Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Defnyddio gofal iechyd darbodus i ddylunio system ar gyfer pobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes

  • Natasha Wynne, Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Marie Curie

Mae’r erthygl hon yn ymchwilio i sut y mae egwyddorion gofal iechyd darbodus yn adlewyrchu blaenoriaethau gofal ar gyfer pobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes. Bydd yn ystyried heriau’r dyfodol o ran darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer pobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes ac yn ystyried tystiolaeth o Gymru a thu hwnt i ganfod meysydd lle mae mabwysiadu gofal iechyd darbodus yn cynnig gwell canlyniadau i gleifion ac i’r GIG.

 

Beth yw ystyr gofal iechyd darbodus ar ddiwedd?

Ystyr gofal iechyd darbodus yw mabwysiadu dull doeth ac ystyrlon o gynllunio a darparu gofal iechyd fel y bydd yn gynaliadwy yn y dyfodol. Yn ganolog i hyn, mae cyfres o egwyddorion, sy’n canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu gwirioneddol; gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o sgiliau ac adnoddau; lleihau niwed ac ymyriadau aneffeithiol a defnyddio dull priodol o ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Bydd mabwysiadu dull gofal iechyd darbodus fel ffordd o sicrhau bod pobl yn nesáu at ddiwedd eu hoes yn cael y gofal a’r cymorth gorau posibl yn golygu rhai newidiadau sylweddol:

  • Newid canfyddiadau’r proffesiwn a’r cyhoedd o’r hyn y gall y gwasanaeth iechyd ei ddarparu a’r hyn y gall triniaethau, megis gofal lliniarol, ei gyflawni;
  • Newid perthnasau fel y caiff rhagor o bobl eu cynorthwyo i drafod sut yr hoffent fyw eu bywydau a phenderfynu ar driniaethau fel gwir bartneriaid yn eu gofal;
  • Newid cyfrifoldebau, a fydd yn golygu grymuso cymunedau i gydweithio i wella eu hymateb i bobl sy’n marw a’r rhai sydd mewn profedigaeth.

Cynnydd yng Nghymru

Bu cryn gynnydd yn ystod y degawd diwethaf o ran strategaeth ac ymarfer ym maes gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru. Yn 2008, cyhoeddodd Grŵp Cynllunio Gofal Lliniarol Cymru adroddiad a oedd yn cyflwyno’r achos dros fuddsoddi’n sylweddol mewn gofal lliniarol er mwyn sicrhau darpariaeth gyfartal ledled Cymru[i]. Arweiniodd hyn at gynnydd o ran buddsoddiad mewn arbenigwyr nyrsio clinigol gofal lliniarol a chyflwyno mynediad at wasanaethau ymgynghorwyr arbenigol 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos [ii].

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun darpariaeth ar gyfer gofal diwedd oes i GIG Cymru a’i bartneriaid yn 2013. Ers hynny, hefyd, mae wedi noddi’r fenter Byw Nawr, a fydd yn annog cymunedau i gymryd rhan mewn trafodaethau a gweithgareddau sydd â’r nod o hybu agwedd iach a realistig tuag at farwolaeth a marw. Ymddengys fod Cymru bellach – yn araf – yn newid y tueddiad lle mae’r rhan fwyaf o farwolaethau yn digwydd yn yr ysbyty a llai yn digwydd gartref[iii], fodd bynnag mae dros hanner y marwolaethau yn dal i ddigwydd mewn ysbyty.

Heriau’r Dyfodol

Mae newidiadau demograffig yn golygu her fawr o ran darparu gofal diwedd oes yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae pobl sydd ym mlwyddyn olaf eu hoes yn cyfrif am chwarter y dyddiau gwely mewn ysbytai – sef dros filiwn – yng Nghymru[iv]. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod bron dri o bob 10 claf sydd yn yr ysbyty ym mlwyddyn olaf eu hoes[v]. Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol ynghylch a yw’r model cyfredol o ofal yn effeithiol, yn ddymunol neu’n gynaliadwy.

