Rhoi gofal iechyd darbodus ar waith

Sicrhau rhagoriaeth ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol drwy ofal iechyd darbodus

  • Sue Evans, Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol a Thai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Crynodeb

Mae’r agwedd draddodiadol tuag at ofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi rhoi gweithwyr proffesiynol mewn sefyllfa o bŵer a grym. Mae dinasyddion yn derbyn doethineb ac adnoddau yn oddefol. Nid yw gweithwyr proffesiynol na dinasyddion yn ymwybodol o gostau llawn gwasanaethau, felly mae gwasanaethau yn cael eu gorddefnyddio heb gael eu gwerthfawrogi ddigon.

Mae dull darbodus yn hyrwyddo mwy o bartneriaeth rhwng gweithwyr proffesiynol a dinasyddion. Bydd hyn yn cynnwys dealltwriaeth o gostau triniaethau wrth wneud penderfyniadau, ac ymwybyddiaeth o’r rhwydweithiau cymorth a gallu y gall unigolion eu defnyddio, ac a allai leddfu’r gost i’r gwasanaeth iechyd.

 

Image copyright: © Ollie-G

 

Cyd-destun

Mewn economi gofal cymdeithasol ac iechyd, mae grymoedd cryf sy’n ein hannog i dargedu adnoddau a chwilio am y gwerth gorau, yn bennaf am fod hyn yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd i helpu cymaint o bobl â phosibl.

Fodd bynnag, mae dylanwadau yn gwrthbwyso ei gilydd. Mae gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ysgogiad yn seiliedig ar werth o ran gweithio yn y sector cyhoeddus. Maent yn benderfynol o ddarparu cymorth effeithiol i bobl sydd mewn angen a gall y cymorth hwn fod ar sawl ffurf – cyngor, gofal, cymorth a thriniaeth. Mae’r ysgogiad hwn i’w gymeradwyo ond gall arwain, yn anfwriadol, at berthynas o ‘rodd’ rhwng gweithwyr proffesiynol a phobl, lle y caiff gweithwyr proffesiynol eu hannog i fod mewn sefyllfa o bŵer a grym a daw pobl i dderbyn doethineb ac adnoddau yn oddefol. Mae’r awydd i ‘wneud rhywbeth’ i bobl sy’n wynebu anawsterau neu drallod yn un ffactor sy’n ganolog i gynnydd mewn dibyniaeth, gorfeddyginiaethu neu becynnau gofal a chymorth sy’n rhy ddwys.

Efallai y bydd gweithwyr proffesiynol rheng flaen a phobl, sy’n ystyried y GIG yn rhodd am ddim, yn gwrthwynebu gwybodaeth am gostau cronnol ymyriadau clinigol. Mae llawer o ymyriadau gofal cymdeithasol yn wasanaethau y codir tâl amdanynt ond anaml iawn y mae costau felly yn adlewyrchu costau llawn y cymorth hwnnw.

Nid oes amheuaeth bod y ffactorau hyn yn cyfrannu at wastraff adnoddau, lle y caiff gwir gostau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu cuddio a lle mae posibilrwydd na roddir ystyriaeth briodol iddynt gan y rhai sy’n eu derbyn na’r gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd. Mae’r cyhoedd yn aml yn synnu bod angen iddynt wneud cyfraniad ariannol tuag at ryw agwedd ar gymorth gofal cymdeithasol, pan fydd y rhan fwyaf o ofal iechyd ar gael am ddim. Fodd bynnag, mae’r cyfraniad ariannol hwn yn helpu pobl i wneud dewisiadau am faint o gymorth gwladol sydd ei angen arnynt ac mae profiad gweithredol o ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol yng Nghymru a thystiolaeth yn Lloegr o gyllidebau personol [1] yn dangos y gall pobl fod yn ddarbodus.

Yr angen am newid: pobl wedi’u grymuso

Gyda thoriadau difrifol cynyddol yng nghyllidebau’r sector cyhoeddus, mae’n rhaid i ni sicrhau y caiff pob punt ei gwario’n ddoeth, drwy ddod yn ‘weision cyhoeddus darbodus’. Wrth wynebu newidiadau demograffig a thechnolegol, mae’n rhaid i ni gynllunio sut y gellir cefnogi pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a’u lles a gwella. Bydd hyn yn galw am newid grym y berthynas rhwng darparwyr a phobl, lle y caiff risgiau eu hasesu ar y cyd a’u rhannu.

