid=3173804&tool=pmcentrez&rendertype=abstract
  3. The Nuffield Trust. NHS spending on the top three disease categories in England. [Internet]. [cited 2014 Dec 14]. Available from: http://www.nuffieldtrust.org.uk/data-and-charts/nhs-spending-top-three-disease-categories-england
  4. Welsh Government. SDR 92/2014 NHS expenditure programme budgets: 2012-13 – 140611-nhs-expenditure-programme-budgets-2012-13-en.pdf [Internet]. 2014 [cited 2014 Dec 14]. Available from: http://wales.gov.uk/docs/statistics/2014/140611-nhs-expenditure-programme-budgets-2012-13-en.pdf
  5. Fone D, White J, Farewell D, et al. Effect of neighbourhood deprivation and social cohesion on mental health inequality: a multilevel population-based longitudinal study. Psychol Med [Internet]. 2014 Jan 22 [cited 2014 Dec 14];1–12. Available from: http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/24451050
  6. Meltzer H, Bebbington P, Brugha T, et al. Physical ill health, disability, dependence and depression: results from the 2007 national survey of psychiatric morbidity among adults in England. Disabil Health J [Internet]. 2012 Apr [cited 2014 Dec 14];5(2):102–10. Available from: http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/22429544
  7. Meltzer H, Bebbington P, Brugha T, et al. Physical ill health, disability, dependence and depression: results from the 2007 national survey of psychiatric morbidity among adults in England. Disabil Health J [Internet]. 2012 Apr [cited 2014 Dec 14];5(2):102–10. Available from: http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/22429544
  8. 8. John A, Dennis M. Kosnes L, et al. Suicide Information Database-Cymru: a protocol for a population-based, routinely collected data linkage study to explore risks and patterns of healthcare contact prior to suicide to identify opportunities for intervention. BMJ Open [Internet]. 2014 Jan [cited 2014 Dec 14];4(11):e006780. Available from: http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?artid=4248097&tool=pmcentrez&rendertype=abstract
  9. Welsh Government. Talk to me 2 [Internet]. 2014 [cited 2014 Dec 14]. Available from: http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/talk2/?lang=en
  10. Royal College of Psychiatrists. Who Cares Wins: Improving the outcome for older people admitted to the general hospital. 2005. London: RCPsych
  11. Hafal. Hafal publishes Prudent Healthcare case studies – Hafal [Internet]. 2014 [cited 2014 Dec 14]. Available from: http://www.hafal.org/2014/11/hafal-publishes-prudent-healthcare-case-studies/
  12. Royal College of Psychiatrists. Whole person care from rhetoric to reality OP88.pdf [Internet]. 2013 [cited 2014 Dec 14]. Available from: http://www.rcpsych.ac.uk/pdf/OP88.pdf
  13. Lester H, Glasby J, Tylee A. Integrated primary mental health care: threat or opportunity in the new NHS? Br J Gen Pract. 2004 ;54(501):285-91.
  14. Welsh Government. Together for mental health [Internet] 2011 [cited 2015 Jan 04] Available from: http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/121031tmhfinalen.pdf
  15. Sartorius N. Stigma and mental health. Lancet. 2007;370:810–1.
  16. Time To Change Wales: Home [Internet]. [cited 2014 Dec 15]. Available from: http://www.timetochangewales.org.uk/en/
  17. Welsh Government. Mental health (Wales) measure. [Internet] 2010 [cited 2015 Jan 04] Available from: http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/140707performanceen.pdf

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Yr Athro Keith Lloyd yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

Empowering patients influences lots of medical behaviour, improves safety and value #coproductiontwitter.com/i/web/status/8…