Erbyn 2037, rhagwelir y bydd nifer y marwolaethau bob blwyddyn yn codi tua 10% i £35,000[vi]. Er y disgwylir cynnydd o lai na 0.1% ym mhoblogaeth Cymru yn gyffredinol, rhagwelir y bydd cynnydd o 40% yn nifer y bobl 65 oed a hŷn i dros 878,000[vii].

Wrth i bobl fyw yn hwy, maent yn dueddol o ddatblygu llu o gyflyrau iechyd cymhleth. Un enghraifft o hyn yw’r cynnydd a ragwelir yn nifer y bobl sy’n byw gyda dementia. Erbyn 2021, rhagwelir y bydd cynnydd o 31% yn nifer y bobl yng Nghymru sy’n byw gyda dementia, a hyd yn oed gynnydd o 44% mewn rhai ardaloedd gwledig[viii]. Eisoes, dementia a chlefyd Alzheimer yw prif achos marwolaeth ymysg menywod yng Nghymru a Lloegr[ix]. Ond mae pobl sy’n marw a chanddynt ddementia yn aml yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran cael y gofal sydd ei angen arnynt pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu hoes[x].

Y gorau i’r system, y gorau i’r claf

Mae cymhwyso egwyddorion gofal iechyd darbodus i ofal diwedd oes yn cynnig cyfle gwerthfawr i ailystyried y diwylliant gofal cyfan fel ei fod yn gweithio’n well i bobl sydd â salwch angheuol ac yn gallu diwallu’r cynnydd a ragwelir mewn angen yn y dyfodol. Mae’r enghreifftiau a ganlyn yn dangos sut y mae’r dull gofal iechyd darbodus yn aml yn cydweddu â’r daith drwy ofal y mae pobl yn dweud sydd ei angen arnynt, er bod cymhlethdodau. Mae’r enghreifftiau hyn hefyd yn tynnu sylw at arferion a allai ddiwallu gofynion gofal iechyd darbodus.

Trafodaethau, ymyriadau ac ansawdd bywyd

Ni allwn newid y ffaith y bydd pob un ohonom yn marw rhyw ddydd, ond i lawer ohonom dylai fod yn bosibl gwneud dewisiadau gwerthfawr am sut i fyw ein dyddiau, ein hwythnosau a’n misoedd olaf. Beth fyddai fwyaf pwysig inni? Ble yr hoffem fod? Pwy yr hoffem iddynt wneud dewisiadau ar ein rhan pe na allem eu gwneud ein hunain?

Cafodd pwysigrwydd gofyn y mathau hyn o gwestiynau – a chanlyniadau posibl peidio â’u gofyn – sylw eang yn ddiweddar gan Dr Atul Gawande yn ei lyfr llwyddiannus: Being Mortal: Medicine and What Matters in the End.

Un o honiadau mwyaf trawiadol Gawande yw bod pobl, wrth gael y gefnogaeth briodol i gynnal y trafodaethau hyn, yn gwneud yr hyn a allai gael ei ddisgrifio’n dewisiadau darbodus a chael gwell ansawdd bywyd. Efallai fod hyn fwyaf trawiadol mewn cysylltiad â’r egwyddor o wneud yr hyn sydd ei angen a gwneud dim niwed. Canfu astudiaeth ym Massachusetts fod pobl sydd â chanser cam pedwar yr ysgyfaint ac y daeth arbenigwyr gofal lliniarol atynt i drafod eu nodau a’u blaenoriaethau ar gyfer pan fyddai eu cyflwr yn gwaethygu, wedi rhoi’r gorau i gemotherapi yn gynharach, gan olygu eu bod yn dioddef llai tuag at ddiwedd eu hoes a’u bod, yn y pen draw, wedi byw yn hwy na’r rhai a gafodd ddim mwy na’r gofal oncoleg arferol[xi].

Felly gallai cael trafodaeth atal ymyriadau diangen a gwella ansawdd bywyd. Hefyd, gall helpu i liniaru ychydig ar y straen emosiynol ar deuluoedd ar ôl profedigaeth [xii].

Dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae’n bwysig nodi nad yw gofal iechyd darbodus ar ddiwedd oes yn golygu dweud na wrth gleifion a’u teuluoedd os yw eu dewisiadau yn golygu nad ydynt yn effeithiol o ran costau neu adnoddau. Os gall rhywun wneud dewis deallus rhwng cael triniaethau, a allai arwain at fyw yn hwy ond gyda llai o ansawdd bywyd neu roi’r gorau i driniaethau, a gwell ansawdd bywyd, mae’n rhaid iddynt wybod y bydd y dymuniadau hyn yn cael eu parchu er mwyn i’r drafodaeth hon fod yn un ystyrlon. Yn y pen-draw, rhaid i drafodaethau am driniaeth gael eu harwain gan y claf a chanolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn helpu pobl sy’n wynebu’r penderfyniadau cymhleth hyn, a hynny’n rheolaidd. Er enghraifft, gallai person y mae disgwyl iddo fyw ychydig wythnosau benderfynu dewis triniaeth a allai gynnig ond wythnos ychwanegol o fywyd am mai ei brif flaenoriaeth yw byw i gwrdd â nai a ddylai gael ei eni ymhen mis. Gallai un arall sydd â chyflwr tebyg benderfynu yn erbyn y driniaeth am mai ei brif nod yw rheoli’r boen a’r symptomau a chael byw bywyd o’r ansawdd gorau yn ei gartref nes iddo farw. Dylai’r ddau yma allu dilyn y cynlluniau triniaeth a ddewiswyd ganddynt.

Mae ystyried y ddau achos hyn yn tynnu sylw at y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd darbodus a sicrhau bod gofal iechyd diwedd oes yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cael ei gyd-gynhyrchu.

Y geiriau iawn ar yr adeg iawn

Mae ymyrraeth gynnar yn rhan hanfodol o ofal iechyd darbodus. Cymaint â phosibl, dylai trafodaethau am nodau, blaenoriaethau ac esboniadau clir am opsiynau gofal a chymorth gael eu cynnal cyn gynted ag y daw yn amlwg fod salwch rhywun yn un terfynol. Ni ddylid gadael y trafodaethau hyn nes bydd y person mewn cyflwr difrifol.

Dylai cynllunio gofal ymlaen llaw – sef proses o drafod sy’n ymbweru, ac sy’n caniatáu i rywun egluro ei ddymuniadau a’i ddewisiadau – ddigwydd i bawb y mae’n briodol ar eu cyfer. Mae’n arbennig o bwysig dechrau’r trafodaethau hyn yn gynnar gyda phobl sydd â chyflyrau a all arwain at ddiffyg capasiti gwybyddol, fel dementia.

Yn ysbryd yr egwyddor gofal iechyd darbodus o ddim ond gwneud yr hyn y gallwch chi yn unig ei wneud, mae’n werth ystyried pwy y gellir ei gynorthwyo i hwyluso cynllunio gofal ymlaen llaw. Mae meddygon teulu, nyrsys cymunedol a staff cartrefi gofal yn dueddol o feithrin perthynas dda ag unigolion, felly maent yn addas iawn ar gyfer y broses hon.

Yng Nghymru, mae nifer o enghreifftiau cadarnhaol sy’n ymwneud â chynllunio gofal ymlaen llaw ym mhob bwrdd iechyd, sy’n cefnogi staff mewn cartrefi gofal i ymgysylltu yn y broses gyda’u preswylwyr[xiii]. Pan gaiff hyn ei gychwyn a’i wneud yn dda, nid yw’r preswylwyr yn cael eu derbyn i’r ysbyty mor aml ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Fodd bynnag, mae rhaglenni peilot yn dangos bod angen mwy o hyfforddiant i gefnogi staff i ddechrau’r trafodaethau hyn.