Fodd bynnag, ar yr un pryd, bydd angen rheoli disgwyliadau’r cyhoedd er mwyn i bobl wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau eu hunain pan fydd hynny’n bosibl. Bydd y wladwriaeth yn gyfrifol am ddiwallu anghenion gweddilliol, ac ar y lefel isaf bosibl o ddibyniaeth. Mae hyn yn debygol o olygu symud oddi wrth hawl awtomatig i wasanaeth ar sail oedran, label diagnostig neu feini prawf hanesyddol eraill, er mwyn i’r gwasanaethau a ddarperir yn broffesiynol gael eu cyfeirio tuag at y rhai sydd â’r angen mwyaf.

Drwy ffynonellau ar-lein a ffynonellau data eraill, mae’n haws i bobl gael gafael ar dystiolaeth am gymorth, triniaethau ac ymyriadau, yn ogystal â gwybodaeth am berfformiad darparwyr. Bydd angen gweithwyr rheng flaen proffesiynol medrus a all ddadansoddi tystiolaeth a chydgynhyrchu atebion, er mwyn grymuso pobl i ddefnyddio eu cryfderau a’u hasedau eu hunain i ddiwallu eu hanghenion, a rheoli risgiau yn effeithiol ar yr un pryd. Mae’r dull hwn yn cydnabod bod pob un ohonom yn wynebu risg bob dydd ac mai rôl y wladwriaeth yw helpu’r unigolyn i reoli’r risg yn well.

Cydgynhyrchu: dull yn seiliedig ar gryfderau

Bydd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant[2] newydd yn trawsnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru, os caiff y dyheadau polisi eu gwireddu’n llawn. Yn benodol, bydd yn ofynnol i ni newid y dull presennol o asesu anghenion a chynllunio’r gofal a chymorth a fydd ar gael i ddiwallu’r anghenion hynny. Bydd pobl yn dod yn bartneriaid mwy grymus wrth asesu a diwallu eu hanghenion, gyda’r disgwyliad y bydd llai o ddibyniaeth ar gymorth gwladol. O dan y dull newydd, bydd angen ystyried yr holl gryfderau ac asedau sydd gan bobl (gwybodaeth, teulu, rhwydweithiau, adnoddau, sgiliau) i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. I rai pobl, bydd darparu’r wybodaeth a’r cyngor priodol yn ddigon i ddiwallu eu hanghenion, yn dilyn hunanasesiad lle mae’r unigolyn yn cadw rheolaeth ei hun. Bydd llai o bobl angen asesiad ffurfiol gan weithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol, gan leihau gwastraff a galluogi’r adnoddau hyn i gael eu targedu tuag at y bobl hynny sydd â lefelau uwch o ran anghenion, na ellir eu rheoli heb ymyriad gwladol. Hyd yn oed pan fydd angen asesiad proffesiynol, y nod fydd darparu gofal a chymorth ar y lefel isaf fel y caiff y risg ei rheoli mewn partneriaeth â phobl a’u teuluoedd neu rwydweithiau a chadw cymaint â phosibl o annibyniaeth.

Cynnydd o fewn y sector gofal cymdeithasol

Yn 2011, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol gynllun strategol newydd ar gyfer rhoi gwasanaethau cymdeithasol ar sail gadarn yn wyneb newidiadau sylweddol yn y cyd-destun cymdeithasol ac ariannol y cânt eu darparu. Mae ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru – Fframwaith Gweithredu[3] yn nodi wyth blaenoriaeth gweithredu a gaiff eu cyflwyno i gefnogi adnewyddu. Y blaenoriaethau, yn gryno, yw:

  • diben cenedlaethol grymus a disgwyliadau; ac atebolrwydd clir ar gyfer darparu gwasanaethau
  • fframwaith canlyniadau cenedlaethol
  • gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • gwasanaethau integredig
  • lleihau cymhlethdodau
  • gweithlu hyderus a chymwys
  • diogelu a hyrwyddo lles unigolion
  • fframwaith newydd i Gymru ar gyfer gwella.