Yn fwy sylfaenol na hynny, mae tystiolaeth yn dangos bod annog pobl i ddod i’r arfer o wneud cynlluniau ymlaen llaw yn gallu sicrhau canlyniadau cymunedol. Yn La Crosse, yn Wisconsin, caiff pawb a gaiff ei dderbyn i’r ysbyty neu gartref nyrsio ei arwain drwy ffurflen aml-ddewis fer, sy’n holi cwestiynau am eu dymuniadau presennol ynghylch dadebru ac ymyriadau meddygol eraill – cydnabyddir, wrth gwrs, y gallai cynlluniau newid, ac mae hyn yn wir hefyd o ran cynllunio gofal ymlaen llaw ar gyfer pobl sydd â salwch terfynol[xiv]. Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y cynlluniau sydd wedi’u paratoi pan fydd pobl yn marw, a threulio llai o amser mewn ysbyty yn ystod chwe mis olaf eu hoes. Mae hefyd wedi gwneud y gymuned yn fwy parod i gael y trafodaethau hyn ac wedi arwain at ddefnydd mwy effeithiol ac effeithlon o adnoddau.

Newid canfyddiadau ynghylch gofal lliniarol

Gall dull lliniarol o ofal ar gyfer pobl sydd â salwch terfynol fod yn ddull gofal iechyd darbodus.

Caiff gofal lliniarol ei argymell yn aml ar gyfer pobl sydd â chyflwr cymhleth na ellir ei wella. Mae’n ffordd gyfannol, gyda’r nod o drin neu reoli poen neu symptomau corfforol eraill, a bydd yn helpu gydag unrhyw anghenion seicolegol, cymdeithasol neu ysbrydol y claf a’r teulu. Mae’r dull hwn yn gwella ansawdd bywyd, yn lleihau niwed ac yn lleihau’r nifer o ymyriadau ymosodol[xv]. Pan gyflwynir hyn yn gynnar, mae hefyd wedi cael ei gysylltu ag ymestyn disgwyliad oes pobl sydd â rhai cyflyrau penodol[xvi].  Amcangyfrifir y bydd angen rhyw fath o ofal lliniarol ar rhwng 69% ac 82% o bobl sy’n marw [xvii].

Bu gwelliannau sylweddol yn y ddarpariaeth gofal lliniarol yn ddiweddar yng Nghymru. Ond mae’r ffigurau yn awgrymu nad yw pawb a allai gael budd o hyn yn defnyddio gofal lliniarol, yn arbennig y rhai sydd â chyflyrau nad ydynt yn falaen neu’n bobl hŷn[xviii],[xix].

Mae sicrhau bod gofal lliniarol priodol ar gael i bawb sydd ei angen yn golygu cyflawni amcanion gofal iechyd darbodus gan y gall leihau achosion o ymyriadau clinigol niweidiol ac aneffeithiol. Byddai addysgu a hyfforddi nyrsys a meddygon i gael gwell dealltwriaeth o pryd y mae gofal lliniarol yn berthnasol, er enghraifft yn hytrach na dim ond ar ddiwedd oes, ond pryd y byddai o fudd i sicrhau gwell canlyniadau[xx]. Yn yr un modd, mae angen gwneud mwy i wella dealltwriaeth y cyhoedd o ystyr gofal lliniarol a gofal hosbis ac ar gyfer pwy y maent.

Y gofal iawn yn y lle iawn

Mae cael y gwasanaethau cymunedol iawn yn y lle iawn i ofalu am bobl sydd â salwch angheuol yn rhan bwysig arall o fynd i’r afael â dull gofal iechyd darbodus tuag at ofal iechyd diwedd oes. Dengys tystiolaeth y gall gofal yn y cartref leihau’r defnydd o ysbytai ar ddiwedd oes a helpu rhagor o bobl i farw gartref yn unol â’u dymuniadau[xxi].

Mae gwaith ymchwil pellach yn awgrymu bod y gofal hwn ar sail gymunedol yn cynrychioli arbedion o ran costau o’i gymharu â gofal mewn ysbyty, hyd yn oed wrth ystyried y cyswllt â meddyg teulu, nyrsio cymunedol, gofal cymdeithasol a ariennir gan awdurdod lleol, gofal hosbis a gofal ysbyty[xxii].

Mae pobl ym mlwyddyn olaf eu bywyd yn cynrychioli chwarter y dyddiau gwely yng Nghymru bob blwyddyn. Mae’n debygol y bydd rhywun sy’n marw a chanddynt ddementia wedi treulio dros 50 niwrnod o flwyddyn olaf eu bywyd fel claf mewn ysbyty[xxiii]. Gallai buddsoddi mewn cymorth a gofal cymunedol helpu i leihau’r pwysau ar wasanaethau gofal eilaidd a rhoi gofal i bobl sydd yn fwy priodol i’w hanghenion a’u dymuniadau. Mae modd darparu gofal i bobl sy’n wynebu diwedd eu hoes y tu allan i’r ysbyty, yn y gymuned, ac mae’n bosibl sicrhau’r ansawdd gofal gorau a lleihau costau ar yr un pryd.

Bydd hyn yn golygu meddwl yn greadigol am ofal cymunedol ac ystyr cymorth cyfannol sy’n canolbwyntio ar y person a datblygu partneriaethau newydd i hwyluso hyn. Er enghraifft, mae cynnwys cymdeithasau tai yn y gwaith o gynllunio a darparu cymorth i bobl ym mlynyddoedd olaf eu bywyd wedi dangos bod eu hymdeimlad o les yn gwella, ac mae llai o bobl yn cael eu derbyn i Adrannau Achosion Brys ac Argyfwng a llai o ymgynghori â meddygon teulu[xxiv].

Cydgynhyrchu gofal mewn cymunedau tosturiol

Er mwyn sicrhau gofal iechyd darbodus, mae angen ymbweru cleifion a’r cyhoedd fel gwir bartneriaid mewn cyd-gynhyrchu gofal. Felly, wrth feddwl yn greadigol am ofal yn y gymuned ar ddiwedd oes, rhaid i hynny olygu mwy na dim ond meithrin partneriaethau proffesiynol. Gall cymunedau eu hunain fod yn adnodd digyffwrdd pwerus ar gyfer cynorthwyo pobl i fyw cystal â phosibl tuag at ddiwedd eu hoes.

Yn ei weledigaeth ar gyfer Compassionate Cities, mae’r Athro Allan Kellehear yn nodi cyfres o bolisïau i weithredu dull iechyd cyhoeddus tosturiol tuag at farw a cholled[xxv]. Yn Lloegr, mae syniadau Kellehear wedi llywio’r Public Health Approaches to End-of-Life Care Toolkit a’r Dying Well Community Charter, sydd bellach yn cael eu defnyddio gan gymunedau Pathfinder ar hyd a lled y wlad. Bydd y Pathfinders yn cael eu cynorthwyo gan Gyngor Cenedlaethol dros Ofal Lliniarol ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr i helpu eu cymuned leol i wella eu hymateb i bobl sy’n marw a’r rhai sy’n galaru. Gallai cydnabod a datblygu hyd a lled iechyd y cyhoedd yng Nghymru o ran gofal gynnig cyfle gwych i gymunedau gydgynhyrchu gofal.

Yn Awstralia, ceir enghreifftiau da o gysylltu datblygiad cymunedol â gofal diwedd oes. Roedd y prosiect Bringing Our Dying Home[xxvi] yn trafod rhwydweithiau gofal cyfeillion a theulu, a oedd yn datblygu o amgylch pobl a oedd yn marw a’u gofalwyr sylfaenol a oedd yn cael eu cefnogi gan wasanaeth hosbis-yn-y-cartref. Arweiniodd hyn at dynnu sylw at effaith gadarnhaol bosibl cymunedau yn gofalu am bobl sy’n dod i ddiwedd eu hoes – cynyddodd cyfalaf cymdeithasol o ganlyniad i ofalu; cynyddodd capasiti’r gymuned i ofalu; a chododd eu “llythrennedd marwolaeth”. Mae cefnogi a hwyluso’r rhwydweithiau hyn yn rhan bwysig o wneud gofal yn gynaliadwy a meithrin agweddau cyhoeddus iachach tuag at farw.

Mae enghreifftiau o fodelau cyfredol o fentrau adeiladu cymunedol yng Nghymru yn cynnwys cynllun Marie Curie Caring for Carers a’i Carers’ Café yn ogystal â gwasanaeth ‘Helper’ Marie Curie sy’n paru gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi â rhywun sy’n byw gyda salwch terfynol er mwyn darparu cymorth ymarferol a chwmnïaeth.