Mae’r 22 o awdurdodau lleol wedi bod yn gweithredu’r polisi hwn drwy ail-lunio ein gwasanaethau mewn meysydd fel ailalluogi a chymorth i’r teulu. Yn aml, mae’r newidiadau hyn wedi cael eu cyflawni drwy integreiddio gyda gwasanaethau iechyd ac fel rhan o’r newid o ofal acíwt mewn ysbyty tuag at ddatrysiadau sylfaenol a chymunedol. Bydd y Ddeddf newydd yn rhoi hwb newydd i’n cydweithio.

Plant

Mae dwy ran i rôl y gwasanaethau cymdeithasol o ran cynorthwyo plant sy’n agored i niwed. Un prif nod yw amddiffyn plant rhag niwed, drwy ddiogelu effeithiol mewn partneriaeth â theuluoedd, cymunedau a chyrff cyhoeddus eraill. Y brif rôl arall o ran gofal cymdeithasol yw cynorthwyo plant sydd mewn angen, ynghyd â’u teuluoedd, gweithio gydag eraill i helpu plant a allai fod ag anabledd, salwch corfforol neu emosiynol neu sydd ag anghenion eraill o ran eu lles.

Yn wyneb cynnydd mewn galw a llai o adnoddau, y dull darbodus yw diwallu’r angen yn gynnar a’i atal rhag gwaethygu. Mae hyn yn golygu:

  • cynorthwyo teuluoedd i aros gyda’i gilydd a lleihau’r angen i blant dderbyn gofal drwy sicrhau ffocws ar ymyriadau cynnar a chamau ataliol
  • rheoli risgiau’n hyderus a darparu rhagor o gymorth ar ‘ymylon gofal’ er mwyn sicrhau y caiff angen ei asesu’n gywir ac mai dim ond y plant cywir a gaiff lety ffurfiol ar yr adeg gywir. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo teuluoedd i osgoi gorfod cael llety i’w plant drwy sicrhau trefniadau preifat o fewn rhwydwaith ehangach y teulu
  • darparu a chomisiynu cymysgedd hyblyg a fforddiadwy o leoliadau o safon uchel sy’n diwallu anghenion amrywiol y plant
  • sicrhau bod taith plant a phobl ifanc drwy ofal wedi’i chynllunio’n ofalus ac yn parhau i ganolbwyntio ar gynlluniau gofal, atal llithriad, eu galluogi i ddychwelyd at eu teuluoedd a’u ffrindiau pan fo hynny’n bosibl, cael lleoliadau sefydlog a gadael y system ofal yn gadarnhaol, i gyflawni eu potensial fel oedolion.

Pan fo’r strategaethau hyn wedi cael eu mabwysiadu, ceir tystiolaeth sy’n dangos nad yw nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi cynyddu a bod mwy ohonynt mewn llety lleol sy’n fwy effeithiol ac yn llai costus. O ran y plant hynny na allant ddychwelyd gartref, lleoliad maethu neu fabwysiadu yw’r dewis sy’n cynnig y siawns gorau mewn bywyd. Rydym yn dechrau gweld nifer cynyddol o ofalwyr maeth lleol a darpar fabwysiadwyr yn cael eu recriwtio, yn arbennig wrth i ddulliau mwy rhanbarthol gael eu defnyddio. Mae achosion llys yn cael eu cyflymu, gyda chydymffurfiaeth dda o ran cyrraedd y targed newydd 26 wythnos wrth wneud penderfyniadau ar ran plant.

Gwyddom mai dull darbodus yw canolbwyntio ar atal ac ymyriadau cynnar a chaiff hyn ei wneud mewn partneriaeth drwy raglenni fel Dechrau’n Deg,[4] Teuluoedd yn Gyntaf,[5] Gwasanaethau Cymorth Dwys i Deuluoedd[6] a mentrau cenedlaethol eraill. Mae dull darbodus yn golygu bod angen i’r un dull cydweithredol gael ei gymhwyso i ystod ehangach o anghenion addysgol, iechyd (corfforol a meddyliol), gofal cymdeithasol a thai, fel y gall asiantaethau gydweithio’n dda, a chyfuno eu hadnoddau, yn rhithiol neu’n wirioneddol, i ddiwallu pob angen gan ddefnyddio dull “Tîm o Amgylch y Teulu” (TAT) [6].