Targedu ymchwil

Gofal darbodus yw dull o edrych ar ofal ar sail tystiolaeth. Mae Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie yng Nghaerdydd yn adnodd pwysig i asesu a yw arferion presennol yn effeithiol ac yn gyson. Mae ymchwilwyr eisoes yn gweithio ar nifer o brosiectau, a fydd yn rhoi tystiolaeth inni o rai o agweddau effeithiol ar ofal iechyd darbodus a’r agweddau nad ydynt mor effeithiol i ganfod y llwybrau mwyaf effeithiol o ofal a gaiff eu cytuno mewn partneriaeth rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol:

  • Datblygu ymyriad i gefnogi cleifion canser yr ysgyfaint a’u clinigwyr wrth ystyried therapi systematig gwrth-ganser (astudiaeth PACT)

Mae’r astudiaeth hon yn edrych ar y wybodaeth y mae’n bosibl y bydd ei hangen ar bobl wrth ystyried opsiynau triniaeth ar gyfer canser yr ysgyfaint ac unrhyw gymorth y gallai fod ei hangen arnynt wrth wneud eu penderfyniadau. Mae tystiolaeth bod rhai pobl sydd â chanser yr ysgyfaint yn parhau i gael triniaethau ymosodol wrth gyrraedd diwedd eu hoes pan allai gofal lliniarol fod o fwy o fudd ac yn opsiwn mwy realistig ar eu cyfer.

Er mwyn bodloni’r egwyddor cyd-gynhyrchu, mae’n rhaid i bobl gael cynnig cymryd rhan yn y drafodaeth am eu triniaeth. Pa driniaethau bynnag a ddewisir, dylai pobl gael eu hysbysu’n llawn o unrhyw risgiau a manteision posibl. Yn y pen draw nod yr astudiaeth hon yw cynllunio ymyriad y gall cleifion a chlinigwyr ei ddefnyddio yn eu hymgynghoriadau i’w cefnogi wrth gael y trafodaethau hyn.

  • Astudiaeth CaNoPy: Astyudiaeth o anghenion gofal cleifion sydd â ffibrosis idiopathig yr ysgyfaint a’u gofalwyr

Clefyd cronig ar yr ysgyfaint yw ffibrosis idiopathig nad oes triniaeth wedi’i phrofi ar gael ar ei gyfer a disgwylir i bobl fyw am dair blynedd ar ôl y diagnosis. Mae baich y symptomau yn uchel ac ansawdd bywyd yn isel. Mae canllawiau yn hyrwyddo dulliau sy’n canolbwyntio ar y claf, yn pwysleisio ymyraethau gofal cefnogol a lliniarol. Fodd bynnag, ychydig a wyddom am brofiadau cleifion a gofalwyr er mwyn llywio llwybrau gofal. Nod CaNoPy yw canfod newidiadau mewn anghenion gofal lliniarol a chefnogol canfyddedig unigolion a gofalwyr yn ystod y clefyd er mwyn llywio ymyriadau gofal a’r ddarpariaeth yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar hwyluso ymyrraeth gynnar.

Os yw dull gofal iechyd darbodus am fod yn realiti, rhaid i waith ymchwil arwain modelau gofal a thriniaeth. Rhaid i waith ymchwil gynnwys profiad y claf a rhaid ei alluogi i gyfrannu at bolisi ac arfer. Mae strategaeth glir o ran penderfynu ar flaenoriaethau gwaith ymchwil yn hanfodol hefyd i sicrhau bod adnoddau cyfyngedig (llai nag 1% o’r cyfanswm a gaiff ei wario ar ymchwil canser yn y DU a gaiff ei wario ar waith ymchwil ar ofal lliniarol a diwedd oes sy’n gysylltiedig â chanser[xxvii]) yn cael eu cyfeirio tuag at y canlyniadau gorau. Dylid gwrando ar fentrau megis James Lind Alliance’s Palliative and Care Priority Setting Partnership, sydd wedi nodi prif gwestiynau cleifion, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sydd heb eu hateb mewn cysylltiad â gofal lliniarol a diwedd oes er mwyn gallu targedu arian ac ymdrechion yn y ffordd fwyaf effeithiol[xxviii].