Un o’r heriau allweddol ar gyfer y rhan fwyaf o adrannau gwasanaethau cymdeithasol yw cynorthwyo plant sy’n agored i niwed wrth iddynt ddod yn oedolion. O brofiad gweithredol, gwyddom fod llawer o oedolion, a allai fod wedi cael eu labelu yn ‘blentyn anabl iawn’ gan y wladwriaeth neu ei deulu ei hun, bellach yn byw bywydau annibynnol llawn a gweithgar, gyda thechnoleg a llety addas yn eu helpu i reoli unrhyw risgiau i’w hannibyniaeth. Mae hyn yn galw am rôl broffesiynol gref ar gyfer staff rheng flaen sy’n negodi newidiadau i gymorth a gwasanaethau gyda rhieni pryderus a rhanddeiliaid eraill. Gellir cael tensiynau rhwng gwahanol grwpiau proffesiynol, a fydd yn amrywio o ran eu parodrwydd i reoli risgiau ac o ran eu hymrwymiad i agwedd yn seiliedig ar hawliau i rymuso plant a phobl ifanc. Mae angen i ni ymdrechu dros ddull lle ‘mae’r bobl yn gwybod yn well’ a symud oddi wrth ddull lle ‘mae’r bobl broffesiynol yn gwybod yn well.’

Oedolion

Ar gyfer pobl ag anableddau dysgu neu broblem iechyd meddwl, roedd strategaethau cenedlaethol ar gyfer Cymru[7,8] a gyhoeddwyd yn y 1980au a’r 1990au yn ysgogiad i gau ysbytai arhosiad hir ac annog cleifion i fod yn breswylwyr, gan fyw mewn lleoliadau cymunedol gyda chymorth. Mae hyn wedi arwain at drawsnewid bywydau, lle y caiff annibynniaeth ei hybu drwy ddefnyddio technolegau cynorthwyol ac ymatebion arloesol gan ddarparwyr i ddiwallu anghenion gofal a chymorth.

Mae’r patrwm presennol o gymorth i oedolion ag anghenion gofal a chymorth wedi cael ei wella ymhellach, drwy raglen o ‘hybu annibynniaeth’ a sicrhau’r maint cywir o gymorth, sydd wedi golygu bod gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol rheng flaen yn ymgymryd â rôl arweinyddiaeth gref o ran lleihau pecynnau ffurfiol o ofal a chymorth, er mwyn lleihau ymyriadau, a sicrhau bod gan bobl fwy o reolaeth dros eu bywydau.

Ceir llawer o enghreifftiau o weithio’n effeithiol mewn partneriaeth ar draws yr adrannau gofal cymdeithasol a thai, lle y mae anghenion pobl agored i niwed bellach yn cael eu diwallu drwy ystyried anghenion llety ac anghenion gofal ar sail amlasiantaethol broffesiynol, lle mae adrannau tai awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gweithio gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i ganfod atebion arloesol sy’n osgoi dull sefydliadol (e.e. Technolegau Cynorthwyol, datblygiadau Extracare, hosteli ar gyfer pobl ifanc, unedau llety â chymorth, gyda gwir ffocws ar wneud y gorau o annibynniaeth [9] ). Mae’r dull hwn yn helpu i leihau asesiadau ar wahân gan wahanol weithwyr proffesiynol, osgoi dyblygu a darparu ymateb di-dor i bobl sydd, o bosibl, ag anghenion cymhleth. Mae’r dull darbodus hwn o gydweithredu amlasiantaethol yn arbed amser proffesiynol, yn lleihau amser aros ar gyfer gwasanaethau ac yn darparu ymatebion wedi’u teilwra ar gyfer unigolion.

Mae’r defnydd o Daliadau Uniongyrchol[10] wedi bod yn cynyddu’n gyson ledled Cymru, gyda rhai awdurdodau lleol wedi gweld twf sylweddol mewn blynyddoedd diweddar. Y dull hwn o ddarparu gofal a chymorth yw’r ffordd orau o weld pa mor dda y mae pobl yn cael eu grymuso’n llawn i ganfod eu datrysiadau eu hunain i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth cymwys.

Oedolion eraill

Mae tystiolaeth gan John Bolton,[11] Cronfa’r Brenin [12] ac eraill, wedi cael ei defnyddio i drawsnewid cymorth gofal cymdeithasol i bobl hŷn, fel bod rhaglenni adsefydlu tymor byr yn darparu atebion darbodus ac yn disodli disgwyliadau bod cymorth yn cael ei ddarparu ar sail barhaus. Bu gostyngiad sylweddol yn y defnydd o ofal preswyl hirdymor a’r ddarpariaeth o gartrefi nyrsio, gan fod mwy o bobl yn cael eu cefnogi gartref i gynnal eu hannibynniaeth. Ceir tystiolaeth o hyn yn Adroddiadau perfformiad blynyddol Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru.[13]

Yn y rhan fwyaf o Gymru, bu gwelliant cyson yn y gyfradd oedi wrth drosglwyddo gofal (DTOC)[13], er gwaethaf y nifer gynyddol o bobl hŷn ag anghenion cymhleth, gan adlewyrchu gwell partneriaeth waith yn y cymunedau iechyd a gofal cymdeithasol. Erbyn hyn, mae angen i’r ffocws newid o un sy’n ystyried achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal tuag at un sy’n ystyried pa wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen yn y gymuned i atal pobl rhag cael eu derbyn i’r ysbyty heb fod hyn wedi’i gynllunio. Mae nifer o enghreifftiau da[14] o wasanaethau gofal integredig a chanolradd yn cael eu datblygu a’u comisiynu ar y cyd. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau offer cymunedol ar y cyd ym mhob rhanbarth o Gymru, timau adnoddau cymunedol sy’n cefnogi pobl hŷn bregus a gwelyau camu i lawr / i fyny mewn amrywiaeth o leoliadau. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy i drosglwyddo adnoddau o fodelau gwasanaethau acíwt a gwasanaethau preswyl i greu rhagor o gapasiti i fodloni’r galw. Cydnabyddir bod dull darbodus yn golygu bod angen modelau ataliol a modelau ymyriadau cynnar, ond yr her yw creu’r capasiti hwnnw, tra bod pwysau ar y modelau gwasanaethau presennol yn dal i fod yn amlwg.

Gofalwyr

Caiff baich gofal ar unigolion a theuluoedd ei gydnabod yn eang ac mae angen cefnogi gofalwyr yn dda (Carers UK[15]), drwy gyngor a chymorth effeithiol. Amcangyfrifir bod gofalwyr nad ydynt yn cael eu talu yn arbed miliynau o bunnoedd i bwrs y wlad. Mae cefnogi gofalwyr yn dda yn ddull darbodus o leihau’r effaith ar adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n hanfodol gweithio ar ddull iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd er mwyn helpu gofalwyr i gynnal a gwella eu lles eu hunain, gan y bydd hyn yn ymestyn eu rôl fel gofalwyr cyhyd ag y gallant. Mae Mesur Gofalwyr Llywodraeth Cymru [16] yn rhoi fframwaith defnyddiol ar gyfer asesu a chefnogi anghenion gofalwyr, drwy ddull integredig o ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol. Ceir nifer o enghreifftiau ardderchog o gydweithio i gefnogi gofalwyr ac mae’r rhain yn cynnwys cymorth a gwasanaethau a ddarperir gan y trydydd sector, sy’n chwarae rhan arwyddocaol mewn cefnogi pobl sy’n agored i niwed yng Nghymru, a’u gofalwyr.

Mae astudiaeth ddiweddar[17] o gymorth effeithiol i ofalwyr nad ydynt yn cael eu talu, o fewn economi iechyd a gofal cymdeithasol Gwent fwyaf yn tynnu sylw at fanteision hyfforddiant ar y cyd ar gyfer gofalwyr newydd o ran deall effaith cyflyrau hirdymor a sut i wella a chynnal eu hiechyd a’u lles eu hunain. Tynnodd yr astudiaeth hon sylw at fanteision teleofal a thechnolegau cynorthwyol wrth ddarparu cymorth ymarferol a, hefyd, gwella ymdeimlad o ddiogelwch yn y cartref, hyd yn oed pan oedd anghenion y person agored i niwed a oedd derbyn gofal yn eithaf sylweddol.