Casgliad

Mae gwella gofal ac ansawdd bywyd pobl sy’n tynnu at ddiwedd eu hoes yn bosibl o fewn fframwaith gofal iechyd darbodus. Mae nifer o enghreifftiau o ofal iechyd diwedd oes yng Nghymru, sy’n derbyn egwyddorion gofal iechyd darbodus ond mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Mewn nifer o achosion, mae’r enghreifftiau yn yr erthygl hon yn golygu gwneud rhywbeth ychwanegol – hyfforddiant ychwanegol i ragor o bobl broffesiynol; cymorth ychwanegol i gymunedau; cyllid ychwanegol i dargedu gwaith ymchwil. Mae’n amlwg nad dogni yw dull darbodus.

Drwy dderbyn egwyddorion gofal iechyd darbodus yn awr, byddwn mewn llawer gwell sefyllfa i wynebu gwir heriau darparu gofal cyfartal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar ddiwedd ei oes.

 

Beth fydd yn gwneud gofal iechyd darbodus yn realiti ar gyfer pobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes?

  1. Cynllunio gofal ymlaen llaw: Dylai pob gweithiwr gofal cymdeithasol ac iechyd proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr cartrefi gofal, gael eu hyfforddi a’u cynorthwyo i helpu pobl i ystyried eu gofal a datblygu cynlluniau gofal ymlaen llaw. Bydd y broses hon yn grymuso pobl i wneud penderfyniadau pwysig am eu gofal a sut yr hoffent fyw wrth iddynt nesáu at ddiwedd eu hoes.
  1. Addysg a hyfforddiant am ofal lliniarol: Dylai rhagor o wybodaeth fod ar gael i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd proffesiynol a’r cyhoedd i ddeall beth yw gofal lliniarol; pryd y gall helpu a beth yw’r manteision. Dylai hyn gynnwys nodi pryd mae gofal lliniarol yn briodol ynghyd â dulliau gofal eraill.
  1. Cefnogi teuluoedd a chymunedau: Bydd buddsoddi mewn gofal cymunedol ac mewn cymunedau fel y gallant gynnig gwell cefnogaeth i bobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes yn galluogi modelau gofal mwy cynaliadwy i gael eu datblygu.
  1. Gwella mynediad at ofal lliniarol: Mae pobl hŷn a phobl sydd â chyflyrau penodol yn llai tebygol o gael gofal lliniarol. Ond gall y gofal hwn wella ansawdd bywyd a lleihau’r achosion o dderbyn pobl i’r ysbyty ar frys a heb ei gynllunio. Rhaid i ddarparwyr gofal cyffredinol wybod sut i gael gafael ar gymorth a chyngor gan dimau gofal lliniarol arbenigol. Dylai hyn, ynghyd ag addysg a hyfforddiant, sicrhau llawer gwell mynediad, waeth beth yw’r amgylchiadau personol.
  2. Targedu ymchwil a data: Bydd cynllunio a darparu gofal effeithiol ac effeithlon yn y dyfodol yn dibynnu ar gael tystiolaeth gadarn. Mae’n rhaid i hyn gynnwys data ar lefel uchel, sy’n nodi lefelau angen ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes, ac ymchwil sy’n edrych ar brofiad pobl o’r gofal a gânt.

Cyfeiriadau

[i] Grŵp Cynllunio Gofal Lliniarol Cymru. Adroddiad i’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 2008.

[ii] Bwrdd Gweithredu Gofal Lliniarol Cymru. Marw gydag Urddas – Cymru’n Un: 3 blynedd yn ddiweddarach (2008-2011). 2011.

[iii] Llywodraeth Cymru. Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Darparu Gofal Diwedd Oes: Adroddiad Blynyddol 2014. 2014.

[iv] Marie Curie. Marwolaeth a marw yng Nghymru. 2014.