Comisiynu effeithiol

Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn dechrau deall manteision datblygu economi darparwyr cymysg, er mwyn i bobl gael cymorth i wneud dewis o ran y math o wasanaeth y byddant yn cael gafael arno i ddiwallu eu hanghenion a aseswyd. O ran y rhai nad ydynt o bosibl yn gymwys i gael cymorth gofal cymdeithasol a gaiff ei ariannu gan awdurdod lleol neu ei gomisiynu gan awdurdod lleol, gallant gael gafael ar wasanaethau’r trydydd sector a’r sector annibynnol sydd wedi cael eu datblygu drwy’r broses gomisiynu. Mewn rhai cymunedau mwy cyfoethog yng Nghymru, caiff y rhan fwyaf o leoliadau cartrefi gofal eu gwneud yn breifat. Mae hyn yn helpu i gynnal capasiti’r darparwyr, gyda’r potensial i bobl brynu eu gofal a’u cymorth eu hunain os bydd yr adnoddau ganddynt. Byddai’n well gan rai pobl wneud eu trefniadau eu hunain cyhyd ag y gallant a dylid annog hyn fel ffordd o wella annibynniaeth ymhellach a sicrhau dull darbodus o ddarparu gofal cymdeithasol statudol.

Ceir ymrwymiad gwleidyddol cenedlaethol i annog mentrau cymdeithasol a gwasanaethau cymorth o dan arweiniad y defnyddwyr er mwyn gwella lles, a gaiff ei adlewyrchu yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd.[2] Mae’r dulliau newydd hyn o ddarparu gwasanaethau yn ddymunol, ond maent yn anodd eu cyflawni mewn cymunedau sy’n wynebu heriau tlodi, salwch a chapasiti isel i greu newid. Dyma’r cymunedau sy’n dibynnu ar ymyriadau’r wladwriaeth ar hyn o bryd a gall gymryd cryn amser i wneud iawn am ddeddf gofal wrthgyfartal Tudor Hart18]

Gwyddom, o brofiad blaenorol, a nodwyd gan Wanless,[19] Townsend[20] ac eraill fod angen symud cydbwysedd gofal o ofal iechyd aciwt (sef rhan ddrytaf y system) i gymorth iechyd a gofal cymdeithasol ar sail gymunedol a thargedu adnoddau tuag at y cymunedau hynny sydd â’r angen mwyaf. Mae hyn yn golygu y bydd angen i weithwyr proffesiynol a gwleidyddion, yn genedlaethol ac yn lleol, flaenoriaethu adnoddau i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol presennol, os ydym o ddifrif ynghylch creu capasiti i drawsnewid ein hagwedd tuag at atal, hunangymorth ac ymyriadau cynnar.

Gweithlu cryf

Ceir llwybr gyrfa wedi’i gytuno’n genedlaethol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cofrestredig proffesiynol yng Nghymru, a ddatblygwyd gan Gyngor Gofal Cymru [21] mewn partneriaeth â’r gweithlu gofal cymdeithasol. Datblygir llwybr tebyg ar gyfer therapyddion galwedigaethol. Mae hyn yn helpu i sicrhau y caiff y gwaith ei ddirprwyo’n effeithiol, y caiff adnoddau eu defnyddio’n ddoeth ac y caiff staff rheng flaen eu grymuso i wneud yn fawr o’u sgiliau arbenigol a’u datblygu. Mae defnyddio gweithwyr gofal a chymorth cyffredinol yn gwella’r capasiti hyblyg o fewn timau ac mae’n gam ar yr ysgol i’r rhai sydd am ddilyn gyrfa broffesiynol. Amlinella’r llwybr gyrfa ddisgwyliadau clir ar gyfer goruchwylio achosion a rheolaeth llinell o ran timau gweithredol, gan greu diwylliant cefnogol sy’n hanfodol wrth reoli risgiau sy’n ymwneud â phobl.

Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru  22] (ADSSC) yn rhoi llais i arweiniad proffesiynol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Gymdeithas yn sicrhau y caiff polisi cenedlaethol ei lywio gan arfer gweithredol a bod polisi cenedlaethol, yn yr un modd, yn llywio arfer gweithredol. Cefnoga Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r codau ymarfer a’r canllawiau a fydd yn ganolog i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd.[2] Mae’r dull hwn o ddatblygu polisi, yn seiliedig ar gyd-gynhyrchu, wedi cael ei arwain gan y Dirprwy Weinidog, ac mae i’w groesawu. Bydd cyd-gynhyrchu yn helpu i sicrhau y gellir gwireddu’r dyheadau a nodir yn y ddeddf, er gwaethaf yr holl alw a’r adnoddau cyfyngedig.