[v] Clark D, Armstrong M, Allan A, Graham F, Carnon A, Isles C. Imminence of death among hospital inpatients: Prevalence cohort study. Palliative Medicine 2014: 28 (6) pp. 474-479.

[vi] Swyddfa Ystadegau Gwladol. 2012-based national population projections. 2013. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/npp/national-population-projections/2012-based-projections/rft-table-a1-5-principal-projection—wales-summary.xls [fel ar 25 Chwefror 2015]

[vii] StatsCymru. Rhagamcanion o boblogaeth genedlaethol Cymru ar sail 2012, 2012-2037. https://statscymru.cymru.gov.uk/Catalogue/Population-and-Migration/Population/Projections/National/2012-Based/PopulationProjections-by-Year-Gender [fel ar 25 Chwefror 2015]

[viii] Llywodraeth Cymru. Gweledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia. 2011.

[ix] Swyddfa Ystadegau Gwladol. Statistical bulletin: Deaths Registered in England and Wales (Series DR), 2013. 2014.

[x] Marie Curie a’r Gymdeithas Alzheimer. Byw a marw gyda dementia yng Nghymru: Rhwystrau i Ofal. 2014.

[xi] Gawande A. Being Mortal: Medicine and What Matters in the End. India: Penguin Hamish Hamilton. 2014: 177.

[xii] Ketering K, Hancock A, Reade M, Silvester W. The impact of advance care planning on end of life care in elderly patients: randomised control trial. British Medical Journal 2010; 340: c1345.

[xiii] Llywodraeth Cymru. Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Darparu Gofal Diwedd Oes: Adroddiad Blynyddol 2014. 2014.

[xiv] Gawande A. Being Mortal: Medicine and What Matters in the End. India: Penguin Hamish Hamilton. 2014: 178-180.

[xv] Temel J, Greer JA, Muzikansky A, et al. Early palliative care for patients with metastatic non-small-cell lung cancer. New Eng J Med 2010;363:733-42.

[xvi] Ibid.

[xvii] Murtagh FE, Bausewein C, Verne J, Groeneveld EI, Kaolki YE, Higginson IJ. How many people need palliative care? A study developing and comparing methods for population-based estimates. Palliative Medicine2014: 28 (1) pp. 49-58.

[xviii] Llywodraeth Cymru. Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Darparu Gofal Diwedd Oes: Adroddiad Blynyddol 2014. 2014, p. 11.

[xix] Marie Curie. Marwolaeth a Marw yng Nghymru. 2014.

[xx] Watts T. Final year nursing undergraduates’ understandings of palliative care: A qualitative study in Wales, UK. International Journal of Palliative Nursing 2014, DOI: http://dx.doi.org/10.12968/ijpn.2014.20.6.285.

[xxi] Chitnis X, Georghiou T, Steventon A, Bardsley M. The impact of the Marie Curie Nursing Service on place of death and hospital use at the end of life.  Ymddiriedolaeth Nuffield, 2012.

[xxii] Georghiou T, Bardsley M. Exploring the cost of care at the end of life. Ymddiriedolaeth Nuffield, 2014.

[xxiii] Marie Curie. Marwolaeth a marw yng Nghymru. 2014.

[xxiv] Gweler Marie Curie a Tai Cymunedol Cymru. Marw gartref:  Swyddogaeth darparwyr tai cymdeithasol wrth gefnogi pobl gyda salwch angheuol yng Nghymru. 2014.

[xxv] Kellehear A. Compassionate Cities: Public health and end-of-life care. Rhydychen: Routledge. 2005.

[xxvi] D. Horsfall, R. Leonard, K. Noonan and Cancer Council NSW. Bringing Our Dying Home: Creating community at end of life. 2012.

[xxvii] James Lind Alliance. Palliative and end of life care Priority Setting Partnership (PeolcPSP). 2015.

[xxviii] Ibid.


Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Presentations done. Packed. #ILF ITALY. Lymphoedema Network Wales showcasing #prudenthealthcare @karen_morgan10 @e_coveney @JaneFitzpatric4