Y camau nesaf o ran dull gweithredu darbodus ar ofal cymdeithasol

  1. Defnyddio’r rhaglen weithredu ar gyfer y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd i gyfleu egwyddorion darbodus allweddol i staff rheng flaen, rheolwyr, arweinwyr a’r cyhoedd ym mhob cymuned  iechyd a gofal cymdeithasol (ôl troed y Bwrdd Iechyd Lleol).
  2. Sicrhau gwell mynediad at wybodaeth a chyngor, i helpu pobl i helpu eu hunain.
  3. Sicrhau bod staff rheng flaen yn gyfrifol ac yn atebol am ddefnyddio adnoddau (amser, arbenigedd, arian ac asedau diriaethol).
  4. Symud tuag at Gynlluniau a Chontractau Gofal ar sail Canlyniad, lle y caiff llai o weithgarwch ac ymyriad ei gydnabod a’i wobrwyo.
  5. Sicrhau y caiff staff rheng flaen eu grymuso a’u cefnogi i reoli risgiau, gyda phwyslais ar yr ymyriad lleiaf.
  6. Datblygu a defnyddio templedi cyffredin ar gyfer asesu, cofnodi a monitro risg ar y cyd ym mhob economi iechyd a gofal cymdeithasol (e.e. y Fframwaith Asesu ar y Cyd ar gyfer Plant,[5], y Dull Asesu Integredig ar gyfer oedolion).[23]

Cyfeiriadau

  1. Bimpson L. QIPP and Personal Health Budgets. [Internet] [cited 2014 September 22]. Available at http://www.in-control.org.uk.
  1. Welsh Assembly Government. Social Services and Well-being Act. [Internet] [cited 2014 September 22]. Available at

http://www.senedd.assemblywales.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=5664

  1. Welsh Assembly Government. Sustainable social services for Wales: a framework for action. 2011[Internet] [cited 2014 September 22]. Available at http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/829/WAG%20-%20Sustainable%20Social%20Services%20for%20Wales%202011.pdf
  1. Welsh Government Social Research. Flying Start Synthesis Report 2014. [Internet] [cited 2014 September 22]. Available at

http://wales.gov.uk.statistics-and-research/national-evaluation-flying-start/?lang=en

  1. Families First Programme Guidance 2011. [Internet] [cited 2014 September 22]. Available at

http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/parenting/help/familiesfirst/publication-index/guidance/?lang=en.  And Welsh Government Social Research. Evaluation of Families First Year 2 Report June 2014. [Internet] [cited 2014 September 22]. Available at

http://wales.gov.uk/statistics-and-research/national-evaluation-families-first/?lang=en

6.Welsh Government Social Research. Evaluation of the Integrated Family Support Service: year 3 Report February 2014. [Internet] [cited 2014 September 22]. Available at http://wales.gov.uk/statistics-and-research/evaluation-integrated-family-support-service/?lang=en

Also ESVG Cost Savings Calculator for TAF interventions from LG Partnerships.

7.Welsh Government. Sections 135 and 136 of the Mental Health Act 1983: Good Practice Guide. 2012.  And: National Assembly for Wales. Mental Health (Wales) Measure 2010.  And: Together for Mental Health – the Welsh Strategy and Delivery Plan 2012-16.

  1. All Wales Strategy for the Development of Services for Mentally Handicapped People, 1983. Also The Welsh Mental Handicap Strategy Guidance, 1994. Replaced by a new Statement on Policy and Practice for Adults with a Learning Disability, 2007, Welsh Government and subsequently, Together for Mental Health.
  1. SSIA. The impact of Assistive Technology within social care. August 2014
  1. Bolton J. Help to live at home service: an outcome-based approach to social care. Institute of Public Care: Oxford Brookes University, April 2012.
  1. The King’s Fund. Making our health and care systems fit for an ageing population. 2012 [Internet] [cited 2014 September 22]. Available at http://www.kingsfund.org.uk/publications/making-our-health-and-care-systems-fit-ageing-population
  1. Welsh Local Government Data Unit Local Authority performance reports. [Internet] [cited 2014 September 22]. Available at www.mylocalcouncil.info
  1. National Effective Services for Vulnerable People Group. New service models and evidence from UK integrated systems. 2012.
  1. Carers UK. It could be you: a report on the chances of becoming a carer. London: Carers UK, 2001.
  1. Welsh Assembly Government. Carers Strategies (Wales) Measure. 2010 [Internet] [cited 2014 September 22]; Available at http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/829/FINAL_CARERS_STRATEGIES_WALES_GUIDANCE_2011_-_ENGLISH.pdf
  1. Yeandle S. Telecare: a crucial opportunity to help save our health and social care system. London: Bow Group and the University of Leeds; 2009.
  1. Hart JT. The Inverse Care Law. Lancet. 1971 297:7696, 405-412.
  1. Wanless D. Securing our future health: taking a long-term view. 2002 [Internet] [cited 2014 September 22]; Available at http://si.easp.es/derechosciudadania/wp-content/uploads/2009/10/4.Informe-Wanless.pdf
  1. Townsend P. Targeting Poor Health in Wales – Townsend Report, June 2001.
  1. Care Council for Wales. Continuing Professional Education and Learning Framework (CPEL) for Social Workers in Wales. [Internet] [cited 2014 September 22]. Available at http://www.ccwales.org.uk/continuing-professional-education-and-learning/
  1. Association of Directors of Social Services, Cymru. [Internet] [cited 2014 September 22]. Available at http://www.adsscymru.org.uk/home.php
  1. Welsh Government. A framework for delivering Integrated Health and Social Care for older people with complex needs. 2013. [Internet] [cited 2014 September 22]. Available at http://wales.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/strategies/integration/?lang=en

Gadael sylw


0 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gwyliwch Sue Evans yn siarad mwy am yr erthygl hon, cliciwch ar y fideo.

Mae angen gwneud mwy i drosglwyddo adnoddau o fodelau gwasanaethau acíwt a phreswyl i greu rhagor o gapasiti cymunedol i ddiwallu anghenion. Mae dull darbodus yn golygu bod angen modelau ataliol a modelau ymyriadau cynnar, ond yr her yw creu capasiti, tra mae’r pwysau ar y modelau gwasanaeth presennol yn dal i fod yn amlwg.”

Gwneud iddo ddigwydd

  1. Yr awydd i ‘wneud rhywbeth’ i bobl sy’n wynebu anhawster neu drallod yw un ffactor sy’n ganolog i ragor o ddibyniaeth, gorfeddyginiaeth neu becynnau gorymyriadol o gymorth a gofal.
  2. O ffynonellau ar-lein a ffynonellau data eraill, mae’n haws i bobl gael gafael ar dystiolaeth am gymorth, triniaethau ac ymyriadau, yn ogystal â gwybodaeth am berfformiad darparwyr. Bydd angen gweithwyr rheng flaen proffesiynol medrus a all ddadansoddi tystiolaeth a chyd-gynhyrchu atebion, er mwyn grymuso pobl i ddefnyddio eu cryfderau a’u hasedau eu hunain i ddiwallu eu hanghenion, a rheoli risgiau yn effeithiol ar yr un pryd.
  3. O ran pobl sydd ag anghenion gofal cymdeithasol, gwyddom mai dull darbodus yw canolbwyntio ar atal ac ymyriadau cynnar ac mae hyn yn cael ei archwilio mewn partneriaeth drwy nifer o raglenni polisi ac arferion.
  4. Mae angen i ni bwyso am ddull lle ‘mae’r bobl yn gwybod yn well’ a symud oddi wrth ‘mae’r bobl broffesiynol yn gwybod yn well’.
  5. Mae’n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ymgymryd â rôl arweinyddiaeth gref i leihau pecynnau gofal a chymorth ffurfiol, er mwyn lleihau achosion o ymyriadau ac er mwyn i bobl gael mwy o reolaeth dros eu bywydau.

Presentations done. Packed. #ILF ITALY. Lymphoedema Network Wales showcasing #prudenthealthcare @karen_morgan10 @e_coveney @JaneFitzpatric4